BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013761w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 3761 (Cy.310)

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2001

  Wedi'i wneud 20 Tachwedd 2001 
  Yn dod i rym 17 Rhagfyr 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 2, 3 a 4(1) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967[1] fel y'u darllenir gydag adran 20 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amywiol) 1972[2] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[3] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol.

Teitl, cymhwyso a chychwyn
     1. Teitl y Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2001, bydd yn gymwys i Gymru yn unig a daw i rym ar 17 Rhagfyr 2001.

Diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993
    
2.  - (1) Diwygir Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993[4] yn unol â pharagraffau (2) i (16) isod.

    (2) Yn erthygl 2(1):

    (3) Yn erthygl 30, yn lle "Directive 77/93/EEC" rhoddir "Directive 2000/29/EC".

    (4) Yn Atodlen 1, Rhan B(a) (Pryfed, Euddon a Nematodau, ym Mhob Cyfnod yn eu Datblygiad):

    (5) Yn Atodlen 1, Rhan B(d) (Organeddau Firws ac Organeddau Tebyg i Firysau), yn eitem 2, yn yr ail golofn, dilëir "DK".

    (6) Yn Atodlen 2, Rhan B(a) (Pryfed, Euddon a Nematodau, ym Mhob Cyfnod yn eu Datblygiad):

    (7) Yn Atodlen 2, Rhan B(b) (Bacteria) yn eitem 2, yn lle'r testun yn y drydedd golofn, rhoddir y testun canlynol:

    (8) Yn Atodlen 3, Rhan B (Planhigion, cynhyrchion planhigion a phethau eraill y gwaherddir eu cyflwyno mewn parthau diogel penodol) yn eitem 1, yn lle'r testun yn yr ail golofn, rhoddir y testun canlynol:

    (9) Yn Atodlen 4, Rhan A, Adran 1 yn lle "Directive 77/93/EEC" rhoddir yn y testun yn y golofn ar yr ochr dde y geiriau "Directive 2000/29/EC" yn y mannau canlynol:

    (10) Yn Atodlen 4, Rhan A, Adran 1, eitem 25.4, yn lle "Article 16a of Council Directive 77/93/EEC" yn y testun yn y golofn ar yr ochr dde rhoddir y geiriau "Article 18 of Directive 2000/29/EC".

    (11) Yn Atodlen 4, Rhan B (Gofynion arbennig sydd i'w pennu ar gyfer cyflwyno a symud planhigion, cynhyrchion planhigion a phethau eraill i barthau diogel penodol ac o'u mewn):

    (12) Diwygir Atodlen 8(a) (Pryfed, Euddon a Nematodau, ym Mhob Cyfnod yn eu Datblygiad) fel a ganlyn  - 

    (13) Yn Atodlen 8(b) (Bacteria), yn eitem 2 yn lle'r testun yn yr ail golofn rhoddir y testun canlynol:

    (14) Yn Atodlen 8(d) (Organeddau Firws ac Organeddau Tebyg i Firysau), yn eitem 2 yn yr ail golofn, dilëir "Denmark".

    (15) Yn Atodlen 13, paragraff 9(1)(a), yn lle "Council Directive 77/93/EEC" rhoddir y geiriau "Council Directive 2000/29/EC".

    (16) Dilëir Atodlen 16 (Offerynnau sy'n Diwygio ac yn Cydategu Cyfarwyddeb y Cyngor 77/93/EEC).



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7]


D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

20 Tachwedd 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993 er mwyn rhoi Cyfarwyddebau'r Comisiwn 2001/32/EC (OJ Rhif L127, 9.5.2001, t.38) a 2001/33/EC (OJ Rhif L127, 9.5.2001, t.42) ar waith yng Nghymru. Mae'r cyntaf o'r ddwy yn diwygio'r parthau diogel a sefydlwyd o dan y prif Gyfarwyddeb Iechyd Planhigion, Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC (OJ Rhif L169, 10.7.2000, t.1) ac mae'r ail yn darparu ar gyfer diwygiadau canlyniadol i rai o Atodiadau'r Gyfarwyddeb honno.

Mae'r Gorchymyn yn gwneud sawl newid i ddiffiniadau daearyddol amrywiol barthau diogel a restrir yn Atodlen 8 i Orchymyn 1993 a diwygiadau cyfatebol i Atodlenni 1B, 2B, 3B a 4B. Mae'n dileu o Atodlen 8 y parth diogel mewn perthynas â'r pla Pissodes spp. (Ewropeaidd). Gwneir diwygiadau daearyddol eraill i'r parthau a ddiffinnir yn Atodlen 8, gan gynnwys tynnu Denmarc o'r parthau diogel mewn perthynas â Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) a firws clefyd gwywo brith Tomato; yn adlewyrchu ailddiffinio ffiniau llywodraeth leol yn Sweden mewn perthynas â'r pla Leptinotarsa decemlineata Say; ac yn adlewyrchu dosbarthiad presennol yr organeddau Erwinia amylovora (Burr.) Winsl. Et al. yn Ffrainc, yr Eidal ac Awstria, a Gonipterus scutellatus Gyll. ym Mhortiwgal.

Ceir y diwygiadau sy'n rhoi Cyfarwyddeb 2001/33/EC ar waith yn erthygl 2(4) i 2(8) yn gynwysedig ac yn erthygl 2(11), a cheir y rhai sy'n rhoi Cyfarwyddeb 2001/32/EC ar waith yn erthygl 2(12) i 2(14) yn gynwysedig.

Mae'r Gorchymyn hefyd yn diweddaru cyfeiriadau at y brif ddeddfwriaeth Ewropeaidd, gan adlewyrchu'r cydgrynhoi a'r diddymu diweddar ar Gyfarwyddeb 77/93/EEC sydd wedi'i disodli gan Gyfarwyddeb 2000/29/EC. Ceir y diwygiadau hyn yn erthygl 2(2) a 2(3), 2(9) a 2(10) ac yn 2(15) a 2(16) o'r Gorchymyn.


Notes:

[1] 1967 p.8; diwygiwyd adrannau 2(1) a 3(1) a (2) gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p.68), adran 4(1) ac Atodlen 4, paragraff 8; amnewidiwyd adran 3(4) gan adran 42 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p.48).back

[2] 1972 p.62.back

[3] Mae adran 1(2)(b) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967 yn darparu mai'r awdurdod cymwys yng Nghymru a Lloegr at ddibenion y Ddeddf yw'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd. Yn rhinwedd Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), erthygl 2(1) ac Atodlen 1, cafodd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Iechyd Planhigion 1967, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, eu trosglwyddo i'r Ysgrifennydd Gwladol. Cafodd y swyddogaethau hyn o eiddo Ysgrifennydd Gwladol Cymru eu trosglwyddo wedyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[4] O.S. 1993/1320; a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/3213, 1995/1358 a 2929, 1996/25, 1165 a 3242, 1997/1145 a 2907, 1998/349, 1121 a 2245, 1999/2641 (Cy.8) a 2001/2500 (Cy.203).back

[5] OJ Rhif L169, 10.7.00, t.1.back

[6] OJ Rhif L127, 9.5.01, t.42; a gweler Cyfarwyddeb gysylltiedig y Comisiwn 2001/32/EC, OJ Rhif L127, 9.5.01, t.38.back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090380 3


  Prepared 14 December 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013761w.html