BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2001 Rhif 3765 (Cy.313)
TRAFNIDIAETH, CYMRU
Gorchymyn Consesiynau Teithio (Estyn yr Hawl i'w Cael) (Cymru) 2001
|
Wedi'i wneud |
22 Tachwedd 2001 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 93(7)(f) o Ddeddf Trafnidiaeth 1985[1], adran 147 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000[2], a phob per galluogi arall, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn, Dehongli a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Consesiynau Teithio (Estyn yr Hawl i'w Cael) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 1 Ebrill 2002.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "Deddf 2000" ("the 2000 Act") yw Deddf Trafnidiaeth 2000 ac ystyr "Gorchymyn 1986" ("the 1986 Order") yw Gorchymyn Deddf Trafnidiaeth 1985 (Estyn yr Hawl i Gael Consesiynau Teithio) 1986[3].
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Diwygio Gorchymyn 1986
2.
- (1) Mae Gorchymyn 1986 yn cael ei ddiwygio, mewn perthynas â Chymru, yn unol â'r Erthygl hon.
(2) Ar ôl Erthygl 3 o Orchymyn 1986, mewnosodir y canlynol:
"
Extension of eligible classes in Wales
3A.
In Wales, the following classes of persons are hereby specified as eligible persons, namely -
(a) persons to whom current statutory travel concession permits have been issued in accordance with section 145(2) of the Transport Act 2000 by any travel concession authority in Wales provided the permits are in such form as may be approved from time to time by the National Assembly for Wales for the purposes of section 145(1) of that Act.
(b) where a journey takes place on or after 1 April 2003, persons over the age of sixty years other than those who already fall within section 93(7)(a) of the 1985 Act."
(3) Bydd effaith erthygl 3A(b) o Orchymyn 1986 (a fewnosodwyd gan baragrafff (2) o'r erthygl hon) yn dod i ben ac fe gaiff ei ddiddymu pan ddaw i rym mewn perthynas â Chymru unrhyw ddiwygiad i adran 93(7) o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 sy'n estyn y dosbarthiadau o bersion sydd â hawl i gonsesiynnau teithio o dan gynllun o dan yr adran honno i gynnwys unthyw un sydd wedi cyrraedd 60 oed.
Diwygiadau i adran 145 o Ddeddf 2000
3.
Mae adran 145 o Ddeddf 2000 yn cael ei diwygio yn unol ag erthyglau 4, 5 a 6.
4.
Mewnosodir ar ôl is-adran (1) o adran 145 o Ddeddf 2000 Act -
"
(1A) But where a person's current statutory travel concession permit has been issued by a travel concession authority in Wales, subsection (1) has effect -
(1B) And if the permit is in a form approved by the National Assembly for Wales for the purpose of this subsection, subsection (1A) has effect as if each reference in it to the authority's area were to Wales."
5.
- (1) Mewnososdir yn is-adran (2), ar ôl y geiriau "elderly or disabled person" -
"
or, where the application is made to a travel concession authority in Wales for a permit which is to take effect on or after 1 April 2003, a person over the age of sixty years but who is not an elderly person."
(2) Daw effaith paragraff (1) i ben, (a chaiff y geiriau a fewnosodir ganddo eu diddymu) pan ddaw i rym mewn perthynas â Chymru unrhyw ddiwygiad i adran 146 o Ddedf 2000 Act a fydd yn estyn diffiniad "elderly person" i gynnwys unrhyw un sydd wedi cyrraedd 60 oed.
6.
Mewnosodir ar ôl is-adran (3) -
"
(3A) If it appears to a travel concession authority in Wales issuing a statutory travel concession permit to a disabled person that the person requires the assistance of a companion to travel on journeys on public passenger transport services, the authority must mark that clearly on the permit.
(3B) Where a person whose current statutory travel concession permit is marked in accordance with subsection (3A) is entitled under this section to waiver of the fare for a journey, one companion travelling on the journey with the person (and nominated by the person as the person's companion for that journey) is also entitled to waiver of the fare for the journey."
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].
22 Tachwedd 2001
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 93 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 ("Deddf 1985") yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynlluniau consesiynau teithio mewn perthynas â gwasanaethau cymwys (gwasanaethau bysiau lleol). Mae adran 93(7), sydd wedi'i diwygio gan baragraff 15 o Atodlen 11 i Ddeddf Trafnidiaeth 2000 ("Deddf 2000") yn diffinio y categorïau o berson sydd â hawl i gonsesiynau o dan gynlluniau o'r fath. Mae adran 93(7)(f) yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") y per i estyn y categorïau hynny.
Mae adrannau 145 a 146 o Ddeddf 2000 yn gwneud darpariaeth ar gyfer consesiynau teithio gorfodol i'w darparu ar wasanaethau cymwys. Mae'r Ddeddf yn darparu bod y consesiynau:
(i) i fod ar gael mewn perthynas â siwrneiau y tu fewn i ardal awdurdodau consesiynau teithio unigol (cynghorau sir a bwdesistrefi sirol) yn unig;
(ii) i fod ar gael ar amserau penodol o'r dydd yn unig;
(iii) i fod ar gael yn unig ar gyfer rhai dros oedran pensiwn a'r anabl, fel y'u diffinnir yn adran 146;
(iv) i fod yn ostyngiad o hanner gwerth y tocyn.
Mae Adran 147 o Ddeddf 2000 yn rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol y per i estyn yr hawl i gael y consesiynau a'u natur.
Effaith erthyglau 4, 5, a 6 o'r Gorchymyn hwn yw diwygio darpariaethau Deddf 2000 er mwyn:
(i) estyn yr hawl i gonsesiynau i gynnwys siwrneiau sy'n dechrau neu yn gorffen (neu yn dechrau ac yn gorffen) y tu allan i ardal awdurdod consesiynau teithio Cymreig, ond yn ei chyffiniau;
(ii) dileu y cyfyngiad ar yr amserau pryd y darprir consesiynau;
(iii) estyn yr hawl i ddynion rhwng 60 ac oedran pensiwn, gydag effaith o 1 Ebrill 2003;
(iv) estyn yr hawl i gymdeithion personau anabl y mae arnynt angen cymorth cydymaith er mwyn gallu teithio ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i deithwyr;
(v) estyn yr hawl i'r rhai sy'n dal trwyddedau a roddwyd gan awdurdodau Cymreig heblaw yr un y mae'r siwrnai yn digwydd o fewn ei ardal, ar yr amod bod y drwydded mewn ffurf a gymeradwywyd at y pwrpas hwn;
(vi) cynyddu maint y consesiwn er mwyn darparu teithio am ddim.
Mae Erthygl 2 yn gwneud diwygiadau i'r categorïau o berson sydd â'r hawl i gonsesiynau teithio o dan gynlluniau o dan adran 93 o Ddeddf 1985 fel y byddant, ynghyd â'r rhai a wnaed yn barod gan baragraff 15 o Atodlen 11 i Ddeddf 2000, yn sicrhau cysondeb â'r rhai sy'n perthyn i gonsesiynau teithio gorfodol o dan adrannau 145 a 146 o Ddeddf 2000.
Notes:
[1]
1985 p.67 (Diwygiwyd adran 93(7) gan baragraff 15 o Atodlen 11 i Ddeddf Trafnidiaeth 2000).back
[2]
2000 p.38.back
[3]
O.S. 1986/1385.back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090445 1
|
Prepared
25 March 2002
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013765w.html