BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2001 Rhif 4000 (Cy.328)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2001
|
Wedi'u gwneud |
13 Rhagfyr 2001 | |
|
Yn dod i rym |
31 Rhagfyr 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 15(1), 35(1), 36(1) a (3) a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2001.
(2) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992
2.
Mae Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 ("y prif Reoliadau")[2] yn cael eu diwygio yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y Rheoliadau hyn.
Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau
3.
Mae rheoliad 2(1) o'r prif Reoliadau (dehongli) yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn -
(a) mae'r diffiniad o "general anaesthesia list" yn cael ei hepgor;
(b) yn y diffiniad o "treatment" mae'r geiriau "general anaesthesia and" yn cael eu dileu.
Diwygio rheoliad 4 o'r prif Reoliadau
4.
Mae rheoliad 4 o'r prif Reoliadau (rhestr ddeintyddol) yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn -
(a) ar ddiwedd paragraff 2(b)(ii) mae'r gair "and" yn cael ei fewnosod;
(b) ar ddiwedd paragraff 2(b)(iii) mae'r gair "and" yn cael ei ddileu;
(c) mae paragraff 2(b)(iv) yn cael ei hepgor.
Diwygio rheoliad 5D o'r prif Reoliadau
5.
Mae rheoliad 5D o'r prif Reoliadau (rhestr anaesthesia gyffredinol) yn cael ei hepgor.
Diwygio rheoliad 5E o'r prif Reoliadau
6.
Mae rheoliad 5E o'r prif Reoliadau (dileu cofnodion o'r rhestr anaesthesia gyffredinol neu ei diwygio) yn cael ei hepgor.
Diwygio Atodlen 1 i'r prif Reoliadau
7.
- (1) Mae Atodlen 1 i'r prif Reoliadau (telerau gwasanaeth deintyddion) yn cael ei diwygio yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff 4(3)(g) (trefniant gofal parhaus) mae'r geiriau "general anaesthesia or" yn cael eu dileu.
(3) Ym mharagraff 16 (3)(c) (cymysgu gwasanaethau deintyddol cyffredinol a thriniaeth gofal preifat) mae'r geiriau " in which case the treatment shall be provided wholly under general dental services or wholly privately" yn cael eu dileu.
(4) Mae paragraff 17 (triniaeth achlysurol) yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn -
(a) yn is-baragraff 2(c) mae'r geiriau "except that, where a general anaesthetic is used, there shall be no limit as to the number of deciduous teeth that may be extracted" yn cael eu dileu;
(b) mae is-baragraff (2)(p) yn cael ei hepgor.
(5) Yn lle paragraff 21 (anaesthesia gyffredinol a thawelyddu) rhoddir -
"
Sedation
21
(1) Where a dentist undertakes, in the course of providing general dental services, any procedure for which sedation of the patient is necessary he shall remain with the patient, and arrange for another person with suitable training and experience to remain with the patient, throughout the procedure.
(2) In this paragraph "a person with suitable training and experience" means a person who has received such training and experience as to be capable of assisting the dentist in monitoring the clinical condition of the patient and in the event of an emergency.".
(6) Mae paragraff 33A (adeiladau: anaesthesia gyffredinol) yn cael ei hepgor.
(7) Mae paragraff 40 (anaesthetigau cyffredinol) yn cael ei hepgor.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Rhagfyr 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach ar Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 (O.S. 1992/661) ("y prif Reoliadau") sy'n rheoleiddio ar ba delerau y mae gwasanaethau deintyddol cyffredinol yn cael eu darparu o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977
Mae'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau hyn yn rhoi diwedd ar ddarparu triniaeth o dan anaesthesia gyffredinol o dan wasanaethau deintyddol cyffredinol.
Notes:
[1]
1977 p.49; gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i) i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".
Diwygiwyd adran 15(1) gan adran 5(2) o Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48) ("Deddf 1984"); gan Ddeddf 1990, adran 12(1) a chan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995") adran 2(1) ac Atodlen 1, paragraff 6(e).
Amnewidiwyd adran 35(1) gan O.S. 1985/39, erthygl 7(9), ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 24.
Rhifwyd adran 36(1) felly gan Ddeddf 1984, Atodlen 3, paragraff 5(1) ac fe'i diwygiwyd gan O.S. 1981/432, erthygl 3(3)(a); gan O.S. 1985/39, erthygl 7(10); gan adran 25 o Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), ac Atodlen 2, paragraff 4 iddi; gan Ddeddf 1990, adran 24(2) a chan Ddeddf 1995, adran 2(1) ac Atodlen 1, paragraff 25(a).
Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2); a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8), ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 37(6).
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 15(1), 35(1), 36(1) a 126(4) o Ddeddf 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.back
[2]
O.S.1992/661; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1993/2209, 1995/3092, 1996/704, 1998/1648, 2000/3118 (C.197), 2001/1359 (Cy.87), 2133 (Cy.148) a 2706 (Cy.226).back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090410 9
|
Prepared
24 January 2002
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20014000w.html