BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020122w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 25 Ionawr 2002 | ||
Yn dod i rym | 1 Chwefror 2002 |
(2) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall -
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn neu'r Atodlen iddynt sy'n dwyn y rhif hwnnw.
Diddymu a darpariaethau trosiannol
3.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, diddymir Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 1999[8].
(2) Er hynny, bydd y Rheoliadau hynny'n parhau yn gymwys mewn perthynas â'r blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 1999, 1 Ebrill 2000 ac 1 Ebrill 2001.
Ffurf ragnodedig datganiadau cyllideb a'r wybodaeth sydd i'w chynnwys ynddynt
4.
- (1) Rhaid paratoi datganiad cyllideb mewn tair rhan.
(2) Rhaid cwblhau Rhan 1 yn Gymraeg ac yn Saesneg yn y ffurf a ragnodir yn Atodlen 1 a rhaid cynnwys yr wybodaeth, mewn perthynas â gwariant cynlluniedig yr awdurdod ar gyfer pob ysgol am y flwyddyn ariannol y mae'r datganiad cyllideb yn berthnasol iddi, a bennir yn y nodiadau yn y ffurflen honno;
(3) Rhaid cwblhau Rhan 2 yn Gymraeg ac yn Saesneg yn y ffurf a ragnodir yn Atodlen 2 a rhaid cynnwys yr wybodaeth mewn perthynas â fformwla ddyrannu'r awdurdod ar gyfer y flwyddyn ariannol y mae'r datganiad cyllideb yn berthnasol iddi a bennir yn y nodiadau yn y ffurflen honno; a
(4) Gellir cwblhau Rhan 3 yn Gymraeg neu'n Saesneg (neu'r ddwy) a rhaid cynnwys yr wybodaeth mewn perthynas â chyfran pob ysgol o'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol y mae'r datganiad cyllideb yn berthnasol iddi a bennir yn Atodlen 3.
(5) Rhaid i faint y ffont a ddefnyddir beidio â bod yn llai na 7pt.
(6) Rhaid i'r wybodaeth ganlynol ymddangos ar frig bob Rhan o ddatganiad cyllideb:
(7) At ddibenion cwblhau datganiadau cyllideb, mae ysgol ganol i'w thrin fel ysgol gynradd neu ysgol uwchradd, yn ôl fel y digwydd, yn ôl sut y mae'r ysgol i'w thrin at ddibenion penderfynu ei chyfran o'r gyllideb o dan fformwla ddyrannu'r awdurdod.
(8) Os oes person yn cyflawni swyddogaethau ar ran awdurdod, rhaid i'r awdurdod gynnwys gwybodaeth yn Rhannau 1 i 3 o'r datganiad cyllideb fel pe bai gwariant gan y person hwnnw wrth gyflawni'r swyddogaethau hynny yn wariant gan yr awdurdod.
Rhagnodi dull ac amser cyhoeddi datganiadau cyllideb
5.
- (1) Yn ddarostyngedig i reoliad 6, at ddibenion adran 52(3)(b) o Ddeddf 1998, rhaid i bob datganiad cyllideb gael ei gyhoeddi -
6.
- (1) Rhaid hefyd roi pob datganiad cyllideb i'r Cynulliad Cenedlaethol drwy bost electronig neu ar ffurf data y gall peiriant ei ddarllen ar ddisg hyblyg a ddarperir i'r diben hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Rhaid i unrhyw iaith gyfrifiadurol neu feddalwedd a ddefnyddir i gyflwyno tablau fod yn un y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i hysbysu i'r awdurdod.
7.
- (1) Rhaid cyhoeddi datganiad cyllideb cyn dechrau'r flwyddyn ariannol y mae'n berthnasol iddi.
(2) Ni ellir adolygu datganiad cyllideb yn ystod y flwyddyn ariannol y mae'n berthnasol iddi heblaw i gywiro gwallau yn y datganiad fel y cyhoeddwyd ef yn flaenorol.
(3) Bydd datganiad cyllideb diwygiedig yn ddarostyngedig i reoliadau 4, 5, 6, 7(2) ac 8.
(4) Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol paratoi fersiwn diwygiedig o'r testun Cymraeg os yw'r gwallau yn y testun Saesneg yn unig a vice versa.
8.
Ar yr un adeg ag y maent yn cyhoeddi datganiad cyllideb yn unol â rheoliadau 5 a 6, rhaid i'r awdurdod roi i gorff llywodraethu a phennaeth pob ysgol a gynhelir ganddynt gopi o Rannau 1 a 2 o'r datganiad cyllideb a chopi o'r rhan honno o Ran 3 o'r datganiad cyllideb sy'n berthnasol i'r ysgol o dan sylw, ond os yw'r corff llywodraethu neu'r pennaeth yn gofyn amdano rhaid i'r awdurdod roi iddynt gopi cyflawn o Ran 3 o'r datganiad cyllideb.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[9]
J. E. Randerson
Ysgrifennydd Cynulliad
25 Ionawr 2002
2.
Gyferbyn ag enw pob ysgol, rhowch rif cyfeirnod swyddogol yr ysgol honno yng Ngholofn 2.
3.
Yng Ngholofn 3, gyferbyn ag enw pob ysgol, rhowch y llythyren "C" os yw'r ysgol i gau yn ystod y flwyddyn ariannol a'r llythyren "A" os yw'r ysgol i agor yn ystod y flwyddyn ariannol; fel arall gadewch Golofn 3 yn wag.
4.
Yng Ngholofn 4 rhowch y dyddiad y bwriedir i ysgol o'r fath gau neu agor, yn ôl fel y digwydd; fel arall gadewch Golofn 4 yn wag.
5.
Yng Ngholofn 5, gyferbyn ag enw pob ysgol rhowch -
Yn achos ysgol a fydd ar agor am ran o'r flwyddyn yn unig, rhaid i'r nifer a benderfynir yn unol ag (a) neu (b) uchod gael ei ostwng i adlewyrchu cyfran y flwyddyn y mae'r ysgol i fod ar agor. Er enghraifft, os disgwylir i ysgol fod ar agor am saith mis o'r flwyddyn ariannol, y nifer o ddisgyblion a ddangosir ddylai fod y nifer o ddisgyblion wedi'i luosi â 7, yna ei rannu â 12.
6.
Yng Ngholofn 6, gyferbyn ag enw pob ysgol, rhowch holl gyfran yr ysgol o'r gyllideb. Ar gyfer ysgolion sydd ar agor am ran o'r flwyddyn yn unig, dylid dangos y gyfran wirioneddol o'r gyllideb a roddir i'r ysgol.
7.
Yn Ngholofn 7, gyferbyn ag enw pob ysgol, rhowch y gwariant cynlluniedig fesul disgybl yn yr ysgol wedi'i gyfrifo drwy rannu'r swm a roddir yn unol â nodyn 6 â'r nifer o ddisgyblion neu leoedd ar gyfer yr ysgol a roddir yn unol â nodyn 5.
8.
Yng Ngholofn 8, gyferbyn ag enw pob ysgol (heblaw ysgol arbennig), rhowch swm y rhan honno o gyfran yr ysgol o'r gyllideb sy'n deillio o gymhwyso'r fformwla ddyrannu mewn perthynas â'r amcangyfrif o angen yr ysgol i wneud darpariaeth addysgol arbennig.
9.
Yng Ngholofn 9, gyferbyn ag enw pob ysgol, rhowch swm yr arian ychwanegol cynlluniedig (gan gynnwys grantiau) y bwriedir eu dyrannu i'r ysgol nad ydyw'n rhan o gyfran yr ysgol o'r gyllideb.
10.
Yn llinell 10 ym mhob un o Golofnau 5, 6, 8 a 9 rhowch gydgyfanswm y niferoedd a roddwyd ym mhob un o'r colofnau hynny mewn perthynas ag ysgolion cynradd ac yng ngholofn 7 rhowch gyfartaledd y niferoedd a roddwyd yn y golofn honno mewn perthynas â'r ysgolion hynny.
11.
Yn llinell 11 ym mhob un o Golofnau 5, 6, 8 a 9 rhowch gydgyfanswm y niferoedd a roddwyd ym mhob un o'r colofnau hynny mewn perthynas ag ysgolion uwchradd ac yng ngholofn 7 rhowch gyfartaledd y niferoedd a roddwyd yn y golofn honno mewn perthynas â'r ysgolion hynny.
12.
Yn llinell 12 ym mhob un o Golofnau 5, 6, 8 a 9 rhowch gydgyfanswm y niferoedd a roddwyd ym mhob un o'r colofnau hynny mewn perthynas ag ysgolion arbennig ac yng ngholofn 7 rhowch gyfartaledd y niferoedd a roddwyd yn y golofn honno mewn perthynas â'r ysgolion hynny.
13.
Yn llinell 13 ym mhob un o Golofnau 5, 6, 8 a 9 rhowch gydgyfanswm y niferoedd a roddwyd ym mhob un o'r colofnau hynny yn unol â nodiadau 7 i 12, ac yng ngholofn 7 rhowch gyfartaledd y niferoedd a roddwyd yn y golofn honno.
14.
Yn llinell 14 rhowch y swm o'r ISB sydd heb ei ddyrannu i gyfrannau'r ysgolion o'r gyllideb ar ddechrau'r flwyddyn ariannol gan roi amcangyfrif o'r rhaniad rhwng ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac ysgolion arbennig a chan roi'r cyfanswm.
15.
Yn llinell 15 rhowch gyfanswm yr arian o'r math y cyfeirir ato yn Nodyn 9 y mae'r AALl yn bwriadu ei ddyrannu i'r ysgol ond nad ydyw'n cael ei ddyrannu ar ddechrau'r flwyddyn ariannol, gan roi amcangyfrif o'r rhaniad rhwng ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac ysgolion arbennig a chan roi cyfanswm.
16.
Yn llinell 16 rhowch gydgyfanswm y niferoedd a roddwyd yng ngholofn 6 yn unol â Nodyn 13 ac yn y blwch "cyfanswm" yn unol â Nodyn 14.
8.
Yn y golofn hon (8), gyferbyn â phob cofnod yng ngholofn (4), rhowch y symiau a geir drwy luosi'r swm yng ngholofn (6) â'r rhif yng ngholofn (7).
9.
Yn y golofn hon (9) rhowch gydgyfanswm y symiau yng ngholofn (8) wedi'i fynegi fel canran o'r swm y cyfeirir ato yn llinell (32).
10.
Is-bennawd i'r ffactorau sy'n dyrannu'r ISB drwy gyfeirio at niferoedd y disgyblion cofrestredig mewn ysgolion cynradd ac uwchradd a'u hoedrannau (neu eu grŵp oedran neu'r grŵp blwyddyn y maent yn perthyn iddo), eu presenoldeb mewn dosbarth meithrin, pynciau eu hastudiaethau neu unrhyw anghenion addysgol arbennig a all fod ganddynt neu yr ymdrinnir â hwy fel pe baent ganddynt at ddibenion cymhwyso'r fformwla ddyrannu, fel bod pob disgybl o fewn categori penodol yn denu symiau cyfartal ni waeth pa ysgol y mae'n ei mynychu.
11.
Pennawd ar gyfer y cofnodion sydd i'w gwneud o dan is-adran ariannu pwysoliad-oedran y tabl.
12.
Yn y golofn hon (12) rhowch y symiau sy'n cynrychioli'r pwysoliad a roddir yn ôl oedran (gan gynnwys cyfnod allweddol neu grŵp blwyddyn), a ddarperir addysg feithrin i ddisgybl neu'r pwnc neu'r cwrs astudiaeth yn achos disgyblion mewn chweched dosbarth.
13.
Yn y fan hon rhowch ddisgrifiad o'r dull a ddefnyddiwyd i weithredu'r ffactor, gan esbonio amrywiadau yn lefel y ddarpariaeth y gall disgyblion neu eu hysgolion eu denu.
14.
Yn y fan hon rhowch gydgyfanswm y rhifau yng ngholofn (7), a chydgyfanswm y symiau yng ngholofn (8), ar wahân ar gyfer ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd a rhowch gyfanswm.
Arian AAA a seilir ar niferoedd disgyblion
15.
Yn y golofn hon rhowch bob ffactor, sy'n berthnasol i ddisgyblion â datganiadau, sy'n dyrannu'r ISB drwy gyfeirio at niferoedd y disgyblion cofrestredig mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ac at unrhyw anghenion addysgol arbennig a all fod ganddynt neu y maent i'w trin fel pe baent ganddynt at ddibenion cymhwyso'r fformwla ddyrannu.
16.
Yn y golofn hon rhowch bob ffactor sy'n berthnasol i ddisgyblion heb ddatganiadau, a fyddai'n cael eu rhoi yng ngholofn (15) pe baent yn berthnasol i ddisgyblion â datganiadau.
Arian AAA a seilir ar niferoedd lleoedd a drinnir fel arian a seilir ar niferoedd disgyblion
17.
Yn y golofn hon rhowch bob ffactor (heblaw'r rhai y cyfeirir atynt yn nodiadau (10) i (16) uchod) sy'n dyrannu'r ISB ar sail anghenion perthnasol ysgolion unigol cynradd ac uwchradd i dynnu gwariant wrth wneud darpariaeth addysgol arbennig i ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig.
Arian arall a drinnir fel arian a seilir ar niferoedd disgyblion
18.
Yn y golofn hon (18) rhowch bob ffactor (heblaw'r rhai y cyfeirir atynt yn nodiadau (10) i (17) uchod) y dyrennir yr un arian i ddisgyblion o'r un oedran yn unol â hwy, ni waeth beth yw natur yr ysgol y maent yn ei mynychu.
Cyfanswm yr arian cynradd ac uwchradd a drinnir fel arian a seilir ar niferoedd disgyblion
19.
Yn y fan hon rhowch gydgyfanswm y symiau a roddwyd yn y blychau cyfanswm yn llinellau (11), (15), (16), (17) a (18), yn unol â nodyn (14) ar wahân ar gyfer ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac mewn cyfanswm, a chydgyfanswm y canrannau a roddir yng ngholofn (9).
Arian AAA gormodol i ddisgyblion heb ddatganiadau
20.
Yn y golofn hon rhowch bob ffactor sy'n berthnasol i ddisgyblion heb ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig a fyddai'n cael eu rhoi yng ngholofn (16) uchod oni bai am effaith gyfyngu rheoliad 22(d) o Reoliadau 1999.
ARIAN ARALL
21.
Is-bennawd i'r ffactorau sy'n dyrannu'r ISB drwy gyfeirio at ffactorau heblaw'r rhai hynny y cyfeirir atynt yn nodiadau (11) i (18). Rhaid i bob ffactor yn yr adran hon gael ei dyrannu i un o'r grwpiau canlynol:
Ffactorau anghenion addysgol ychwanegol
22.
Yn y golofn hon (22) rhowch bob ffactor y dyrennir symiau i ysgolion cynradd ac uwchradd ar gyfer anghenion addysgol ychwanegol yn unol â hwy.
Ffactorau penodol i safle
23.
Yn y golofn hon (23) rhowch bob ffactor y dyrennir symiau i ysgolion cynradd ac uwchradd yn unol â hwy drwy gyfeirio at adeiladau neu diroedd yr ysgol.
24.
Yn y golofn hon (24), gyferbyn â phob uned o fesur a ddisgrifir yng ngholofnau (23), (25) a (26), rhowch y nifer o unedau o dan sylw.
Ffactorau penodol i ysgol
25.
Yn y golofn hon (25) rhowch bob ffactor y dyrennir symiau i ysgolion cynradd ac uwchradd yn unol â hwy drwy gyfeirio at nodweddion yr ysgol.
Addasiadau cyllideb
26.
Yn y golofn hon (26) rhowch bob ffactor y dyrennir symiau i ysgolion cynradd ac uwchradd yn unol â hwy yn unol ag unrhyw ddarpariaethau yn Rheoliadau 1999 sy'n ymwneud ag addasiadau cyllideb. Cynhwyswch unrhyw addasiadau i adlewyrchu addasiadau ôl-weithredol yn niferoedd y disgyblion gan gynnwys disgyblion a waharddwyd.
Arian wrth gefn heb ei dyrannu
27.
Yn y fan hon rhowch swm y rhan honno o ISB yr awdurdod sydd wedi'i chadw mewn perthynas ag ysgolion cynradd ac uwchradd ac na chafodd ei dyrannu ar ddechrau'r flwyddyn ariannol. Dangoswch y symiau ar wahân ar gyfer ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd a rhowch gyfanswm.
CYFANSWM YR ARIAN SYDD AR GAEL I YSGOLION Y BRIF FFRWD
28.
Yn y fan hon rhowch gydgyfanswm y symiau a roddwyd yn unol â nodiadau (19), (20), (22), (23), (25), (26) a (27), ar wahân ar gyfer ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd ac mewn cyfanswm.
YSGOLION ARBENNIG
29.
Pennawd cyffredinol ar gyfer yr ysgolion y mae'r adran hon o'r tabl yn berthnasol iddynt.
Arian a seilir ar niferoedd lleoedd
30.
Yn y golofn hon (30) rhowch y math o ffactor a'i enw a ddefnyddwyd i ddyrannu'r ISB i ysgolion arbennig drwy gyfeirio at y niferoedd a'r mathau o leoedd y maent yn eu darparu.
Arian a seilir ar niferoedd disgyblion
31.
Yn y golofn hon (31) rhowch bob ffactor y dyrennir symiau i ysgolion arbennig yn unol â hwy drwy gyfeirio at y niferoedd a'r mathau o ddisgyblion yn yr ysgol.
Ffactorau eraill
32.
Is-bennawd i'r ffactorau sy'n dyrannu'r ISB i ysgolion arbennig heblaw drwy gyfeirio at nifer y lleoedd a ddarperir, neu nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgolion hynny. Rhaid i bob ffactor yn yr adran hon gael ei dyrannu i un o'r grwpiau canlynol:
Ffactorau anghenion addysgol ychwanegol
33.
Yn y golofn hon (33) rhowch bob ffactor y dyrennir symiau yn unol â hwy ar gyfer anghenion addysgol ychwanegol.
Ffactorau penodol i safle
34.
Yn y golofn hon (34) rhowch bob ffactor y dyrennir symiau yn unol â hwy drwy gyfeirio at adeiladau neu diroedd ysgol arbennig.
Ffactorau penodol i ysgol
35.
Yn y golofn hon (35) rhowch bob ffactor y dyrennir symiau yn unol â hwy drwy gyfeirio at nodweddion yr ysgol.
Addasiadau cyllideb
36.
Yn y golofn hon (36) rhowch bob ffactor y dyrennir symiau i ysgolion arbennig yn unol â hwy yn unol ag unrhyw ddarpariaethau yn Rheoliadau 1999 sy'n ymwneud ag addasiadau cyllideb.
Arian wrth gefn heb ei dyrannu
37.
Yn y fan hon rhowch swm y rhan honno o ISB yr awdurdod sydd wedi'i chadw mewn perthynas ag ysgolion arbennig ac sydd heb ei dyrannu ar ddechrau'r flwyddyn ariannol.
Cyfanswm yr arian a ddyrennir i ysgolion arbennig
38.
Yn y fan hon rhowch gydgyfanswm y symiau a roddwyd yn unol â nodiadau (30), (31), (33), (34), (35), (36) a (37).
CYFANSWM YR ARIAN SYDD AR GAEL I BOB YSGOL (ISB)
39.
Yn y fan hon rhowch gydgyfanswm y symiau a roddwyd yn unol â nodiadau (28) a (38).
3.
Arian arall a seilir ar niferoedd disgyblion
4.
Anghenion addysgol ychwanegol
5.
Ffactorau penodol i safle
6.
Ffactorau penodol i ysgol
7.
Addasiadau cyllideb
8.
Cyfanswm y gyfran o'r ISB (prif ffrwd)
Ysgolion Arbennig
9.
Arian a seilir ar niferoedd lleoedd
10.
Arian a seilir ar niferoedd disgyblion
11.
Anghenion addysgol ychwanegol
12.
Ffactorau penodol i safle
13.
Ffactorau penodol i ysgol
14.
Addasiadau cyllideb
15.
Cyfanswm y gyfran o'r ISB (Arbennig)
Os nad oes ffactor yn gymwys i ysgol benodol rhaid rhoi sero gyferbyn â'r ffactor hwnnw.
Rhaid cwblhau Rhan 1 a 2 yn Gymraeg ac yn y Saesneg. Gellir cwblhau Rhan 3 yn y naill iaith neu'r llall neu'n y ddwy.
Mae'r rheoliadau hefyd yn darparu ar gyfer dull ac amser cyhoeddi datganiadau cyllideb - gweler rheoliadau 5 - 8.
Y newid mwyaf arwyddocaol ar y Rheoliadau blaenorol yw nad yw mwyach yn ofynnol cyflwyno gwybodaeth ar lefel yr AALl (Atodlen 1 i Reoliadau 1999), oherwydd ceir hyn ar ffurflenni diwygiedig cyfrif refeniw (RA) llywodraeth leol.
Mae Rhan 1 o'r datganiad cyllideb (gwybodaeth lefel ysgol) yn egluro sut i ymdrin ag ysgolion sydd ar fin agor neu ar fin cau yn ystod y flwyddyn ariannol. Cafodd Rhan 2 (ffactorau ariannu) ei diwygio er mwyn ei gwneud yn gliriach i'w dilyn a'i chwblhau. Mae Rhan 3 (cymhwyso ffactorau at ysgolion) bellach yn rhagnodi is-gyfansymiau, er mwyn sicrhau cysondeb ac er mwyn gwneud yr wybodaeth yn fwy defnyddiol i ysgolion.
[3] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[4] 1996 p.56. Diwygiwyd adran 312(4) gan baragraff 71 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998.back
[5] 1996 p.56. Mewnosodwyd y diffiniad gan baragraff 43 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 p.44.back
[6] O.S. 1999/101 a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/911(Cy. 40) a 2001/495 (Cy. 22).back
[7] Diwygiwyd adran 5(3) gan baragraff 59 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998.back