BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020283w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 283 (Cy.34)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002

  Wedi'i wneud 8 Chwefror 2002 
  Yn dod i rym 11 Chwefror 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Gweinidog dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 7, 8 a 83 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1] a phob pŵ er arall sy'n eu galluogi yn y cyswllt hwnnw, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, Cymhwyso a Chychwyn
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 ac mae'n gymwys i Gymru.

    (2) Daw i rym ar 11 Chwefror 2002 ac fe fydd yn peidio a bod mewn grym ar 1 Rhagfyr 2002.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn, oni bai fod y cyd-destun yn mynnu fel arall:

ac mae'n cynnwys derbyn neu gadw dros dro yr anifeiliaid hynny; ac

Defnyddio tir ac adeiladau ar gyfer crynoadau anifeiliaid
     3.  - (1) Yn ddarostyngedig i erthygl 4 isod, rhaid i bob person beidio â defnyddio tir ac adeiladau ar gyfer crynhoad anifeiliaid - 

    (2) Rhaid i'r drwydded y cyfeirir ati ym mharagraff (1) uchod - 

Eithriadau i erthygl 3
    
4.  - (1) Ni fydd erthygl 3 uchod yn gymwys pan fydd - 

    (2) At ddibenion yr erthygl hwn, ystyr "ceidwad" yw person sydd â'r prif gyfrifoldeb am ofal a rheoli'r anifeiliaid o ddydd i ddydd.

Gorfodi
    
5. Ac eithrio lle y darperir yn wahanol, rhaid i'r Gorchymyn hwn gael ei orfodi gan yr awdurdod lleol.

Gorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau 1925
    
6. Ni fyddGorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau 1925[3] yn gymwys tra bod y Gorchymyn hwn mewn grym.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]


Carwyn Jones
Ysgrifennydd Cynulliad

8 Chwefror 2002


Lord Whitty
Is - Ysgrifennydd Gwladol Adran yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Bwyd

8 Chwefror 2002



ATODLEN
Erthygl 3


GOFYNION CYFFREDINOL YNGHYLCH DEFNYDDIO TIR AC ADEILADAU AT DDIBENION CRYNOADAU ANIFEILIAID


Cyfnod cyfyngedig 28 diwrnod cyn crynhoad anifeiliaid
     1. Yn ddarostyngedig i baragraff 3 o'r Atodlen hon, rhaid i bob person beidio â chaniatáu i grynhoad anifeiliaid ddigwydd ar dir ac mewn adeiladau lle mae anifeiliaid wedi'u cadw hyd nes i 28 diwrnod fynd heibio o'r diwrnod pryd - 

Cyfnod cyfyngedig 28 diwrnod ar ôl crynhoad anifeiliaid
     2.

Eithriad i'r cyfnod cyfyngedig
     3. Nid yw'r cyfyngiadau ym mharagraff 1 a 2 uchod yn gymwys os yw'r rhannau o'r tir a'r adeiladau y mae'r anifeiliaid yn cael mynd atynt wedi'u palmantu â sment, concrid, asffalt neu unrhyw ddeunydd caled, anhydraidd y mae modd ei lanhau a'i ddiheintio'n effeithiol ac os yw'r tir a'r adeiladau yn cael eu glanhau a'u diheintio yn unol â Pharagraffau 4, 5, a 6 isod.

Glanhau a diheintio tir ac adeiladau wedi'u palmantu
     4. Rhaid ysgubo neu grafu'n lân pob rhan o'r tir a'r adeiladau y cafodd yr anifeiliaid fynd iddynt (gan gynnwys corlannau, clwydi ac unrhyw gyfarpar arall) ac yna eu glanhau drwy olchi a defnyddio diheintydd a gymeradwywyd yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr.

     5. Rhaid i'r gwaith glanhau a diheintio a nodir ym mharagraff 4 uchod - 

     6. Os (am reswm nad yw'n ymwneud â phresenoldeb anifeiliaid yno) yw'r tir a'r adeiladau yn cael eu halogi gan ysgarthion anifeiliaid neu ddeunydd arall o darddiad anifeilaidd neu unrhyw halogyn o darddiad anifeilaidd yna rhaid ysgubo neu grafu'n lân y tir a'r adeiladau neu'r rhannau hynny a halogwyd felly,ac yna eu glanhau drwy olchi a defnyddio diheintydd a gymeradwywyd yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr cyn i unrhyw anifeiliaid gael mynd i'r tir a'r adeiladau eto.

Gwaredu gwastraff o grynoadau anifeiliaid
     7. Rhaid i bob bwyd y cafodd yr anifeiliaid fynd ato, a phob sarn, ysgarthion, a deunydd arall o darddiad anifeilaidd a halogion eraill sy'n deillio o'r anifeiliaid yn y crynhoad anifeiliaid, cyn gynted â phosibl a chyn i'r anifeiliaid gael mynd i'r tir a'r adeiladau eto, gael - 



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn datgymhwyso dros dro ac yn cymryd lle Gorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau 1925 (O.S. 1925/1349) (fel y'i diwygiwyd) mewn perthynas â Chymru.

Y mae'n gwahardd defnyddio tir ac adeiladau ar gyfer crynoadau anifeiliaid oni bai fod trwydded i ganiatáu'r gweithgarwch hwnnw (erthygl 3).

Mae'n gofyn bod - 

Ni pharatowyd arfarniad o'r rheoliadau hyn ar gyfer y Gorchymyn hwn.


Notes:

[1] 1981 p.22. Gweler adran 86(1) ar gyfer diffiniadau o "the Ministers" a "the Minister". Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers" cyn belled â'u bod yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); a chyn belled â'u bod yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban mewn perthynas â Chymru i'r Gweinidog dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141).back

[2] O.S. 1978/32. Offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1978/934; O.S. 1999/919 ac mewn perthynas â Chymru, O.S. 2001/641 (Cy. 31).back

[3] O.S. 1925/1349 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1926/546; O.S. 1927/982 ac O.S. 1996/3265.back

[4] 1998 c.38.back



English version



ISBN 0 11090427 3


  Prepared 22 February 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020283w.html