BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Ffioedd) 2002 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020326w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 13 Chwefror 2002 | ||
Yn dod i rym | 1 Mawrth 2002 |
3.
Os gwenir cais am hynny, raid i gyflogydd hysbysu'r Cyngor ynglyn â'r manylion a bennir yn yr Atodlen am unrhyw athro neu athrawes a gyflogir gan y cyflogydd hwnnw ar ddyddiad a bennir gan y Cyngor ac y mae'n ofynnol, yn sgil eu cyflogaeth, iddynt gael eu cofrestru yn y Gofrestr yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 218(1)(aa) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988[4].
4.
- (1) Rhaid i gyflogydd athro neu athrawes y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddynt sicrhau bod y ffi yn cael ei didynnu o'r taliad cyflog a wneir i'r athro neu'r athrawes yn union ar ôl y dyddiad hysbysu.
(2) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i athro neu athrawes y mae'r cyflogydd wedi cael hysbysiad ("hysbysiad talu") mewn perthynas â hwy oddi wrth y Cyngor ei bod yn ofynnol iddynt sicrhau bod y ffi'n cael ei didynnu o gyflog yr athro neu'r athrawes.
(3) Mae'n rhaid i hysbysiad talu nodi'r swm sydd i'w ddidynnu.
(4) Dim ond os yw'r Cyngor wedi'i fodloni bod yr athro neu'r athrawes y mae'r hysbysiad yn cael ei roi mewn perthynas â hwy ar y dyddiad hysbysu -
a'u bod heb dalu'r ffi eisoes mewn perthynas â'r cyfnod y mae'r ffi y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn gymwys iddo y gellir rhoi hysbysiad talu i gyflogydd.
5.
O fewn 14 diwrnod ar ôl i'r ffi gael ei didynnu yn unol â rheoliad 4, rhaid i'r cyflogydd anfon y ffi honno i'r Cyngor.
6.
Wrth anfon y ffi rhaid i'r cyflogydd hysbysu'r Cyngor ynglyn â'r manylion a bennir yn yr Atodlen am yr athro neu'r athrawes yr anfonir y ffi mewn perthynas â hwy.
7.
Nid yw methiant gan unrhyw berson i gyflawni unrhyw ddyletswydd o fewn terfyn amser sydd wedi'i bennu yn y Rheoliadau hyn yn rhyddhau'r person hwnnw o'r ddyletswydd honno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Chwefror 2002
[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3] O.S. 2000/1941 (Cy. 139).back
[4] 1988 p.40. Mewnosodwyd adran 218(1)(aa) gan adran 11 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998. Rheoliadau Athrawon (Cofrestru Gorfodol) (Cymru) 2000, O.S. 2000/3122 (Cy. 200) oedd y rheoliadau a oedd mewn grym adeg gwneud y rheoliadau hyn.back