BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Cimychiaid a Chimychiaid Cochion (Gwahardd eu Pysgota a'u Glanio) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020676w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 676 (Cy.73)

PYSGODFEYDD, CYMRU

CADWRAETH PYSGOD MÔR

Gorchymyn Cimychiaid a Chimychiaid Cochion (Gwahardd eu Pysgota a'u Glanio) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 12 Mawrth 2002 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 5(1), 6(1) a 15(3) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967[1], a phob pwcircer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw[2], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cimychiaid a Chimychiaid Cochion (Gwahardd eu Pysgota a'u Glanio) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 1 April 2002.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru (fel y mae wedi'i diffinio yn adran 155(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3] yn unig.

Dehongli
     2.  - (1) Yn y Gorchymyn hwn - 

    (2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "unrhyw orchymyn cyfatebol" yw unrhyw orchymyn arall wedi'i wneud o dan adrannau 5 neu 6 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967, sy'n gymwys i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig ac sy'n gwahardd pysgota am y canlynol, neu eu glanio, mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig:

    (3) At ddibenion y Gorchymyn hwn, pennir "y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru" yn unol â darpariaethau adran 1 o Ddeddf Môr Tiriogaethol 1987[4] ac ag unrhyw ddarpariaethau a wnaed, neu sy'n dwyn effaith fel pe baent wedi'u gwneud, o dan yr adran honNo. Pennir y ffin rhwng y rhannau hynny o'r môr yn Aberoedd Hafren a Dyfrdwy sydd i'w trin fel moroedd tiriogaethol cyfagos at Gymru, a'r rhannau nad ydynt i'w trin felly, yn unol ag Erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 3 iddo ym mhob achos.

Gwahardd pysgota
     3.  - (1) Mae'r erthygl hon yn gymwys i bysgota am y canlynol - 

    (2) Mae pysgota gan gwch pysgota Prydeinig perthnasol o fewn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru wedi'i wahardd.

    (3) Mae pysgota gan gwch pysgota Albanaidd o fewn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru wedi'i wahardd.

Gwahardd glanio
    
4.  - (1) Mae'r erthygl hon yn gymwys i'r canlynol - 

sydd wedi eu dal.

    (2) Mae glanio unrhyw bysgod môr y mae'r erthygl hon yn gymwys iddynt yng Nghymru oddi ar gwch pysgota Prydeinig perthnasol neu gwch pysgota Albanaidd wedi'i wahardd.

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig mewn perthynas â chychod pysgota
    
5.  - (1) Er mwyn gorfodi adrannau 5 a 6 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967, fel y'u darllenir gyda'r Gorchymyn hwn neu unrhyw orchymyn cyfatebol, caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddir gan baragraffau (2) i (4) isod mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota Prydeinig perthnasol neu gwch pysgota Albanaidd o fewn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru.

    (2) Caiff y swyddog fynd ar fwrdd y cwch, gyda phersonau a neilltuwyd i'w gynorthwyo gyda'i ddyletswyddau neu hebddynt, ac at y diben hwnnw caiff ei gwneud yn ofynnol bod y cwch yn stopio ac yn gwneud unrhyw beth arall a fyddai yn ei gwneud yn hwylus i fynd ar fwrdd y cwch.

    (3) Caiff y swyddog fynnu presenoldeb y meistr ac unrhyw bersonau eraill sydd ar fwrdd y cwch a chaiff wneud unrhyw archwiliad ac ymholiadau sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol at y diben a grybwyllwyd ym mharagraff (1) uchod ac, yn benodol - 

ond fydd dim yn is-baragraff (ch) uchod yn caniatáu cipio a chadw unrhyw ddogfen y mae'r gyfraith yn mynnu ei bod yn cael ei chario ar fwrdd y cwch, ac eithrio pan fydd y cwch yn cael ei gadw mewn porthladd.

    (4) Pan fydd yn ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod y Gorchymyn hwn, neu unrhyw orchymyn cyfatebol, wedi'i dorri ar unrhyw adeg o fewn terfynau pysgodfeydd Prydain, fe gaiff y swyddog - 

a phan fydd swyddog o'r fath yn cadw cwch, neu'n ei gwneud yn ofynnol bod cwch yn cael ei gadw, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r meistr yn datgan y bydd angen, neu fod angen, cadw'r cwch hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig arall i'r meistr wedi'i lofnodi gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Mawrth 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn gwahardd cychod pysgota Prydeinig perthnasol a chychod pysgota'r Alban rhag pysgota am gimychiaid a chimychiaid cochion y mae arnynt hollt V, neu rai sydd wedi'u llurgunio mewn modd sy'n cuddio hollt V, a'u glanio (erthyglau 3 a 4). Mae'r Gorchymyn yn gymwys i Gymru a'r môr tiriogaethol sy'n gyfagos at Gymru.

Mae'r Gorchymyn hefyd yn rhoi pwerau gorfodi pellach i swyddogion pysgodfeydd môr Prydain mewn perthynas â chychod pysgota perthnasol o Brydain a chychod pysgota o'r Alban yn y môr sy'n gyfagos at Gymru (erthygl 5). Mae ganddynt bwerau yn barod o dan adran 15(2) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967 ("Deddf 1967"), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981, i gipio unrhyw bysgod y mae tramgwydd wedi'i gyflawni, neu wrthi yn cael ei gyflawni, mewn perthynas â hwy o dan adrannau 5(1) a (6) o Ddeddf 1967.

Yn rhinwedd adrannau 5(1) a 6(5), yn y drefn honno, o Ddeddf 1967, tramgwydd yw pysgota am gimychiaid neu gimychiaid cochion o'r fath neu eu glanio yn groes i'r Gorchymyn hwn. Mae adran 5(6) o'r Ddeddf honno yn darparu bod rhaid i unrhyw bysgod sy'n cael eu dal yn groes i'r Gorchymyn gael eu dychwelyd i'r môr ar unwaith (yn ddarostyngedig i adran 9 o Ddeddf 1967). Os na chydymffurfir ag is-adran (6), mae adran 5(7) yn darparu bod meistr a pherchennog y cwch pysgota, a'r siartrwr (os oes un), bob un yn euog o dramgwydd. Rhagnodir cosbau gan adran 11 o Ddeddf 1967, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981 a Deddf Cyfiawnder Troseddol 1991.

Mae'r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud drwy ddibynnu ar Erthygl 46.1 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 (OJ Rhif L125, 27.4.98, t.1), ynghylch cadw adnoddau pysgodfeydd drwy gyfrwng mesurau technegol i ddiogelu rhai bach organeddau morol, sy'n awdurdodi'r Aelod-wladwriaethau i gymryd mesurau cenedlaethol penodol i gadw a rheoli stociau.


Notes:

[1] 1967, p.84. Gweler adran 22(2)(a) i gael y diffiniad o "the Ministers", fel y'i diwygiwyd gan adrannau 19(2)(d) a 45(b) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p.29). Amnewidiwyd adran 5(1) gan adran 22(1) o Ddeddf 1981. Amnewidiwyd adran 15(3) gan Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1968 (p.77), Atodlen 1, paragraff 38(3) a'i diwygio gan Ddeddf Terfynau Pysgota 1976 (p.86), Atodlen 2, paragraff 16(1). Diwygiwyd adrannau 6(1) a 15(3) gan Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Addasiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 1999 (O.S. 1999/1820), Atodlen 2, paragraff 43(2) a (6) yn y drefn honNo. Addaswyd adrannau 5(1) a 6 o ran eu heffaith gan adran 33(1) o Ddeddf 1981.back

[2] Trosglwyddodd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) holl swyddogaethau Gweinidog y Goron o dan y Ddeddf hon (ac eithrio swyddogaethau'r Bwrdd Masnach mewn perthynas ag adran 8) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru.back

[3] 1998 p.38.back

[4] 1987 p.47.back

[5] Diwygiwyd adran 5(6) gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p.29), adran 22(2). Diwygiwyd adran 6(5) gan adran 23(3) o Ddeddf 1981. Yn rhinwedd adran 5(7) o Ddeddf 1967 os na chydymffurfir ag adran 5(6) yn achos unrhyw gwch pysgota, mae'r meistr, y perchennog a'r siartrwr (os oes un) yn euog o dramgwydd o dan is-adran (6).back



English version



ISBN 0 11090476 1


  Prepared 3 May 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020676w.html