BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Diwygio Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro â Lloeren) (Cymru) 2000 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020677w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 677 (Cy.74)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

Rheoliadau Diwygio Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro â Lloeren) (Cymru) 2000 2002

  Wedi'u gwneud 12 Mawrth 2002 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol gan yr adran 2(2) uchod a phob pwcirc er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn ac eithrio
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro â Lloeren) (Cymru) 2000 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.

    (2) Ni fydd y ffaith bod rheoliad 5 o'r Rheoliadau hyn yn diddymu erthygl 4(2) o'r Gorchymyn yn effeithio ar ei chymhwyso mewn achos (pa bryd bynnag y mae'n digwydd) am dramgwydd yr honnir ei fod wedi'i gyflawni cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y Gorchymyn" yw Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro â Lloeren) (Cymru) 2000[3].

    (2) Dehongler ymadroddion a ddefnyddir mewn darpariaethau sy'n cael eu mewnosod gan y Rheoliadau hyn i mewn i'r Gorchymyn yn yr un modd â phetaent wedi'u mewnosod felly gan orchymyn a wnaed o dan adran 30(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981[4].

Diwygio'r Gorchymyn
     3. Yn erthygl 2(1) (dehongli) o'r Gorchymyn mewnosoder yr is-baragraff canlynol yn union ar ôl y diffiniad o "cwch pysgota Prydeinig perthnasol" - 

     4.  - (1) Diwygir erthygl 3 (olrhain cychod pysgota â lloeren) o'r Gorchymyn fel a ganlyn.

    (2) Ym mharagraff (3), dilëir is-baragraff (b) gan fewnosod yn union ar ôl is-baragraff (a) - 

    (3) Dilëir paragraff (4) gan roi'r paragraffau canlynol yn ei le - 

     5. Mae Erthygl 4(2) (tramgwyddau) o'r Gorchymyn yn cael ei diddymu.

    
6. Yn erthygl 5(1) (cosbau) o'r Gorchymyn yn lle "neu (4)" mewnosodir "neu (7)".

    
7. Yn erthygl 6(3), dilëir y geiriau "adran 90 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980,".

    
8.  - (1) Mae Erthygl 7 (pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeining mewn perthynas â chychod pysgota) o'r Gorchymyn yn cael ei diwygio fel a ganlyn.

    (2) Ym mharagraff (1), yn lle "i (4)" rhoddir "i (8)".

    (3) Ar ôl paragraff (4) mewnosodir - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Mawrth 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro â Lloeren) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/1078 (Cy.71)) ("y Gorchymyn"), sy'n cynnwys darpariaethau ar gyfer gorfodi deddfwriaeth y Gymuned Ewropeaidd sy'n ei gwneud yn ofynnol bod lleoliad cychod pysgota uwchlaw maint arbennig yn cael ei fonitro â lloeren. Fel yn achos y Gorchymyn hwnnw, mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chychod pysgota yn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru.

Mae'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau hyn yn newid y Gorchymyn mewn dwy brif ffordd. Mae Rheoliad 4 yn diwygio erthygl 3 o'r Gorchymyn sy'n creu rhwymedigaethau ynghylch gosod a gweithredu dyfeisiau olrhain lloerennol, drwy egluro'r gofyniad yn erthygl 3(3)(b) bod dyfais olrhain loerennol yn cael ei chadw'n hollol weithredol. Yn benodol mae'r drafftio newydd yn ei gwneud yn glir nad yw'r gofyniad hwnnw yn cael ei dorri naill ai pan fydd y ddyfais olrhain loerennol yn cael ei throi i ffwrdd yn y porthladd o dan amodau a ganiateir gan ddeddfwriaeth berthnasol y GE neu os oes diffyg technegol neu os yw'n methu â gweithio pan fydd y cwch yn y porthladd neu pan nad yw'r cyfnod dros dro pryd y mae deddfwriaeth berthnasol y GE yn caniatáu pysgota gyda dyfais ddiffygiol wedi dod i ben eto.

Mae Rheoliad 4 yn gosod gofyniad ychwanegol bod rhaid darparu'r wybodaeth a fynnwyd am leoliad bob dwy awr i Ganolfan Monitro Pysgodfeydd y Deyrnas Unedig drwy delecs, ffacs, ffôn neu radio, os nad yw ei ddyfais olrhain yn gweithio, tra bod cwch pysgota y mae erthygl 3 o'r Gorchymyn yn gymwys iddo ar y môr.

Mae'r prif newid arall yn cael ei wneud gan reoliad 8, sy'n rhoi pwcirc er gorfodi ychwanegol i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig mewn achos lle mae'r ddyfais olrhain loerennol ar fwrdd cwch pysgota Prydeinig wedi methu â gweithio. Gall y swyddog gyflwyno hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r cwch aros yn y porthladd nes bod y cyfnod monitro o 24 awr yn dod i ben. Yn ystod y cyfnod hwn rhaid gosod y ddyfais olrhain loerennol i ddarlledu'r wybodaeth a fynnwyd am leoliad bob dwy awr (bob awr yn achos dyfais nad yw wedi'i dylunio i allu cael ei pholio gan y Ganolfan Fonitro).

Mae'r diwygiadau eraill sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau yn rhai canlyniadol. Maent yn cynnwys diddymu amddiffyniad mewn achos troseddol penodol sydd wedi'i ddisodli drwy'r newidiadau sy'n cael eu gwneud gan reoliad 4 (gweler rheoliadau 1(2) a 5).


Notes:

[1] O.S. 1999/2788.back

[2] 1972 p. 68.back

[3] O.S. 2000/108 (Cy. 71).back

[4] 1981 p. 29; cafodd O.S. 2000/191 ei wneud o dan adran 30(2).back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090454 0


  Prepared 5 April 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020677w.html