BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Gwerth Gorau Llywodraeth Leol (Hepgor Ystyriaethau Anfasnachol) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020678w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 678 (Cy.75)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Gwerth Gorau Llywodraeth Leol (Hepgor Ystyriaethau Anfasnachol) (Cymru) 2002

  Wedi'i wneud 12 Mawrth 2002 
  Yn dod i rym 31 Mawrth 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 19(1) a (2) a 29 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999[1]:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gwerth Gorau Llywodraeth Leol (Hepgor Ystyriaethau Anfasnachol) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 31 Mawrth 2002.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i bob awdurdod gwerth gorau yng Nghymru ac eithrio'r rhai sy'n dod o fewn adran 1(1)(d) neu (e) o Ddeddf 1999 (awdurdodau heddlu a thân).

    (3) Yn y Gorchymyn hwn Ystyr "Deddf 1988" ("the 1988 Act") yw Deddf Llywodraeth Leol 1988[
2].

Materion nad ydynt i fod yn faterion anfasnachol mewn perthynas ag awdurdodau gwerth gorau
     2. Bydd y materion a bennir yn adran 17(5)(a) a (d) o Ddeddf 1988 (contractau awdurdodau lleol ac awdurdodau cyhoeddus eraill: hepgor ystyriaethau anfasnachol) yn peidio â bod yn faterion anfasnachol at ddibenion yr adran honno.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Mawrth 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae Adran 17(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1988 ("Deddf 1988") yn cynnwys rhestr o faterion (materion anfasnachol) na chaiff awdurdod cyhoeddus arfer y swyddogaethau a restrir yn adran 17(4) o'r Ddeddf honno o'u herwydd, sef swyddogaethau sy'n cynnwys swyddogaethau mewn perthynas â chontractau cyflenwadau neu weithfeydd cyhoeddus arfaethedig.

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu bod y materion a bennir yn adran 17(5)(a) a (d) o Ddeddf 1988 yn peidio â bod yn faterion anfasnachol at ddibenion yr adran honno . Mae'r materion o dan sylw yn ymwneud â thelerau ac amodau cyflogi etc gweithlu'r contractiwr ac ymddygiad contractwyr neu eu gweithwyr mewn anghydfodau diwydiannol.


Notes:

[1] 1999 p.27.back

[2] 1988 p.9.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090455 9


  Prepared 5 April 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020678w.html