BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau) (Cymru) 2002 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020757w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 19 Mawrth 2002 | ||
Yn dod i rym | 1 Ebrill 2002 |
Dangosyddion Perfformiad
4.
Rhaid i berfformiad awdurdod gwerth gorau wrth arfer ei swyddogaethau gael ei fesur drwy gyfeirio at y dangosyddion perfformiad a bennir yn y Tabl isod mewn perthynas â'r swyddogaethau a nodir yn y Tabl.
TABL
Swyddogaethau'r Awdurdodau Gwerth Gorau a'r Dangosyddion Perfformiad y Mesurir Perfformiad y Swyddogaethau hynny drwyddynt |
Rhan 1 |
Llywodraeth Gorfforaethol |
Pob dangosydd yn Atodlen 1 |
Addysg |
Pob dangosydd yn Atodlen 2 |
Gwasanaethau Cymdeithasol |
Pob dangosydd yn Atodlen 3 |
Tai |
Pob dangosydd yn Atodlen 4 |
Gwasanaethau'r Amgylchedd |
Pob dangosydd yn Atodlen 5 |
Trafnidiaeth |
Pob dangosydd yn Atodlen 6 |
Cynllunio |
Pob dangosydd yn Atodlen 7 |
Iechyd Amgylcheddol a Safonau Masnach |
Pob dangosydd yn Atodlen 8 |
Gwasanaethau Diwylliannol a Pherthynol |
Pob dangosydd yn Atodlen 9 |
Budd-dâl Tai a Budd-dâl Treth Gyngor |
Pob dangosydd yn Atodlen 11 |
Diogelwch Cymunedol Trawsbynciol |
Pob dangosydd yn Atodlen 12 |
Rhan 2 |
Llywodraeth Gorfforaethol Awdurdod Parciau Cenedlaethol |
Pob dangosydd yn Atodlenni 7 a 10 |
Rhif y Dangosydd | Disgrifiad y dangosydd |
NAWPI 1.1 | Lefelau cydymffurfio â chynllun Iaith Gymraeg yr awdurdod gwerth gorau a gadarnhawyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. |
NAWPI 1.2 | Lefel safon y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer llywodraeth leol y mae'r awdurdod gwerth gorau yn cydymffurfio â hi. |
NAWPI 1.3 | Nifer y cwynion i Ombudsmon a ddosbarthwyd fel camweinyddu. |
NAWPI 1.4 | Y gyfran o'r gofrestr etholiadol a bleidleisiodd mewn etholiadau lleol (fel canran). |
NAWPI 1.5 | Y ganran o gydadweithiau â'r cyhoedd, yn ôl y math o weithrediad, y gellir eu cyflwyno drwy wasanaeth electronig sy'n cael eu cyflwyno wrth ddefnyddio rhyngrwyd a dulliau dibapur eraill. |
NAWPI 1.6 | Y ganran o anfonebau diddadl a dalwyd gan yr awdurdod gwerth gorau o fewn 30 diwrnod iddynt ddod i law. |
NAWPI 1.7 | Swm y dreth gyngor a gafwyd yn y flwyddyn ariannol fel canran o gyfanswm y debyd ar gyfer y flwyddyn ariannol. |
NAWPI 1.8 | Swm yr ardrethi annomestig a gafwyd, yn glir o ad-daliadau yn y flwyddyn adrodd fel canran o'r ardrethi gros sy'n daladwy yn y flwyddyn ariannol, wedi'i addasu ar gyfer rhyddhad trosiannol, yn llai rhyddhad ar eiddo bach a phob rhyddhad gorddewisol a gorfodol. |
NAWPI 1.9 | Y ganran o swyddi rheoli uwch a ddelir gan fenywod. Dylid eithrio'r holl staff mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau o'r cyfrif hwn. |
NAWPI 1.10 | Y nifer o'r dyddiau gwaith neu sifftiau am bob cyflogai cyfwerth amser llawn a gollwyd trwy absenoldeb oherwydd salwch gan weithwyr parhaol yr awdurdod gwerth gorau. |
NAWPI 1.12 | Ymddeoliadau ar sail afiechyd fel canran o weithlu'r awdurdod gwerth gorau. |
NAWPI 1.13 | Nifer y staff sy'n datgan eu bod yn ateb y diffiniad o anabledd yn Neddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 (p.50) fel canran o weithlu'r awdurdod gwerth gorau. |
NAWPI 1.14 | Y nifer o weithwyr o gymunedau ethnig lleiafrifol o fewn gweithlu'r awdurdod gwerth gorau fel canran o gyfanswm gweithlu'r awdurdod. |
NAWPI 1.15 | Y ganran o adeiladau'r awdurdod gwerth gorau sy'n agored i'r cyhoedd ac sy'n addas ac yn hygyrch i bobl anabl. |
NAWPI 1.16 |
Digwyddiadau hiliol
(b) y ganran o'r digwyddiadau hiliol a arweiniodd at weithredu pellach. |
NAWPI 1.17 | Y nifer o leoedd mewn lloches rhag trais domestig am bob 10,000 o'r boblogaeth a ddarperir neu a gefnogir gan yr awdurdod gwerth gorau. |
Rhif y Dangosydd | Disgrifiad y dangosydd |
NAWPI 2.1 | Cyfartaledd sgôr pwyntiau TGAU/GNVQ plant 15/16 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau. |
NAWPI 2.2 | Canran y disgyblion mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau yn yr haf blaenorol a enillodd 5 TGAU neu ragor gyda graddau A* i C neu gymhwyster galwedigaethol cyfatebol. |
NAWPI 2.3 | Canran y disgyblion mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau yn yr haf blaenorol a enillodd un TGAU neu ragor gyda gradd G neu uwch neu gymhwyster galwedigaethol cyfatebol. |
NAWPI 2.4 |
Canran y plant 11 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau yn yr haf flaenorol a enillodd:
(b) Lefel 4 neu'n uwch na hynny ym mhrawf Saesneg Cyfnod Allweddol 2 y Cwricwlwm Cenedlaethol. (c) Lefel 4 neu'n uwch na hynny ym mhrawf Cymraeg (iaith gyntaf) Cyfnod Allweddol 2 y Cwricwlwm Cenedlaethol. (ch) Lefel 4 neu'n uwch na hynny ym mhrawf Gwyddoniaeth Cyfnod Allweddol 2 y Cwricwlwm Cenedlaethol. |
NAWPI 2.5 |
Canran y plant 14 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau yn yr haf flaenorol a enillodd:
(b) Lefel 5 neu'n uwch na hynny ym mhrawf Saesneg Cyfnod Allweddol 3 y Cwricwlwm Cenedlaethol. (c) Lefel 5 neu'n uwch na hynny ym mhrawf Cymraeg (iaith gyntaf) Cyfnod Allweddol 3 y Cwricwlwm Cenedlaethol. (ch) Lefel 5 neu'n uwch na hynny ym mhrawf Gwyddoniaeth Cyfnod Allweddol 3 y Cwricwlwm Cenedlaethol. |
NAWPI 2.6 | Canran y plant 15/16 oed sy'n ennill y "dangosydd pwnc craidd" - y disgyblion hynny sy'n ennill gradd C o leiaf mewn TGAU, Saesneg neu Gymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth mewn cyfuniad. |
NAWPI 2.7 | Canran y plant 15/16 oed sy'n ymadael ag addysg amser-llawn heb gymhwyster cydnabyddedig. |
NAWPI 2.8 |
Nifer y disgyblion a waharddwyd yn barhaol yn ystod y flwyddyn o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau am bob 1000 o ddisgyblion ar gofrestri ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau:
(b) mewn ysgolion uwchradd. (c) mewn ysgolion arbennig. |
NAWPI 2.11 |
Y ganran o'r disgyblion a waharddwyd yn barhaol sy'n dilyn:
(b) rhwng 10 a 25 awr yr wythnos o addysgu arall (c) rhagor na 25 awr yr wythnos o addysgu arall. |
NAWPI 2.12 |
Y ganran o'r dosbarthiadau ysgol gynradd gyda mwy na 30 disgybl yn y blynyddoedd:
(b) tri i chwech. |
NAWPI 2.13(a) Nifer y datganiadau a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn (b) Y ganran o'r datganiadau anghenion addysgol arbennig, gan eithrio y rhai a gyfrifir yn "eithriadau i'r rheol" yn unol â'r Cod Ymarfer AAA (Anghgenion Addysg Arbennig):
(ii) a orffenwyd o fewn 26 wythnos. |
|
NAWPI 2.14 | Y ganran o bresenoldeb y rhai sy'n mynychu ysgolion uwchradd neu sydd yno yn cymryd rhan mewn gweithgareddau addysgiadol sydd wedi'u cymeradwyo. |
Rhif y Dangosydd | Disgrifiad y dangosydd |
NAWPI 3.1 | Sefydlogrwydd lleoliadau'r plant yn derbyn gofal gan yr awdurdod gwerth gorau drwy gyfeirio at ganran y plant sy'n derbyn gofal ar 31 Mawrth a gafodd dri lleoliad neu ragor yn ystod y flwyddyn ariannol. |
NAWPI 3.2 |
Cymwysterau addysgol plant sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod gwerth gorau drwy gyfeirio at y ganran o'r bobl ifanc 16 oed a throsodd a ymadawodd â gofal gyda'r nifer isod o TGAU gradd A* i G neu Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol (GNVQ):
(b) dau neu ragor. |
NAWPI 3.3 | Y gyfran o bobl ifanc mewn gofal ar eu pen-blwydd yn 16 oed y mae ganddynt gynllun gofal a/neu gynllun llwybr fel sy'n addas ar gyfer eu gofal parhaol. |
NAWPI 3.4 | Canran y lleoliadau cyntaf (i blant sy'n derbyn gofal) sy'n dechrau gyda chynllun gofal wedi'i sefydlu. |
NAWPI 3.5 | Costau gwasanaethau i blant sy'n derbyn gofal gan awdurdod gwerth gorau drwy gyfeirio at wariant wythnosol gros am bob plentyn y gofelir amdano, mewn gofal maeth neu gartref i blant. |
NAWPI 3.6 |
Y gost o ddarparu gwasanaethau cymdeithasol i oedolion drwy gyfeirio at gost gros bob wythnos am:
(b) gofal cartref. |
NAWPI 3.7 | Y gyfradd o'r bobl hyn (65 oed neu drosodd) y rhoddwyd cymorth iddynt fyw gartref am bob 1,000 o boblogaeth yr awdurdod gwerth gorau sy'n 65 oed neu drosodd. |
NAWPI3.8 | Y gyfradd o drosglwyddiadau gofal a ohirir am resymau gofal cymdeithasol am bob 1000 o'r boblogaeth 75 oed neu drosodd yn yr awdurdod gwerth gorau. |
NAWPI 3.9 | Y ganran o oedolion o gleientau sy'n cael datganiad o'u hanghenion a sut y byddant yn cael eu diwallu. |
NAWPI 3.10 | Y gyfradd o asesiadau o bobl 65 oed a throsodd am bob 1000 o'r boblogaeth 65 oed neu drosodd yn yr awdurdod gwerth gorau. |
NAWPI 3.11 | Nifer y nosweithiau o ofal seibiant a ddarperir neu a gyllidir gan yr awdurdod gwerth gorau am bob 1,000 o'r boblogaeth 18 oed neu drosodd yn yr awdurdod. |
NAWPI 3.12 | Y ganran o'r plant ar y gofrestr amddiffyn plant y dylid wedi adolygu eu hachosion, ac y cafodd eu hachosion eu hadolygu. |
NAWPI 3.13 | Y nifer o bobl 65 neu drosodd sy'n derbyn cymorth gan yr awdurdod gwerth gorau mewn cartrefi gofal preswyl neu gartrefi nyrsio am bob 1,000 o boblogaeth yr awdurdod sy'n 65 oed neu drosodd. |
NAWPI 3.14 |
Y nifer o oedolion o dan 65 oed y mae'r awdurdod gwerth gorau yn eu helpu i fyw gartref am bob 1,000 o oedolion o dan 65 oed yn yr awdurdod, ym mhob un o'r grwpiau isod, o'u hystyried ar wahân:
(b) y rhai ag anabledd dysgu, (c) y rhai â phroblemau iechyd meddwl. |
NAWPI 3.15 |
Y ganran o achosion lle mae plant yn derbyn gwasanaeth gan weithiwr cymdeithasol neilltuedig sy'n addas i anghenion y plentyn, ym mhob un o'r grwpiau canlynol, o'u hystyried ar wahân:
(b) plant sy'n derbyn gofal (peidiwch â chynnwys y plant sydd yng ngrwp (a) uchod), (c) plant mewn angen (peidiwch â chynnwys y plant sydd yng ngrwpiau (a) a (b) uchod). |
Rhif y Dangosydd | Disgrifiad y dangosydd |
NAWPI 4.1 |
Y gyfran o anheddau sector preifat lle mae gweithredu uniongyrchol gan yr awdurdod gwerth gorau wedi golygu:
(b) anheddau yn dychwelyd i feddiannaeth yn ystod blwyddyn ariannol pan fuont yn sefyll yn wag am fwy na chwe mis ar ddechrau'r flwyddyn ariannol. |
NAWPI 4.2 | Effeithlonrwydd Ynni - dosbarthiad cyfartalog y Weithdrefn Asesu Safonol ar gyfer anheddau ym mherchenogaeth yr awdurdod gwerth gorau. |
NAWPI 4.5 |
Casglu rhent ac ôl-ddyledion gan awdurdod gwerth gorau:
(b) ôl-ddyledion rhent cyn-denantiaid fel cyfran o restr rhent yr awdurdod gwerth gorau (c) rhent cyn-denantiaid a thenantiaid cyfredol a ddilëwyd gan na ellir ei gasglu, fel cyfran o gyfanswm rhestr rhenti'r awdurdod gwerth gorau. |
NAWPI 4.6 | Y gyfran o geisiadau digartrefedd y mae'r awdurdod gwerth gorau yn gwneud penderfyniad arnynt ac yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r ceisydd o fewn 33 diwrnod gwaith. |
NAWPI 4.7 | Cyfartaledd amserau ailosod ar gyfer anheddau'r awdurdod gwerth gorau a osodwyd yn ystod y flwyddyn ariannol. |
NAWPI 4.10 |
Y ganran o atgyweiriadau a gwblhawyd o fewn yr amser targed
(b) wedi'u ddosbarthu fel rhai brys. |
NAWPI 4.11 | Yr amser cyfartalog a gymerwyd i gwblhau atgyweiriadau ymatebol nad oeddent yn rhai brys. |
NAWPI 4.12 | A yw'r awdurdod gwerth gorau yn dilyn cod ymarfer y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol ynglyn â thai ar rent? |
NAWPI 4.13 |
Cyfranogiad tenantiaid:
(b) Pryd oedd yr adolygiad mwyaf diweddar o CCT yn cynnwys pob landlord mewn partneriaeth gyda thenantiaid? (c) Pa gyfran o denantiaid yr awdurdod gwerth gorau sy'n dod o dan adain CCT lleol neu grwp-benodol? |
NAWPI 4.14 | Effeithiolrwydd y dull cydgysylltiedig o ddelio â digatrefedd a thai cymdeithasol: Y nifer o aelwydydd digartref sy'n cael eu gosod mewn tai dros dro gan yr awdurdod gwerth gorau am fwy na chwe mis. |
NAWPI 4.15 | Cyfartaledd y rhent am bob tenant sy'n cael ei golli am fod anheddau wedi cael eu gadael yn wag yn ystod y flwyddyn ariannol. |
Rhif y dangosydd | Disgrifiad y dangosydd |
NAWPI 5.1 |
Cyfanswm y gwastraff trefol sy'n codi mewn tunelli -
(ii) y ganran o weddillion llosgydd gwastraff, gwastraffoedd glanhau gadawedig sydd wedi'u hailgylchu
(b) y ganran sydd wedi'i gompostio |
NAWPI 5.5 | Y ganran o briffyrdd a thir perthnasol (fel y diffinir 'relevant land' yn adran 86 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43)) a archwiliwyd ac y mae safon eu glanweithdra yn uchel neu'n dderbyniol. |
NAWPI 5.6 | Nifer y casgliadau a gollwyd am bob 100,000 o gasgliadau gwastraff cartref. |
NAWPI 5.7 | Y ganran o boblogaeth yr awdurdod gwerth gorau a wasanaethwyd gan gasgliad wrth ymyl y ffordd o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu. |
Rhif y dangosydd | Disgrifiad y dangosydd |
NAWPI 6.1 | Cost cynnal priffyrdd am bob km ar y prif ffyrdd. |
NAWPI 6.2 | Cost gwasanaethau bysiau â chymhorthdal am bob siwrnai a wneir gan deithiwr. |
NAWPI 6.3 |
Cyflwr y ffyrdd
(b) cyflwr ffyrdd heblaw'r prif ffyrdd. |
NAWPI 6.4 | Y ganran o lampau stryd nad ydynt yn gweithio. |
NAWPI 6.5 |
Nifer yr anafusion mewn damweiniau ffyrdd am bob 100,000 o boblogaeth, wedi'i ddadansoddi yn ôl
(b) y math o ddefnyddiwr ffordd. |
NAWPI 6.6 | Nifer y dyddiau o reolaeth traffig dros dro neu o gau ffyrdd a hynny ar ffyrdd sy'n sensitif i draffig wedi'i achosi gan waith ar ffyrdd yr awdurdod gwerth gorau am bob km o ffordd sy'n sensitif i draffig. |
NAWPI 6.8 | Cyfanswm y digwyddiadau a hysbyswyd o ddifrod peryglus i ffyrdd a phafinau ac a drwsiwyd neu a wnaed yn ddiogel o fewn 24 awr o'r adeg y daeth yr awdurdod gwerth gorau i wybod am y difrod gyntaf, fel canran o'r digwyddiadau hyn. |
NAWPI 6.9 | Y ganran o'r croesfannau cerddwyr gyda chyfleusterau i bobl anabl. |
NAWPI 6.10 | Y ganran o gyfanswm hyd y llwybrau troed a hawliau tramwy eraill sy'n hawdd eu defnyddio gan aelodau o'r cyhoedd. |
Rhif y dangosydd | Disgrifiad y dangosydd |
NAWPI 7.1 |
Cynlluniau datblygu:
Os nad oes, ewch i (b) a (c)
(c) pa ganran o boblogaeth yr awdurdod gwerth gorau sy'n cael ei gwmpasu gan gynlluniau lleol a fabwysiadwyd yn y pum mlynedd ddiwethaf? |
NAWPI 7.3 | Nifer y gwyriadau a hysbysebwyd o'r cynllun datblygu statudol sydd wedi'i fabwysiadu a gymeradwywyd gan yr awdurdod gwerth gorau fel canran o gyfanswm y caniatadau a roddwyd. |
NAWPI 7.4 | Y ganran o gyfanswm y ceisiadau a benderfynwyd o fewn 8 wythnos. |
NAWPI 7.6 | Ansawdd mewn gwasanaeth defnyddwyr (Rhestr gyfeirio Cymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru): - nifer y dangosyddion ansawdd a gyrhaeddir wedi'i fynegi fel cyfran o'u gyfanswm. |
NAWPI 7.7 | Y ganran o chwiliadau safonol tir statudol a gwblhawyd mewn 10 diwrnod gwaith. |
NAWPI 7.8 |
Oes yna Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Biolegol Lleol ar gyfer ardal yr awdurdod gwerth gorau? Os nac oes, fydd cynllun o'r fath yn cael ei sefydlu o fewn y 12 mis nesaf? |
Rhif y dangosydd | Disgrifiad y dangosydd |
NAWPI 8.1 |
Y ganran o'r archwiliadau safleoedd bwyd y dylid bod wedi'u cynnal ac a gynhaliwyd mewn gwirionedd ar gyfer:
(b) safleoedd eraill. |
NAWPI 8.2/ BV 166 | Sgôr yr awdurdod gwerth gorau yn erbyn y rhestr gyfeirio o arferion gorau gorfodi ar gyfer iechyd amgylcheddol/safonau masnach. |
Rhif y dangosydd | Disgrifiad y dangosydd |
NAWPI 9.1 | Nifer y disgyblion ysgol yn ymweld ag amgueddfeydd ac orielau mewn grwpiau wedi'u trefnu gan ysgolion. |
NAWPI 9.2 | Nifer yr ymweliadau corfforol â llyfrgelloedd cyhoeddus am bob 1,000 o boblogaeth yr awdurdod gwerth gorau yn ystod y flwyddyn ariannol. |
NAWPI 9.3 |
Pyllau nofio a chanolfannau chwaraeon: nifer y nofiadau ac ymweliadau eraill am bob 1,000 o boblogaeth yr awdurdod gwerth gorau yn ystod y flwyddyn ariannol. |
NAWPI 9.4 |
Meysydd chwarae:
(b) y ganran o'r rhain sydd:
(ii) yn cydymffurfio â'r safonau cenedlaethol ar gyfer llecynnau chwarae lleol gyda chyfarpar; (iii) yn cydymffurfio â'r safonau cenedlaethol ar gyfer llecynnau chwarae bro mwy eu maint a chyda chyfarpar. |
Rhif y dangosydd | Disgrifiad y dangosydd |
NAWPI 10.1 | Lefelau cydymffurfio â chynllun iaith Gymraeg cymeradwy yr awdurdod gwerth gorau, fel a gadarnhawyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. |
NAWPI 10.2 | Lefel safon y Comisiwn dros Gydraddoldeb Hiliol ar gyfer llywodraeth leol y mae'r awdurdod gwerth gorau yn cydymffurfio â hi. |
NAWPI 10.3 | Nifer y cwynion i Ombudsmon a ddosbarthwyd fel camweinyddu. |
NAWPI 10.4 | Y ganran o'r anfonebau di-ddadl a dalwyd gan yr awdurdod gwerth gorau o fewn 30 diwrnod iddynt ddod i law. |
NAWPI 10.5 | Y nifer o'r dyddiau gwaith neu sifftiau am bob cyflogai cyfwerth amser llawn yr awdurdod gwerth gorau a gollwyd drwy absenoldeb oherwydd salwch. |
NAWPI 10.7 | Ymddeoliadau ar sail afiechyd fel canran o weithlu'r awdurdod gwerth gorau. |
NAWPI 10.8 | Nifer y staff sy'n datgan eu bod yn ateb y diffiniad o anabledd yn Neddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 (p.50) fel canran o weithlu'r awdurdod gwerth gorau. |
NAWPI 10.9 | Y nifer o staff o gymunedau ethnig lleiafrifol yn ngweithlu'r awdurdod gwerth gorau fel canran o gyfanswm gweithlu'r awdurdod. |
NAWPI 10.10 | Y ganran o gydadweithiau â'r cyhoedd, yn ôl y math o weithrediad, y gellir eu cyflwyno drwy wasanaeth electronig sydd yn cael eu cyflwyno wrth ddefnyddio protocolau rhyngrwyd a dulliau dibapur eraill. |
NAWPI 10.11 | Y ganran o adeiladau'r awdurdod gwerth gorau sy'n agored i'r cyhoedd a'r ganran sy'n addas ac yn hygyrch i bobl anabl. |
NAWPI 10.12 | Ydy'r awdurdod gwerth gorau wedi ffurfio polisi gorfforaethol a gyfer lleihau trosedd ac anrhefn yn eu hardal? |
Rhif y dangosydd | Disgrifiad y dangosydd |
NAWPI 11.1 / BV76 |
Diogelwch: A oes gan yr awdurdod gwerth gorau strategaeth ysgrifenedig a blaenweithgar i fynd i'r afael â thwyll a chamgymeriadau sy'n ymgorffori mentrau penodedig gan gynnwys y rhai a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (AGP) sy'n cael ei mynegi i'r holl staff yn rheolaidd? Oes/nac oes |
NAWPI 11.3 (a)/ BV78a |
Cyflymder prosesu:
|
NAWPI 11.3 (b)/ BV78b(b) Amser cyfartalog prosesu hysbysiadau newid amgylchiadau. |
|
NAWPI 11.3 (c) BV78c(c) Canran y ceisiadau adnewyddu a brosesir yn brydlon. |
|
NAWPI 11.4 (a)/ BV79a |
Cywirdeb prosesu:
|
NAWPI 11.4 (b)/ BV79b(b) Canran y gor-daliadau adenilladwy (heb gynnwys Budd-dâl Treth Gyngor) a adenillwyd yn y flwyddyn ariannol. |
Rhif y dangosydd | Disgrifiad y dangosydd |
NAWPI 12.1 / BV126 | Byrgleriaethau domestig am bob 1,000 o aelwydydd yn ardal yr awdurdod gwerth gorau. |
NAWPI 12.2 / BV127 |
Troseddau treisgar am bob 1,000 o boblogaeth yr awdurdod gwerth gorau:
(b) tramgwyddau treisgar a gyflawnwyd mewn man cyhoeddus (c) tramgwyddau treisgar a gyflawnwyd mewn cysylltiad â safleoedd trwyddedig (ch) tramgwyddau treisgar a gyflawnwyd o dan ddylanwad. |
NAWPI 12.3 / BV128 | Troseddau cerbydau am bob 1,000 o boblogaeth yr awdurdod gwerth gorau. |
NAWPI 12.4 / BV173 | A yw'r awdurdod gwerth gorau wedi sefydlu strategaeth gorfforaethol i leihau troseddau ac anhrefn yn eu hardal? Os nad ydyw, a yw'r awdurdod gwerth gorau wedi sefydlu amserlen ar gyfer gwneud hynny? |
[2] O.S. 2001 Rhif 1337 (Cy.83).back