BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau Pellach) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020803w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 803 (Cy.88)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau Pellach) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 21 Mawrth 2002 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 47, 105 a 106(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[1] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau Pellach) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 1 Ebrill 2002.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru [
2].

    (3) Yn y Gorchymyn hwn - 

Addasu Deddfau
     2. Mae Deddf 1972, Deddf 1989 a Deddf 2000, o'u cymhwyso at Gymru, yn cael eu haddasu yn unol ag erthyglau 3 i 6.

Trefniadau i awdurdodau lleol gyflawni swyddogaethau
    
3. Yn adran 101 o Ddeddf 1972 Act[5] (trefniadau i awdurdodau lleol gyflawni swyddogaethau) - 

Penodi pwyllgorau
     4. Yn adran 102 o Ddeddf 1972[6] (penodi pwyllgorau) - 

Rheolau sefydlog mewn perthynas â staff awdurdodau lleol
     5. Yn adran 8 o Ddeddf 1989 (dyletswydd i fabwysiadu rheolau sefydlog mewn perthynas â staff), yn lle paragraff (d) o is-adran (4), rhoddir - 

Hawliau aelodau cyd-bwyllgorau i bleidleisio
    
6.  - (1) Yn adran 13 o Ddeddf 1989[8] (hawliau aelodau o bwyllgorau penodol i bleidleisio: Cymru a Lloegr) - 

    (2) Ym mharagraff 3 o Atodlen 1 i Ddeddf 2000 (trefniadau gweithrediaeth: darpariaeth bellach (Gweithrediaethau maer a rheolwr cyngor)) - 

Rheolau sefydlog mewn perthynas â chontractau awdurdodau lleol
     7.  - (1) Cyn i awdurdod lleol roi trefniadau gweithrediaeth ar waith o dan Ran II o Ddeddf 2000 rhaid iddynt wneud rheolau sefydlog o dan adran 135 o Ddeddf 1972 (contractau awdurdodau lleol) mewn perthynas â gwneud contractau ar eu rhan wrth i swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod hwnnw gael eu cyflawni.

    (2) Rhaid i'r rheolau sefydlog gynnwys darpariaeth ar gyfer sicrhau bod rhaid i unrhyw gontract sydd - 

    (3) Rhaid i swyddogaeth pennu gwerth neu ddisgrifiad contractau at ddibenion y paragraffau sy'n ofynnol o dan baragraff (2) gael eu cyflawni gan yr awdurdod ei hun ac ni fydd adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau i awdurdodau lleol gyflawni swyddogaethau) yn gymwys mewn perthynas â'r swyddogaeth honNo.

    (4) Rhaid i'r rheolau sefydlog gynnwys darpariaeth ar gyfer sicrhau bod rhaid i unrhyw gontract y mae'r darpariaethau sy'n ofynnol o dan baragraff (2) yn gymwys iddo - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
10]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mawrth 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn addasu deddfwriaeth ac yn gwneud darpariaethau eraill er mwyn rhoi eu heffaith lawn i ddarpariaethau yn Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ("Deddf 2000") (trefniadau mewn perthynas â gweithrediaethau etc.) ac o ganlyniad i hynny. Mae'r Gorchymyn yn gymwys i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru.

Mae Erthygl 3 yn addasu adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ("Deddf 1972 "). Mae Erthygl 3(a) yn atal yr awdurdodau lleol rhag gwneud trefniadau i swyddogaethau gael eu cyflawni gan awdurdod lleol arall i'r graddau y mae'r swyddogaeth o dan sylw yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod lleol arall hwnnw. Mewn achosion o'r fath, fe allai'r swyddogaeth (i'r graddau hynny) ddod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod lleol hwnnw, ond nid i'r awdurdod lleol ei hun.

Mae'r addasiadau yn erthygl 3 yn darparu hefyd fod y trefniadau i swyddogaethau awdurdod lleol gael eu cyflawni gan naill ai awdurdod lleol arall neu gyd-bwyllgor sy'n bodoli pryd y mae unrhyw un o'r awdurdodau lleol sy'n cymryd rhan ynddo yn dechrau rhoi trefniadau gweithrediaeth ar waith yn dod i ben i'r graddau y daw'r swyddogaeth o dan sylw yn gyfrifoldeb i weithrediaeth unrhyw un o'r awdurdodau hynny.

Mae Erthygl 4 yn addasu adran 102 o Ddeddf 1972 i alluogi'r awdurdodau lleol i benodi pwyllgorau ardal er mwyn cyflawni swyddogaethau a ddirprwyir gan y weithrediaeth. Bydd y diwygiad yn fodd hefyd i'r awdurdodau lleol benodi pwyllgorau ymgynghorol i gynghori gweithrediaeth yr awdurdod lleol ac unrhyw bwyllgor neu aelod unigol o'r weithrediaeth honNo.

Mae Erthygl 5 yn addasu adran 8 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 ("Deddf 1989"), gan alluogi rheoliadau a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol ynghylch rheolau sefydlog yr awdurdodau lleol mewn perthynas â staff gynnwys darpariaeth arbennig mewn perthynas â phenodi cynorthwyydd maer awdurdod lleol.

Os oes gan awdurdod lleol weithrediaeth maer a rheolwr cyngor, mae Erthygl 6 yn addasu adran 13 o Ddeddf 1989 i sicrhau y caiff rheolwr y cyngor, neu unrhyw swyddog arall a benodir yn lle'r person hwnnw, fod yn aelod sy'n pleidleisio o unrhyw gyd-bwyllgor (neu o is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath) sy'n arfer swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i'r weithrediaeth ac y mae'r person hwnnw yn aelod ohoNo. Mae'r erthygl hon hefyd yn gwneud diwygiad canlyniadol i Atodlen 1 i Ddeddf 2000.

Mae Erthygl 7 yn cyflwyno gofyniad i awdurdodau lleol sydd wrthi yn gweithredu trefniadau gweithrediaeth o dan Ran II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, neu a fydd yn eu gweithredu, wneud rheolau sefydlog mewn perthynas â chontractau'r awdurdod lleol ac yn pennu'r darpariaethau sydd i'w cynnwys yn y rheolau sefydlog, gan gynnwys y weithdrefn sydd i'w dilyn wrth i gontractau o'r fath gael eu gwneud.


Notes:

[1] 2000 p.22.back

[2] I weld sut mae adrannau 47 a 105 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn gymwys i Gymru, gweler adran 106(1) o'r Ddeddf honNo. back

[3] 1972 p.70.back

[4] 1989 c.42.back

[5] Ceir diwygiadau eraill i adran 101 nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back

[6] Diwygiwyd adran 102(1) gan baragraff 31(1) o Atodlen 13 i Ddeddf Plant 1989 (p.41). Ceir diwygiadau eraill i adran 102 nad ydyn yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back

[7] Gweler rheoliad 6 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2287 (Cy.175)).back

[8] Diwygiwyd adran 13(9) gan baragraff 36 o Atodlen 4 i Ddeddf yr Heddlu a Llysoedd Ynadon 1994 (p. 29) a pharagraff 96(5) o Atodlen 37 a Rhan 1 o Atodlen 38 i Ddeddf Addysg 1996 (p.56). Ceir diwygiadau eraill i adran 13 nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back

[9] Gweler rheoliadau 11 a 12 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2287 (Cy.175)).back

[10] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090484 2


  Prepared 9 May 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020803w.html