BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Ffrwythloni Artiffisial Gwartheg (Iechyd Anifeiliaid) (Diwygio) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021131w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 1131 (Cy. 118)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

DIWYDIANNAU DA BYW

Rheoliadau Ffrwythloni Artiffisial Gwartheg (Iechyd Anifeiliaid) (Diwygio) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 17 Ebrill 2002 
  Yn dod i rym 18 Ebrill 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer ei bwerau o dan adrannau 10(1) a 10(2)(a) o Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 1984[1], yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffrwythloni Artiffisial Gwartheg (Iechyd Anifeiliaid) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 18 Ebrill 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygiadau i Reoliadau Ffrwythloni Artiffisial Gwartheg (Iechyd Anifeiliaid) (Lloegr a Chymru) 1985
    
2.  - (1) Rhaid diwygio Rheoliadau Ffrwythloni Artiffisial Gwartheg (Iechyd Anifeiliaid) (Lloegr a Chymru) 1985[2] yn unol â'r paragraffau canlynol.

    (2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) - 

    (3) Yn rheoliad 4 (cymhwyso'r rheoliadau), am baragraff (3A), rhaid amnewid y paragraff canlynol - 

    (4) Yn rheoliad 7 (trwyddedau) - 

    (5) Yn rheoliad 21 (derbyn had i'w gyflenwi) - 

    (6) Yn rheoliad 24 (gorchymyn cyffredinol ynghylch defnyddio had) - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Ebrill 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio Rheoliadau Ffrwythloni Artiffisial Gwartheg (Iechyd Anifeiliaid) (Lloegr a Chymru) 1985 (O.S. 1985/1861) (y cyfeirir atynt yn y nodyn hwn fel Rheoliadau 1985) er mwyn gwneud darpariaethau trosiannol sy'n perthyn i'r trwyddedau argyfwng sy'n dod i ben ac a ddyroddwyd o dan Reoliadau Ffrwythloni Artiffisial Gwartheg (Trwyddedau Argyfwng) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/1539 (Cy. 107)) yn ystod yr achosion diweddar o glwy'r traed a'r genau ac i alluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gydnabod cyrsiau hyfforddi ychwanegol at y rhai a gydnabuwyd gan y Bwrdd Hyfforddi Amaethyddol (sydd bellach wedi darfod).

Mae Rheoliad 2(2) o'r rheoliadau hyn yn mewnosod diffiniadau newydd o "emergency licence" ("trwydded argyfwng") , "special acceptance licence" (" trwydded dderbyn arbennig") a "special transfer licence" ("trwydded drosglwyddo arbennig") i reoliad 2(1) o Reoliadau 1985.

Mae Rheoliad 2(3) yn diwygio rheoliad 4(3A) o Reoliadau 1985 i adlewyrchu'r diffiniad newydd o "emergency licence" ("trwydded argyfwng").

Mae Rheoliad 2(4) yn diwygio rheoliad 7 o Reoliadau 1985 i ddarparu ar gyfer dyroddi trwyddedau trosglwyddo arbennig a thrwyddedau derbyn arbennig.

Mae Rheoliad 2(5) yn diwygio rheoliad 21 o Reoliadau 1985 er mwyn caniatáu (yn ddarostyngedig i amodau) derbyn had i'w gyflenwi sydd wedi ei gasglu a'i brosesu yn unol â thrwydded argyfwng.

Mae Rheoliad 2(6) yn diwygio rheoliad 24 o Reoliadau 1985 er mwyn caniatáu defnyddio had a gasglwyd neu a symudwyd yn unol â thrwydded argyfwng ac i alluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gydnabod cyrsiau hyfforddi.

Ni ddarparwyd Arfarniad Rheoliadol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.


Notes:

[1] 1984 p.40. Trosglwyddwyd pob un o swyddogaethau Gweinidogion y Goron o dan Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 1984 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), i'r graddau y mae'r fath swyddogaethau yn arferadwy mewn perthynas â Chymru.back

[2] O.S. 1985/1861: diwygiadau perthnasol mewn perthynas â Chymru yw O.S. 1992/671, O.S. 1995/2549, O.S. 1996/3124, ac O.S. 2001/1539 (Cy. 107).back

[3] O.S. 2001/1539 (Cy.107).back

[4] O.S. 2001/1513.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090483 4


  Prepared 7 May 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021131w.html