BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Bucholion a Chynhyrchion Buchol (Masnach) (Diwygio) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021174w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 1174 (Cy.122)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Bucholion a Chynhyrchion Buchol (Masnach) (Diwygio) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 25 Ebrill 2002 
  Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sydd wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bucholion a Chynhyrchion Buchol (Masnach) (Diwygio) (Cymru) 2002; maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2002.

Diwygio Rheoliadau Bucholion a Chynhyrchion Buchol (Masnach) 1999
    
2.  - (1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, diwygir Rheoliadau Bucholion a Chynhyrchion Buchol (Masnach) 1999[3] yn unol â pharagraffau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Yn y diffiniad o "export dedicated establishment" ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), mewnosodir y cymal "and may include such establishments which prepare DBES goods destined for placing on the market in the United Kingdom" ar ôl y gair "below".

    (3) Ym mharagraff (a) o'r diffiniad o "export eligible goods" ym mharagraff (1) o reoliad 2, mewnosodir y cymal "(other than any such goods destined for placing on the market in the United Kingdom)" ar ôl y gair "goods" yn y lle y mae'n ymddangos gyntaf.

    (4) Ym mharagraff (1)(b) o reoliad 12 (cymeradwyo sefydliadau ar gyfer paratoi neu anfon nwyddau o darddiad tramor sy'n gymwys i'w hallforio, nwyddau'r CASD a'r CABH a sgil-gynhyrchion buchol o darddiad tramor) mewnosodir y gair "origin" yn lle'r gair "original".

    (5) Ym mharagraff (3)(a) o reoliad 12, mewnosodir y cymal "or DBES goods destined for placing on the market in the United Kingdom" ar ôl y gair "goods" yn y lle y mae'n ymddangos ddiwethaf.

    (6) Ym mharagraff (3)(c)(i) o reoliad 12, mewnosodir y cymal "other than DBES goods destined for placing on the market in the United Kingdom" ar ôl y gair "abroad".

    (7) Ym mharagraff (3)(c)(ii) o reoliad 12, mewnosodir y cymal "other than DBES goods destined for placing on the market in the United Kingdom" ar y diwedd.

    (8) Ym mharagraff (3)(a) o reoliad 13 (gofynion a osodir ar weithredydd sefydliad a gymeradwywyd o dan reoliad 12), hepgorir y cymal ", DBES goods".

    (9) Ym mharagraff (6) o reoliad 13, mewnosodir y cymal "or DBES goods destined for placing on the market in the United Kingdom" ar ôl y gair "goods".

    (10) Ym mharagraff (13) o reoliad 13, rhoddir y gair "become" yn lle'r gair "are".

    (11) Yng ngofyniad 5 yng ngholofn gyntaf Atodlen 2 (y dulliau gweithredu a fynnir ar gyfer paratoi nwyddau sy'n gymwys i'w hallforio mewn sefydliadau sydd wedi'u neilltuo ar gyfer allforio), mewnosodir y cymal "or DBES goods destined for placing on the market in the United Kingdom" ar y diwedd.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].


D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

25 Ebrill 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bucholion a Chynhyrchion Buchol (Masnach) 1999 (O.S. 1999/1103, fel y'u diwygiwyd) ("y Prif Reoliadau") i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Mae'r Prif Reoliadau yn rhoi effaith i Benderfyniadau'r Comisiwn 98/692/EC (O.J. Rhif L328, 4.12.98, t.28) a 98/564/EC (O.J. Rhif L273, 9.10.98, t.37) a ddiwygiodd Benderfyniad y Cyngor 98/256/EC (O.J. Rhif L113, 15.4.98, t.32).

Effaith y diwygiadau yw caniatáu anfon cig eidion ag esgyrn ynddo o safleoedd wedi'u cymeradwyo o dan y Cynllun Allforio ar Sail Dyddiadau ("CASD") i'r farchnad ddomestig.

Paratowyd arfarniad rheoliadol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a Rheolau Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copiau oddiwrth Is-Adran Iechyd Anifeiliaid 1, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


Notes:

[1] O.S. 1999/2788.back

[2] 1972 p.68.back

[3] O.S. 1999/1103, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/1554 ac O.S. 2000/656.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090489 3


  Prepared 22 May 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021174w.html