BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 9) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021175w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 1175 (Cy.123) (C.31)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 9) (Cymru) 2002

  Wedi'i wneud 25 Ebrill 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 118 (5), (6) a 122 o Ddeddf Safonau Gofal 2000[1]:

Enwi, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 9) (Cymru) 2002.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn mae cyfeiriad at adran yn gyfeiriad at adran yn Neddf Safonau Gofal 2000.

    (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

Y diwrnod a bennir
    
2.  - (1) At ddiben arfer unrhyw bwcirc er i wneud gorchmynion, rheoliadau neu reolau neu i baratoi codau ymarfer a'u cyhoeddi yn unig, 30 Ebrill 2002 yw'r diwrnod a bennir i adrannau 56 i 62, 64(2) i (4) a 65 ddod i rym.

    (2) 30 Ebrill 2002 yw'r diwrnod a bennir i adran 71 ddod i rym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2].


D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

25 Ebrill 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu 30 Ebrill 2002 fel y diwrnod y bydd darpariaethau penodol yn Rhan IV o'r Ddeddf Safonau Gofal ("y Ddeddf") yn dod i rym i'r graddau y mae'r darpariaethau yn rhoi pwerau, mewn perthynas â Chymru, i wneud gorchmynion, rheoliadau neu reolau, neu i baratoi codau ymarfer a'u cyhoeddi.

Mae'r darpariaethau yn ymwneud â chofrestru gweithwyr gofal cymdeithasol (adran 56 a 60 o'r Ddeddf); defnyddio'r teitl "gweithiwr cymdeithasol" (adran 61); codau ymarfer ynglycircn â safonau ymddygiad a safonau ymarfer y disgwylir i weithwyr gofal cymdeithasol a'u cyflogwyr lynu wrthynt (adran 62); cymwysterau gwaith cymdeithasol a gafwyd y tu allan i Gymru (adran 64); a hyfforddiant gweithwyr gofal cymdeithasol ar ôl iddynt gael eu cofrestru (adran 65).

Mae'r Gorchymyn yn pennu 30 Ebrill 2002 hefyd fel y diwrnod y bydd adran 71 o'r Ddeddf yn dod i rym, i'r graddau nad yw eisoes mewn grym. Mae adran 71 yn gwneud darpariaeth am reolau sy'n cael eu gwneud o dan Ran IV.



NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae darpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 ("y Ddeddf") y gwneir cofnod ynglycirc n â hwy yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru ar y dyddiad sydd wedi'i bennu ochr yn ochr â'r cofnod amdanynt. Daethpwyd â'r darpariaethau hynny y mae "(a)" ar eu hôl i rym gan O.S. 2000/2992 (Cy. 192) (C.93); daethpwyd â'r rhai y mae "(b)" ar eu hôl i rym gan O.S. 2001/139 (Cy. 5) (C.7); daethpwyd â'r rhai y mae "(c)" ar eu hôl i rym gan O.S. 2001/2190 (Cy. 152) (C.70); daethpwyd â'r rhai y mae "(ch)" ar eu hôl i rym gan O.S. 2001/2354 (Cy. 192) (C.80); daethpwyd â'r rhai y mae "(d)" ar eu hôl i rym gan O.S. 2001/2504 (Cy. 205) (C.82); daethpwyd â'r rhai y mae "(dd)" ar eu hôl i rym gan O.S. 2001/2538 (Cy. 213) (C.83); daethpwyd â'r rhai y mae "(e)" ar eu hôl i rym gan O.S. 2001/2782 (Cy. 235) (C.92); a daethpwyd â'r rhai y mae "(f)" ar eu hôl i rym gan O.S. 2002/920 (Cy.108) (C.24).

Y Ddarpariaeth Dyddiad Cychwyn
Adrannau 1 - 5 (c) 18 Mehefin 2001
Adran 7(7) (c) 18 Mehefin 2001
Adran 8 (yn rhannol) (c) 18 Mehefin 2001
Adran 9(2) (yn rhannol) (f) 1 Ebrill 2002
Adran 9(3) - (5) (c) 18 Mehefin 2001
Adran 10(2) - (7) (yn rhannol) (f) 1 Ebrill 2002
Adrannau 11 - 12 (yn rhannol) (c) 18 Mehefin 2001
Adran 11 - 12 (yn rhannol) (f) 1 Ebrill 2002
Adran 13 (yn rhannol) (f) 1 Ebrill 2002
Adrannau 14 - 15 (yn rhannol) (c) 18 Mehefin 2001
Adran 14 - 15 (yn rhannol) (f) 1 Ebrill 2002
Adran 16 (c) 18 Mehefin 2001
Adran 17 - 21 (yn rhannol) (f) 1 Ebrill 2002
Adrannau 22 - 23 (c) 18 Mehefin 2001
Adran 24 (yn rhannol) (f) 1 Ebrill 2002
Adran 25 (c) 18 Mehefin 2001
Adran 26 - 32 (yn rhannol) (f) 1 Ebrill 2002
Adrannau 33 - 35 (c) 18 Mehefin 2001
Adran 36 (yn rhannol) (c) 18 Mehefin 2001
Adran 36 (yn rhannol) (f) 1 Ebrill 2002
Adran 37 (yn rhannol) (f) 1 Ebrill 2002
Adran 38 (c) 18 Mehefin 2001
Adran 39 (yn rhannol) (d) 31 Gorffennaf 2001
Adran 39 (y gweddill) (d) 31 Awst 2001
Adran 40 (yn rhannol) (b) 1 Chwefror 2001
Adran 40 (y gweddill) (b) 28 Chwefror 2001
Adran 41 (b) 28 Chwefror 2001
Adrannau 42 - 43 (c) 18 Mehefin 2001
Adrannau 48 - 52 (c) 18 Mehefin 2001
Adran 54(1), (3) - (7) (a) 1 Ebrill 2001
Adran 55 ac Atodlen 1 (a) 1 Ebrill 2001
Adran 63 (dd) 31 Gorffennaf 2001
Adran 66 (dd) 31 Gorffennaf 2001
Adran 67 (dd) 1 Hydref 2001
Adran 70(1) (dd) 1 Hydref 2001
Adran 71 (dd) 31 Gorffennaf 2001
Adran 72 ac Atodlen 2 (a) 13 Tachwedd 2000
Adran 72A (e) 26 Awst 2001
Adran 72B ac Atodlen 2A (e) 26 Awst 2001
Adran 73 (fel y'i diwygiwyd) ac Atodlen 2B (e) 26 Awst 2001
Adran 75 (fel y'i diwygiwyd) (e) 26 Awst 2001
Adran 75A (e) 26 Awst 2001
Adrannau 76 i 78 (fel y'i diwygiwyd) (e) 26 Awst 2001
Adran 79(1) (yn rhannol) (c) 18 Mehefin 2001
Adran 79(1) (y gweddill) (f) 1 Ebrill 2002
Adran 79(2) ac Atodlen 3 (yn rhannol) (c) 18 Mehefin 2001
Adran 79(2) & Atodlen 3 (yn rhannol) (f) 1 Ebrill 2002
Adran 79(3),(4) (c) 18 Mehefin 2001
Adran 79(5) (yn rhannol) (f) 1 Ebrill 2002
Adran 98 (ch) 1 Gorffennaf 2001
Adrannau 107 - 108 (c) 18 Mehefin 2001
Adran 110 (f) 1 Ebrill 2002
Adran 112 (c) 18 Mehefin 2001
Adran 113 (2) - (4) (a) 1 Ebrill 2001
Adran 114 (yn rhannol) (a) 1 Ebrill 2001
Adran 114 (y gweddill) (c) 18 Mehefin 2001
Adran 115 (c) 18 Mehefin 2001
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) (b) 28 Chwefror 2001
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) (c) 18 Mehefin 2001
Adran 116 & Atodlen 4 (yn rhannol) (f) 1 Ebrill 2002
Adran 117(1) ac Atodlen 5 (yn rhannol) (c) 18 Mehefin 2001
Adran 117(1) ac Atodlen 5 (yn rhannol) (e) 26 Awst 2001
Adran 117 (2) & Atodlen 6 (yn rhannol) (f) 1 Ebrill 2002

Mae darpariaethau'r Ddeddf y gwneir cofnod ynglycircn â hwy yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym gan O.S. 2000/2544 (C.72) mewn perthynas â Chymru, yn ogystal ag mewn perthynas â Lloegr, ar y dyddiad a bennir ochr yn ochr â'r cofnod amdanynt.

Y Ddarpariaeth Dyddiad Cychwyn
Adran 80(8) 2 Hydref 2000
Adran 94 2 Hydref 2000
Adran 96 (yn rhannol) 15 Medi 2000
Adran 96 (y gweddill) 2 Hydref 2000
Adran 99 15 Medi 2000
Adran 100 2 Hydref 2000
Adran 101 2 Hydref 2000
Adran 103 2 Hydref 2000
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) 2 Hydref 2000
Adran 117(2) ac Atodlen 6 (yn rhannol) 2 Hydref 2000

Yn ychwanegol mae gwahanol ddarpariaethau eraill o'r Ddeddf wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2000/2795 (C.79); O.S. 2001/290 (C.17); O.S. 2001/731 (C.26); O.S. 2001/952 (C.35); O.S. 2001/1210 (C.41); O.S. 2001/1536 (C.55); O.S. 2001/2041 (C.68); O.S. 2001/3331 (C.109); O.S. 3852 (C.125); O.S. 2001/4150 (C.134); O.S.2002/839(C.22); O.S. 2002/1245 (C.33).


Notes:

[1] 2000 p.14. Mae'r pwerau yn arferadwy gan y Gweinidog priodol ("appropriate Minister"). Diffinnir yr "appropriate Minister" yn adran 121(1). Mae'n golygu'r Cynulliad mewn perthynas â Chymru (mae adran 5(b) yn darpau mai ystyr "y Cynulliad" yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru); mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae'n golygu'r Ysgrifennydd Gwladol.back

[2] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090504 0


  Prepared 19 June 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021175w.html