BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021735w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 1735 (Cy.165)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 4 Gorffennaf 2002 
  Yn dod i rym 23 Gorffennaf 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 55(2), (4) a (6) a 143(1) a (2) o, a pharagraffau 10 i 12 o Atodlen 7A i, Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau ag y maent yn arferadwy yng Nghymru[2].

Enw, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 23 Gorffennaf 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau 1993
    
2. Caiff Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) 1993[3] eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn.

Yr amgylchiadau ar gyfer gwneud cynigion
     3. Yn rheoliad 4A - 

Y cyfnodau ar gyfer gwneud cynigion: rhestr 2000 a rhestrau sy'n dilyn
     4. Yn lle rheoliad 4C(2), rhowch - 

Yr amser pan fo'r addasiad i gael effaith: cyffredinol
    
5.  - (1) Ar ôl rheoliad 13A(4), mewnosodwch - 

    (2) Yn rheoliad 13A(13) - 

    (3) Ar ôl is-baragraff (13), mewnosodwch y paragraff canlynol - 

Apelau ynghylch ardystiad
    
6. Yn rheoliad 30(2), yn lle "six months" rhowch "a year".

Apelau
    
7. Ym mharagraff (a) o'r diffiniad o apêl yn rheoliad 2(1) ac yn rheoliadau 2(3)(a), 34(5), 38(1)(b), 40(12), 44(2) a 47(1), ar ôl "Regulations 1994" mewnosodwch "or under regulation 12 of the Non-Domestic Rating (Chargeable Amounts) (Wales) Regulations 1999[5]".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

4 Gorffennaf 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) 1993 yn rheoli newid rhestri ardrethu annomestig. Maent yn darparu ar gyfer newid rhestri gan swyddogion prisio, cynigion i newid gan bersonau eraill ac apelau i dribiwnlysoedd prisio lle ceir anghytundeb rhwng cynnig gan swyddog prisio a'r cynigydd.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1993 mewn perthynas â Chymru - 


Notes:

[1] 1988 p.41.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1993/291; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1994/1809, 1995/609, 1995/623, 2000/792 (Cy. 29) a 2001/1203 (Cy .64).back

[4] O.S. 2000/1097 (Cy.75) fel y 'i diwygiwyd gan O.S. 2001/2357 (Cy. 195).back

[5] O.S. 1999/3454 (Cy. 51).back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090539 3


  Prepared 5 August 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021735w.html