BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021857w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 1857 (Cy.181)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 16 Gorffennaf 2002 
  Yn dod i rym 1 Awst 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 484, 489 a 569(4) o Ddeddf Addysg 1996[1] a freinwiyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2].

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Awst 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodau addysg lleol yng Nghymru.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn - 

    (2) Yn y Rheoliadau hyn y mae cyfeiriad at reoliad yn gyfeiriad at reoliad a gynhwysir ynddynt, y mae cyfeiriad mewn rheoliad at baragraff yn gyfeiriad at baragraff yn y rheoliad hwnnw, ac y mae cyfeiriad at yr Atodlen yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Gwariant y mae grant yn daladwy mewn perthynas ag ef
     3. Ni fydd grant ond yn daladwy mewn perthynas â gwariant a ragnodwyd yr aed iddo neu yr eir iddo mewn blwyddyn ariannol i'r graddau bod y gwariant hwnnw wedi ei gymeradwyo ar gyfer y flwyddyn honno gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddiben y Rheoliadau hyn.

Grant mewn perthynas â thaliadau i drydydd partïon
    
4. Os - 

rhaid i daliadau o'r fath i'r graddau hynny gael eu trin fel gwariant a ragnodwyd at ddiben y Rheoliadau hyn.

Cyfradd y Grant
    
5. Mae grant mewn perthynas â gwariant a gymeradwywyd i gael ei dalu ar gyfradd o 100 y cant o'r cyfryw wariant a gymeradwywyd.

Amodau talu grant
    
6.  - (1) Nid yw grant i gael ei dalu ac eithrio fel ymateb i gais ysgrifenedig oddi wrth awdurdod addysg i'r Cynulliad Cenedlaethol, wedi'i ddilysu gan swyddog yr awdurdod ac sy'n gyfrifol am weinyddu eu materion ariannol neu ddirprwy y swyddog hwnnw.

    (2) Rhaid i geisiadau am dalu grant ymwneud â gwariant dros un neu ragor o gyfnodau sy'n dechrau ar neu wedi i'r Rheoliadau hyn ddod i rym a rhaid iddynt bennu'r gwariant a gymeradwywyd y gwneir cais mewn perthynas ag ef ac yr aeth neu yr amcangyfrifir yr aiff yr awdurdod addysg iddo yn ystod pob cyfnod o'r fath.

    (3) Pan gyflwynir cais sy'n ymwneud â gwariant a gymeradwywyd yr aed iddo neu yr amcangyfrifir yr eir iddo yn ystod unrhyw un neu ragor o gyfnodau mewn unrhyw flwyddyn ariannol o dan baragraff (1) caiff y cyfryw daliad ag y penderfyna'r Cynulliad Cenedlaethol arno wneud yn ddi-oed.

    (4) Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud taliad o dan baragraff (3), nid yw grant pellach i gael ei dalu mewn perthynas â'r gwariant yr eir iddo yn ystod y cyfnod hwnnw neu'r cyfnodau hynny hyd nes i ddatganiad - 

gael ei gyflwyno yn unol â pharagraff (6)(a).

    (5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu bod rhaid i unrhyw dandaliad neu ordaliad o grant sy'n aros yn weddill wedi iddo dderbyn datganiad yr awdurdod addysg ac y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(a) (heb ragfarnu addasiad unrhyw dandaliad neu ordaliad o dan unrhyw ddarpariaeth arall) gael ei addasu naill ai drwy daliad rhwng yr awdurdod a'r Cynulliad Cenedlaethol neu drwy gael ei gymryd i ystyriaeth mewn unrhyw daliad canlynol o grant i'r awdurdod addysg.

    (6) Rhaid i bob awdurdod addysg sydd wedi cael neu sy'n ceisio cael taliad grant mewn perthynas â gwariant yr aed iddo neu yr eir iddo yn ystod unrhyw flwyddyn ariannol neu gyfnod ohoni, cyn 31 Hydref yn y flwyddyn ariannol ganlynol neu cyn gynted ag sy'n ymarferol wedi'r dyddiad hwnnw - 

    (7) Ac eithrio'r flwyddyn gyntaf wedi i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, nid yw grant i gael ei dalu mewn perthynas â gwariant yr aed iddo neu'r eir iddo gan awdurdod addysg yn y cyfnod 1 Ionawr i 31 Mawrth mewn unrhyw flwyddyn ariannol neu unrhyw gyfnod canlynol os talwyd grant i'r awdurdod mewn perthynas â gwariant mewn blwyddyn ariannol flaenorol ac nid yw'r Cynulliad Cenedlaethol eto wedi cael tystysgrif yr archwilydd y cyfeirir ati ym mharagraff (6)(b) am y flwyddyn honNo.

    (8) Rhaid i unrhyw dandaliad neu ordaliad o grant sy'n aros yn weddill, wedi cael tystysgrif yr archwilydd y cyfeirir ati ym mahragraff (6)(b) gael ei addasu drwy daliad rhwng yr awdurdod addysg a'r Cynulliad Cenedlaethol, ond os nad yw'r awdurdod yn cydymffurfio gellir ei addasu mewn unrhyw daliad o grant a wneir i'r awdurdod wedi hynny.

    (9) Yn y rheoliad hwn ystyr "cyfnod" yw un o'r cyfnodau canlynol - 

     7. Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol, adeg cymeradwyo'r gwariant at ddiben y Rheoliadau hyn, yn gofyn am wybodaeth mewn perthynas â'r diben hwnnw, bydd talu grant yn amodol ar gynnwys yr wybodaeth honno yng nghais yr awdurdod addysg am dalu'r grant.

    
8.  - (1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, wedi ymgynghori â'r awdurdod addysg, o bryd i'w gilydd benderfynu ar amodau pellach y bydd gwneud unrhyw daliad o dan y Rheoliadau hyn yn ddibynnol ar eu cyflawni.

    (2) Pan fydd amodau wedi eu penderfynu arnynt o dan y rheoliad hwn ni ellir talu grant oni bai i'r cyfryw amodau gael eu cyflawni neu eu tynnu o dan baragraff (3).

    (3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu tynnu neu, wedi ymgynghori â'r awdurdod addysg, amrywio amodau y penderfynwyd arnynt o dan y rheoliad hwn.

Gofynion y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy
    
9. Rhaid i unrhyw awdurdod addysg y gwnaed taliad grant iddo, os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn, roi iddo'r cyfryw wybodaeth bellach ag y gall fod ei hangen arno i'w alluogi i wirio bod unrhyw grant a dalwyd wedi cael ei dalu yn briodol o dan y Rheoliadau hyn.

    
10.  - (1) Rhaid i unrhyw awdurdod addysg y gwnaed taliad grant iddo gydymffurfio â'r cyfryw ofynion ag y gall y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu arnynt yn yr achos dan sylw.

    (2) Caiff gofynion y penderfynir arnynt o dan y rheoliad hwn gynnwys yn benodol ofynion o ran - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

16 Gorffennaf 2002



ATODLEN
Rheoliadau 2, 3 a 7


Y DIBEN Y MAE GRANT YN DALADWY AR EI GYFER NEU MEWN CYSYLLTIAD AG EF


Gwneud dyfarndaliadau addysg ôl-orfodol o'r enw Grantiau Dysgu'r Cynulliad o dan Reoliadau Awdurdodau Llywodraeth Leol (Dyfarndaliadau Addysg Ôl-orfodol)(Cymru) 2002 i bersonau - 

mewn perthynas â'u costau byw a chostau eraill (ond gan eithrio costau sy'n cynnwys cost ffioedd mewn perthynas â neu yng nghyswllt cyrsiau).



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae adran 484 o Ddeddf Addysg 1996 yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") i wneud rheoliadau sy'n darparu ar gyfer talu grant mewn perthynas â gwariant yr aed iddo neu yr eir iddo gan awdurdodau addysg lleol at ddibenion neu yng nghyswllt dibenion addysgol yr ymddengys i'r Cynulliad Cenedlaethol y dylai'r awdurdodau gael eu hannog i fynd iddynt er budd addysg yng Nghymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer talu'r cyfryw grant.

Mae Rheoliad 3 yn darparu nad yw grant yn daladwy ond mewn perthynas â'r diben a bennir yn yr Atodlen, a dim ond i'r graddau y cymeradwyir y gwariant gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae Rheoliad 4 yn darparu ar gyfer talu grant mewn perthynas â gwariant yr aed iddo neu yr eir iddo gan awdurdodau addysg lleol wrth dalu i drydydd partïon ac a fyddai'n gymwys ar gyfer grant petai'n wariant gan yr awdurdod.

Mae Rheoliad 5 yn darparu bod grant yn daladwy ar gyfradd o 100%.

Mae Rheoliadau 6 i 8 yn nodi'r amodau sy'n gymwys mewn perthynas â thalu grant, gan gynnwys gofynion archwilio. Mae Rheoliad 9 yn nodi nifer o ofynion eraill y mae'n rhaid i'r awdurdodau addysg lleol, y gwnaed y taliadau grant iddynt, gydymffurfio â hwy. Mae Rheoliad 10 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol osod gofynion ychwanegol.

Mae'r Atodlen yn nodi at ba ddiben neu yng nghyswllt pa ddiben y ceir talu grant, sef i wneud dyfarndaliadau addysg ôl-orfodol yng nghyswllt y cynllun a sefydlwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o'r enw Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad. O dan y Cynllun caiff awdurdodau addysg lleol dalu dyfarndaliadau i bobl sy'n dilyn cyrsiau addysg bellach neu addysg uwch ac a ddynodwyd at ddibenion y Cynllun, ac sy'n bodloni'r amodau o ran adnoddau ariannol a meini prawf cymhwyster eraill y Cynllun. Diben y Cynllun yw galluogi pobl sy'n brin eu hadnoddau ariannol i gymryd mantais o gyfleoedd addysgol sydd ar gael iddynt, drwy leihau caledi ariannol.


Notes:

[1] 1996 p.56; diwygiwyd adrannau 484 a 489 gan adran 140(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraffau 125 a 126 o Atodlen 30 iddi. Am ystyr "regulations" gweler adran 579(1).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 2002/1856 (Cy.180)back

[4] 1998 p.18back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090538 5


  Prepared 6 August 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021857w.html