BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021879w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 1879 (Cy.188)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 18 Gorffennaf 2002 
  Yn dod i rym 1 Medi 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ymgynghori, yn unol ag adran 3(7) o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997[1], â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn briodol ac â chynrychiolydd ysgolion sy'n darparu lleoedd a gynorthwyir o dan adran 2(1) o'r Ddeddf honNo.

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 3(1), (2), (5) a (9) o'r Ddeddf honno ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Medi 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn ysgol sy'n dechrau ar 1 Medi 2002 neu wedyn.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997[3]fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 10(4) a (6), yn lle "£1,430" ym mhob man lle y'i gwelir, rhoddir "£1,465".

    (3) Ym mharagraff 1 o Atodlen 2, yn lle "£11,116" rhoddir "£11,368".

    (4) Yn lle'r tabl sy'n dilyn paragraff 2(1) o'r Atodlen honno, rhoddir y tabl canlynol - 


"TABLE
(1) (2) (3) (4)
Part of relevant income to which specified percentage applies Only assisted pupil (%) Each of two assisted pupils (%) Each of three assisted pupils (%)
That part (if any) which exceeds £11,202 but does not exceed £12,181 9 6.75 5.25
That part (if any) which exceeds £12,181 but does not exceed £13,175 12 9 7
That part (if any) which exceeds £13,175 but does not exceed £15,147 15 11.25 8.75
That part (if any) which exceeds £15,147 but does not exceed £18,188 21 15.75 12.25
That part (if any) which exceeds £18,188 but does not exceed £22,151 24 18 14
That part (if any) which exceeds £22,151 33 24.75 19.25"




Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Gorffennaf 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Lleoedd a Gynorthwyir) 1997 ("Rheoliadau 1997") mewn perthynas â blwyddyn ysgol yn dechrau ar 1 Medi 2002 neu wedyn. Mae Rheoliadau 1997 yn rhagnodi trefniadau ar gyfer disgyblion sy'n gymwys i barhau i gael lleoedd a gynorthwyir mewn ysgolion annibynnol yn rhinwedd adran 2 o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1997, er bod y cynllun cymorth lleoedd wedi'i ddileu gan adran 1 o'r Ddeddf honNo.

Mae'r swm sydd i'w dynnu yn yr incwm "perthnasol" mewn perthynas â pherthnasau dibynnol o dan reoliad 10(4) a (6) o Reoliadau 1997 yn cael ei gynyddu o £1,430 i £1,465.

Ar lefel incwm benodol, neu o dan y lefel honno, nid yw'r ffioedd yn cael eu casglu o gwbl. Mae'r lefel honno yn cael ei chynyddu i £11,368 yn lle £11,116, gyda chynnydd cyfatebol yn y swm nad yw'n cael ei gasglu os yw'r incwm "perthnasol" yn fwy na'r swm hwnnw.


Notes:

[1] 1997 p.59. Diwygiwyd adran 3 gan adran 130 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31).back

[2] Trosglwyddwyd Swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 3 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1997/1968, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1726, O.S. 1998/1966, O.S. 1999/1504, O.S. 2000/1938 (Cy.136) ac O.S. 2001/2680 (Cy.221).back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090547 4


  Prepared 15 August 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021879w.html