BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021881w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 1881 (Cy.190)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002

  Wedi'u gwneud 18 Gorffennaf 2002 
  Yn dod i rym 26 Awst 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 15(1), 35(1), 36(1), (1A) a (4) i (8), 37(1), 43ZA, 49F, 49I, 49L, 49M, 49N, 49O, 49P, 49R a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] ac adran 65 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001[2] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a hyd a lled
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002 a deuant i rym ar 26 Awst 2002.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn - 

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

    (4) Caiff y prif Reoliadau eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn.

Diwygio rheoliad 2
     2.  - (1) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) - 

and shall be treated as including a case where a person is treated as suspended by a Health Authority in Wales by virtue of regulation 6(2) of the Abolition of the Tribunal Regulations 2002,

    (2) Ym mharagraff (2)(d) o reoliad 2 - 

Diwygio rheoliad 4
     3. Yn rheoliad 4(1) (rhestr ddeintyddol), ar ôl "in its locality" mewnosodwch "who are not subject to a national disqualification".

Diwygio rheoliad 5
    
4. Caiff rheoliad 5 (cais i gynnwys enw ar y rhestr ddeintyddol) ei ddiwygio fel a ganlyn - 

Mewnosod rheoliad 5ZA i 5ZD newydd yn y prif Reoliadau
    
5. Ar ôl rheoliad 5 mewnosodwch y rheoliadau canlynol - 

Diwygio rheoliad 8
    
6. Yn rheoliad 8 (tynnu enw oddi ar restr ddeintyddol) - 

Mewnosod rheoliadau 8A i 8H
    
7. Ar ôl rheoliad 8 (tynnu enw oddi ar restr ddeintyddol) mewnosodwch y rheoliadau canlynol - 

Diwygio rheoliad 10
    
8. Yn rheoliad 10 (tynnu enw oddi ar restr ddeintyddol) - 

Diwygio rheoliad 13
    
9. Yn rheoliad 13 (trosglwyddo gofal parhaus a threfniadau treth y pen) - 

Diwygio rheoliad 24
    
10. Yn rheoliad 24 (hawl i daliadau) ym mharagraff (4)(h) yn lle "by direction of the Tribunal" rhowch "by the Health Authority".

Diwygiadau i Ran VA o'r prif Reoliadau
    
11. Yn Rhan VA o'r prif Reoliadau[12]) - 

Diwygiadau i Atodlen 1
    
12.  - (1) Caiff Atodlen 1 (amodau gwasanaeth deintyddion) ei diwygio yn unol â'r paragraffau canlynol.

    (2) Ym mharagraff 2 (ymgorffroi darpariaethau Rheoliadau), yn is-baragraff (b)(i), yn lle "FHSA" rhowch "Health Authority".

    (3) Ym mharagraff 8 (hyd ac ymestyn trefniant gofal parhaus)[
13] ac ym mharagraff 9 (hyd ac ymestyn trefniant treth y pen)[14] yn lle'r geiriau ym mhennawd (iii) o is-baragraff (2)(b) a phennawd (iv) o is-baragraff (2)(b) yn y drefn honno, rhowch - 

    (4) Ar ôl paragraff 31G (cofnodion systemau sicrwydd ansawdd)[15] mewnosodwch - 

    (5) Ym mharagraff 35 (dirprwyon a chynorthwywyr) yn lle is-baragraff (10A)[16] amnewidiwch - 

Diwygiadau i Atodlen 2, Rhan I
     13.  - (1) Caiff Atodlen 2, Rhan I (gwybodaeth ac ymgymeriad i'w cynnwys mewn cais i gynnwys enw ar y rhestr ddeintyddol)[17] ei diwygio yn unol â'r paragraffau canlynol.

    (2) Ar ôl paragraff 5A mewnosodwch[18] - 

    (3) Yn lle paragraff 8 rhowch - 

    (4) Yn lle paragraff 11, rhowch - 

    (5) Yn lle paragraff 14 rhowch - 

    
14. Whether the dentist - 

    (6) Ar ôl paragraff 16 ychwanegwch - 

Arbedion
    
14.  - (1) Ac eithrio'r diwygiadau a wnaed i'r prif Reoliadau gan y rheoliadau a restrwyd ym mharagraff (2) ("y diwygiadau a restrwyd"), lle trwy rinwedd rheoliad 6(3) o Reoliadau Diddymu'r Tribiwnlys bod achos yn parhau gerbron y Tribiwnlys ar ôl 31 Gorffennaf 2002, ni fydd y diwygiaau a restrir yn gymwys i ddeintydd mewn perthynas â'i achos hyd nes y bydd yr achos wedi dod i ben a bod y cyfnod ar gyfer apelio wedi dod i ben, neu bod unrhyw apêl wedi'i dynnu'n ôl, neu bod y deintydd wedi diysbyddu ei hawliau i apelio fel y digwydd.

    (2) At ddibenion paragraff (1) y diwygiadau a restrir yw'r rhai a wnaed gan - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
19]


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Gorffennaf 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 ("y prif Reoliadau"), sy'n rheoleiddio'r amodau ar gyfer y gwasanaethau deintyddol cyffredinol a ddarperir gan ddeintyddion o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 ("Deddf 1977"), er mwyn gweithredu darpariaethau penodol o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 ("Deddf 2001").

Mae rheoliad 2 yn mewnosod diffiniadau ychwanegol i reoliad 2 o'r prif Reoliadau.

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 4 (rhestr ddeintyddol) er mwyn eithrio deintyddion sydd wedi cael eu datgymhwyso'n genedlaethol rhag cael eu cynnwys ar restr ddeintyddol.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 5 (cais i gynnwys enw ar y rhestr ddeintyddol) o'r prif Reoliadau, a hynny'n bennaf er mwyn cymryd i ystyriaeth ddarpariaethau yn y rheoliad 5ZB (gohirio penderfyniad) a 5ZD (cynnwys yn amodol) newydd a fewnosodwyd gan reoliad 5.

Mae rheoliad 5 - 

Mae rheoliad 6 yn gwneud mân ddiwygiadau i reoliad 8 (tynnu enw oddi ar restr ddeintyddol).

Mae rheoliad 7 yn mewnosod rheoliadau 8A i 8H newydd, sy'n rhoi effaith i bwerau yn adrannau 49F i 49R o Ddeddf 1977, a fewnosodwyd gan adran 25 o Ddeddf 2001;

mae rheoliad 8A yn ymestyn y diffiniad o "health scheme" yn adran 49(8) o Ddeddf 1977;

mae rheoliad 8B yn nodi'r meini prawf y mae'n rhaid i'r Awdurdod Iechyd eu hystyried wrth arfer eu pwerau dewisol i dynnu enwau o dan adran 49F o Ddeddf 1977;

mae rheoliad 8C yn nodi'r rhesymau ar gyfer tynnu deintydd oddi ar restr ddeintyddol yn orfodol;

mae rheoliad 8D yn darparu ar gyfer Awdurdod Iechyd i hysbysu personau penodol am wybodaeth benodol sy'n gysylltiedig â phenderfyniad i dynnu neu atal dros dro ddeintydd oddi ar restr ddeintyddol;

mae rheoliad 8E yn darparu'r drefn sydd i'w dilyn gan Awdurdodau Iechyd wrth dynnu deintydd oddi ar y rhestr ddeintyddol;

mae rheoliad 8F yn darparu'r drefn sydd i'w dilyn gan Awdurdodau Iechyd wrth atal dros dro ddeintydd oddi ar y rhestr ddeintyddol;

mae rheoliad 8G yn darparu'r weithdrefn sydd i'w dilyn gan Awdurdodau Iechyd pan fo'r Awdurdod Iechyd yn penderfynu adolygu penderfyniad i gynnwys yn amodol, dynnu yn amodol neu atal dros dro ddeintydd o'r rhestr ddeintyddol;

mae rheoliad 8H yn diwygio'r cyfnod statudol ar gyfer adolygu a nodwyd yn adran 49N o Ddeddf 1977 o dan amodau penodol.

Mae rheoliad 8 yn diwygio rheoliad 10 (tynnu enw oddi ar restr ddeintyddol) o'r prif Reoliadau er mwyn rhwystro deintydd rhag tynnu ei enw oddi ar y rhestr ddeintyddol, heb ganiatâd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, pan fo'r Awdurdod Iechyd yn ymchwilio i weld p'un a oes rhesymau i dynnu neu atal dros dro enw o'r rhestr ddeintyddol, neu p'un a yw deintydd wedi methu â chydymffurfio â'r amod a roddwyd ar gynnwys ei enw fel bod modd cyfianwhau tynnu ei enw o'r rhestr.

Mae Rheoliad 9 yn diwygio rheoliad 13 (trosglwyddo gofal parhaus a threfniadau treth y pen) a rheoliad 10 yn diwygio rheoliad 24 (hawl i daliadau) o'r prif Reoliadau er mwyn cymryd i ystyriaeth y Tribiwnlys GIG a darpariaethau atal dros dro adrannau 49J o Ddeddf 1977 a fewnosodwyd gan adran 25 o Ddeddf 2001.

Mae rheoliad 11 yn diwygio Rhan VA o'r prif Reoliadau, er mwyn darparu taliadau i ddeintyddion a gafodd eu hatal dros dro gan Awdurdodau Iechyd o dan bwerau yn adran 491 o Ddeddf 1977 a fewnosodwyd gan adran 25 o Ddeddf 2001, cafodd adran 49E o Ddeddf 1977 ei diddymu gan Ddeddf 2001, Atodlen 5, paragraff 5. Mae rheoliad 11 hefyd yn mewnosod rheoliad 28C newydd yn y prif Reoliadau sy'n darparu i Awdurdod Iechyd wneud taliadau i ddeintydd sydd wedi llwyddo yn ei apêl yn erbyn penderfyniad gan yr FHSAA i'w dynnu oddi ar y rhestr ddeintyddol.

Mae rheoliad 12 yn diwygio Atodlen 1 i'r prif Reoliadau (amodau gwasanaeth deintyddion), er mwyn cymryd i ystyriaeth diddymiad y Tribiwnlys GIG, er mwyn gosod gofynion newydd ar ddeintydd i gyflenwi gwybodaeth a gwneud datganiad i'r Awdurdod Iechyd mewn perthynas ag euogfarnau troseddol ac ymchwiliadau i ymddygiad proffesiynol. Gwneir darparieth hefyd ym mharagraff 31H a fewnosodwyd i roi caniatâd i ddatgelu gwybodaeth, ac i hysbysu'r Awdurdod Iechyd am unrhyw newidiadau perthnasol.

Mae rheoliad 13 yn diwygio Atodlen 2, Rhan I (gwybodaeth ac ymgymeriad i'w cynnwys mewn cais i gynnwys enw ar y rhestr ddeintyddol) i'r prif Reoliadau sy'n cyfateb yn fras â'r darpariaethau a fewnosodwyd gan reoliad 12, ac yn gofyn am wybodaeth ychwanegol i gael ei darparu ynghylch profiad proffesiynol, ac enwau a chyfeiriadau dau ganolwr. Mae'r ymgymeriad a roddwyd o dan baragraff 8 yn cael ei ymestyn i fynnu bod y deintydd yn mynd ati i hysbysu'r Awdurdod Iechyd am unrhyw newidiadau i'r wybodaeth a ddarparwyd gyda'r cais, ac i barhau i gyflenwi gwybodaeth i'r Awdurdod Iechyd unwaith y bo'n cael ei gynnwys. Mae paragraff 17 newydd yn mynnu bod y deintydd yn cytuno i gais sy'n cael ei wneud i gorff trwyddedu, rheoliadol neu gorff arall yn y Deyrnas Unedig neu fan arall, ynghylch unrhyw benderfyniad mewn perthynas â chais i gynnwys enw ar y rhestr.

Mae rheoliad 14 yn gwneud darpariaethau eithrio mewn perthynas ag achosion sydd trwy rinwedd rheoliad 6(3) o Reoliadau Diddymu'r Tribiwnlys GIG (Darpariaethau Canlyniadol) 2001 sy'n parhau gerbron y Tribiwnlys GIG ar ôl 31 Gorffennaf 2002.


Notes:

[1] 1977 p.49; gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i); a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 38(2), ar gyfer y diffiniadau o "rhagnodedig" a "rheoliadau". Diwygiwyd adran 15(1) gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48) ("Deddf 1984"), adran 5(2); gan Ddeddf 1990, adran 12(1) a chan Ddeddf yr Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995"), Atodlen 1, paragraff 6. Amnewidiwyd adran 35(I) gan O.S. 1985/39, erthygl 7(9), a'i diwygio gan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 24. Rhifwyd adran 36(I) felly gan Ddeddf 1984, Atodlen 3, paragraff 5(1) a'i diwygio gan O.S. 1981/432, erthygl 3(3)(a); gan O.S. 1985/39, erthygl 7(10); gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p. 49), Atodlen 2, paragraff 4; gan Ddeddf 1990, adran 24 a chan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 25(a). Mewnosodwyd adran 36(3) gan Ddeddf 1990, adran 24(3). Mewnosodwyd is-adrannau (1A) a (4) i (8) gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p. 15) ("Deddf 2001"), adran 20(4). Diwygiwyd adran 37(I) (a rifwyd felly gan Ddeddf 1988), adran 12(2)) gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwaldol 1980 (p. 53), adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 50; a addaswyd gan adran 12(1) o Ddeddf 1988 a'i diwygio gan y Ddeddf honno, Atodlen 3; a'i diwygio gan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 26. Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2); a chan Ddeddf 1999, Atodlen 4, paragraff 37(6). Mewnosodwyd adran 43A gan Ddeddf 2001, adran 21. Mewnosodwyd adrannau 49F i 49R gan Ddeddf 2001, adran 25. Mewn perthynas â Chymru trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 15, 35, 36 a 126(4) o Ddeddf 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1; felly i Gymru yn unig y mae'r Rheoliadau hyn yn ymestyn.back

[2] 2001 p.15.back

[3] O.S. 1992/661; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1993/2209, 1993/3172, 1995/3092, 1996/704, 1996/2051, 1998/1648, 1998/2224, 2000/2459, 2001/289 a 2001/1746.back

[4] O.S. 2002/1920.back

[5] Mewnosodwyd adran 49S gan Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol 2001, adran 27(1).back

[6] Gellir cysylltu â Gwasanaeth Gwrth-dwyll y Gwasanaeth Iechyd Gwladol drwy ysgrifennu atynt yn Hannibal House, Elephant and Castle, London SE1 6JE neu anfon e-bost at DCFS@doh.gov.uk.back

[7] Amnewidiwyd adran 46 gan Ddeddf Iechyd 1999 p.8.back

[8] 1997 p.51.back

[9] 1984 p.22.back

[10] 1952 p.52.back

[11] 1997 p.51.back

[12] Mewnosodwyd Rhan VA gan O.S. 1995/3092, rheoliad 9.back

[13] Offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3092 a 1996/2051.back

[14] Offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3092 a 1996/2051.back

[15] Mewnosodwyd paragraffau 31A, 31B a 31C gan reoliad 5 o O.S. 1996/704, mewnosodwyd paragraff 31D gan reoliad 7(4) o O.S. 1998/1648 a pharagraffau 31E, 31F a 31G gan reoliad 5 o O.S. 2001/1677.back

[16] Mewnosodwyd gan O.S. 1995/3092, rhe. 10(4)(b).back

[17] Y Rheoliadau diwygio perthnasol yw O.S. 1993/2209, 1995/3092 a 1998/1648.back

[18] Mewnosodwyd paragraff 5A gan O.S. 1993/2209.back

[19] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 090562 8


  Prepared 3 September 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021881w.html