BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2002 Rhif 1882 (Cy.191)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestr Atodol Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 2002
|
Wedi'u gwneud |
18 Gorffennaf 2002 | |
|
Yn dod i rym |
26 Awst 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 29, 43D a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] ac adran 65 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 [2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestr Atodol Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 2002 a deuant i rym ar 26 Awst 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli
2.
- (1) Yn y Rheoliadau hyn, oni bai fod y cyd-destun yn mynnu fel arall -
ystyr "achos o dwyll" ("fraud case") yw achos pan fo person yn bodloni'r ail amod ar gyfer tynnu enw oddi ar y rhestr feddygol, a nodwyd yn adran 49F(3) neu'n cael ei drin fel ei fod drwy rinwedd adran 49H;
ystyr "atal dros dro" ("suspended") yw -
(a) atalwyd dros dro gan Awdurdod Iechyd o dan adran 49I neu 49J neu o dan reoliadau a wnaed o dan adrannau 28DA neu 43D, neu adran 8ZA o'r Ddeddf Gofal Sylfaenol,
(b) atalwyd dros dro gan y Tribiwnlys,
(c) mewn perthynas â'r Alban a Gogledd Iwerddon, atalwyd dros dro o dan ddarpariaethau mewn grym sy'n cyfateb i'r rheini yn adrannau 49I neu 49J,
a chaiff ei drin fel pe bai'n cynnwys achos pan fo person yn cael ei drin fel ei fod wedi'i atal dros dro gan Awdurdod Iechyd yng Nghymru trwy rinwedd rheoliad 6(2) o'r Rheoliadau Diddymu Tribiwnlys;
a dylid dehongli "atal dros dro" ("suspends") ac "ataliad dros dro" ("suspension") yn unol â hynny;
ystyr "Cofrestrydd Practis Cyffredinol" ("General Practice (GP) Registrar") yw meddyg sy'n cael ei hyfforddi mewn practis cyffredinol gan feddyg y mae ei enw wedi'i gynnwys ar restr feddygol;
ystyr "corff cyfatebol" ("equivalent body") yw Awdurdod Iechyd yn Lloegr, Bwrdd Iechyd neu ymddiriedolaeth NHS yn yr Alban neu Fwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon;
ystyr "corff trwyddedu neu reoleiddiol" ("licensing or regulatory body") yw'r corff sy'n trwyddedu neu'n rheoleiddio unrhyw broffesiwn y mae'r meddyg yn, neu wedi bod yn aelod ohono, ac mae'n cynnwys corff cymwys addysgol GP;
ystyr "cyflogaeth" ("employment") yw unrhyw gyflogaeth p'un a yw hwnnw'n gyflogedig neu'n anghyflogedig a ph'un ai o dan gontract am wasanaethau neu gontract gwasanaeth, a dylid dehongli "cyflogedig" a "chyflogwr" yn unol â hynny;
ystyr "cyfarwyddwr" ("director") yw -
(a) cyfarwyddwr corff corfforaethol; neu
(b) aelod y corff o bobl sy'n rheoli corff corfforaethol (p'un a ydyw hwnnw'n bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ai peidio);
ystyr "datgymhwysiad cenedlaethol" ("a national disqualification") yw -
(a) penderfyniad a wnaed gan yr FHSAA mewn perthynas â meddyg o dan adran 49N,
(b) penderfyniad o dan ddarpariaethau sydd mewn grym yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon sy'n cyfateb i adran 49N,
(c) penderfyniad gan y Tribiwnlys sy'n cael ei drin fel datgymhwysiad cenedlaethol gan yr FHSAA trwy rinwedd rheoliad 6(4) o Reoliadau Diddymu'r Tribiwnlys,
(ch) penderfyniad gan y Tribwnlys;
ystyr "Deddf Feddygol" ("Medical Act") yw Deddf Feddygol 1983[3];
ystyr "Deddf Gofal Sylfaenol" ("Primary Care Act") yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997[4];
ystyr "Diddymu Rheoliadau'r Tribiwnlys" ("Abolition of the Tribunal Regulations") yw Rheoliadau Diddymu Tribiwnlys y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2002[5];
ystyr "digwyddiadau a arweiniodd" ("originating events") yw digwyddidiadau sydd wedi arwain at yr euogfarn, ymchwiliad, achosion, atal dros dro, gwrthod cynnwys, cynnwys yn amodol, tynnu neu dynnu'n amodol a gymerodd le;
ystyr "FHSAA" yw Awdurdod Apelio Gwasanaethau Iechyd Teulu a gyfansoddwyd o dan adran 49S;
ystyr "Gwasanaeth Gwrth Dwyll y Gwasanaeth Iechyd Gwladol" ("the National Health Service Counter Fraud Service") yw'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan yr Ysgrifennydd Gwladol i ddelio ag ymholiadau ac ymchwiliadau mewn perthynas ag unrhyw honiadau o dwyll neu lygredd yn y gwasanaeth iechyd[6]);
ystyr "meddyg" ("doctor") yw ymarferydd meddygol cyffredinol;
ystyr "yr NCAA" ("the NCAA") yw'r Awdurdod Asesu Clinigol Cenedlaethol a sefydlwyd fel Awdurdod Iechyd Arbennig o dan adran 11[7];
ystyr "Pwyllgor Gweithrediadau Rhagarweiniol" ("Professional Conduct Committee") yw Pwyllgor Gweithrediadau Rhagarweiniol y Cyngor Meddygol Cyffredinol a gyfansoddwyd o dan adran 1(3) o'r Ddeddf Feddygol;
ystyr "Pwyllgor Iechyd" ("Health Committee") yw Pwyllgor Iechyd y Cyngor Meddygol Cyffredinol a gyfansoddwyd o dan adran 1(3) o Ddeddf Feddygol 1983;
ystyr "Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol" ("Professional Conduct Committee") yw Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol y Cyngor Meddygol Cyffredinol a gyfansoddwyd o dan adran 1(3) o'r Ddeddf Feddygol;
ystyr "rhestrau cyfatebol" ("equivalent lists") yw rhestrau sy'n cael eu cadw gan gorff cyfatebol;
ystyr "rhestr wasanaethau" ("services list") yw rhestr a baratowyd o dan adran 28DA o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 neu o dan adran 8ZA o'r Ddeddf Gofal Sylfaenol;
ystyr "rhif cofrestru proffesiynol" ("professional registration number") yw'r rhif gyferbyn ag enw'r meddyg yn y gofrestr sy'n cael ei chynnal gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol, gyda ôl-ddodiad y cod cyfundrefnol a roddwyd i'r Awdurdod Iechyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol y mae'r meddyg wedi cael ei gynnwys ynddi[8];
ystyr "y Tribiwnlys" ("the Tribunal") yw'r Tribiwnlys a gyfansoddwyd o dan adran 46[9] ar gyfer Cymru a Lloegr;
dylid dehongli "tynnu'n amodol" ("contingent removal") yn unol ag adran 49G;
mae "ymddygiad proffesiynol" ("professional conduct") yn cynnwys materion sy'n gysylltiedig ag ymddygiad proffesiynol a pherfformiad proffesiynol;
(2) Mae pob cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at adrannau yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 oni nodir fel arall.
(3) Oni bai fod y cyd-destun yn mynnu fel arall -
(a) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn:
(i) at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn,
(ii) at Ran neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at Ran neu Atodlen, sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn, a
(b) unrhyw gyfeiriad mewn Rheoliad neu Atodlen i'r Rheoliadau hyn at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad neu atodlen hwnnw.
Rhestr atodol
3.
- (1) Bydd Awdurdod Iechyd yn paratoi ac yn cyhoeddi rhestr atodol o bob meddyg sydd wedi'i gymeradwyo gan yr Awdurdod Iechyd at ddibenion cynorthwyo â darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol.
(2) Mewn perthynas ag unrhyw feddyg y mae ei enw wedi'i gynnwys ynddi, bydd y rhestr hefyd yn cynnwys -
(a) enw llawn y meddyg;
(b) rhif cofrestru proffesiynol;
(c) dyddiad geni y meddyg, os yw'r meddyg yn cydsynio, neu os nad ydyw, y dyddiad pan gofrestrodd y meddyg am y tro cyntaf ar y Gofrestr Feddygol; ac
(ch) y dyddiad pan gynhwyswyd enw'r meddyg ar y rhestr.
(3) Bydd y rhestr ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd.
Cais i gynnwys enw yn y rhestr atodol
4.
- (1) Bydd cais gan feddyg i gynnwys enw'r meddyg ar y rhestr atodol yn cael ei wneud drwy anfon cais ysgrifenedig i'r Awdurdod, a fydd yn cynnwys yr wybodaeth a grybwyllwyd ym mharagraff (2).
(2) Bydd y meddyg yn darparu'r wybodaeth ganlynol -
(a) enw llawn;
(b) rhyw;
(c) dyddiad geni;
(ch) cyfeiriad a rhif ffôn preifat;
(d) cymwysterau meddygol a phan fo'n bodoli, gopi o dystiolaeth ynghylch cymwysterau a phrofiad y ceisydd a gyflwynwyd yn unol â Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Hyfforddiant Galwedigaethol ar gyfer Ymarfer Meddygol Cyffredinol) 1997[10];
(dd) datganiad bod y meddyg yn ymarferydd meddygol sydd wedi'i gofrestru yn llawn sydd wedi'i gynnwys yn y Gofrestr Feddygol;
(e) rhif cofrestru proffesiynnol a dyddiad y cofrestriad cyntaf;
(f) manylion profiad proffesiynol (gan gynnwys dyddiadau cychwyn a gorffen pob apwyntiad ynghyd ag esboniad am unrhyw fylchau rhwng penodiadau) wedi'u rhannu yn:
(i) profiad o bractis cyffredinol (p'un ai fel penadur, cynorthwy-ydd neu ddirprwy),
(ii) apwyntiadau ysbyty,
(iii) arall (gan gynnwys profiad obstetrig),
(iv) unrhyw fanylion ychwanegol perthnasol eraill, gan gynnwys esboniad ynghylch pam gafodd y meddyg ei ddiswyddo o unrhyw swydd;
(ff) enwau a chyfeiriadau dau ganolwr sy'n barod i ddarparu tystlythyron clinigol sy'n gysylltiedig â dwy swydd ddiweddar (allai gynnwys unrhyw swydd bresennol) fel meddyg a barodd am o leiaf dri mis heb doriad sylweddol, a lle nad oes modd gwneud hyn, esboniad llawn a chanolwyr eraill;
(g) manylion unrhyw restr Awdurdod Iechyd neu restrau cyfatebol y mae'r meddyg wedi cael ei enw wedi'i dynnu oddi arni, wedi'i dynnu'n amodol, neu y mae'r meddyg wedi cael ei wrthod rhag cael ei gynnwys arni neu wedi'i gynnwys yn amodol, neu y mae'r meddyg wedi'i atal dros dro ohoni, ynghyd ag esboniad ynghylch pam, neu fanylion unrhyw gais nas penderfynwyd arno (gan gynnwys ceisiadau a ohiriwyd);
(ng) os yw'r ymgeisydd yn gyfarwyddwr unrhyw gorff corfforaethol sydd wedi'i gynnwys mewn unrhyw restr o unrhyw Awdurdod Iechyd, neu restrau cyfatebol, neu y mae ganddo gais sydd dal heb ei benderfynu (gan gynnwys cais a ohiriwyd) ar gyfer cynnwys ei enw mewn unrhyw restr gan unrhyw Awdurdod Iechyd neu restr cyfatebol, enw a swyddfa gofrestredig unrhyw gorff o'r fath, a manylion yr Awdurdod Iechyd neu gorff cyfatebol dan sylw;
(h) pan fo'r meddyg, neu pan fu yn y chwe mis blaenorol, neu y bu hyd y g yr y meddyg ar adeg y digwyddiadau gwreiddiol yn gyfarwyddwr corff corfforaethol, manylion unrhyw restr Awdurdod Iechyd neu restrau cyfatebol y cafodd y corff hwnnw ei wrthod rhag ymuno, ei gynnwys yn amodol, ei dynnu, ei dynnu'n amodol neu y mae wedi'i atal dros dro ar hyn o bryd, gydag esboniad am hynny;
(i) unrhyw wybodaeth arall y byddai'n rhesymol i'r Awdurdod Iechyd fod wedi gofyn amdani er mwyn penderfynu ar gais y meddyg.
(3) Bydd y meddyg yn darparu'r ymgymeriadau ac yn rhoi caniatâd i'r canlynol -
(a) ymgymeriad i ddarparu'r datganiadau sy'n ofynnol o dan reoliad 9;
(b) ymgymeriad i beidio â chynorthwyo â darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol ym maes Awdurdod Iechyd arall y mae'r meddyg wedi cael ei dynnu oddi ar ei restr atodol, meddygol neu wasanaethau, oni bai pan fo'r enw wedi cael ei dynnu ar gais yr ymarferydd neu yn unol â rheoliad 10(7), heb ganiatâd ysgrifenedig yr Awdurdod Iechyd hwnnw;
(c) ymgymryd i hysbysu'r Awdurdod Iechyd o fewn 7 diwrnod am unrhyw newidiadau o bwys i'r wybodaeth a ddarparwyd yn y cais hyd nes fod y cais wedi'i benderfynu'n derfynol;
(ch) ymgymryd i hysbysu'r Awdurdod Iechyd os yw'r meddyg yn cael ei gynnwys, neu yn gwneud cais i gael ei gynnwys, mewn unrhyw restr arall sy'n cael ei dal gan Awdurdod Iechyd neu gorff cyfatebol;
(d) ymgymryd i gydweithredu ag asesiad gan yr NCAA pan geir cais i wneud hynny gan yr Awdurdod Iechyd;
(dd) cydsynio i ddatgelu gwybodaeth yn unol â rheoliad 9.
(4) Rhaid i'r meddyg anfon gyda'r cais ddatganiad ynghylch -
(a) a oes gan y meddyg unrhyw euogfarnau troseddol yn y Deyrnas Unedig;
(b) a ydyw wedi'i rwymo i gadw'r heddwch yn y Deyrnas Unedig;
(c) wedi derbyn rhybudd gan yr heddlu yn y Deyrnas Unedig;
(ch) wedi'i gael yn euog o dramgwydd, neu'r hyn a fyddai'n gyfwerth â thramgwydd droseddol pe bai wedi'i chyflawni yng Nghymru a Lloegr, neu sy'n ddarostyngedig i gosb a fyddai'n gyfystyr â'i fod wedi cael ei rwymo neu wedi derbyn rhybudd;
(d) ar hyn o bryd yn destun unrhyw achos allai arwain at euogfarn o'r fath, nad yw'r Awdurdod Iechyd wedi'i hysbysu amdano hyd yma;
(dd) wedi bod yn destun unrhyw ymchwiliad i ymddygiad proffesiynol y meddyg gan unrhyw gorff trwyddedu, rheoliadol neu gorff arall unrhyw le yn y byd, pan oedd y canlyniad yn andwyol;
(e) ar hyn o bryd yn destun unrhyw ymchwiliad i ymddygiad proffesiynol y meddyg gan unrhyw gorff trwyddedu, rheoleiddiol neu gorff arall unrhyw le yn y byd;
(f) hyd y g yr y meddyg yn, neu wedi bod pan oedd y canlyniad yn andwyol, yn destun unrhyw ymchwiliad gan Wasanaeth Gwrth Dwyll y Gwasanaeth Iechyd Gwladol mewn perthynas ag achos o dwyll;
(ff) yn destun unrhyw ymchwiliad gan Awdurdod Iechyd arall neu gorff cyfatebol, allai arwain at dynnu'r meddyg oddi ar unrhyw un o restrau'r Awdurdod Iechyd hwnnw neu restrau cyfatebol;
(g) yn, neu wedi bod pan oedd y canlyniad yn andwyol, yn destun unrhyw ymchwiliad i ymddygiad proffesiynol y meddyg mewn cysylltiad ag unrhyw gyflogaeth flaenorol;
(ng) wedi cael ei dynnu, ei dynnu'n amodol, wedi cael ei wrthod rhag cael ei gynnwys, neu wedi'i gynnwys yn amodol mewn unrhyw restr neu restr gyfatebol a gedwir gan Awdurdod Iechyd arall neu gorff cyfatebol, neu wedi'i atal dros dro ar hyn o bryd o restr o'r fath,
ac os felly, rhoi manylion, gan gynnwys dyddiadau bras, o ble y cynhaliwyd, neu y cynhelir, unrhyw ymchwiliad neu achosion, natur yr ymchwiliad neu gamau hynny, ac unrhyw ganlyniad.
(5) Os yw'r meddyg yn, wedi bod yn y chwe mis blaenorol, neu wedi bod hyd y g yr y meddyg ar adeg y digwyddiadau gwreiddiol yn gyfarwyddwr corff corfforaethol, bydd y meddyg hefyd yn gwneud datganiad i'r Awdurdod Iechyd ynghylch p'un a yw'r corff corfforaethol -
(a) yn meddu ar unrhyw euogfarnau troseddol yn y Deyrnas Unedig;
(b) wedi'i gael yn euog mewn man arall o dramgwydd, neu'r hyn fyddai'n gyfystyr â thramgwydd droseddol pe bai wedi'i chyflawni yng Nghymru a Lloegr, neu sy'n ddarostyngedig i gosb a fyddai'n cyfateb i fod wedi rhwymo neu dderbyn rhybudd;
(c) ar hyn o bryd yn destun unrhyw achosion allai arwain at euogfarn o'r fath, nad yw'r Awdurdod Iechyd wedi cael ei hysbysu amdanynt hyd yma;
(ch) wedi bod yn destun unrhyw ymchwiliad i'w ddarpariaeth o wasanaethau proffesiynol gan unrhyw gorff rheoleiddiol neu gorff arall unrhyw le yn y byd, pan oedd y canlyniad yn andwyol;
(d) ar hyn o bryd yn destun unrhyw ymchwiliad i'w ddarpariaeth o wasanaethau proffesiynol gan unrhyw gorff trwyddedu, rheoleiddiol neu gorff arall unrhyw le yn y byd;
(dd) hyd y gwyr y meddyg yn, neu wedi bod pan oedd y canlyniad yn andwyol, yn destun unrhyw ymchwiliad gan Wasanaeth Gwrth Dwyll y Gwasanaeth Iechyd Gwladol mewn perthynas ag achos o dwyll;
(e) yn destun unrhyw ymchwiliad gan Awdurdod Iechyd arall neu gorff cyfatebol, allai arwain at ei dynnu oddi ar unrhyw un o restrau'r Awdurdod hwnnw neu restrau cyfatebol;
(f) wedi cael ei dynnu, ei dynnu'n amodol, wedi cael gwrthod mynediad i, ei gynnwys yn amodol ar unrhyw restr neu restr gyfatebol a gedwir gan Awdurdod Iechyd arall neu gorff cyfatebol, neu wedi'i atal dros dro ar hyn o bryd oddi ar restr o'r fath,
ac os felly, rhoi enw a swyddfa gofrestredig y corff corfforaethol a manylion, gan gynnwys dyddiadau bras, lle mae ymchwiliad neu gamau wedi'u cynnal neu i'w cynnal, natur yr ymchwiliad hwnnw neu gamau, ac unrhyw ganlyniad.
(6) Rhaid i feddyg gydsynio i gais a wneir gan yr Awdurdod Iechyd i unrhyw gyflogwr, neu gyn gyflogwr, corff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall yn y Deyrnas Unedig neu fan arall, am wybodaeth sy'n ymwneud ag ymchwiliad cyfredol, neu ymchwiliad pan oedd y canlyniad yn anffafriol, ganddynt i'r meddyg neu gorff corfforaethol y cyfeiriwyd ato yn is-baragraffau (2), (4) a (5).
Aildderbyn
5.
Pan fo meddyg wedi cael ei dynnu oddi ar restr feddygol, atodol neu wasanaethau gan Awdurdod Iechyd oherwydd bod y meddyg wedi'i gael yn euog o dramgwydd droseddol, a bod yr euogfarn hwnnw yn cael ei ddymchwel yn dilyn apêl, gall yr Awdurdod Iechyd hwnnw gytuno i gynnwys y meddyg ar ei restr atodol heb wneud cais llawn os yw'n fodlon nad oes unrhyw faterion eraill y mae angen eu hystyried ac ar yr amod ei fod yn derbyn ymgymeriad i gydymffurfio â gofynion y rheoliadau hyn.
Rhesymau dros wrthod
6.
- (1) Dyma'r rhesymau pan y gall Awdurdod Iechyd wrthod cynnwys meddyg ar ei restr atodol -
(a) bod yr Awdurdod Iechyd ag yntau wedi ystyried y datganiad sy'n ofynnol o dan reoliad 4(4) a (5) ac unrhyw wybodaeth arall yn eu meddiant mewn perthynas â'r cais hwn, yn ystyried ei bod yn anaddas cynnwys y meddyg ar y rhestr;
(b) bod yr Awdurdod Iechyd ag yntau wedi gwirio'r wybodaeth a ddarparwyd gan y meddyg o dan reoliad 4(2)(e) ac (f) yn ystyried bod yr ymarferydd yn anaddas i gael ei gynnwys ar y rhestr;
(c) bod yr Awdurdod Iechyd ag yntau wedi cysylltu â'r canolwyr a ddarparwyd gan y meddyg o dan reoliad 4(2)(i), yn anfodlon â'r tystlythyrau;
(ch) bod yr Awdurdod Iechyd, ag yntau wedi gwirio â Gwasanaeth Gwrth Dwyll y Gwasanaeth Iechyd ynghylch unrhyw ffeithiau y maent yn eu hystyried yn berthnasol sy'n ymwneud ag ymchwiliadau ynghylch twyll ynghylch y meddyg naill ai yn y gorffennol neu yn y presennol, ac yntau wedi ystyried y rhain ac unrhyw achos o dwyll sy'n ymwneud â'r meddyg, yn ystyried bod y rhain yn cyfiawnhau gwrthod o'r fath;
(d) bod yna le i gredu y byddai cynnwys yr ymarferydd ar y rhestr yn niweidio effeithlonrwydd y gwasanaeth y byddai'r meddyg yn ei gyflawni;
(dd) pan fo'r meddyg wedi'i gofrestru yn y gofrestr o ymarferwyr meddygol yn ddarostyngedig i amodau a osodwyd yn unol â -
(i) chyfeiriad gan y Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol o dan adran 36 o'r Ddeddf Feddygol,
(ii) at gyfeiriad gan y Pwyllgor Iechyd o dan adran 37 o'r Ddeddf honno,
(iii) gorchymyn gan y naill neu'r llall o'r pwyllgorau hynny neu'r Pwyllgor Achosion Rhagarweiniol o dan adran 42 o'r Ddeddf honno,
(iv) cyfeiriad y Pwyllgor Perfformiad Proffesiynol o dan adran 36A o'r Ddeddf honno[11].
(2) Dyma'r rhesymau pan y gall Awdurdod Iechyd wrthod cynnwys meddyg ar ei restr atodol -
(a) nad yw'r meddyg am dri o'r chwe mis diwethaf, wedi darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol yn ei faes, neu wedi darparu tystiolaeth foddhaol bod y meddyg yn bwriadu darparu gwasanaethau yn ei faes;
(b) bod y meddyg ar restr gwasanaethau neu restr feddygol unrhyw Awdurdod Iechyd yn Lloegr oni bai fod y meddyg hwnnw wedi hysbysu'n ysgrifenedig bod y meddyg yn dymuno tynnu ei enw oddi ar y rhestr honno;
(c) bod y meddyg ar restr atodol unrhyw Awdurdod Iechyd arall yn Lloegr oni bai fod y meddyg wedi hysbysu'n ysgrifenedig bod y meddyg yn bwriadu tynnu ei enw oddi ar y rhestr honno;
(ch) os nad yw'n fodlon bod y meddyg yn meddu ar y profiad addas o fewn ystyre adran 31;
(d) os nad yw'n fodlon bod gan y meddyg wybodaeth o'r Saesneg sydd, er budd y meddyg ei hun a'i gleifion, yn angenrheidiol er mwyn darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol yn ei faes;
(dd) pan fo'r meddyg wedi'i euogfarnu yn y Deyrnas Unedig o lofruddiaeth;
(e) pan, ar ôl y dyddiad pan ddaw'r rheoliad hwn i rym, bod y meddyg wedi'i euogfarnu yn y Deyrnas Unedig o dramgwydd droseddol ac wedi'i ddedfrydu i gyfnod mewn carchar o dros chwe mis;
(f) pan fo'r meddyg wedi'i anghymhwyso'n genedlaethol;
(ff) pan nad yw'r meddyg wedi diweddaru cais y meddyg yn unol â rheoliad 7(4);
(g) pan nad yw'r meddyg yn hysbysu'r Awdurdod Iechyd o dan reoliad 15(5) bod y meddyg yn dymuno cael ei gynnwys yn y rhestr yn ddarostyngedig i'r amodau a nodwyd.
(3) Cyn dod i benderfyniad ar y cais, bydd yr Awdurdod Iechyd yn -
(a) gwirio, i'r graddau y bo hynny'n ymarferol, yr wybodaeth a ddarparwyd gan y ceisydd, yn arbennig yr hyn a ddarparwyd o dan reoliad 4(2)(e) ac (f), 4(4) a 4(5), gan gynnwys bwrw golwg ar y dogfennau perthnasol; a
(b) gwirio gyda Gwasanaeth Gwrth Dwyll y Gwasanaeth Iechyd Gwladol am unrhyw achos o dwyll.
(4) Pan fo'r Awdurdod Iechyd yn ystyried gwrthod meddyg o dan baragraff (1) neu (2) bydd yn ystyried yr holl ffeithiau sydd yn ei farn ef yn berthnasol, a bydd yn ystyried yn arbennig mewn perthynas â pharagraff (1)(a), (ch) neu (d) uchod -
(a) natur unrhyw dramgwydd, ymchwiliad neu ddigwyddiad;
(b) yr amser a aeth heibio ers i dramgwydd neu ddigwyddiad o'r fath gael ei chyflawni ac ers unrhyw euogfarn neu ymchwiliad;
(c) p'un a oes unrhyw dramgwyddau, digwyddiadau neu ymchwiliadau eraill i'w hystyried;
(ch) unrhyw weithred neu gosb a osodwyd gan gorff trwyddedu neu reoleiddiol neu gorff arall, yr heddlu neu'r llysoedd o ganlyniad i'r tramgwydd, digwyddiad neu ymchwiliad;
(d) pa mor berthnasol yw unrhyw dramgwydd, ymchwiliad neu ddigwyddiad i ddarpariaeth y meddyg o wasanaethau meddygol cyffredinol ac unrhyw berygl tebygol i gleifion y meddyg neu i gyllid cyhoeddus;
(dd) p'un a oedd unrhyw dramgwydd yn dramgwydd y mae Rhan I o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1997[12] yn gymwys;
(e) p'un a yw'r meddyg wedi cael ei wrthod rhag cael ei gynnwys neu wedi'i gynnwys yn amodol, wedi cael ei dynnu, ei dynnu'n amodol, neu ar hyn o bryd wedi'i atal dros dro o unrhyw un o restrau'r Awdurdod Iechyd neu restrau cyfatebol, ac os felly, y ffeithiau yn yr achosion hynny a'r rhesymau a roddwyd gan yr Awdurdod Iechyd neu gorff cyfatebol dan sylw; a
(f) p'un a oedd y meddyg ar y pryd, wedi bod yn ystod y chwe mis blaenorol, neu yr oedd ar adeg y digwyddiadau gwreiddiol yn gyfarwyddwr corff corfforaethol gwrthodwyd ei gynnyws, ei gynnwys yn amodol, ei dynnu neu ei dynnu am y tro oddi ar restrau Awdurdodau Iechyd eraill neu restrau cyfatebol, neu sydd ar hyn o bryd wedi'i atal dros dro oddi ar restrau o'r fath, ac os ydyw, beth oedd y ffeithiau yn yr achosion hynny a pha resymau a roddwyd gan yr Awdurdod Iechyd neu gorff cyfatebol yn yr achos.
(5) Pan fo'r Awdurdod Iechyd yn cymryd i ystyriaeth y materion a nodwyd ym mharagraff (4), byddant yn ystyried effaith gyffredinol yr holl faterion sy'n cael eu hystyried.
(6) Wrth wrthod cynnwys meddyg ar ei restr, bydd yr Awdurdod Iechyd yn hysbysu'r meddyg o'i benderfyniad a'r rhesymau drosto (gan gynnwys unrhyw ffeithiau y dibynnwyd arnynt), ac o unrhyw hawl i apelio o dan reoliad 15 yn erbyn penderfyniad yr Awdurod Iechyd.
Gohirio penderfynu ar gais
7.
- (1) Gall Awdurdod Iechyd ohirio penderfyniad ar gais i gynnwys enw ar y rhestr atodol a dderbyniwyd ar ôl 31 Hydref 2002 -
(a) pan fo camau cyfreithiol sy'n gamau troseddol yn y Deyrnas Unedig neu, pe baent wedi'u dwyn mewn man arall yn y byd, y byddent, yn gamau troseddol pe baent wedi'u dwyn yn y Deyrnas Unedig, a phe baent wedi llwyddo y byddent yn debygol o arwain at dynnu'r meddyg oddi ar restr yr Awdurdod Iechyd pe bai'r meddyg wedi'i gynnwys;
(b) pan fo achosion cyfreithiol yn erbyn corff corfforaethol y mae'r meddyg yn, wedi bod yn y chwe mis blaenorol, neu wedi bod ar adeg y digwyddiadau gwreiddiol yn gyfarwyddwr, sy'n achosion troseddol yn y Deyrnas Unedig neu pe baent wedi cael eu dwyn unrhyw le arall yn y byd yn gamau troseddol pe baent wedi'u dwyn yn y Deyrnas Unedig, ac y byddent pe baent yn llwyddiannus yn debygol o arwain at dynnu meddyg oddi ar restr yr Awdurdod Iechyd pe bai'r meddyg wedi'i gynnwys;
(c) pan fo ymchwiliad unrhyw le yn y byd gan gorff trwyddedu neu gorff rheoliadol y meddyg neu unrhyw ymchwiliad arall (gan gynnwys un gan Awdurdod Iechyd arall neu gorff cyfatebol) yn ymwneud â chymhwysedd proffesiynol y meddyg a fyddai pe bai'n llwyddiannus yn debygol o arwain at dynnu'r meddyg oddi ar restr yr Awdurdod Iechyd pe bai'r meddyg wedi'i gynnwys;
(ch) pan fo'r meddyg yn cael ei atal dros dro oddi ar unrhyw un o'r rhestrau neu restrau cyfatebol;
(d) pan fo corff corfforaethol y mae'r meddyg yn, wedi bod yn y chwe mis blaenorol, neu yr oedd ar adeg y digwyddiadau gwreiddiol yn gyfarwyddwr ohono, wedi'i atal dros dro o unrhyw un o'r rhestrau neu restrau cyfatebol;
(dd) pan fo'r FHSAA yn ystyried apêl gan y meddyg yn erbyn penderfyniad Awdurdod Iechyd i wrthod cymeradwyo, enwebu neu gynnwys meddyg ar ei restr, neu i gynnwys yn amodol neu ei dynnu'n amodol , neu ei dynnu oddi ar urnhyw restr a gedwir gan Awdurdod Iechyd ac os yw'r apêl hwnnw yn aflwyddiannus byddai'r Awdurdod Iechyd yn debygol o dynnu enw'r meddyg oddi ar restr yr Awdurdod Iechyd pe bai'r meddyg wedi'i gynnwys;
(e) pan fo'r FHSAA yn ystyried apêl gan gorff corfforaethol y mae'r meddyg, neu yr oedd y meddyg yn ystod y chwe mis blaenorol, neu yr oedd ar adeg y digwyddiadau gwreiddiol yn gyfarwyddwr, yn aerbyn penderfyniad gan Awdurdod Iechyd i wrthod cymeradwyo, enwebu neu gynnwys meddyg ar ei restr, neu i gynnwys yn amodol neu dynnu dros dro, neu dynnu oddi ar unrhyw restr a gedwir gan Awdurdod Iechyd ac os yw'r apêl hwnnw yn aflwyddiannus y byddai'r Awdurdod Iechyd yn debygol o dynnu'r meddyg oddi ar restr yr Awdurdod Iechyd pe bai'r meddyg wedi'i gynnwys;
(f) pan fo meddyg yn destun ymchwiliad gan Wasanaeth Gwrth Dwyll y Gwasanaeth Iechyd Gwladol mewn perthynas ag unrhyw dwyll, pan fyddai'r canlyniad pe bai'n andwyol yn debygol o arwain at dynnu'r meddyg oddi ar restr yr Awdurdod Iechyd pe bai'r meddyg wedi'i gynnwys;
(ff) pan fo'r corff corfforaethol, y mae'r meddyg yn, wedi bod yn ystod y chwe mis blaenorol, neu yr oedd ar adeg y digwyddiadau gwreiddiol yn gyfarwyddwr, yn destun ymchwiliad gan Wasanaeth Gwrth Dwyll y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, mewn perthynas ag unrhyw dwyll, pan fyddai'r canlyniad pe bai'n anffafriol yn debygol o arwain at dynnu enw'r meddyg oddi ar restr yr Awdurdod Iechyd pe bai'r meddyg yn cael ei gynnwys;
(g) pan fo'r FHSAA yn ystyried cais gan Awdurdod Iechyd i anghymhwyso meddyg yn genedlaethol;
(ng) pan fo'r FHSAA yn ystyried cais gan Awdurdod Iechyd i anghymhwyso meddyg yn genedlaethol neu gorff corfforaethol y mae'r meddyg, y bu'r meddyg yn ystod y chwe mis blaenorol, neu yr oedd ar adeg y digwyddiadau gwreiddiol yn gyfarwyddwr.
(2) Dim ond hyd nes y bydd canlyniad y digwyddiad perthnasol a grybwyllwyd yn is-baragraffau (a), (b), (c), (dd), (e), (f), (ff) neu (g) yn wybyddus neu tra bo'r meddyg wedi'i atal dros dro neu'r corff corfforaethol wedi'i atal dros dro o dan is-baragraff (ch) neu (d) uchod.
(3) Rhaid i'r Awdurdod Iechyd hysbysu'r ceisydd ei fod wedi gohirio penderfyniad ar y cais a'r rhesymau dros hynny.
(4) Unwaith y bydd canlyniad y digwyddiad perthnasol a grybwyllwyd yn is-baragraff (a), (b), (c), (dd), (e), (f), (ff) (g) neu (ng) paragraff (1) yn wybyddus neu bod yr atal dros dro y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (ch) neu (d) wedi dod i ben, rhaid i'r Awdurdod Iechyd hysbysu'r meddyg bod raid i'r meddyg ddiweddaru ei gais o fewn 28 diwrnod (neu unrhyw gyfnod hwyach ag y gall yr Awdurdod Iechyd gytuno arno) gydag unrhyw wybodaeth berthnasol cyn y gellir ei ystyried.
(5) Ar yr amod bod unrhyw wybodaeth ychwanegol wedi'i dderbyn o fewn 28 diwrnod o'r amser y cytunwyd arno, bydd yr Awdurdod Iechyd yn hysbysu'r ceisydd cyn gynted ag y bo modd -
(a) bod cais y meddyg i gael ei gynnwys wedi bod yn llwyddiannus; neu
(b) bod yr Awdurdod Iechyd wedi penderfynu gwrthod y cais neu osod amodau ar gynnwys y meddyg, a'r rhesymau dros hynny (gan gynnwys unrhyw ffeithiau y dibynnwyd arnynt, ac unrhyw hawl i apelio o dan reoliad 15.
Cynnwys yn Amodol
8.
- (1) Os yw meddyg am gael ei gynnwys yn y rhestr atodol gall Awdurdod Iechyd benderfynu bod y meddyg yn ddarostyngedig, tra bod y meddyg yn parhau i gael ei gynnwys yn y rhestr, i ofynion adran 43D(5).
(2) Gall methu â chydymffurfio ag amod arwain at dynnu enw'r meddyg oddi ar y rhestr.
(3) Pan fo'r Awdurdod Iechyd yn ystyried tynnu meddyg am dor-amod, bydd yn -
(a) hysbysu'r meddyg am unrhyw honiad yn erbyn y meddyg;
(b) hysbysu'r meddyg am y rhesymau dros y camau y mae'n eu hystyried;
(c) rhoi cyfle i'r meddyg gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r Awdurdod Iechyd o fewn 28 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad o dan is-baragraff (b);
(ch) rhoi cyfle i'r meddyg gyflwyno achos y meddyg mewn gwrandawiad llafar ger bron yr Awdurdod Iechyd, os yw'r meddyg yn gwneud cais am un o fewn y cyfnod o 28 diwrnod a grybwyllwyd yn is-baragraff (c).
(4) sOs na cheir unrhyw gynrychioliadau o fewn y cyfnod penodedig ym mharagraff (3)(c), bydd yr Awdurdod Iechyd yn hysbysu'r meddyg o'i benderfyniad, y rhesymau drosto (gan gynnwys unrhyw ffeithiau y dibynnwyd arnynt) ac o unrhyw hawl i apelio o dan reoliad 15.
(5) Os nad oes unrhyw sylwadau, rhaid i'r Awdurdod Iechyd eu cymryd i ystyriaeth cyn y bydd yn cyrraedd ei benderfyniad, gan hysbysu'r meddyg o'i benderfyniad, y rhesymau amdano (gan gynnwys unrhyw ffeithiau y dibynwyd arnynt), ac o unrhyw hawl i apelio o dan reoliad 15.
(6) Os yw'r meddyg yn gwneud cais am wrandawiad llafar, rhaid iddo gael ei gynnal cyn i'r Awdurdod Iechyd wneud ei benderfyniad, ac yna rhaid i'r Awdurdod Iechyd hysbysu'r meddyg o'i benderfyniad, y rhesymau drosto (gan gynnwys unrhyw ffeithiau y dibynnwyd arnynt), ac unrhyw hawl i apelio o dan reoliad 15.
(7) Pan fo'r Awdurdod Iechyd yn hysbysu'r meddyg am unrhyw benderfyniad, bydd yn hysbysu'r meddyg bod gan y meddyg, os yw'n dymuno arfer ei hawl i apelio, 28 diwrnod o ddyddiad y penderfyniad i wneud hynny, a bydd yn dweud wrth y meddyg sut i weud hynny.
(8) Bydd yr Awdurdod Iechyd hefyd yn hysbysu'r meddyg o hawl y meddyg i gael ei benderfyniad wedi'i adolygu yn unol â rheoliad 14.
(9) Pan fo'r Awdurdod Iechyd yn penderfynu y gellir cynnwys y meddyg yn y rhestr ond yn ddarostyngedig i amodau a osodwyd o dan y rheoliad hwn, neu bod meddyg i fod yn ddarostyngedig i amau tra bo'r meddyg yn parhau i gael ei gynnwys ar y rhestr, gellir cynnwys enw'r meddyg (neu barhau i'w gynnwys) ar y rhestr yn ystod y cyfnod ar gyfer dwyn apêl i'r FHSAA yn unol â rheoliad 15, neu os caiff apêl ei ddwyn, hyd nes y bydd yr apêl hwnnw wedi cael ei benderfynu, ar yr amod bod y meddyg yn cytuno i gael ei rwymo gan yr amodau a osodwyd hyd nes y bydd yr amser ar gyfer apelio wedi dod i ben neu bod yr apêl wedi'i benderfynu.
Gofynion y mae'n rhaid i feddyg ar y rhestr atodol gydymffurfio â hwy
9.
- (1) Bydd y meddyg yn gwneud datganiad ysgrifenedig i'r Awdurdod Iechyd o fewn 7 diwrnod o'r digwyddiad os yw'r meddyg -
(a) yn cael ei euogfarnu o urnhyw dramgwydd droseddol yn y Deyrnas Unedig;
(b) yn cael ei rwymo i gadw'r heddwch yn y Deyrnas Unedig;
(c) yn derbyn rhybudd gan yr heddlu yn y Deyrnas Unedig;
(ch) yn cael ei euogfarnu mewn man arall o dramgwydd, neu'r hyn a fyddai'n gyfwerth â thramgwydd droseddol pe bai'n cael ei gyflawni yn y Deyrnas Unedig, neu sy'n ddarostyngedig i gosb a fyddai'n gyfwerth â chael eich rhwymo neu dderbyn rhybudd;
(d) yn cael ei gyhuddo yn y Deyrnas Unedig o dramgwydd droseddol, neu'n cael ei gyhuddo mewn man arall o dramgwydd a fyddai, pe bai wedi'i chyflawni yng Nghymru a Lloegr, yn cael ei hystyried yn dramgwydd droseddol;
(dd) yn cael ei hysbysu gan unrhyw gorff trwyddedu, rheoleiddiol neu gorff arall unrhyw fan yn y byd, o ganlyniad i unrhyw ymchwiliad i ymddygiad proffesiynol y meddyg, a bod dyfarniad yn erbyn y meddyg;
(e) yn dod yn destun unrhyw ymchwiliad i ymddygiad proffesiynol y meddyg gan unrhyw gorff trwyddedu, rheoleiddio neu gorff arall;
(f) yn dod yn destun ymchwiliad i ymddygiad proffesiynol y meddyg mewn perthynas ag unrhyw gyflogaeth gyfredol neu flaenorol, neu yn cael ei hysbysu o ganlyniad i unrhyw ymchwiliad or fath os yw'n andwyol;
(ff) yn dod hyd y g yr y meddyg yn destun unrhyw ymchwiliad gan Wasanaeth Gwrth Dwyll y Gwasanaeth Iechyd Gwladol mewn perthynas â thwyll;
(g) yn dod yn destun unrhyw ymchwiliad gan Awdurdod Iechyd arall neu gorff cyfatebol, allai arwain at dynnu meddyg oddi ar rhestr yr Awdurdod Iechyd hwnnw neu restrau cyfatebol;
(ng) yn cael ei dynnu, ei dynnu'n amodol, ei atal dros dro, ei wrthod rhag cael ei gynnwys, neu cael ei gynnwys yn amodol ar unrhyw restr neu restr gyfatebol a gedwir gan Awdurdod Iechyd arall neu gorff cyfatebol,
ac os felly, rhoi manylion, gan gynnwys dyddiadau bras, o ble y cynhaliwyd unrhyw ymchwiliad neu achos, neu ble maent i'w cynnal natur yr ymchwiliad neu achos, ac unrhyw ganlyniad.
(2) Os yw'r meddyg, neu os oedd yn y chwe mis blaenorol, neu wedi bod hyd y g yr y meddyg ar adeg y digwyddiadau gwreiddiol yn gyfarwyddwr corff corfforaethol, bydd y meddyg yn rhoi datganiad ysgrifenedig i'r Awdurdod Iechyd o fewn 7 diwrnod o'i ddigwydd os yw'r corff corfforaethol hwnnw -
(a) yn cael ei euogfarnu o unrhyw dramgwydd droseddol yn y Deyrnas Unedig;
(b) yn cael ei euogfarnu mewn man arall o dramgwydd, neu'r hyn fyddai'n gyfystyr â thramgwydd droseddol pe bai wedi'i gyflawni yng Nghymru a Lloegr, neu'n destun cosb a fyddai'n gyfystyr i;
(c) yn cael ei gyhuddo yn y Deyrnas Unedig o dramgwydd droseddol, neu'n cael ei gyhuddo mewn man arall â thramgwydd, a fyddai pe bai'n cael ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr, yn gyfystyr â thramgwydd droseddol;
(ch) yn cael ei hysbysu gan gorff trwyddedu, rheoleiddiol neu gorff arall unrhyw le yn y byd, o ganlyniad i unrhyw ymchwiliad i'w ddarpariaeth o wasanaethau proffesiynol, a bod dedfryd yn erbyn y corff corfforaethol;
(d) yn dod yn destun unrhyw ymchwiliad i'w ddarpariaeth o wasanaethau proffesiynol gan unrhyw gorff trwyddedu, rheoleiddiol neu gorff arall unrhywle yn y byd;
(dd) yn dod hyd y g yr y meddyg yn destun unrhyw ymchwiliad gan Wasanaeth Gwrth Dwyll y Gwasanaeth Iechyd Gwladol mewn perthynas ag unrhyw achos o dwyll, neu yn cael ei hysbysu o ganlyniad ymchwiliad o'r fath os yw'n andwyol;
(e) yn dod yn destun unrhyw ymchwiliad gan Awdurdod Iechyd arall neu gorff cyfatebol, allai arwain at ei dynnu oddi ar unrhyw un o restrau'r Awdurdod Iechyd neu restrau cyfatebol;
(f) yn cael ei dynnu, ei dynnu'n amodol, ei atal dros dro, yn cael gwrthod mynediad i, neu'n cael ei gynnwys yn amodol ar unrhyw restr neu restr gyfatebol a gedwir gan Awdurdod Iechyd arall neu gorff cyfatebol,
ac os felly, rhoi enw a chyfeiriad y corff corfforaethol a manylion, gan gynnwys dyddiadau bras, o ble y cynhaliwyd unrhyw achosion neu ble y maent i'w cynnal, natur yr ymchwiliad neu achos hwnnw, ac unrhyw ganlyniad.
(3) Bydd y meddyg yn rhoi hawl i gais sy'n cael ei wneud gan yr Awdurdod Iechyd i unrhyw gyflogwr neu gyn gyflogwr, corff trwyddedu, rheoleiddiol neu gorff arall yn y Deyrnas Unedig neu fan arall, am wybodaeth sy'n gysylltiedig ag ymchwiliad cyfredol, neu ymchwiliad pan oedd y canlyniad yn andwyol, ganddynt hwy i'r meddyg neu gorff corfforaethol y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (1) a (2).
Tynnu oddi ar restr atodol
10.
- (1) Rhaid i Awdurdod Iechyd dynnu meddyg pan ddaw'n ymwybodol -
(a) bod y meddyg wedi'i ddedfrydu yn y Deyrnas Unedig o lofruddiaeth;
(b) bod y meddyg wedi'i ddedfyrdu yn y Deyrnas Unedig ers y dyddiad pan ddaeth y Rheoliadau hyn i rym o dramgwydd droseddol ac wedi'i ddedfrydu i gyfnod mewn carchar o dros chwe mis;
(c) bod y meddyg wedi cael ei anghymwyso'n genedlaethol;
(ch) bod y meddyg wedi marw;
(d) nad yw'r meddyg bellach yn feddyg;
(dd) bod y meddyg yn destun -
(i) cyfarwyddyd a roddwyd gan y Pwyllgor Ymddygiad Proffesiynol o dan adran 36 o'r Ddeddf Feddygol, neu
(ii) orchymyn a wnaed gan y pwyllgor hwnnw o dan adran 38(1) o'r Ddeddf honno;
(e) bod y meddyg wedi'i gynnwys yn y rhestr feddygol neu wasanaethau unrhyw Awdurdod Iechyd, neu restr atodol Awdurdod Iechyd arall,
a bydd yn hysbysu'r meddyg ar unwaith ei fod wedi gwneud hynny.
(2) Pan fo'r Awdurdod Iechyd yn cael ei hysbysu gan yr FHSAA ei fod wedi ystyried -
(a) apêl gan feddyg yn erbyn cael ei dynnu'n amodol gan yr Awdurdod Iechyd ac wedi penderfynu tynnu'r meddyg yn lle hynny; neu
(b) apêl gan feddyg yn erbyn cynnwys amodol, pan fo'r meddyg wedi'i gynnwys yn amodol yn y rhestr honno hyd nes bo'r apêl wedi cael ei benderfynu, a'i fod wedi penderfynu peidio â chynnwys y meddyg,
bydd yr Awdurdod Iechyd yn tynnu'r meddyg ac yn ei hysbysu ar unwaith ei fod wedi gwneud hynny.
(3) Gall Awdurod Iechyd dynnu meddyg oddi ar y rhestr atodol pan fodlonir unrhyw un o'r amodau a bennir isod.
(4) Yr amodau a grybwyllwyd ym mharagraff (3) yw -
(a) y byddai parhau i gynnwys y person dan sylw yn y rhestr yn niweidio effeithlonrwydd y gwasanaethau y mae'r rheini sydd wedi'u cynnwys yn y rhestr yn cynorthwyo i'w darparu ("achos effeithlonrwydd");
(b) bod y person dan sylw (boed y meddyg ar ei ben ei hun neu ar y cyd ag unigolyn arall) yn rhan o achos o dwyll mewn perthynas ag unrhyw gynllun iechyd; neu
(c) bod y person dan sylw yn anaddas i gael ei gynnwys yn y rhestr ("achos o anaddasrwydd").
(5) Yn ogystal â'r gwasanaethau sy'n dod o fewn cwmpas y diffiniad o "gynllun iechyd" yn adran 49F(8), bydd y canlynol hefyd yn gynlluniau iechyd -
(a) gwasanaethau iechyd, gan gynnwys triniaeth feddygol a llawfeddygol, a ddarperir gan Luoedd ei Mawrhydi;
(b) gwasanaethau a ddarperir gan Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd a gyfansoddwyd o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Afiechydon) 1984[13];
(c) gwasanaethau iechyd sy'n cael eu darparu ar gyfer carcharor sydd yng ngofal y swyddog meddygol neu swyddog carchar o fath arall a benodwyd at ddibenion adran 7 o Ddeddf Carchardai 1952[14];
(ch) gwasanaethau iechyd a ariennir yn gyhoeddus sy'n cael eu darparu gan neu ar ran unrhyw gorff unrhyw le yn y byd.
(6) Gall Awdurdod Iechyd hefyd dynnu meddyg oddi ar restr feddygol os -
(a) yw'n penderfynu bod y meddyg yn torri amod a roddwyd ar y meddyg wrth ei gynnwys ar y rhestr o dan reoliad 8;
(b) penderfynu bod y meddyg wedi methu â chydymffurfio ag amod a osodwyd ar dynnu'n amodol o dan reoliad 12; neu
(c) penderfynu bod y meddyg wedi methu â chydymffurfio ag amod a osodwyd ar dynnu'n amodol gan yr FHSAA o dan reoliad 15(6).
(7) Pan na all y meddyg ddangos bod y meddyg wedi cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau meddygol cyffredinol o fewn ardal yr Awdurdod Iechyd yn ystod y deuddeg mis blaenorol, gall yr Awdurdod Iechyd dynnu'r meddyg oddi ar y rhestr atodol.
(8) Wrth gyfrifo'r cyfnod deuddeg mis y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (7), bydd yr Awdurdod Iechyd yn diystyru unrhyw gyfnod -
(a) pan atalwyd dros dro gofrestriad y meddyg fel ymarferydd meddygol fel y crybwyllwyd yn adran 29(8) (atal dros dro gan gyfarwyddyd neu orchymyn y Pwyllgor Iechyd) neu gan orchymyn interim y Pwyllgor Achosion Rhagarweiniol;
(b) pan atalwyd dros dro y meddyg yn rhinwedd adran 41A o Ddeddf Meddygaeth 1983;
(c) pan atalwyd dros dro y meddyg o dan y Rheoliadau hyn; a
(ch) pan oedd y meddyg yn cyflawni gwasanaeth perthnasol fel y'i diffinnir yn rheoliad 2 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992[15].
(9) Pan fo Awdurdod Iechyd yn ystyried tynnu meddyg o dan baragraffau (3) i (7) o'r rheoliad hwn, neu dynnu meddyg yn amodol o dan reoliad 12, bydd -
(a) yn hysbysu'r meddyg yn ysgrifenedig o unrhyw honiadau a wnaed yn erbyn y meddyg;
(b) yn hysbysu'r meddyg o ba gamau y mae'r Awdurdod Iechyd yn eu hystyried ac ar ba sail;
(c) yn rhoi cyfle i'r meddyg gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r Awdurdod Iechyd o fewn 28 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad o dan is-baragraff (b);
(ch) rhoi cyfle i'r meddyg roi achos y meddyg mewn gwrandawiad llafar gerbron yr Awdurdod Iechyd, os bydd y meddyg yn gwneud cais am hynny o fewn y cyfnod 28 diwrnod a grybwyllwyd yn is-baragraff (c).
(10) Pan fo'r Awdurdod Iechyd yn penderfynu tynnu meddyg o dan baragraff (7), ni chaiff y meddyg ei dynnu oddi ar y rhestr am gyfnod o dri mis gan ddechrau â'r dyddiad pan fo'r Awdurdod Iechyd yn cyrraedd ei benderfyniad neu am gyfnod o dri mis gan ddechrau â'r dyddiad y mae'r FHSAA yn penderfynu ar apêl p'un bynnag yw'r diweddaraf.
(11) Os nad oes unrhyw sylwadau o fewn y cyfnod a nodwyd ym mharagraff (9)(c), bydd yr Awdurdod Iechyd yn hysbysu'r meddyg o'i benderfyniad, y rhesymau amdano (gan gynnwys unrhyw ffeithiau y dibynnwyd arnynt), ac o unrhyw hawl i apelio o dan reoliad 15.
(12) Os oes sylwadau, rhaid i'r Awdurdod Iechyd eu cymryd i ystyriaeth cyn dod i'w benderfyniad, a hysbysu'r meddyg o'i benderfyniad, y rhesymau amdano (gan gynnwys unrhyw ffeithiau y dibynnwyd arnynt), ac unrhyw hawl i apelio o dan reoliad 15.
(13) Os yw'r meddyg yn gwneud cais am wrandawiad llafar, rhaid i hwn ddigwydd cyn y byd yr Awdurdod Iechyd yn cyrraedd ei benderfyniad, a rhaid wedyn i'r Awdurdod Iechyd hysbysu'r meddyg o'i benderfyniad, y rhesymau amdano (gan gynnwys unrhyw ffeithiau y dibynnwyd arnynt), ac unrhyw hawl i apelio o dan reoliad 15.
(14) Pan fo'r Awdurdod Iechyd yn hysbysu'r meddyg o unrhyw benderfyniad, bydd yn hysbysu'r meddyg bod ganddo, os yw'n dymuno arfer hawl i apelio, 28 diwrnod o ddyddiad y penderfyniad i wneud hynny, a bydd yn dweud wrth y meddyg sut y dylid gwneud hynny.
(15) Bydd yr Awdurdod Iechyd hefyd yn hysbysu'r meddyg o hawl y meddyg i gael y penderfyniad wedi'i adolygu yn unol â rheoliad 14.
Y meini prawf ar gyfer tynnu enw
11.
- (1) Pan fo Awdurdod Iechyd yn ystyried a ydyw am dynnu meddyg gan ddefnyddio'r per yn rheoliad 10(4)(c) (achos anaddas), bydd yn ystyried y wybodaeth gan y meddyg ar ffurf datganiad wedi'i gyflenwi o dan reoliad 9, a rhaid iddo ddefnyddio'r meini prawf a nodwyd ym mharagraff (2).
(2) Y meini prawf y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) yw -
(a) natur unrhyw dramgwydd, euogfarn, ymchwiliad neu ddigwyddiad;
(b) y cyfnod sydd wedi pasio ers i unrhyw dramgwydd o'r fath gael ei chyflawni, ac ers unrhyw euogfarn droseddol neu ymchwiliad;
(c) p'un a oes yna dramgwyddau eraill i'w hystyried;
(ch) y gosb a roddwyd am unrhyw euogfarn droseddol neu ganlyniad unrhyw ymchwiliad;
(d) pa mor berthnasol yw unrhyw dramgwydd droseddol neu ymchwiliad i ymddygiad proffesiynol ar ddarpariaeth gan y meddyg o wasanaethau meddygol cyffredinol a'r perygl tebygol i gleifion;
(dd) p'un a oedd unrhyw dramgwydd droseddol yn dramgwydd rywiol y mae Rhan I o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1997 [16] yn gynnwys;
(e)
p'un a yw'r meddyg wedi cael ei wrthod rhag cael ei gynnwys, wedi cael ei gynnyws yn amodol, wedi cael ei dynnu, ei dynnu'n amodol neu ar hyn o bryd wedi'i atal dros dro oddi ar restrau Awdurdodau Iechyd eraill, neu restrau cyfatebol, ac os ydyw, y ffeithiau sy'n gysylltiedig â'r mater a arweiniodd at gamau o'r fath a'r rhesymau a roddwyd gan yr Awdurdod Iechyd neu gorff cyfatebol am gamau o'r fath;
(f) p'un a yw meddyg yn, wedi bod yn y chwe mis blaenorol, neu yr oedd ar adeg y digwyddiadau a arweiniodd yn gyfarwyddwr corff corfforaethol a gafodd ei wrthod rhag cael bod ar, ei gynnwys yn amodol ar, ei dynnu neu ei dynnu'n amodol oddi ar restrau Awdurdodau Iechyd eraill neu restrau cyfatebol, neu y mae ar hyn o bryd wedi'i atal dros dro o restrau o'r fath, ac os felly, y ffeithiau sy'n gysylltiedig â'r mater a arweiniodd at gamau o'r fath a'r rhesymau a roddwyd gan yr Awdurdod Iechyd neu gorff cyfatebol am gamau o'r fath;
(ff) p'un a yw'r meddyg yn, wedi bod yn y chwe mis blaenorol, neu yr oedd ar adeg y digwyddiadau a arweiniodd, yn gyfarwyddwr corff corfforaethol sydd ar hyn o bryd wedi'i atal dros dro o restr o'r fath, ac os felly, y ffeithiau sy'n gysylltiedig â'r mater arweiniodd at yr atal dros dro a'r rhesymau a roddwyd gan yr Awdurdod Iechyd neu gorff cyfatebol ar gyfer yr atal dros dro.
(3) Pan fo Awdurdod Iechyd yn ystyried tynnu meddyg o dan reoliad 10(4)(b), (achos o dwyll), bydd yn ystyried y wybodaeth gan yr ymarferydd ar ffurf datganiad a gyflwynwyd o dan reoliad 9, a rhaid iddo ddefnyddio'r meini prawf a nodwyd ym mharagraff (4).
(4) Y meini prawf y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (3) yw -
(a) natur digwyddiadau unrhyw achos o dwyll;
(b) y cyfnod sydd wedi pasio ers unrhyw ddigwyddiad, ac ers i'r ymchwiliad ddod i ben;
(c) p'un a oes yna unrhyw achosion eraill o dwyll neu dramgwyddau troseddol eraill i'w hystyried;
(ch) unrhyw gamau a gymerwyd gan unrhyw gorff trwyddedu, rheoleiddiol neu gorff arall, yr heddlu neu'r llysoedd o ganlyniad i'r digwyddiad;
(d) pa mor berthnasol yw'r ymchwiliad i ddarpariaeth gan y meddyg o wasanaethau meddygol cyffredinol a'r perygl tebygol i gleifion neu gyllid cyhoeddus;
(dd) p'un a yw'r meddyg wedi cael gwrthod mynediad i, wedi'i gynnwys yn amodol, ei dynnu, ei dynnu'n amodol neu ar hyn o bryd wedi'i atal dros dro oddi ar restrau Awdurdod Iechyd eraill, ac os ydyw, y ffeithiau yn yr achosion hynny a'r rhesymau a roddwyd gan yr Awdurdod Iechyd neu gorff cyfatebol am gamau o'r fath;
(e) p'un a oedd y meddyg ar y pryd, wedi bod yn y chwe mis blaenorol, neu yr oedd ar adeg y digwyddiadau a arweiniodd yn gyfarwyddwr corff corfforaethol y gwrthodwyd mynediad i, a gynhwyswyd yn amodol, a dynnwyd neu a dynnwyd yn amodol oddi ar restrau Awdurdod Iechyd eraill, ac os felly, y ffeithiau yn yr achosion hynny a'r rhesymau a roddwyd gan yr Awdurdod Iechyd neu gorff cyfatebol am gamau o'r fath;
(f) p'un a oedd y meddyg ar y pryd, wedi bod yn y chwe mis blaenorol, neu wedi bod ar adeg y digwyddiadau a arweiniodd, yn gyfarwyddwr corff corfforaethol sydd ar hyn o bryd wedi'i atal dros dro o restr o'r fath, ac os felly, y ffeithiau sy'n gysylltiedig â'r mater a arweiniodd at yr atal dros dro a'r rhesymau a roddwyd gan yr Awdurdod Iechyd neu gorff cyfatebol am yr atal dros dro.
(5) Pan fo Awdurdod Iechyd yn ystyried tynnu meddyg o dan reoliad 10(4)(a), achos effeithlonrwydd, bydd yn ystyried y wybodaeth oddi wrth yr ymarferydd ar ffurf datganiad a gyflenwyd o dan reoliad 9, a rhaid iddo ddefnyddio'r meini prawf a nodwyd ym mharagraff (6).
(6) Y meini prawf a nodwyd ym mharagraff (5) yw -
(a) p'un a oedd wedi cael effaith andwyol ar effeithlonrwydd y gwasanaethau meddygol cyffredinol a ddarparwyd gan y meddyg;
(b) yr amser sydd wedi pasio ers i unrhyw ddigwyddiad o'r fath ddigwydd, ac ers i'r ymchwiliad ddod i ben;
(c) unrhyw gamau a gymerwyd gan unrhyw gorff trwyddedu, rheoleiddiol neu gorff arall, yr heddlu neu'r llysoedd o ganlyniad i ddigwyddiad o'r fath;
(ch) natur y digwyddiad a ph'un a oes yna berygl tebygol i gleifion;
(d) p'un a ydyw'r meddyg erioed wedi methu â chydymffurfio â chais gan yr Awdurdod Iechyd i gael ei asesu gan yr NCAA;
(dd) p'un a yw'r meddyg yn y gorffennol wedi methu â gwneud datganiad neu gydymffurfio ag ymgymeriad sy'n ofynnol gan y Rheoliadau hyn;
(e) p'un a yw'r meddyg wedi cael gwrthod mynediad i, wedi'i gynnwys yn amodol, wedi'i dynnu, wedi'i dynnu'n amodol neu ar hyn o bryd wedi'i atal dros dro oddi ar restrau Awdurdod Iechyd eraill neu restrau cyfatebol, ac os felly, y ffeithiau yn yr achosion hynny a'r rhesymau a roddwyd gan yr Awdurdod Iechyd neu gorff cyfatebol yn yr achos;
(f) p'un a yw'r meddyg ar y pryd, wedi bod yn y chwe mis blaenorol, neu ar adeg y digwyddiadau gwreiddiol wedi bod yn gyfarwyddwr corff corfforaethol y gwrthodwyd mynediad iddo, y cafodd ei gynnwys yn amodol, ei dynnu neu ei dynnu'n amodol oddi ar restrau Awdurdod Iechyd eraill neu restrau cyfatebol, neu y mae ar hyn o bryd wedi'i atal dros dro o restrau o'r fath, ac os felly, y ffeithiau yn yr achosion hynny a'r rhesymau a roddwyd gan yr Awdurdod Iechyd neu gorff cyfatebol yn yr achos.
(ff) p'un a yw'r meddyg ar y pryd, wedi bod yn y chwe mis blaenorol, neu ar adeg y digwyddiadau gwreiddiol wedi bod yn gyfarwyddwr corff corfforaethol sydd ar hyn o bryd wedi'i atal dros dro o restr o'r fath, ac os felly, y ffeithiau sy'n gysylltiedig a'r mater arweiniodd at yr atal dros dro a'r rhesymau a roddwyd gan yr Awdurdod Iechyd neu gorff cyfatebol ar gyfer yr atal dros dro.
(7) Wrth wneud unrhyw benderfyniad o dan reoliad 10, bydd yr Awdurdod Iechyd yn ystyried effaith gyffredinol unrhyw ddigwyddiadau a thramgwyddau perthnasol sy'n ymwneud â'r meddyg y mae'n ymwybodol ohonynt, pa amod bynnag y mae'n dibynnu arNo.
(8) Wrth wneud penderfyniad ar unrhyw amod yn rheoliad 10, bydd yr Awdurdod Iechyd yn datgan yn ei benderfyniad pa amod y mae'n dibynnu arNo.
Tynnu'n amodol
12.
- (1) Mewn achos effeithlonrwydd neu achos o dwyll gall yr Awdurdod Iechyd, yn hytrach na phenderfynu tynnu meddyg o'i restr, benderfynu tynnu meddyg yn amodol.
(2) Os bydd yn penderfynu felly, mae'n rhaid iddo osod yr amodau hynny ag y bydd yn penderfynu arnynt ar gynnwys y meddyg yn y rhestr gyda'r bwriad o -
(a) waredu unrhyw ragfarn ar effeithlonrwydd y gwasanaethau dan sylw (mewn achos effeithlonrwydd); neu
(b) rwystro gweithredoedd neu ddiffyg mewn achos o dwyll.
(3) Os bydd yr Awdurdod Iechyd yn penderfynu bod y meddyg wedi methu â chydymffurfio ag amod, gall benderfynu -
(a) amrywio'r amod a osodwyd;
(b) gosod amodau newydd; neu
(c) tynnu'r meddyg oddi ar y rhestr.
Atal dros dro
13.
- (1) Os yw Awdurdod Iechyd yn fodlon ei bod hi'n ofynnol gwneud hynny er mwyn amddiffyn aelodau o'r cyhoedd neu ei fod fel arall er lles y cyhoedd, gall atal meddyg dros dro o'i restr -
(a) pan fo'n penderfynu a ydyw am arfer ei bwerau ai peidio i dynnu o dan reoliad 10 neu dynnu'n amodol o dan reoliad 12 (heblaw mewn amgylchiadau sy'n dod o fewn paragraff (b));
(b) tra fo'n aros am benderfyniad sy'n effeithio ar feddyg gan lys, corff trwyddedu neu reoleiddiol unrhyw le yn y byd;
(c) pan fo wedi penderfynu tynnu meddyg ond cyn i'r penderfyniad hwnnw gael effaith; neu
(ch) tra'n aros apêl.
(2) Mewn achos sy'n dod o fewn paragraff (1)(a), rhaid i'r Awdurdod Iechyd bennu cyfnod nad yw'n hwy na chwe mis fel y cyfnod ar gyfer atal dros dro.
(3) Mewn achos sy'n dod o fewn paragraff (1)(b), gall yr Awdurdod Iechyd bennu bod y meddyg yn parhau i gael ei atal dros dro ar ôl y penderfyniad y cyfeiriwyd ato yno am gyfnod ychwanegol nad yw'n hwy na chwe mis.
(4) Gall y cyfnod o atal dros dro ymestyn y tu hwnt i'r chwe mis os -
(a) ar gais yr Awdurdod Iechyd, bod yr FHSAA yn gorchymyn hynny; a
(b) os yw'r Awdurdod Iechyd wedi gwneud cais o dan baragraff (a) cyn i'r cyfnod o atal dros dro ddod i ben, ond nad yw'r FHSAA wedi gwneud gorchymyn erbyn y cyfnod pan ddaw i ben, ac os felly ei fod yn parhau hyd nes bo'r FHSAA yn gwneud gorchymyn.
(5) Os bydd yr FHSAA yn gorchymyn hynny, bydd yn pennu -
(a) y dyddiad pan fydd y cyfnod o atal dros dro i ddod i ben;
(b) digwyddiad na fydd yn parhau y tu hwnt iddo; neu
(c) cyfuniad o (a) a (b).
(6) Gall yr FHSAA, ar gais yr Awdurdod Iechyd, wneud gorchymyn pellach (yn cydymffurfio â pharagraff (5)) ar unrhyw adeg tra mae'r cyfnod o atal dros dro yn unol â'r gorchymyn cynharach yn dal i barhau.
(7) Os yw Awdurdod Iechyd yn atal dros dro feddyg mewn achos sy'n dod o fewn paragraff (1)(c) neu (ch), bydd yr ataliad hwnnw yn cael effaith o'r dyddiad pan roddodd yr Awdurdod Iechyd rybudd i'r meddyg o'r ataliad hyd unrhyw apêl neu, os yw'r ymarferydd yn apelio o dan reoliad 15 hyd nes bo'r FHSAA wedi hepgor yr apêl.
(8) Gall yr Awdurdod Iechyd ymestyn y cyfnod ar gyfer atal dros dro o dan baragraff (1)(a) neu osod cyfnod pellach o atal dros dro ar yr amod nad yw'n fwy na chwe mis.
(9) Effaith atal dros dro yw tra bo meddyg yn cael ei atal dros dro o dan y Rheoliadau hyn bydd y meddyg yn cael ei drin fel nad yw wedi'i gynnwys ar y rhestr er bod enw'r meddyg wedi'i gynnwys arni.
(10) Gall yr Awurdod Iechyd ddiddymu ar unrhyw adeg yr atal dros dro, a hysbysu'r meddyg am ei benderfyniad.
(11) Pan fo Awdurdod Iechyd yn ystyried atal meddyg dros dro neu amrywio cyfnod yr atal dros dro o dan y rheoliad hwn, bydd yn -
(a) rhoi rhybudd ysgrifenedig i'r meddyg o unrhyw haeriad yn erbyn y meddyg;
(b) rhoi rhybudd i'r meddyg o'r camau y mae'r Awdurdod Iechyd yn eu hystyried ac ar ba sail;
(c) rhoi cyfle i'r meddyg roi ei achos mewn gwrandawiad llafar gerbron yr Awdurdod Iechyd ar ddiwrnod penodol, ar yr amod bod rhybudd o o leiaf 24 awr yn cael ei roi o'r gwrandawiad.
(12) Os nad yw'r meddyg yn bwriadu cael gwrandawiad llafar neu ddim yn mynychu'r gwrandawiad llafar, bydd yr Awdurdod Iechyd yn hysbysu'r meddyg o'i bendefyniad a'r rhesymau drosto (gan gynnwys unrhyw ffeithiau y dibynnwyd arnynt).
(13) Os nad oes gwrandawiad llafar yn cael ei gynnal, bydd yr Awdurdod Iechyd yn cymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a wnaed cyn y bydd yn cyraedd ei benderfyniad.
(14) Gall yr Awdurdod Iechyd atal y meddyg dros dro a hynny ar unwaith yn dilyn y gwrandawiad.
(15) Bydd yr Awdurdod Iechyd yn hysbysu'r meddyg o'i benderfyniad a'r rheswm amdano (gan gynnwys unrhyw ffeithiau y dibynnwyd arnynt).
(16) Rhaid i'r Awdurdod Iechyd hysbysu'r meddyg o unrhyw hawl i adolygiad o dan reoliad 14.
(17) Yn ystod cyfnod o atal dros dro, gall y meddyg gael ei dalu gan yr Awdurdod Iechyd yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu berson a benodwyd at y diben hynny gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Adolygiadau
14.
- (1) Gall Awdurdod Iechyd, ac os yw'n derbyn cais ysgrifenedig gan y meddyg i wneud hynny rhaid iddo, adolygu penderfyniad Awdurodd Iechyd i -
(a) osod neu amrywio amodau a roddwyd o dan reoliad 8;
(b) osod neu amrywio amodau a roddwyd o dan reoliad 12 heblaw pan gafodd yr amodau eu rhoi gan yr FHSAA;
(c) atal dros dro feddyg o dan reoliad 13 (1)(a) neu (b), heblaw pan gaiff yr atal dros dro ei roi gan yr FHSAA neu ei fod yn parhau drwy orchymyn yr FHSAA.
(2) Ni all meddyg wneud cais i gael penderfyniad Awdurod Iechyd wedi'i adolygu hyd nes y bydd y cyfnod o dri mis wedi dod i ben gan ddechrau â dyddiad penderfyniad yr Awdurod Iechyd neu, yn achos cynnwys yn amodol o dan reoliad 8, o'r dyddiad pan for' Awdurdod Iechyd yn cynnwys enw'r meddyg yn y rhestr atodol.
(3) Wedi i adolygiad gael ei gynnal, ni all y meddyg wneud cais am adolygiad pellach cyn y daw'r chwe mis o ddyddiad y penderfyniad ar yr adolygiad diwethaf i ben.
(4) Os yw Awdurdod Iechyd yn penderfynu adolygu ei benderfyniad o dan y rheoliad hwn i gynnwys yn amodol, tynnu'n amodol neu atal meddyg dros dro, bydd -
(a) yn hysbysu'r meddyg yn ysgrifenedig o unrhyw honiad yn erbyn y meddyg;
(b) yn rhoi rhybudd i'r meddyg o ba gamau y mae'r Awdurdod Iechyd yn eu hystyried ac ar ba sail;
(c) yn rhoi cyfle i'r meddyg wneud sylwadau ysgrifenedig i'r Awdurdod Iechyd o fewn 28 diwrnod i ddyddiad yr hysbysiad o dan is-baragraff (b);
(ch) yn rhoi cyfle i'r meddyg roi ei achos mewn gwrandawiad llafar gerbron yr Awdurdod Iechyd, os bydd y meddyg yn gwneud cais am hynny o fewn y cyfnod 28 diwrnod a grybwyllwyd yn is-baragraff (c).
(5) Os na cheir unrhyw sylwadau o fewn y cyfnod a nodwyd ym mharagraff (4)(c), bydd yr Awdurdod Iechyd yn hybsysu'r meddyg am ei benderfyniad, y rhesymau amdano (gan gynnwys unrhyw ffeithiau y dibynnwyd arnynt), ac unrhyw hawl i apelio o dan reoliad 15.
(6) Os oes sylwadau, rhaid i'r Awdurdod Iechyd eu cymryd i ystyriaeth cyn y bydd yn dod i'w benderfyniad.
(7) Rhaid i'r Awdurdod Iechyd hysbysu'r meddyg am ei benderfyniad, y rhesymau drosto (gan gynnwys unrhyw ffeithiau y dibynnwyd arnynt), unrhyw hawl i apelio o dan reoliad 15 a'r hawl am adolygiad pellach o dan reoliad 14.
(8) Os yw Awdurdod Iechyd yn penderfynu adolygu ei benderfyniad i osod amodau o dan reoliad 8, gall yr Awdurdod Iechyd amrywio'r amodau, osod amodau gwahanol, dynnu'r amodau neu dynnu'r meddyg oddi ar y rhestr.
(9) Os bydd Awdurdod Iechyd yn penderfynu adolygu ei benderfyniad i dynnu enw'n amodol o dan reoliad 12, gall yr Awdurdod Iechyd amrywio'r amodau, osod amodau gwahanol, neu dynnu'r meddyg oddi ar y rhestr.
(10) Os bydd Awdurdod Iechyd yn penderfynu adolygu ei benderfyniad i atal dros dro feddyg o dan reoliad 13(1)(a) neu (b), gall yr Awdurdod Iechyd benderfynu gosod amodau neu dynnu'r meddyg oddi ar ei restr.
Apeliadau
15.
- (1) Gall meddyg apelio (trwy ailbenderfyniad) i'r FHSAA yn erbyn penderfyniad gan Awdurdod Iechyd a grybwyllwyd o dan baragarff (2) drwy roi rhybudd ysgrifenedig i'r FHSAA.
(2) Penderfyniadau'r Awdurdod Iechyd sydd dan sylw yw -
(a) penderfyniad i wrthod cynnwys enw ar y rhestr atodol o dan reoliad 6(1);
(b) penderfyniad i osod amod penodol o dan reoliad 8, neu i amrywio unrhyw amod neu i osod amod arall o dan y rheoliad hwnnw;
(c) unrhyw benderfyniad ar adolygu cynnwys yn amodol o dan reoliad 8;
(ch) unrhyw benderfyniad i dynnu'r meddyg o dan reoliad 10(3), (6) neu (7);
(d) unrhyw benderfyniad i osod amod penodol o dan reoliad 12, neu i amrywio unrhyw amod neu osod amod gwahanol o dan y rheoliad hwnnw;
(dd) unrhyw benderfyniad ar adolygu cynnwys yn amodol o dan reoliad 12.
(3) Ar apêl gall yr FHSAA wneud unrhyw benderfyniad y gallai'r Awdurdod Iechyd fod wedi'i wneud.
(4) Pan mai penderfyniad yr FHSAA ar apêl yw y dylid gosod amodau ar gynnwys y meddyg ar y rhestr, p'un a ydyw'r amodau hynny wedi'u cysylltu â'r amodau a osodwyd gan yr Awdurdod Iechyd, bydd yr Awdurdod Iechyd yn gofyn i'r apelydd i'w hysbysu o fewn 28 diwrnod o'i benderfyniad (neu unrhyw gyfnod hwyach y gall yr Awdurdod Iechyd gytuno arno).
(5) Os yw'r meddyg yn hysbysu'r Awdurdod Iechyd nad yw'r meddyg yn dymuno cael ei gynnwys yn y rhestr atodol yn ddarostyngedig i'r amod neu amodau, bydd yr Awdurdod Iechyd yn cynwys y meddyg.
(6) Pan fo'r FHSAA ar apêl yn penderfynu tynnu'n amodol -
(a) gall yr Awdurdod Iechyd a'r meddyg ill dau apelio i'r FHSAA i newid yr amodau a osodwyd ar y meddyg, for different conditions to be imposed, or for the contingent removal to be revoked; a
(b) gall yr Awdurdod Iechyd dynnnu'r meddyg oddi ar y rhestr os bydd yn penderfynu bod y meddyg wedi methu â chydymffurfio ag amod.
Hysbysu
16.
- (1) Pan fo Awdurdod Iechyd yn -
(a) gwrthod cynnwys meddyg ar ei restr;
(b) yn gosod amodau ar gynnwys y meddyg o dan reoliad 8;
(c) yn tynnu'r meddyg o dan reoliad 10;
(ch) tynnu'r meddyg yn amodol o dan reoliad 12; neu
(d) yn atal dros dro y meddyg o dan reoliad 13,
bydd yn hysbysu'r personau a'r cyrff a nodwyd ym mharagraff (2), a bydd yn hysbysu'r sawl sydd a nodwyd ym mharagraff (3), os gwneir cais ganddynt am hynny, am y materion a nodwyd ym mharagraff (4).
(2) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, bydd Awdurdod Iechyd yn hysbysu -
(a) Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
(b) unrhyw Awdurdod Iechyd yng Nghymru sydd â'r meddyg, neu gorff corfforaethol y mae'r meddyg yn gyfarwyddwr ohono, ar unrhyw un o'i restrau, neu sy'n ystyried cais i'w gynnwys ar unrhyw un o'i restrau gan feddyg neu gorff corfforaethol o'r fath;
(c) Gweithrediaeth yr Alban;
(ch) yr Ysgrifennydd Gwladol;
(d) Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon;
(dd) y Cyngor Meddygol Cyffredinol neu unrhyw gorff rheoliadol arall;
(e) y pwyllgor meddygol lleol ar gyfer ei ardal;
(f) unrhyw sefydliadau eraill sydd, hyd y g yr yr Awdurdod Iechyd, yn cyflogi neu'n defnyddio gwasanaethau meddyg mewn modd proffesiynol;
(ff) mewn achos o dwyll Gwasanaeth Gwrth Dwyll y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
(3) Y personau neu gyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw personau neu gyrff sy'n gallu sefydlu eu bod yn ystyried cyflogi'r meddyg mewn cymhwyster proffesiynol.
(4) Y materion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) yw -
(a) nodi manylion y meddyg;
(b) rhif cofrestru proffesiynol;
(c) dyddiad a chopi o benderfyniad yr Awdurdod Iechyd;
(ch) enw cyswllt person yn yr Awdurdod Iechyd am ragor o fanylion.
(5) Rhaid i'r Awdurdod Iechyd anfon copi o'r wybodaeth ynghylch y meddyg at y meddyg dan sylw a ddarparwyd i'r personau neu gyrff a restrwyd ym mharagraff (2) neu (3), ac unrhyw ohebiaeth â'r person hwnnw.
(6) Pan fo'r Awdurdod Iechyd wedi hysbysu unrhyw un o'r personau neu gyrff a nodwyd ym mharagraff (2) neu (3) o'r materion a nodwyd ym mharagraff (4), gall yn ogystal, os yw'n derbyn cais gan y person neu'r corff hwnnw, hysbysu'r person neu gorff o ba dystiolaeth a ystyriwyd, gan gynnwys unrhyw sylwadau gan y meddyg.
(7) Pan fo Awdurdod Iechyd yn cael ei hysbysu gan yr FHSAA ei fod wedi gosod anghymwysiad cenedlaethol ar feddyg a oedd ar ei restr neu a wnaeth gais i gael ei gynnwys ar y rhestr, bydd yn hysbysu'r personau neu gyrff a restrwyd ym mharagraff (2)(b), (e), (f) ac (ff) a pharagraff (3).
(8) Pan fo penderfyniad yn cael ei newid yn dilyn adolygiad neu apêl, bydd yr Awdurdod Iechyd yn hysbysu'r personau neu gyrff a gafodd eu hysbysu o'r penderfyniad gwreiddiol o'r penderfyniad diweddarach.
Diwygio neu dynnu oddi ar restr
17.
- (1) Rhaid i feddyg, oni bai ei bod hi'n anymarferol i'r meddyg wneud hynny, roi hysbysiad i'r Awdurdod Iechyd o fewn 28 diwrnod o unrhyw enghraifft sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i newid yr wybodaeth a gofnodwyd am y meddyg yn y rhestr atodol ac unrhyw newid yng nghyfeiriad preifat y meddyg.
(2) Pan fo meddyg yn bwriadu tynnu ei enw oddi ar y rhestr, oni bai ei bod hi'n anymarferol i'r meddyg wneud hynny, bydd y meddyg yn hysbysu'r Awdurdod Iechyd yn ysgrifenedig o leiaf dri mis cyn y dyddiad hwnnw.
(3) Rhaid i feddyg roi rhybudd ysgrifenedig i'r Awdurdod Iechyd bod y meddyg yn bwriadu tynnu ei enw oddi ar y rhestr os yw meddyg yn cael ei dderbyn ar y rhestr feddygol neu wasanaethau, Awdurdod Iechyd, neu restr feddygol, gwasanaethau neu restr atodol Awdurdod Iechyd arall.
(4) Rhaid i'r Awdurdod Iechyd -
(a) wrth dderbyn rhybudd gan unrhyw feddyg yn unol â pharagraff (1), ddiwygio'r rhestr cyn gynted ag y bo modd;
(b) wrth dderbyn hysbysiad yn unol â pharagraff (2), ddiwygio'r rhestr felly, naill ai -
(i) ar y dyddiad sy'n disgyn 3 mis ar ôl dyddiad yr hysbysiad, neu
(ii) ar y dyddiad y mae'r Awdurdod Iechyd wedi penderfynu y bydd tynnu'r enw yn cael effaith,
p'un bynnag yw'r cynharaf;
(c) wrth dderbyn hysbysiad yn unol â pharagraff (3), dynnu enw'r meddyg ar unwaith oddi ar y rhestr.
(5) Gall meddyg dynnu hysbysiad a roddwyd yn unol â pharagraff (1) neu (2) ar unrhyw adeg hyd nes y bydd yr Awdurdod Iechyd yn tynnu enw'r meddyg oddi ar y rhestr.
(6) Ni ellir tynnu hysbysiad a roddwyd yn unol â pharagraff (3) yn ei ôl.
18.
- (1) Pan fo Awdurdod Iechyd yn ymchwilio i feddyg -
(a) at y diben o benderfynu p'un ai i arfer ei bwerau i dynnu meddyg o dan reoliad 10 neu dynnu meddyg yn amodol o dan reoliad 12 ai peidio; neu
(b) sydd wedi cael ei atal dros dro o dan reoliad 13(1)(a),
ni all y meddyg dynnu ei enw oddi ar unrhyw restr a gedwir gan unrhyw Awdurdod Iechyd y mae'r meddyg wedi'i gynnwys ynddi, heblaw pan fo Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi rhoi caniatâd i'r meddyg, hyd nes y bydd y mater wedi cael ei benderfynu'n derfynol gan yr Awdurdod Iechyd.
(2) Pan fo Awdurdod Iechyd wedi penderfynu tynnu meddyg oddi ar restr o dan reoliad 10(3) i (6) neu ei dynnu'n amodol o dan reoliad 12, ond nad ydyw hyd yma wedi rhoi effaith i'w benderfyniad, ni all y meddyg dynnu ei enw oddi ar unrhyw restr a gedwir gan unrhyw Awdurdod Iechyd, heblaw pan fo Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi rhoi caniatâd i'r meddyg.
(3) Pan fo Awdurdod Iechyd wedi atal dros dro feddyg o dan reoliad 13(1)(b), ni all y meddyg dynnu ei enw oddi ar unrhyw restr a gedwir gan unrhyw Awdurdod Iechyd y mae'r meddyg wedi'i gynnwys arni, hyd nes y bydd penderfyniad y llys neu gorff perthnasol yn wybyddus a bod y mater wedi cael ei ystyried gan yr Awdurdod Iechyd a'i fod wedi penderfynu'n derfynol arNo.
Taliadau i feddygon sydd wedi'u hatal dros dro
19.
Bydd yr Awdurdod Iechyd yn gwneud taliadau i unrhyw feddyg sy'n cael ei atal dros dro o'r rhestr atodol o dan reoliad 13 yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Anghymwyso'n genedlaethol
20.
- (1) Os bydd yr FHSAA wrth wneud penderfyniad ar anghymwyso'n genedlaethol, yn datgan ei fod o'r farn bod ymddygiad troseddol neu broffesiynol y meddyg o fath sy'n golygu nad oes gobaith realistig y bydd adolygiad pellach yn llwyddiannus pe bai'n cael ei gynnal o fewn y cyfnod a bennwyd yn adran 49N(8)(a), bydd y cyfeiriad at "dwy flynedd" yn y ddarpariaeth honno yn gyfeiriad at bum mlynedd;
(2) Os y tro diwethaf y bu i'r FHSAA adolygu anghymwysiad cenedlaethol y bu'r meddyg yn aflwyddiannus a bod yr FHSAA yn datgan ei fod o'r farn nad oes gobaith realistig y byddai adolygiad pellach yn llwyddiannus pe bai'n cael ei gynnal o fewn cyfnod o dair blynedd o'r dyddiad pan y bu iddo benderfynu ar yr adolygiad hwnnw, bydd y cyfeiriad at "un mlynedd" yn adran 49N(8)(b) yn gyfeiriad at dair blynedd;
(3) Os bydd yr FHSAA yn datgan ei fod o'r farn am fod euogfarn droseddol a ystyriwyd gan yr FHSAA wrth gyrraedd y penderfyniad sydd wedi dwyn effaith wedi cael ei ddileu neu'r gosb wedi cael ei gostwng ar apêl, bod angen cynnal adolygiad ar unwaith, ac os felly bydd cyfeiriad at "dwy flynedd" neu "un mlynedd" yn adran 49N(8) yn gyfeiriad at y cyfnod sydd eisoes wedi pasio;
(4) Os bydd yr FHSAA o'r farn oherwydd bod penderfyniad corff trwyddedu, corff rheoleiddio neu gorff arall wedi'i ddiddymu, neu'r gosb wedi'i lleihau ar apêl, bod angen cynnal adolygiad ar unwaith, bydd y cyfeiriad at "dwy flynedd" neu "un mlynedd" yn adran 49N(8) yn gyfeiriad at y cyfnod sydd eisoes wedi pasio.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[17]
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Gorffennaf 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer rhestr atodol i'w chadw gan Awdurdodau Iechyd yn unol â darpariaethau adran 43D o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 ("Deddf 1977").
Mae rheoliad 2 yn darparu rhai diffiniadau ar gyfer y Rheoliadau.
Mae rheoliad 3 yn darparu bod raid i bob Awdurdod Iechyd baratoi a chyhoeddi rhestr atodol.
Mae rheoliad 4 yn nodi sut y dylid mynd ati i wneud cais i fod ar y rhestr, ac yn ei gwneud hi'n ofynnol i ddarparu peth gwybodaeth benodol.
Mae rheoliad 5 yn darparu ar gyfer ailgynnwys meddyg ar y rhestr o dan rai amgylchiadau penodol.
Mae rheoliad 6 yn nodi'r rhesymau pan y gall, neu y mae'n rhaid i Awdurdod Iechyd wrthod cynnwys meddyg ar y rhestr, a'r meini prawf y mae'n rhaid iddynt eu parchu.
Mae rheoliad 7 yn nodi'r amgylchiadau pan y gall Awdurdod Iechyd ohirio ystyried cais i gynnwys meddyg ar y rhestr feddygol, a'r camau sydd i'w dilyn.
Mae rheoliad 8 yn caniatáu i Awdurdodau Iechyd gynnwys enw meddyg ar y rhestr yn ddarostyngedig i amodau, hyd nes fod unrhyw apêl wedi'i benderfynu.
Mae rheoliad 9 yn darparu ar gyfer ei gwneud hi'n ofynnol i feddyg hysbysu'r Awdurdod Iechyd yn ysgrifenedig o fewn 7 diwrnod os yw'r meddyg, neu gwmni y mae'r meddyg yn gyfarwyddwr ohono, yn cael unrhyw euogfarnau troseddol neu faterion eraill a nodir.
Mae rheoliad 10 yn darparu ar gyfer tynnu'n orfodol gan Awdurdod Iechyd enw unrhyw feddyg sydd wedi'i gael yn euog o lofruddiaeth neu unrhyw dramgwydd droseddol ac wedi'i ddedfrydu i gyfnod o dros 6 mis, ac ar gyfer tynnu'n ddewisol am resymau penodol.
Mae rheoliad 11 yn nodi'r meini prawf ar gyfer tynnu enwau yn ddewisol oddi ar y rhestr.
Mae rheoliad 12 yn caniatáu i Awdurdod Iechyd osod amodau ar feddyg sydd ar y rhestr, ac ar gyfer tynnu enw'r meddyg os nad yw'r meddyg yn cydymffurfio â'r amodau hynny.
Mae rheoliad 13 yn darparu ar gyfer galluogi Awdurdod Iechyd i atal dros dro feddyg oddi ar y rhestr os caiff rhai amodau penodol eu bodloni ac ar gyfer y drefn sydd i'w dilyn.
Mae rheoliad 14 yn darparu ar gyfer adolygu a'r camau sydd i'w dilyn gan Awdurdodau Iechyd pan fo'r Awdurdod Iechyd yn penderyfnu cynnwys yn amodol, tynnu'n amodol, neu atal dros dro feddyg o'r rhestr feddygol.
Mae rheoliad 15 yn darparu ar gyfer apeliadau ynghylch penderfyniadau penodol i'w clywed gan yr FHSAA.
Mae rheoliad 16 yn darparu i Awdurdod Iechyd hysbysu personau penodol am wybodaeth sydd yn gysylltiedig â phenderfyniadau i dynnu, osod amodau neu atal meddyg oddi ar y rhestr.
Mae rheoliadau 17 a 18 yn darparu ar gyfer yr amgylchiadau pan y gall meddyg dynnu ei enw oddi ar y rhestr.
Mae rheoliad 19 yn darparu ar gyfer taliadau i feddygon a atalwyd dros dro.
Mae rheoliad 20 yn diwygio'r cyfnod statudol ar gyfer adolygu a nodwyd yn adran 49N o'r Ddeddf o dan amgylchiadau penodol.
Notes:
[1]
1977 p. 49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p. 19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i), am y diffiniad o "prescribed" a "regulations". Cafodd adran 29 ei hymestyn gan Ddeddf Iechyd a Meddygyniaethau 1988 (p. 49), adran 17; a'i diwygio gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p. 53), adrannau 1 a 7 ac Atodlen 1, paragraff 42(b); gan Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983 (p. 42), Atodlen 6, paragraff 2; gan Ddeddf Feddygol 1983 (p. 54), adran 56(1) ac Atodlen 5, paragraff 16(a); gan O.S. 1985/39, erthygl 7(3); gan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17), Atodlen 1, paragraff 18; a chan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p. 46) ("Deddf 1997"), Atodlen 2, paragraff 8. Mewnosodwyd adran 43D gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p. 15) ("Deddf 2001"), adran 24. Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2); gan Ddeddf 1999, Atodlen 4, paragraff 37(6) a chan Ddeddf 2001, Atodlen 5, paragraff 5(13)(b). O safbwynt Cymru, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwaldol o dan adran 29 a 126(4) o Ddeddf 1997 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2 o, ac Atodlen 1 i, Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672; mae adran 68 o Ddeddf 2001 yn darparu y dylid dehongli Atodlen 1 fel ei bod yn cynnwys y diwygiadau a wnaed gan y Ddeddf honno i Ddeddf 1977, sef adran 43D; felly mae'r Rheoliadau hyn yn ymestyn i Gymru yn unig.back
[2]
2001 p.15.back
[3]
1983 p.54.back
[4]
1997 p.46.back
[5]
O.S. 2002/1920back
[6]
Gellir cysylltu â Gwasanaeth Gwrth Dwyll y Gwasanaeth Iechyd Gwladol drwy ysgrifennu atynt: 7th Floor, Hannibal House, Elephant and Castle, London SE1 6TE, neu gan ddefnyddio'r e-bost: DCFS@doh.gov.UK.back
[7]
Sefydlwyd yr NCAA gan O.S. 2000/2961.back
[8]
Caiff Codau Cyfundrefnol eu rhoi gan: the Department of Health Organisational Codes Service, Room 380D, Skipton House, London SE1 6LH.back
[9]
Amnewidiwyd adran 46 gan Ddeddf Iechyd 1999 p.8.back
[10]
O.S. 1997/2817, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/669.back
[11]
Mewnosodwyd adran 36A gan Ddeddf (Perfformiad Proffesiynol) 1995 p.51.back
[12]
1997 p. 51.back
[13]
1984 p.22.back
[14]
1952 p.52.back
[15]
O.S. 1992/635.back
[16]
1997 p.51.back
[17]
1998 p.38.back
English
version
ISBN
0 11 090563 6
|
Prepared
3 September 2002
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021882w.html