BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2002 Rhif 2023 (Cy.207)
TRAFNIDIAETH GYHOEDDUS I DEITHWYR, CYMRU
Gorchymyn Consesiynau Teithio (Gwasanaethau Cymwys) (Cymru) 2002
|
Wedi'i wneud |
31 Gorffennaf 2002 | |
|
Yn dod i rym |
14 Awst 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 94(4) o Ddeddf Trafnidiaeth 1985[1] ac adran 146 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000[2] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Consesiynau Teithio (Gwasanaethau Cymwys) (Cymru) 2002 ac mae'n dod i rym ar 14 Awst 2002.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Dehongli
2.
Yn y Gorchymyn hwn mae gan y termau "person oedrannus" a "person anabl" yr un ystyr ag sydd gan "elderly person" a "disabled person" yn adran 146 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000.
Gwasanaethau cymwys
3.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) o'r erthygl hon, mae gwasanaeth yn wasanaeth cymwys o dan adran 94 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 ac o dan adran 146 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 os yw'n perthyn i un o'r dosbarthau canlynol -
(a) gwasanaeth lleol sy'n cael ei ddarparu neu'i sicrhau -
(i) gan awdurdod addysg lleol yn unol â threfniadau a wnaed o dan adran 509 o Ddeddf Addysg 1996[3], neu
(ii) ar gyfer personau oedrannus neu bersonau anabl,
ac y mae'r amodau a restrir ym mharagraff (2) wedi'u bodloni mewn perthynas â hwy;
(b) gwasanaeth lleol, nad yw'n wasanaeth a ddisgrifir ym mharagraff (1)(a), ac sy'n defnyddio cerbyd a addaswyd i gario mwy nag wyth o deithwyr (neu gerbyd llai, ond dim ond os yw'r gwasanaethau yn cael eu gweithredu yn unol ag amserlen) ac y mae'r amodau a restrir ym mharagraff (3) wedi'u bodloni mewn perthynas ag ef;
(2) Yr amodau y mae paragraff (1)(a) yn cyfeirio atynt yw -
(a) bod seddau ar y cerbyd sy'n cael ei ddefnyddio i ddarparu'r gwasanaeth ar gael, fel arfer, i aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol a bod yr aelodau hynny'n defnyddio'r gwasanaeth yn rheolaidd;
(b) bod y mannau aros (ac eithrio'r mannau y mae'r gwasanaeth yn cael ei ddaparu'n bennaf iddynt neu ohonynt) wedi'u lleoli mewn mannau lle byddant yn debygol o gael eu defnyddio yn rhesymol aml gan aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol;
(c) bod yr aelodau hynny o'r cyhoedd yn gallu gwneud taith unigol rhwng unrhyw ddau fan aros trwy dalu pris tocyn nad yw'n fwriadol yn eu rhwystro rhag defnyddio'r gwasanaeth;
(ch) bod yr aelodau hynny yn gallu talu'r pris tocyn mewn man ac mewn ffordd nad yw'n fwriadol yn eu rhwystro rhag defnyddio'r gwasanaeth; a
(d) bod trefniadau wedi'u gwneud sy'n rhoi cyfle rhesymol i aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol gael gwybod am fodolaeth y gwasanaeth, yr amserau y mae ar waith, a'r mannau y mae'n eu gwasanaethu.
(3) Yr amodau y mae paragraff (1)(b) yn cyfeirio atynt yw -
(a) bod o leiaf hanner y lle ar y cerbyd sy'n cael ei ddefnyddio i ddarparu'r gwasanaeth ar gael, fel arfer, i aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol a bod y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd gan yr aelodau hynny;
(b) bod y mannau aros wedi'u lleoli mewn mannau lle byddant yn debygol o gael eu defnyddio yn rhesymol aml gan aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol;
(c) bod yr aelodau hynny yn gallu gwneud taith unigol rhwng unrhyw ddau fan aros trwy dalu pris tocyn nad yw'n fwriadol yn eu rhwystro rhag defnyddio'r gwasanaeth;
(ch) bod yr aelodau hynny yn gallu talu'r pris tocyn mewn man ac mewn ffordd nad yw'n fwriadol yn eu rhwystro'n fwriadol rhag defnyddio'r gwasanaeth;
(d) nad oes ar y cerbyd sy'n cael ei ddefnyddio i ddarparu'r gwasanaeth unrhyw arwydd na disgrifiad sydd wedi'i fwriadu neu sy'n debygol o roi'r argraff bod y gwasanaeth ond ar gael ar gyfer categori penodol o berson; ac
(dd) bod trefniadau wedi'u gwneud sy'n rhoi cyfle rhesymol i aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol gael gwybod am fodolaeth y gwasanaeth, yr amserau y mae ar waith, a'r mannau y mae'n eu gwasanaethu.
(4) Dim ond ar ôl i effaith adran 92 o Ddeddf Cyllid 1965[4] ddod i ben oherwydd dyfodiad i rym adran 154(6) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000, mewn perthynas â Chymru, y bydd y rheoliad hwn yn cael effaith.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
31 Gorffennaf 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi, mewn perthynas â Chymru, wasanaethau bysiau a fydd, pan ddaw effaith adran 92 o Ddeddf Cyllid 1992 i ben oherwydd dyfodiad i rym 154(6) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000, yn gymwys at ddibenion:
(i) y consesiynau teithio gorfodol o dan adran 145 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000; a
(ii) darpariaethau Rhan IV o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 (gwasanaethau lleol i deithwyr) sy'n ymwneud â chyfranogiad mewn cynlluniau consesiynau teithio, a threfniadau ad-dalu.
Notes:
[1]
1985 p. 67; diwygiwyd adran 94(4) gan Ddeddf Trafnidiaeth 2000, Atodlen 11, paragraff 16. Mae adran 135(2)(b) o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 yn darparu bod unrhyw b er ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol i wneud gorchymyn o dan unrhyw un o ddarpariaethau'r Ddeddf honno yn arferadwy trwy offeryn statudol. Yn rhinwedd adran 43(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (1998 p.38) mae'r cyfeiriad at yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 135 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 i'w ddehongli, at ddibenion arfer ei swyddogaethau o dan adran 94(4) gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, fel petai'n cynnwys cyfeiriad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back
[2]
2000 p. 38.back
[3]
1996 p. 56.back
[4]
1965 p. 25.back
[5]
1998 p. 38.back
English
version
ISBN
0 11 090554 7
|
Prepared
19 August 2002
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20022023w.html