BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cwmnïau) (Diwygio) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20022118w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 2118 (Cy.213)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cwmnïau) (Diwygio) (Cymru) 2002

  Wedi'i wneud 18 Gorrenaf 2002 
  Yn dod i rym 1 Medi 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 39(5) i (7) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[1] ond a freiniwyd bellach yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999[2] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol.

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cwmnïau) (Diwygio) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 1 Medi 2002.

    (2) Mae'r diwygiadau a wneir gan erthygl 2 yn effeithiol mewn perthynas ag awdurdodau lleol yng Nghymru.

Diwygio'r Gorchymyn
    
2.  - (1) Diwygir Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cwmnïau) 1995[3] yn unol â pharagraffau (2) i (4) isod.

    (2) Yn erthygl 14 (cymhwyso Rhan IV: gofyniad am sicredd gredyd)  - 

    (3) Yn erthygl 15 (cymhwyso Rhan IV: cynnydd yn y gymeradwyaeth gredyd sylfaenol), ym mharagraff (1), yn lle'r geiriau "Part IV shall apply" rhoddir y geiriau "the provisions in Part IV as to basic credit approvals shall apply.".

    (4) Ym mharagraff (1) o erthygl 16 (rhwymedigaethau cwmnïau rheoleiddiedig) - 

    (5) Ym mharagraff (5B) o erthygl 16[5], yn lle'r geiriau "paragraphs (5A) and (5B)" rhoddir y geiriau "paragraphs (5) and (5A)".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Gorfennaf 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae erthygl 14 o Orchymyn Awdurdodau Lleol (Cwmnïau) 1995 ("Gorchymyn 1995") yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod drefnu bod swm o sicredd credyd ar gael ar gyfer rhwymedigaethau cwmnïau sydd, at ddibenion Rhan IV o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 ("Deddf 1989"), yn cael eu trin fel cwmnïau a reoleiddir gan yr awdurdod. Mae erthygl 15(1) yn addasu Rhan IV drwy ganiatáu i awdurdod ymdrin â chymeradwyaeth credyd sylfaenol fel pe bai wedi'i chynyddu â'r swm y mae'r cwmnïau a reoleiddir ganddo'n lleihau eu rhwymedigaethau. Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio erthygl 14 o Orchymyn 1995 er mwyn darparu mecanwaith ychwanegol y gall awdurdod ddarparu'r sicredd credyd hwnnw drwyddo.

Mae'r diwygiadau, a nodir yn erthygl 2(2), yn caniatáu i awdurdod ddynodi swm yn ddarpariaeth sicredd credyd, ac i ymdrin â'r swm fel sicredd credyd, a hwnnw'n unrhyw swm yr ymdriniwyd ag ef fel pe bai wedi'i ychwanegu at gymeradwyaeth credyd sylfaenol yr awdurdod yn unol ag erthygl 15 o Orchymyn 1995, lle na wnaed unrhyw benderfyniad mewn perthynas â hi gan awdurdod o dan adran 56(1) o Ddeddf 1989 (defnyddio cymeradwyaethau credyd). Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn diwygio erthygl 14(2) a 15(1) o Orchymyn 1995 er mwyn ei gwneud yn glir nad yw'r erthyglau hynny yn cymhwyso'r cyfan o Ran IV i gwmnïau o'r fath.

Mae'r Gorchymyn hefyd yn gwneud diwygiadau sy'n ymwneud ag erthygl 16(1) o Orchymyn 1995. Mae'r diwygiadau'n caniatáu i awdurdod anwybyddu, o ran cwmni sy'n dod yn gwmni rheoleiddiedig mewn perthynas â'r awdurdod - 


Notes:

[1] 1989 p.42. Diwygiwyd adran 39(1) (sy'n rhagnodi'r awdurdodau y mae Rhan IV o'r Ddeddf yn gymwys iddynt) gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19), Atodlen 16, paragraff 88; gan Ddeddf yr Heddlu a Llysoedd Ynadon 1994 (p.29), adran 30 a 93 a Atodlen 9; gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25) adran 73 a 120, Atodlen 10, paragraff 31 ac Atodlen 24; gan Ddeddf yr Heddlu 1997 (p.50) adran 67; gan Ddeddf Cyfle i Gael Cyfiawnder 1999 (p.22) Atodlen 12, paragraff 4 a 5; gan Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999 (p.29) adran 111 a chan O.S. 1996/633.back

[2] Gweler O.S. 1999/672.back

[3] O.S. 1995/849, a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/621.back

[4] Mewnosodwyd is-baragraff (bb) gan O.S. 1996/621.back

[5] Mewnosodwyd paragraff (5B) gan O.S. 1996/621.back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090559 8


  Prepared 28 August 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20022118w.html