BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Diogelu Dw^r Rhag Llygredd Nitradau Amaethyddol (Diwygio) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20022297w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 2297 (Cy.226)

DŴR CYMRU

Rheoliadau Diogelu Dŵr Rhag Llygredd Nitradau Amaethyddol (Diwygio) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 5 Medi 2002 
  Yn dod i rym 11 Medi 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), sydd wedi ei ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972[2] mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â diogelu dyfroedd rhag llygredd a achosir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan yr adran honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Dwr Rhag Llygredd Nitradau Amaethyddol (Diwygio) (Cymru) 2002 ac maent yn dod i rym ar 11 Medi 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y Prif Reoliadau" yw Rheoliadau Diogelu Dwr Rhag Llygredd Nitradau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 1996[
3].

Diwygio'r Prif Reoliadau
     2. Mae'r Prif Reoliadau yn cael eu diwygio yn unol â'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Achub
    
3. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn effeithio ar unrhyw beth a wnaed o dan y Prif Reoliadau neu gan ymddiried ynddynt cyn i'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau hyn gael effaith.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]


Mike German
Dirprwy Brif Weinidog, Y Gweinidog dros Ddatblygu Gwledig a Chymru Dramor.

5 Medi 2002



ATODLEN
Rheoliad 2

The following amendments are made to the Principal Regulations:

     1. In Regulation 2 - 

     2. In regulation 3(1), delete: "and the Secretary of State for Wales" and "and Wales".

     3. Insert, after regulation 3(2): "(3) Paragraphs (1) and (2) do not apply to Wales.".

     4. Insert, after regulation 3 - 

     5. In Regulation 6(3)(a), after "regulation 3(1)", add: "or such zone as is shown coloured blue on the maps referred to in regulation 3B(1),".

     6. In Regulation 6(3)(b), after "regulation 3(2)", add: "or regulation 3B(1) or (2) (other than a zone shown coloured blue on the maps referred to in regulation 3B(1))".

     7. In Schedule 1, delete from the list of nitrate vulnerable zones: "Dyserth" and "Trelech".

     8. Add, after Schedule 1 - 



     9. In Schedule 2, substitute for "Regulation 3(1)", wherever it occurs: "regulations 3(1) and 3B(1)".



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n diwygio, mewn perthynas â Chymru, Rheoliadau Diogelu Dŵr Rhag Llygredd Nitradau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 1996 (O.S. 1996/888), ("y Prif Reoliadau"), yn gwneud darpariaeth bellach ar gyfer gweithrediad Cyfarwyddeb y Cyngor 91/676/EEC, sy'n ymwneud â diogelu dyfroedd rhag llygredd a achosir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol.

Nodwyd rhai darnau o dir yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys dau barth (parthau Dyserth a Threlech) yng Nghymru, fel parthau perygl nitradau gan Reoliad 3 o'r Prif Reoliadau ac Atodlen 1 iddynt.

Mae'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn dynodi ardaloedd ychwanegol yng Nghymru fel parthau perygl nitradau. Mae'r Rheoliad 3B ac Atodlen 1A newydd, sy'n cael eu mewnosod yn y Prif Reoliadau gan y Rheoliadau hyn, yn dynodi'r ardaloedd ychwanegol hynny fel parthau perygl nitradau, ynghyd â'r ardaloedd sydd eisioes o fewn parthau a ddynodwyd yng Nghymru. Mae'r rheoliad 3C ac Atodlen 1B newydd yn ei gwneud hi'n ofynnol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") gyhoeddi hysbysiad o ddynodiad parthau perygl nitradau newydd yn y wasg ac i adneuo copi o'r map sy'n dangos y parthau hynny gyda'r awdurdod lleol perthnasol ac hefyd i roi copi i rai cyrff sy'n cynrychioli buddiannau a allai cael eu heffeithio gan y dynodiad. Mae'r rheoliad 3B(2) newydd yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i adolygu ac, os oes angen, diwygio neu ychwanegu at yr ardaloedd a ddynodir fel parthau perygl nitradau yng Nghymru, o leiaf pob pedair blynedd.

Mae'r Rheoliad 3D newydd yn galluogi unrhyw berson sydd â buddiant mewn tir a ddynodwyd o dan y Rheoliadau diwygiedig (a hwnnw heb fod yn dir a ddynodwyd eisioes) i hawlio bod y Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud ail-asesiad gorfodol o gynhwysiad y tir hwnnw yn y parth.

Gwneir nifer o ddiwygiadau llai i'r Prif Reoliadau, mewn perthynas â Chymru.

Mae rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn yn darparu na fydd y diwygiadau a wneir i'r Prif Reoliadau yn effeithio ar unrhyw beth a wnaed o dan y Prif Reoliadau, neu gan ymddiried ynddynt, cyn i'r diwygiadau hynny gael effaith.


Notes:

[1] Gweler Erthygl 3 o Orchymyn (Dynodi) Cymunedau Ewrop (Rhif 2) 2001 ac Atodlen 2, paragraff 2, iddo (O.S. 2001/2555).back

[2] 1972 p.68.back

[3] O.S. 1996/888. Gwnaed diwygiadau gan O.S. 1997/2971 ac O.S. 1998/1202.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090568 7


  Prepared 12 September 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20022297w.html