BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20022302w.html |
[New search] [Help]
Wedi'i wneud | am 11:30a.m. ar 5Medi 2002 | ||
Yn dod i rym | 6 Medi 2002 |
Erthygl |
1. | Teitl, cymhwyso, cychwyn a darfod |
2. | Dehongli |
3. | Hysbysu yngln â daliadau lle mae defaid neu eifr yn cael eu cadw |
4. | Cofnodion defaid |
5. | Cofnodion geifr |
6. | Marciau |
7. | Dodi Marc Tarddiad |
8. | Symudiad o'r daliad geni |
9. | Symudiadau yn gyffredinol |
10. | Uchafswm y marciau |
11. | Marcio anifeiliaid o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd |
12. | Dogfennau symud |
13. | Tynnu tagiau clust a dileu tat s ac amnewid y naill a'r llall |
14. | Dodi tagiau clust a that s |
15. | Newid tagiau clust a that s |
16. | Dangos cofnodion a dogfennau |
17. | Marchnadoedd |
18. | Gorfodi |
19. | Dirymu Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 |
Yr Atodlen |
(2) Oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr erthygl sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Gorchymyn hwn ac mae unrhyw gyfeiriad mewn erthygl at baragraff neu is-baragraff â rhif neu lythyren yn gyfeiriad at y paragraff neu'r is-baragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw neu'r llythyren honno yn yr erthygl honNo.
Hysbysu yngln â daliadau lle mae defaid neu eifr yn cael eu cadw
3.
- (1) Os, ar ôl y dyddiad perthnasol, y daw person yn geidwad unrhyw ddafad neu afr ar ddaliad, rhaid iddo, o fewn un mis ar ôl iddo ddechrau cadw'r anifail hwnnw, hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig -
(2) Rhaid i'r ceidwad hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig o unrhyw newid yn y manylion a bennir ym mharagraff (1) o fewn un mis i'r newid hwnnw ddigwydd.
(3) Ar ôl cael hysbysiad o dan y rheoliad hwn rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn ddarostyngedig i baragraff (4), ddyrannu mewn perthynas â'r daliad farc diadell yn achos defaid neu farc gyr yn achos geifr.
(4) Os lladd-dy neu farchnad yw'r daliad, dim ond pan fydd yn barnu ei bod yn briodol gwneud hynny y mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddyrannu marc diadell neu farc gyr.
Cofnodion defaid
4.
- (1) Rhaid i unrhyw berson sy'n cadw defaid ar ddaliad (heblaw canolfan gynnull, marchnad, sioe, lladd-dy neu ganolfan gasglu) gofnodi, ar 31 Ionawr ym mhob blwyddyn neu cyn hynny, y nifer o ddefaid ar y daliad hwnnw ar 1 Ionawr yn y flwyddyn honNo.
(2) O fewn 36 awr o symud dafad i ddaliad neu oddi arno, rhaid i'r ceidwad gofnodi -
(ch) yn achos dafad a symudwyd i'r daliad, cyfeiriad y daliad y daeth ohono; yn achos dafad sy'n cael ei symud oddi ar y daliad, cyfeiriad y daliad y mae'n mynd iddo;
(d) yn achos dafad a symudwyd o farchnad, y rhif lot a ddyranwyd yn y farchnad;
(dd) yn achos dafad a symudwyd i sioe neu ohoni, y rhif adnabod unigol ynghyd â'r marc a ddodwyd yr un pryd â'r rhif adnabod unigol;
(e) yn achos dafad sy'n cael ei symud i ganolfan gynnull, y rhif adnabod unigol (os oes mwy nag un, y rhif adnabod unigol diweddaraf a ddodwyd arni);
(f) yn achos dafad sy'n cael ei symud i gyrchfan y tu allan i Brydain Fawr, un o'r canlynol -
(ff) yn achos hwrdd sydd wedi'i nodi, wedi'i farcio neu wedi'i dagio â rhif adnabod unigol at ddibenion erthygl 3(2)(b)(xviii), 3(3)(ch), 3(3)(e) neu 3(3)(f) o Orchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002, y rhif adnabod unigol hwnnw ynghyd â'r marc a ddodwyd yr un pryd â'r rhif hwnnw.
(3) Ni fydd paragraff (2)(c) yn gymwys yn achos dafad -
ar yr amod bod y ceidwad yn cofnodi'r marc dros dro a ddodwyd ar y ddafad.
(4) Yn achos dafad sy'n cael ei gwerthu heb gael ei symud i ddaliad neu oddi arno, rhaid i'r gwerthwr gofnodi, o fewn 36 awr o'r gwerthiant -
(5) Yn achos dafad sydd wedi'i marcio yn unol ag erthygl 11 neu sydd wedi'i hailfarcio yn unol ag erthygl 13(2)(b) neu (c), rhaid i'r ceidwad, o fewn 36 awr o farcio neu ailfarcio'r ddafad (yn ôl fel y digwydd), gofnodi'r marc diadell defaid newydd a'r un blaenorol, os yw'n hysbys.
(6) Pan fydd ceidwad yn marcio dafad â Marc X, rhaid iddo wneud y canlynol o fewn 36 awr -
(7) Rhaid i'r person sy'n gwneud cofnod o dan yr erthygl hon gadw'r cofnod am gyfnod o chwe mlynedd.
Cofnodion geifr
5.
- (1) Rhaid i unrhyw berson sy'n cadw gafr ar ddaliad (heblaw canolfan gynnull, marchnad, sioe, lladd-dy neu ganolfan gasglu) gofnodi, ar 31 Ionawr ym mhob blwyddyn neu cyn hynny, y nifer o eifr ar y daliad hwnnw ar 1 Ionawr yn y flwyddyn honNo.
(2) O fewn 36 awr o symud gafr i ddaliad neu oddi arno, rhaid i'r ceidwad gofnodi -
(ch) yn achos gafr a symudwyd i'r daliad, cyfeiriad y daliad y daeth ohono; yn achos gafr sy'n cael ei symud oddi ar y daliad, cyfeiriad y daliad y mae'n mynd iddo;
(d) yn achos gafr a symudwyd o farchnad, y rhif lot a ddyranwyd yn y farchnad;
(dd) yn achos gafr a symudwyd i sioe neu ohoni, rhif adnabod unigol yr afr ynghyd â'r marc a ddodwyd yr un pryd â'r rhif adnabod unigol;
(e) yn achos gafr sy'n cael ei symud i ganolfan gynnull, y rhif adnabod unigol (os oes mwy nag un, y rhif adnabod unigol diweddaraf a ddodwyd);
(f) yn achos gafr sy'n cael ei symud i gyrchfan y tu allan i Brydain Fawr, un o'r canlynol -
(ff) yn achos gafr sy'n cael ei symud at ddibenion erthygl 3(2)(b)(xix) neu 3(3)(d) o Orchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002, y rhif adnabod unigol hwnnw ynghyd â'r marc a ddodwyd yr un pryd â'r rhif hwnnw.
(3) Ni fydd paragraff 2(c) yn gymwys yn achos gafr -
ar yr amod bod y ceidwad yn cofnodi'r marc dros dro a ddodwyd ar yr afr.
(4) Yn achos gafr sy'n cael ei gwerthu heb gael ei symud i ddaliad neu oddi arno, rhaid i'r gwerthwr gofnodi, o fewn 36 awr o'r gwerthiant -
(5) Yn achos gafr sydd wedi'i marcio yn unol ag erthygl 11 neu wedi'i hailfarcio yn unol ag erthygl 13(2)(b) neu (c), rhaid i'r ceidwad, o fewn 36 awr o farcio neu ailfarcio'r afr (yn ôl fel y digwydd), gofnodi'r marc gyr a'r un blaenorol, os yw'n hysbys.
(6) Pan fydd ceidwad yn marcio gafr â Marc X, rhaid iddo wneud y canlynol o fewn 36 awr -
(7) Rhaid i'r person sy'n gwneud cofnod o dan yr erthygl hon gadw'r cofnod am gyfnod o chwe blynedd.
Marciau
6.
- (1) Rhaid dodi marc sy'n cael ei ddodi o dan y Gorchymyn hwn (ac eithrio marc dros dro) ar glust yr anifail ar ffurf tag clust neu dat .
(2) Rhaid i dag clust fod -
(3) Ystyr tat sy'n ddarllenadwy drwy gydol oes yr anifail.
(4) Marc F -
(a) pan fydd wedi'i farcio ar dag clust, yw'r llythrennau "UK" wedi'u dilyn gan farc diadell neu farc gyr y daliad y mewnforiwyd yr anifail iddo o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, a'r marc hwnnw wedi'i ddilyn gan y llythyren "F";
(b) pan fydd wedi'i farcio ar dat , yw marc diadell neu farc gyr y daliad hwnnw wedi'i ddilyn gan y llythyren "F".
(5) Marc Tarddiad -
(6) Marc R -
(7) Marc S yw'r llythyren "S" wedi'i dilyn gan farc diadell neu farc gyr y daliad lle'r oedd yr anifail yn cael ei gadw pan gafodd ei farcio felly;
(8) Marc X yw'r llythrennau "UK" wedi'u dilyn gan farc diadell neu farc gyr y daliad y mae'r anifail i'w symud oddi yno i gyrchfan y tu allan i Brydain Fawr, a'r marc hwnnw wedi'i ddilyn gan y llythyren "X".
(9) Rhif yw "rhif adnabod unigol" -
(10) Ni fydd rhif yn methu â bod yn "rhif adnabod unigol" os yr unig reswm am hynny yw na chafodd ei ddodi ar yr un tag clust â'r Marc Tarddiad, y Marc S, y Marc F, y Marc R neu'r Marc X -
(11) Rhaid i farc dros dro fod yn ddigon neilltuol i'w ddisgrifio yn y ddogfen sy'n ofynnol o dan erthygl 12 a rhaid iddo barhau i fod yn weladwy i'r llygad noeth nes i'r anifail gael ei gigydda neu nes iddo ddychwelyd i'r daliad yr oedd wedi'i anfon iddo er mwyn ei werthu i'w gigydda neu ddychwelyd i'r daliad o dir pori dros dro.
Dodi Marc Tarddiad
7.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i geidwad dafad neu afr a anwyd yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol neu ar ôl hynny, neu sy'n dal ar ei daliad geni ar y dyddiad hwnnw, ddodi Marc Tarddiad ar yr anifail hwnnw cyn gynted â phosibl.
(2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag anifail a oedd, cyn y dyddiad perthnasol, wedi'i farcio yn unol â rheoliad 7 neu 14 o Reoliadau 2000 neu erthygl 7(1) o Orchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 [6], fel y bo'n briodol.
Symudiad o'r daliad geni
8.
- (1) Rhaid i berson beidio a symud dafad neu afr o'i ddaliad geni os na ddodir Marc Tarddiad arni.
(2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys yn achos -
Symudiadau yn gyffredinol
9.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4) ac erthyglau 8 a 10, rhaid i berson beidio â symud dafad neu afr os nad yw wedi'i farcio ag un neu ragor o'r canlynol -
(2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys -
(e) os yw'r anifail wedi'i farcio â marc dros dro ac -
(f) os yw'r anifail yn cael ei symud at ddibenion triniaeth filfeddygol, dipio neu gneifio;
(ff) os yw'r anifail yn cael ei symud rhwng safleoedd mewn gr p meddiannaeth unigol;
(g) os yw'r anifail yn dychwelyd i'r daliad y mae'n cael ei gadw arno o dir y mae gan y person hawl i bori drosto ar y cyd â pherchenogion eraill;
(ng) os yw dafad wedi'i marcio â marc dros dro ac yn dychwelyd o dir pori dros dro i'r daliad yr oedd yn cael ei chadw arno yn union cyn cael ei symud i'r tir pori dros dro; neu
(h) os yw'r anifail yn cael ei symud o farchnad, ar yr amod bod yr anifail wedi'i farcio yn unol â gofynion y Gorchymyn hwn pan gafodd ei symud i'r farchnad honNo.
(3) Rhaid peidio â symud anifail i sioe nac ohoni oni bai ei fod wedi'i farcio â rhif adnabod unigol ynghyd â'r marc a ddodwyd arno yr un pryd â'r rhif adnabod unigol.
(4) Rhaid i berson beidio â symud anifail i ganolfan gynnull oni bai bod yr anifail wedi'i farcio yn unol ag un neu ragor o'r is-baragraffau canlynol:
(b) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag anifail sy'n cael ei symud yn unol ag is-baragraff (a).
(5)
(b) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag anifail sy'n cael ei symud yn unol ag is-baragraff (a).
Uchafswm y marciau
10.
- (1) Rhaid i berson beidio â dodi Marc S ar ddafad neu afr sydd eisoes yn dwyn tri marc yn cynnwys un neu ragor o'r marciau a ddisgrifir ym mharagraff 2.
(2) Y marciau a ddisgrifir yn y paragraff hwn yw -
Marcio anifeiliad o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd
11.
- (1) Os yw dafad neu afr yn cael ei mewnforio i ddaliad yng Nghymru o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, o fewn deg diwrnod ar hugain ar ôl iddi gyrraedd y daliad hwnnw a beth bynnag cyn iddi gael ei symud o'r daliad hwnnw, rhaid i'r ceidwad yn y daliad hwnnw ei marcio â Marc F.
(2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys i anifail a fewnforiwyd yn uniongyrchol i ladd-dy, os yw'r anifail yn cael ei gigydda yno o fewn 5 diwrnod heb iddo fod wedi'i symud o'r lladd-dy.
Dogfennau symud
12.
- (1) Rhaid i berson beidio â symud dafad na gafr oni bai bod dogfen sydd wedi'i llofnodi gan berchennog yr anifail neu ei asiant yn cyd-fynd â'r ddafad neu'r afr honno a bod y ddogfen yn pennu -
(2) Rhaid i'r ddogfen nodi hefyd
(b) unrhyw farc dros dro yn achos anifail -
(c) os yw anifail yn cael ei symud i sioe neu ohoni, y rhif adnabod unigol ynghyd â'r Marc a ddodwyd yr un pryd â'r rhif adnabod unigol; neu
(ch) os yw hwrdd neu afr yn cael ei symud at ddibenion bridio yn unol ag erthygl 3(2)(b)(xviii), 3(2)(b)(xix), 3(3)(ch), 3(3)(d), 3(3)(e) neu 3(3)(f) o Orchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002, y rhif adnabod unigol ynghyd â'r Marc a ddodwyd yr un pryd â'r rhif adnabod.
(3) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys yn achos anifail sy'n cael ei symud -
(4) Pan fydd yr anifail yn cyrraedd ei gyrchfan, rhaid i'r person sy'n symud yr anifail roi'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) uchod i'r ceidwad yn naliad y gyrchfan.
(5) Rhaid i'r ceidwad yn naliad y gyrchfan, o fewn tri diwrnod ar ôl i'r anifail gyrraedd yno, anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle mae'r daliad.
(6) Rhaid i geidwad anifail sy'n cael ei symud y tu allan i Brydain Fawr anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) at yr Awdurdod Lleol ar gyfer yr ardal lle mae'r safle y mae'r anifail yn cael ei symud ohoNo.
Tynnu tagiau clust a dileu tat s ac amnewid y naill a'r llall
13.
- (1) Ac eithrio o dan awdurdod un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol, ni chaiff neb dynnu nac amnewid tag clust na dileu nac amnewid tat sydd wedi'i ddodi ar anifail yn unol â'r Gorchymyn hwn, Rheoliadau 2000, neu Reoliadau Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002, oni bai ei fod wedi mynd yn annarllenadwy neu yn achos tag clust, wedi'i dynnu at ddibenion lles neu wedi'i golli.
(2) Pan fydd Marc Tarddiad, Marc F neu Farc R wedi mynd yn annarllenadwy, wedi'i dynnu at ddibenion lles neu wedi'i golli, rhaid i'r ceidwad -
(c) pan na ellir cyflawni'r camau yn is-baragraff (a) nac is-baragraff (b), dodi Marc R.
(3) Pan fydd Marc S wedi mynd yn annarllenadwy neu wedi'i golli, rhaid i'r ceidwad, os yw'n gwybod y manylion (a bennir yn erthygl 6(7)) a oedd ar y marc hwnnw, roi marc unfath yn ei le.
(4) Ni fydd paragraff (2) a (3) yn gymwys yn achos anifail mewn marchnad neu ladd-dy.
(5) Ni chaiff neb anfon unrhyw ddafad neu afr y tu allan i Brydain Fawr os yw wedi'i farcio â thag clust neu dat yn diweddu gyda'r llythyren "R" sy'n dangos mai tag clust neu datw yn lle un arall ydyw.
Dodi tagiau clust a that s
14.
Ac eithrio at ddibenion cydymffurfio â gofynion y Gorchymyn hwn, ni chaiff neb ddodi tag clust neu dat sy'n dwyn marc diadell neu farc gyr ar ddafad neu afr, oni bai ei fod wedi'i awdurdodi gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Newid tagiau clust a that s
15.
Ni chaiff neb newid, dileu na difwyno'r wybodaeth ar dag clust neu datw sydd wedi'i ddodi ar ddafad neu afr o dan y Gorchymyn hwn.
Dangos cofnodion a dogfennau
16.
Rhaid i unrhyw berson sydd â gofal dros unrhyw gofnod neu ddogfen y mae'n ofynnol eu cadw o dan y Gorchymyn hwn eu dangos i arolygydd os bydd yn gofyn amdanynt (neu, os ydynt yn cael eu cadw ar ffurf electronig, dangos allbrint ohonynt) a chaniatáu i gopïau gael eu gwneud ohonynt.
Marchnadoedd
17.
- (1) Rhaid i weithredwr y farchnad sicrhau bod yr holl ddefaid a geifr sy'n bresennol yn y farchnad yn cael eu rhannu mewn grwpiau o un neu ragor o anifeiliaid yn union ar ôl iddynt gyrraedd yno, a bod rhif lot yn cael ei ddyrannu i bob gr p.
(2) Ni chaiff neb brynu na gwerthu dafad na gafr mewn marchnad oni fydd yn prynu hefyd yr holl anifeiliaid eraill yn y lot y mae'r ddafad neu'r afr honno yn perthyn iddi.
(3) Rhaid i weithredwr marchnad sicrhau, cyn gynted ag y bydd dafad neu afr wedi'i gwerthu yn y farchnad, fod y ddogfen symud a ddisgrifir yn erthygl 12 yn cael ei llenwi.
(4) Ni chaiff neb symud dafad na gafr o farchnad ac eithrio i'r safle sydd wedi'i nodi yn y cofnod symud a gafodd ei lenwi yn unol â pharagraff (3) uchod.
(5) Rhaid i weithredwr y farchnad sicrhau mai ar y diwrnod y mae dafad neu afr yn cael ei symud o'r farchnad, ei fod yn anfon dogfen sydd o ran ei sylwedd ar y ffurf a nodir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, a'r ddogfen honno yn pennu'r wybodaeth a ddisgrifir yn erthygl 12(1) a (2), i'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y lleolir y farchnad.
Gorfodi
18.
Ac eithrio lle darperir yn bendant fel arall, mae darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'w gweithredu a'u gorfodi gan yr awdurdod lleol.
Dirymu Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002
19.
Dirymir Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Jane Davidson
Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes
am 2:31pm ar 4 Medi 2002
Whitty
Is-ysgrifennydd Seneddol
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
am 11:30am ar 5 Medi 2002
Man ymadael: Rhif Daliad Cyfeiriad Cod post (safle'r farchnad y mae'r defaid neu'r geifr i gael eu symud ohono). |
Cyrchfan: Rhif Daliad Cyfeiriad Cod post (y gyrchfan y mae'r defaid neu'r geifr i'w symud iddi) |
Dyddiad y symudiad | Nifer y defaid neu'r geifr sydd i'w symud | Marc adnabod yn unol ag erthygl 12(2) | Y rhif lot y gwerthwyd yr anifeiliaid odani yn y farchnad |
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.
[2] O.S. 2000/1673; y diwygiad perthnasol yw Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) (Diwygio) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/430 (Cy.52)).back
[3] O.S. 2000/2335 (Cy. 152) (a ddirymwyd bellach).back
[4] O.S. 2002/2304 (Cy.229).back
[5] O.S. 1995/539 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/3189, ac mewn perthynas â Chymru gan O.S. 2000/656, O.S. 2000/2257, O.S. 2001/1508, O.S. 2001/1740, O.S. 2001/1802, O.S. 2001/2627 ac O.S. 2002/129.back
[6] O.S. 2002/1357 (Cy.133).back
[7] OJ L355 o 5.12.92, t.0032.back