BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20022303w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 2303 (Cy.228)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002

  Wedi'i wneud am 11:30 a.m ar 5 Medi 2002 
  Yn dod i rym 6 Medi 2002 


TREFN YR ERTHYGLAU

Erthygl

RHAN I

Rhagarweiniol
1. Teitl, cymhwyso, cychwyn a darfod
2. Dehongli

RHAN II

Cofnodion ac adnabod moch

Cofnodion moch
3. Cofnodion a hysbysiadau daliadau
4. Cofnodion moch

Adnabod moch
5. Marciau adnabod
6. Tagiau clust

RHAN III

Symud moch
7. Gwahardd rhai symudiadau moch
8. Cyfyngu ar symudiadau moch o fewn 20 diwrnod o symudiad blaenorol
9. Rheoleiddio symud moch (heblaw moch anwes)
10. Rheoleiddio symud moch anwes
11. Rheoleiddio gwerthiannau moch
12. Darpariaethau ynghylch trwyddedau, a.y.y.b.

RHAN IV

Amrywiol
13. Gorfodi
14. Dirymu a.y.y.b.
15. Ffurflenni

YR ATODLENNI

  Atodlen 1 Cofnod daliad o symudiadau

  Atodlen 2 Symud moch anwes

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, gan weithredu ar y cyd wrth arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 8 a 83(2) o Ddeddf Iechyd Anifeilaid 1981[
1] yn gwneud y Gorchymyn canlynol - 



RHAN I

RHAGARWEINIOL

Teitl, cymhwyso, cychwyn a darfod
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 ac mae'n gymwys i Gymru yn unig.

    (2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Medi 2002 a bydd ei effaith yn darfod ar 1 Chwefror 2003.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall - 

    (2) Bydd yn ffordd ddigonol o gydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn sy'n ei gwneud yn ofynnol i wneud cais, dyroddi trwydded, hysbysiad, awdurdod neu awdurdodiad, adneuo dogfen neu anfon neu roi dogfen, neu sy'n caniatáu gwneud hynny, os cyflawnir hyn drwy gyfrwng gwasanaeth trosglwyddo ffacsimili.



RHAN II

COFNODION AC ADNABOD MOCH

COFNODION MOCH

Cofnodion a hysbysiadau daliadau
     3.  - (1) Rhaid i berchennog unrhyw fochyn ar ddaliad neu berson sydd â gofal drosto i hysbysu'n ysgrifenedig y Swyddog Milfeddygol Rhanbarthol ar gyfer yr ardal lle mae'r daliad o'r canlynol - 

    (2) Yn achos daliad a sefydlwyd ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, rhaid cydymffurfio â'r ddyletswydd a osodir gan baragraff (1) o fewn un mis o sefydlu'r daliad.

    (3) O fewn un mis o wneud unrhyw newid i'r manylion a hysbyswyd neu unrhyw ychwanegiad at yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1), rhaid i berchennog neu geidwad unrhyw fochyn ar ddaliad hysbysu'r Swyddog Milfeddygol Rhanbarthol yn ysgrifenedig o'r newid neu'r ychwanegiad.

    (4) Rhaid i berchennog neu geidwad mochyn ar ddaliad roi'r manylion a hysbyswyd i arolygydd os gofynnir iddo wneud hynny.

    (5) Yn yr erthygl hon ystyr "Swyddog Milfeddygol Rhanbarthol" yw'r arolygydd milfeddygol a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol i'r swydd honno ar gyfer yr ardal lle mae'r daliad.

Cofnodion moch
    
4.  - (1) Rhaid i berchennog neu geidwad mochyn ar ddaliad wneud cofnod a'i gadw - 

    (2) Yn achos unrhyw berson sy'n gwerthu unrhyw fochyn (p'un ai drwy arwerthiant neu drwy gytundeb preifat) ar safle sy'n cael ei ddefnyddio fel marchnad ar gyfer moch drwy arwerthiant, rhaid iddo wneud cofnod ysgrifenedig (yn ychwanegol at y cofnodion sy'n ofynnol o dan baragraff (1) uchod) o enw a chyfeiriad gwerthwr a phrynwr pob lot foch, a rhif y gorlan neu'r corlannau lle'r oedd pob lot yn cael ei chadw, a chadw'r cofnod hwnnw yn ei feddiant.

    (3) Rhaid i bob cofnod o dan yr erthygl hon - 

    (4) Os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd ar unrhyw adeg resymol, rhaid i unrhyw berson sydd â gofal am y tro dros unrhyw gofnod y mae'n ofynnol ei gadw o dan yr erthygl hon ddangos y cofnod hwnnw a chaniatáu i gopi gael ei wneud ohoNo.

    (5) Os yw cofnod y mae'n ofynnol ei gwneud o dan yr erthygl hon yn cael ei gwneud ar ffurf electronig neu fagnetig, mae cyfeiriadau ym mharagraff (4) - 

ADNABOD MOCH

Marciau adnabod
    
5.  - (1) Ni chaiff neb symud mochyn gyda golwg ar ei symud i le y tu allan i Brydain Fawr oni bai ei fod yn cael ei farcio, cyn i'r symudiad ddechrau, â marc adnabod (y mae'n rhaid iddo fod yn ddarllenadwy drwy gydol oes y mochyn y mae'n cael ei ddodi arno) ar ffurf tag clust neu datwcirc .

    (2) Rhaid i'r marc adnabod y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) - 

    (3) Ni fydd yn gyfreithlon symud mochyn o ddaliad (ac eithrio gyda golwg ar ei symud i le y tu allan i Brydain Fawr) oni bai ei fod yn cael ei farcio, cyn i'r symudiad ddechrau - 

    (4) Ac eithrio yn unol ag awdurdod a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol, ni fydd yn gyfreithlon i unrhyw berson - 

Tagiau clust
    
6.  - (1) Ni chaiff neb roi marc adnabod ar ffurf tag clust ynghlwm wrth fochyn oni bai bod y tag clust yn bodloni darpariaethau paragraff (2); ac yn y Gorchymyn hwn mae cyfeiriadau at dag clust yn gyfeiriadau at dag clust sy'n bodloni'r darpariaethau hynny.

    (2) Rhaid i dag clust fod wedi'i lunio yn y fath fodd - 



RHAN III

SYMUD MOCH

Gwahardd rhai symudiadau moch
    
7.  - (1) Ni chaiff neb - 

Cyfyngiad ar symud moch o fewn 20 diwrnod o symudiad blaenorol
    
8.  - (1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr erthygl hon, pryd bynnag y mae unrhyw anifail wedi'i symud i unrhyw safle, ni chaiff neb symud unrhyw fochyn o'r safle hwnnw (nac o unrhyw safle arall yn yr un grwcirc p meddiannaeth unigol) cyn y daw i ben gyfnod o 20 diwrnod o'r diwrnod y danfonwyd yr anifail y cyfeiriwyd ato gyntaf i'r safle hwnnw.

    (2) Ni fydd y cyfyngiad sydd wedi'i gynnwys ym mharagraff (1) yn gymwys yn unrhyw un o'r achosion a nodir yn erthygl 3(2) o Orchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002[
4].

    (3) Er gwaethaf y gwaharddiad ym mharagraff (1), rhaid peidio â rhoi unrhyw ystyriaeth i'r symudiadau canlynol - 

Rheoleiddio symud moch (heblaw moch anwes)
     9.  - (1) Heb ragfarnu erthyglau 7 ac 8, ni chaiff neb symud mochyn (ac eithrio mochyn sy'n cael ei gadw fel anifail anwes yn unig) na pheri iddo gael ei symud o unrhyw safle, oni bai bod dogfen sydd wedi'i llofnodi gan berchennog y mochyn neu ei asiant yn cyd-fynd â'r mochyn a bod y ddogfen honno'n nodi - 

    (2) Pan fydd y moch yn cyrraedd eu cyrchfan, rhaid i'r person sy'n symud y moch roi'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i'r ceidwad yn safle'r gyrchfan a rhaid iddo yntau ei gadw yn ei feddiant am gyfnod o 6 mis.

    (3) Rhaid i'r ceidwad yn safle'r gyrchfan, o fewn 3 diwrnod ar ôl i'r moch gyrraedd yno, anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle mae safle'r gyrchfan wedi'i leoli.

    (4) Rhaid i geidwad mochyn sy'n cael ei symud i safle y tu allan i Brydain Fawr anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i'r Awdurdod Lleol ar gyfer yr ardal lle mae'r safle y mae'r moch yn cael eu symud ohono wedi'i leoli.

Rheoleiddio symudiadau moch anwes
    
10.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff neb symud mochyn sy'n cael ei gadw fel anifail anwes yn unig, na pheri iddo gael ei symud, ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd o dan yr erthygl hon sydd ar y ffurf a nodir yn Atodlen 2.

    (2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys pan fydd y mochyn yn cael ei symud dros dro o'r safle er mwyn cael triniaeth filfeddygol frys.

    (3) Caiff trwydded o dan yr erthygl hon gael ei dyroddi gan un o arolygwyr yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle mae'r symudiad yn dechrau neu gan un o arolygwyr yr Ysgrifennydd Gwladol.

Rheoleiddio gwerthiannau moch
    
11.  - (1) Ni chaiff neb gynnal gwerthiant moch ar fferm ac eithrio yn unol â thrwydded a ddyroddwyd gan un o arolygwyr yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle mae'r fferm wedi'i lleoli.

    (2) Rhaid peidio â dyroddi trwydded o dan baragraff (1) uchod, a rhaid peidio â chynnal gwerthiant, ac eithrio - 

Darpariaethau ynghylch trwyddedau, a.y.y.b
    
12.  - (1) Bydd unrhyw drwydded a ddyroddir at ddibenion y Rhan hon yn ddilys am y cyfnod sydd wedi'i ddatgan ynddi yn unig.

    (2) Rhaid i unrhyw drwydded, hysbysiad, awdurdod, neu awdurdodiad o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig ac - 

    (3) Pan fydd y Gorchymyn hwn yn cyfeirio at ffurflen sy'n ymddangos mewn Atodlen i'r Gorchymyn hwn, rhaid cymryd bod y cyfeiriad hwnnw yn cynnwys ffurflen y mae ei heffaith yn sylweddol debyg i'r ffurflen yn yr Atodlen honNo.



RHAN IV

AMRYWIOL

Gorfodi
    
13. Rhaid i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn, ac eithrio lle darperir fel arall, gael eu gweithredu a'u gorfodi gan yr awdurdod lleol.

Dirymu a.y.y.b.
    
14.  - (1) Dirymir Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002[5].

    (2) Bydd effaith Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) 1995[6] yn darfod tra bydd y Gorchymyn hwn mewn grym.

Ffurflenni
     15. Er gwaethaf erthygl 9 o Orchymyn Anifeiliaid (Darpariaethau Amrywiol) 1927[7], caiff yr awdurdod lleol ddarparu a chyflenwi copïau printiedig o unrhyw ddogfen neu ffurflen sy'n ofynnol o dan y Gorchymyn hwn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8]


Jane Davidson
Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes

am 2:31 p.m. ar 4 Medi 2002



Llofnodwyd


Whitty
Is-ysgrifennydd Seneddol

Yr Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
am 11:30 a.m. ar 5 Medi 2002



ATODLEN 1
Erthygl 4


COFNOD DALIAD O SYMUDIADAU


Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002

Enw a chyfeiriad y person sy'n cadw'r cofnod


Dyddiad y symudiad Y Marc Adnabod Nifer y Moch Y safle y symudwyd hwy ohono Y safle y symudwyd hwy iddo
                        



ATODLEN 2
Erthygl 10


SYMUD MOCH ANWES


TRWYDDED AR GYFER SYMUD MOCH ANWES

Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002

Trwyddedir drwy hyn





(Enw a chyfeiriad y person a fydd yn symud y moch) a ddisgrifir yn y tabl isod.

Disgrifiad o'r moch sy'n cael ei symud Marciau adnabod Enw, cyfeiriad (gan gynnwys cod post) a rhif daliad y safle y mae'r moch i'w symud ohono ac i'w dychwelyd iddo
              
              
              

Rhaid peidio â symud y moch y mae'r drwydded hon yn ymwneud â hwy ond yn unol â'r llwybrau y mae'r manylion amdanynt i'w cael yn atodlenni
[mewnosodwch rifau'r atodlenni ] i'r drwydded hon.

Mae'r drwydded hon yn cael ei dyroddi yn ddarostyngedig i'r amodau a nodir drosodd.

Mae'r drwydded hon yn ddilys tan
(mewnosodwch y dyddiad  -  hyd at flwyddyn o ddyddiad ei dyroddi).

Rhaid ei dychwelyd i'r awdurdod dyroddi os nad yw wedi'i defnyddio.

Dyddiad dyroddi

Llofnod

Enw (Mewn priflythrennau)




Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.

PWYSIG: GWELER YR AMODAU AR Y TU CEFN

Yr Amodau

     1. Dim ond am y cyfnod datganedig y bydd y drwydded hon yn ddilys, ac fe gaiff yr awdurdod dyroddi ei dirymu ar unrhyw adeg.

     2. Rhaid i'r person sy'n symud moch o dan y drwydded hon gario copi ohoni drwy gydol y symudiad ac, os gofynnir iddo wneud hynny, ei dangos i gwnstabl neu arolygydd ac, os oes ar y person hwnnw eu hangen, roi ei enw a'i gyfeiriad iddo.

Nodyn i'r awdurdod dyroddi: rhaid i'r awdurdod dyroddi anfon copi o'r drwydded hon i awdurdod lleol y gyrchfan o fewn tri diwrnod o'i dyroddi.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru ac y mae ei effaith yn darfod ar 1 Chwefror 2003, yn datgymhwyso a disodli dros dro Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995 (O.S. 1995/11, fel y'i diwygiwyd) ("Gorchymyn 1995"). Mae'n cydgrynhoi (gyda diwygiadau) y newidiadau dros dro i Orchymyn 1995, a wnaed gan Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/281 (Cy.33)) ("Gorchymyn 2002").

Yn ychwanegol at y newidiadau a wnaed gan Orchymyn 2002, mae'r Gorchymyn hwn - 

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.


Notes:

[1] 1981 p.22. Gweler adran 86(1) i gael y diffiniadau o "the Ministers". Mewn perthynas â Chymru, trosglwyddwyd pwerau "the Ministers" i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac i'r graddau yr oedd y pwerau hynny yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, fe'u trosglwyddwyd i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd wedi hynny i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/ 794).back

[2] O.S. 2002/2304 (Cy.229).back

[3] O.S. 1995/539, y mae diwygiadau iddynt, nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back

[4] O.S. 2002/2304 (Cy.229).back

[5] O.S.2002/281 (Cy.33).back

[6] O.S. 1995/11.back

[7] O.S. 1927/290.back

[8] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090571 7


  Prepared 20 September 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20022303w.html