BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif2) 2002 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20022304w.html |
[New search] [Help]
Wedi'i wneud | am 11:29 a.m. ar 5 Medi 2002 | ||
Yn dod i rym | 6 Medi 2002 |
Cyfyngiadau ar symud anifeiliaid
3.
- (1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr erthygl hon, ni chaiff neb symud anifail o unrhyw safle (y cyfeirir ato yn yr erthygl hon fel y "safle tarddiad") oni bai fod y gofynion canlynol yn cael eu bodloni -
(2) Ni fydd y gofyniad a gynhwysir ym mharagraff (1)(b) o'r erthygl hon yn gymwys -
(ii) symudiad anifail yn uniongyrchol i ladd-dy, neu i ganolfan gasglu ar gyfer anifeiliaid y bwriedir eu cigydda ar unwaith, ar yr amod yn yr achos olaf -
(iii) symudiad llo sy'n llai na 30 diwrnod oed (y dyroddwyd pasbort gwartheg ar ei gyfer ac y mae tagiau clustiau wedi'u dodi arno yn unol ag erthygl 3(3) o'r Rheoliadau Adnabod Gwartheg) o safle tarddiad a'r safle hwnnw oedd naill ai'r safle lle cafodd y llo ei eni neu safle arall yn yr un gr p meddiannaeth unigol, ac eithrio na fydd yr esemptiad hwn yn gymwys -
(iv) symudiad oen neu fyn sy'n llai na 7 diwrnod oed o safle tarddiad a'r safle hwnnw yw naill ai'r safle lle cafodd ei eni neu safle arall yn yr un gr p meddiannaeth unigol i unrhyw safle arall nad yw'n bellach na 10 cilometr ar hyd y ffordd o'r safle tarddiad os maethu'r oen neu'r myn hwnnw yw diben y symudiad hwnnw;
(v) dychweliad dafad o dir tac i'r safle y cafodd ei symud ohono yn wreiddiol neu i safle arall yn yr un gr p meddiannaeth unigol ar yr amod bod y tir tac wedi'i reoli ar wahân i weddill unrhyw safle yr oedd yn rhan ohono ar bob adeg yn ystod y cyfnod yr oedd y ddafad yno a bod gan y tir tac hwnnw rif daliad ar wahân;
(vi) symudiad anifail rhwng safle mewn gr p meddiannaeth unigol yn unol ag awdurdod a ddyroddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol;
(vii) symudiad anifail i sioe neu arddangosfa o sioe neu arddangosfa arall;
(viii) symudiad anifail i sioe neu arddangosfa, heblaw o ddigwyddiad arall o'r fath neu o dan yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (x), ar yr amod ei fod wedi'i ynysu am yr 20 diwrnod cyn dyddiad y symud o bob anifail arall ar y safle tarddiad ac unrhyw safle arall yn yr un gr p meddiannaeth unigol a'i fod wedi'i nodi, wedi'i farcio neu wedi'i dagio -
(ix) symudiad anifail i sioe neu arddangosfa, o safle y mae wedi'i symud iddo o sioe neu arddangosfa arall, ar yr amod nad oes unrhyw anifail arall wedi'i symud i'r safle hwnnw (neu safle arall yn yr un gr p meddiannaeth unigol) yn ystod y cyfnod o 20 diwrnod cyn y diwrnod y mae'r anifail a grybwyllwyd gyntaf i fod i gael ei symud;
(x) symudiad anifail o sioe neu arddangosfa i unrhyw le heblaw sioe neu arddangosfa arall ar yr amod mai yn ystod yr 20 diwrnod ar ôl y symudiad o'r sioe neu'r arddangosfa -
(xi) symudiad gwartheg o safle tarddiad o dan amgylchiadau -
(xii) symudiad anifail i'w allforio'n uniongyrchol neu i ganolfan gasglu neu ganolfan gynnull a gymeradwywyd o dan reoliad 12(2) o Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) 2000[11] cyn yr allforio hwnnw;
(xiii) symudiad anifail sydd wedi'i fewnforio i'r Deyrnas Unedig yn uniongyrchol i unrhyw safle o'i bwynt mynediad i'r Deyrnas Unedig; neu
(xiv) symudiad anifail rhwng tir y mae gan berchennog neu geidwad yr anifail hawl gofrestredig i gomin drosto ac
(xv) symudiad anifail rhwng safle ym meddiannaeth perchennog neu geidwad yr anifail ac y mae hawl gofrestredig i gomin dros dir yn cael ei harfer fel rheol mewn perthynas ag ef a safle ym meddiannaeth unrhyw berson arall a chanddo hawl gofrestredig i gomin dros y tir hwnnw ac y mae hawl gofrestredig i gomin y person arall hwnnw yn cael ei harfer fel rheol mewn perthynas ag ef;
(xvi) symudiad moch, gwartheg, neu ddefaid i ganolfan ffrwythloni artiffisial, ar yr amod, yn achos defaid, eu bod wedi'u hynysu yn ystod yr 20 diwrnod cyn y symudiad o bob anifail arall ar y safle tarddiad ac unrhyw safle sy'n gysylltiedig â hwy mewn gr p meddiannaeth unigol;
(xvii) symudiad moch, defaid, geifr, gwartheg neu geirw i le ar gyfer triniaeth filfeddygol ar yr amod (ac eithrio yn achos moch) y bydd yr anifeiliaid yn cael eu hynysu oddi wrth bob anifail arall yno tra bydd y driniaeth yn cael ei chyflawni;
(xviii) symudiad tarw neu hwrdd neu garw o'r naill ryw neu'r llall, ac eithrio o farchnad, at ddibenion bridio, ar yr amod ei fod yn cael ei nodi, ei farcio neu ei dagio -
ac, yn achos hwrdd, ei fod wedi'i ynysu am yr 20 diwrnod cyn y symudiad oddi wrth bob anifail arall ar y safle tarddiad ac unrhyw safle arall sy'n gysylltiedig â hwy mewn gr p meddiannaeth unigol ac ar yr amod pellach bod y perchennog neu'r ceidwad, yn union wedi i'r tarw, y carw neu'r hwrdd gyrraedd y safle y mae'n cael ei symud iddo, yn llofnodi datganiad ei fod am gael ei ddefnyddio at ddibenion bridio;
(xix) symudiad gafr o'r naill ryw neu'r llall, ac eithrio o farchnad, at ddibenion bridio os yw'r afr wedi'i dynodi â rhif adnabod unigol ar yr amod -
ac ar yr amod pellach bod datganiad yn cael ei lofnodi gan ei pherchennog neu ei cheidwad yn union ar ôl iddi gyrraedd y safle y mae'n cael ei symud iddo at ddibenion bridio;
(xx) symudiad defaid sy'n dychwelyd o safle y cawsant eu symud iddo ond er mwyn cymryd rhan mewn treial c n defaid yno; neu
(xxi) symudiad anifail sy'n cael ei symud i labordy er mwyn cynnal profion diagnostig i ddarganfod a oes clefyd wedi effeithio ar yr anifail neu a yw wedi bod yn agored i glefyd; neu
(c) os oes caniatâd yn datgymhwyso'r cyfnod segur wedi'i ddyroddi gan arolygydd milfeddygol mewn perthynas â'r symudiad.
(3) At ddibenion paragraff (1)(b) uchod rhaid peidio â rhoi unrhyw ystyriaeth i symudiad y canlynol i'r safle tarddiad neu safle arall yn yr un grwp meddiannaeth -
(b) anifail sy'n cael ei symud i'r safle hwnnw yn uniongyrchol o arddangosfa neu sioe ar yr amod -
(c) tarw neu garw o'r naill ryw neu'r llall, ar yr amod nad yw wedi dod o farchnad, ei fod wedi'i nodi, wedi'i farcio neu wedi'i dagio -
ac ar yr amod pellach bod y perchennog neu'r ceidwad, yn union wedi iddo gyrraedd, yn llofnodi datganiad ei fod wedi ei symud at ddibenion bridio;
(ch) hwrdd at ddibenion bridio a hwnnw'n un sydd heb ddod o farchnad ar yr amod -
(d) gafr o'r naill ryw neu'r llall at ddibenion bridio nad yw wedi dod o farchnad, ac sydd wedi'i dynodi â marc adnabod unigol ar yr amod -
ac ar yr amod pellach bod ei pherchennog neu ei cheidwad wedi llofnodi datganiad yn union ar ôl iddi gyrraedd y safle hwnnw fod yr afr wedi'i symud felly at ddibenion bridio;
(dd) bod gafr o'r naill ryw neu'r llall sy'n cael ei dychwelyd i'r safle hwnnw o le yr oedd wedi'i symud iddo at ddibenion bridio ar yr amod ei bod yn cael ei hynysu oddi wrth bob anifail arall sydd yno am 20 diwrnod ar ôl dyddiad ei dychwelyd oni bai ei bod yn cael ei hanfon yn ôl i'r lle hwnnw ar gyfer ymgais pellach i fridio a'r afr honno wedi cael ei hynysu felly ers dyddiad ei dychwelyd;
(e) unrhyw ddefaid neu wartheg y bwriedir eu defnyddio at ddibenion bridio sydd i'w cyflawni cyn 1 Chwefror 2003 neu cyn i un mis o ddyddiad y symudiad ddod i ben, p'un bynnag yw'r diweddaraf ar yr amod -
(ii) mai yn ystod yr holl gyfnod y mae'r defaid neu'r gwartheg yn cael eu cadw yn y cyfleuster ynysu ar gyfer bridio yn unol ag is-baragraff (i) y bydd yr holl ofynion a bennir ym mharagraff (9) yn cael eu bodloni neu eu dilyn ar bob adeg sy'n gymwys;
(iii) bod y defaid a'r gwartheg yn cael eu dynodi -
(iv) bod datganiad yn cael ei lofnodi gan neu ar ran eu perchennog neu eu ceidwad yn union ar ôl iddynt gyrraedd a'r datganiad hwnnw'n dweud eu bod i gael eu cadw at ddibenion bridio yn unig yn ystod y cyfnod cyn 1 Chwefror 2003 neu cyn i un mis o ddyddiad y symudiad ddod i ben, p'un bynnag yw'r cynharaf;
(v) bod unrhyw anifeiliaid eraill -
yn cael eu cadw hefyd yn y cyfleuster ynysu ar gyfer bridio tan y daw 20 diwrnod o'r dyddiad y cyrhaeddodd y defaid neu'r gwartheg i ben, ni waeth a fyddai unrhyw gyfnod arall pryd y byddai'n ofynnol cadw'r anifeiliaid eraill hynny yn y cyfleuster hwnnw yn dod i ben yn ystod yr 20 diwrnod hwnnw;
(vi) bod y gwartheg neu'r defaid, ynghyd ag unrhyw anifeiliaid eraill y cyfeirir atynt ym mharagraff (v)(aa), yn cael eu harolygu ac, os bydd angen, eu harchwilio i weld a oes unrhyw arwyddion clefyd arnynt gan filfeddyg cymwysedig yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y pedwerydd diwrnod ar ddeg ar ôl diwrnod eu cyrhaeddiad ac yn diweddu ar yr ugeinfed diwrnod wedi hynny;
(vii) bod y milfeddyg cymwysedig sydd wedi cyflawni'r arolygiad a'r archwiliad y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (vi) yn llofnodi datganiad yn cadarnhau ei fod wedi cyflawni'r arolygiad a'r archwiliad hwnnw;
(viii) nad oes unrhyw hysbysiad wedi'i ddyroddi o dan baragraff (10) mewn perthynas â chyfleuster sydd wedi'i fwriadu i gael ei ddefnyddio fel cyfleuster ynysu ar gyfer bridio yn y safle hwnnw ar wahân i unrhyw hysbysiad o'r fath sydd wedi'i ddirymu o dan baragraff (11);
(f) hwrdd neu darw sydd wedi'i ddychwelyd heb ei werthu o farchnad yr oedd wedi'i anfon iddi i gael ei werthu at ddibenion bridio ar yr amod -
(ii) mai yn ystod yr holl gyfnod y mae'r hwrdd neu'r tarw yn cael ei gadw yn y cyfleuster ynysu ar gyfer bridio yn unol ag is-baragraff (i) y bydd yr holl ofynion a bennir ym mharagraff (9) yn cael eu bodloni neu eu dilyn ar bob adeg sy'n gymwys;
(iii) bod yr hwrdd neu'r tarw yn cael ei ddynodi -
(iv) bod rhaid i unrhyw anifail arall -
aros hefyd yn y cyfleuster hwnnw tan y daw yr 20 diwrnod o ddyddiad dychwelyd yr hwrdd neu'r tarw i ben, ni waeth a fyddai unrhyw gyfnod arall pryd y byddai'n ofynnol cadw'r anifail arall hwnnw yno yn dod i ben yn ystod yr 20 diwrnod hwnnw;
(v) bod yr hwrdd neu'r tarw ynghyd ag unrhyw anifail arall y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (iv)(aa) yn cael ei arolygu ac, os bydd angen, yn cael ei archwilio i weld a oes unrhyw arwyddion clefyd arnynt gan filfeddyg cymwysedig yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y pedwerydd diwrnod ar ddeg ar ôl diwrnod ei gyrhaeddiad ac sy'n diweddu ar yr ugeinfed diwrnod wedi hynny;
(vi) bod y milfeddyg cymwysedig sydd wedi cyflawni'r arolygiad a'r archwiliad y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (v) yn llofnodi datganiad sy'n cadarnhau ei fod wedi cyflawni'r arolygiad a'r archwiliad hwnnw; a
(vii) nad oes unrhyw hysbysiad wedi'i ddyroddi o dan baragraff (10) mewn perthynas â chyfleuster y bwriadwyd ei ddefnyddio fel cyfleuster ynysu ar gyfer bridio ar y safle hwnnw ar wahân i unrhyw hysbysiad o'r fath sydd wedi'i ddirymu o dan baragraff (11);
(ff) dafad sy'n cael ei dychwelyd i'r safle hwnnw o dir tac ar yr amod bod y tir tac wedi'i reoli ar wahân i unrhyw safle yr oedd yn rhan ohono yn ystod y cyfnod yr oedd y ddafad yno a bod gan y tir tac hwnnw rif daliad gwahanol i weddill y safle hwnnw;
(g) llo sy'n llai na 30 diwrnod oed o'r safle lle cafodd ei eni neu safle arall yn yr un gr p meddiannaeth unigol, ar yr amod bod y safle tarddiad wedi'i awdurdodi i'w ddefnyddio fel uned magu lloi arbenigol drwy hysbysiad a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol;
(ng) anifail naill ai -
(h) anifail y daethpwyd ag ef i'r safle hwnnw mewn cerbyd ar yr amod -
(i) oen llai na 7 diwrnod oed o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (2)(b)(iv);
(j) gwartheg sy'n cael eu dychwelyd i'r safle hwnnw o ganolfan ffrwythloni artiffisial;
(l) defaid sy'n cael eu dychwelyd i'r safle hwnnw o ganolfan ffrwythloni artiffisial ar yr amod eu bod wedi bod yn y ganolfan honno am yr 20 diwrnod blaenorol;
(ll) defaid, geifr, gwartheg neu geirw sy'n cael eu dychwelyd i'r safle hwnnw o le ar gyfer triniaeth filfeddygol na symudiad unrhyw epil y maent wedi esgor arnynt tra'r oeddent yno ar yr amod bod yr anifeiliaid hynny a'r epil hynny wedi'u hynysu oddi wrth bob anifail arall tra'r oeddent yn y fan honno; neu
(m) anifail a symudwyd i'r safle hwnnw er mwyn cynnal profion diagnostig i ddarganfod a yw clefyd wedi effeithio ar yr anifail neu a yw wedi bod yn agored i glefyd.
(4) Ni fydd y gofyniad a nodir ym mharagraff (1) uchod yn gymwys yn achos unrhyw symudiad a awdurdodwyd o dan drwydded a ddyroddwyd o dan erthygl 12 o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995.
(5) Ni fydd y gofynion a nodir ym mharagraff (1)(a) uchod yn gymwys mewn unrhyw achos y mae trwydded wedi'i dyroddi neu wedi'i rhoi mewn perthynas ag ef ar ôl dyfodiad i rym y Gorchymyn hwn o dan Orchymyn Clwy'r Traed a'r Genau 1983 i awdurdodi symud anifail i unrhyw safle neu ohoNo.
(6) Ni fydd y gofynion a nodir ym mharagraff (1) yn gymwys i symudiad unrhyw anifail i unrhyw s au 1981[12] nac ohoNo.
(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8) ac eithrio yn yr achosion y cyfeirir atynt ym mharagraffau 2(b)(xvii) ac is-baragraffau (3)(e), (j) ac (ll), os yw'n ofynnol i unrhyw anifail, heblaw mochyn, gael ei ynysu at unrhyw ddiben o dan yr erthygl hon, mae hyn yn golygu wedi'i ynysu mewn cyfleusterau ynysu sydd wedi'u cymeradwyo drwy hysbysiad gan arolygydd milfeddygol.
(8) Ni chaniateir defnyddio unrhyw gyfleusterau ynysu a ddefnyddiwyd at ddibenion is-baragraffau (3)(e) ac (f) yr un pryd er mwyn ynysu anifeiliaid at unrhyw ddiben arall o dan y Gorchymyn hwn.
(9) At ddibenion paragraffau (9) a (10) ac is-bargraffau (3)(e) ac (f), mae cyfleuster ynysu yn bodloni gofynion y paragraff hwn i fod yn "gyfleuster ynysu ar gyfer bridio" ar yr amod -
(ii) i archwilio cofnodion symud neu adnabod neu'r datganiadau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (3)(e)(vii) a (3)(f)(vi) ar gyfer unrhyw rai o'r anifeiliaid sydd wedi'u cynnwys yn y cyfleuster,
a bod popeth angenrheidiol wed'i wneud i gydweithredu â'r arolygydd wrth iddo gyflawni'r camau hynny.
(10) Os yw arolygydd milfeddygol o'r farn nad yw cyfleuster sydd wedi'i fwriadu i'w ddefnyddio fel cyfleuster ynysu ar gyfer bridio yn bodloni gofynion Rhan I o'r Atodlen, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i feddiannydd y safle lle mae'r cyfleuster ac i berchenogion neu geidwaid yr holl anifeiliaid ar y safle hwnnw a hwnnw'n hysbysiad sy'n pennu ym mha ffyrdd nad yw'r gofynion hynny yn cael eu bodloni a'r camau, os oes rhai, y dylid eu cymryd er mwyn eu bodloni.
(11) Caiff hysbysiad a ddyroddir o dan baragraff (10) gael ei amrywio neu ei ddirymu ar unrhyw bryd drwy hysbysiad ysgrifenedig pellach a ddyroddir gan arolygydd milfeddygol neu swyddog arall i'r Ysgrifennydd Gwladol neu'r Cynulliad Cenedlaethol a'i gyflwyno i'r personau y cyflwynwyd yr hysbysiad cyntaf iddynt.
(12) Pan fydd trwydded wedi ei dyroddi neu ei rhoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol, arolygydd neu Weinidogion yr Alban o dan orchymyn a wnaed o dan adran 8 o'r Ddeddf i awdurdodi symud unrhyw anifail o safle sydd wedi'i leoli yn Lloegr neu yn yr Alban i safle sydd wedi'i leoli yng Nghymru neu i safle sydd wedi'i leoli yn yr Alban neu Loegr drwy unrhyw ran o Gymru, bydd unrhyw ddarpariaethau yn y drwydded honno sy'n berthnasol yn gymwys mewn perthynas â'r rhan honno o'r symudiad sy'n digwydd yng Nghymru fel petai'r drwydded honno yn drwydded a ddyroddwyd o dan baragraff (1)(a) a bydd darpariaethau'r Gorchymyn hwn yn gymwys yn unol â hynny.
(13) Pan fydd trwydded o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff (12) uchod yn awdurdodi symudiadau o unrhyw fath rhwng safleoedd o dan yr un rheolaeth, yna, heb ragfarnu darpariaethau'r paragraff hwnnw, bydd yn effeithiol fel petai hefyd yn awdurdod a ddyroddwyd er mwyn gwneud y safle yn gr p meddiannaeth unigol o dan y Gorchymyn hwn a bydd darpariaethau'r Gorchymyn hwn yn gymwys felly mewn perthynas â hi.
Cyfyngiadau ar symudiadau i ladd-dai
4.
Ni chaiff neb -
Hela
5.
- (1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr erthygl hon, ni chaiff neb gymryd rhan mewn hela.
(2) Ni fydd dim ym mharagraff (1) yn ei gwneud yn anghyfreithlon -
(3) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys i unrhyw berson sy'n cymryd rhan mewn hela o dan awdurdod caniatâd a ddyroddir ar ôl dyfodiad i rym y Gorchymyn hwn o dan erthygl 36(2)(d) o Orchymyn Clwy'r Traed a'r Genau 1983 ac yn unol ag amodau'r caniatâd hwnnw ond os bydd caniatâd o'r fath yn peidio â bod yn ddilys am fod gorchymyn ardal a reolir wedi'i ddirymu, bydd ei effaith yn parhau yn lle hynny fel petai'n ganiatâd a ddyroddwyd o dan baragraff (2)(b).
(4) Wrth benderfynu a ddylid dyroddi caniatâd o dan baragraff (2)(b) rhaid i arolygydd milfeddygol gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a allai fod wedi'u dyroddi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â dyroddi caniatadau o'r fath.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), os yw caniatâd wedi'i ddyroddi o dan baragraff (2)(b) fel caniatâd cyffredinol caiff arolygydd milfeddygol wahardd drwy hysbysiad unrhyw berson rhag cymryd rhan mewn hela neu rhag trefnu hela o dan awdurdod y caniatâd hwnnw.
(6) Dim ond os yw o'r farn -
Trwyddedau, awdurdodau, caniatadau a hysbysiadau
6.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), rhaid i unrhyw drwydded, awdurdod, caniatâd neu hysbysiad a ddyroddir neu a gyflwynir o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig, cânt fod yn gyffredinol neu'n benodol, rhaid iddynt fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a bennir ynddynt a chaniateir eu hamrywio, eu hatal dros dro neu eu dirymu ar unrhyw adeg drwy hysbysiad ysgrifenedig a ddyroddir -
(2) Rhaid i hysbysiad a ddyroddir o dan baragraff (1) uchod -
(3) Wrth benderfynu a ddylid dyroddi trwydded o dan erthygl 3(1)(a), hysbysiad o dan erthygl 3(2)(b)(xi), 3(7) neu 3(10) neu ganiatâd o dan erthygl 3(2)(c) neu 5(2)(b), rhaid i arolygydd, neu yn ôl fel y digwydd, arolygydd milfeddygol, gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a all fod wedi'u dyroddi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas ag unrhyw drwyddedau, hysbysiadau neu ganiatadau o'r fath.
(4) Caiff trwydded a ddyroddir o dan erthygl 3(1)(a), awdurdod a ddyroddir er mwyn gwneud dau neu ragor o safleoedd yn grp meddiannaeth unigol o dan erthygl 3(2)(b)(vi), neu ganiatâd a ddyroddir o dan erthygl 3(2)(c) bennu gofynion ar gyfer glanhau a diheintio unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer symud anifeiliaid yn ychwanegol at y gofynion mewn perthynas â hynny a nodir yng Ngorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) 2001[13] a rhaid i'r person sy'n gyfrifol am symud yr anifeiliaid sicrhau, ac eithrio lle bo'r drwydded, yr awdurdod neu'r caniatâd yn darparu fel arall, fod pob gofyniad o'r fath yn cael ei fodloni cyn gynted â phosibl ar ôl i'r anifeiliaid gael eu dadlwytho a, beth bynnag, cyn bod y cerbyd yn cael ei symud o'r safle y mae'r anifeiliad wedi'u symud iddo.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), os yw trwydded gyffredinol wedi'i dyroddi o dan erthygl 3(1)(a) uchod, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol ddyroddi hysbysiad yn gwahardd -
(6) Ni chaniateir dyroddi unrhyw hysbysiad o dan bargraffau (5) ac eithrio yn unol â chyngor arolygydd sydd o'r farn -
(7) Rhaid cyflwyno hysbysiad a ddyroddir o dan baragraff (5)(a) i feddianwyr pob un o'r safleoedd a bennir yn yr hysbysiad a rhaid cyflwyno hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (5)(b) i'r person sy'n cael ei wahardd rhag symud anifeiliaid odano ac i feddianwyr unrhyw safle sydd wedi'i enwi'n unigol ar yr hysbysiad.
(8) Nid yw paragraff (1) uchod yn gymwys yn achos hysbysiad a roddir o dan erthygl 3(10).
Newid meddiannaeth safle y mae darpariaethau'r Gorchymyn hwn yn effeithio arno
7.
- (1) Ar derfyniad ei hawl feddiannu ar unrhyw safle, os nad yw perchennog unrhyw anifail ar y safle hwnnw yn gallu ei symud oddi yno oherwydd unrhyw gyfyngiad a osodir gan neu o dan ddarpariaethau blaenorol y Gorchymyn hwn, rhaid i'r person sydd â hawl feddiannu ar y safle hwnnw wneud y canlynol pan derfynir yr hawl honno -
(2) Bydd darpariaethau paragraff (1) uchod yn parhau i fod yn gymwys tan y bydd y cyfnod o 7 diwrnod o'r dyddiad y mae unrhyw gyfyngiad ar symud yr anifail oddi ar y safle yn peidio â bod yn gymwys yn dod i ben a bydd perchennog yr anifail yn agored i dalu i'r person sy'n rhoi unrhyw gyfleusterau neu sy'n bwydo'r anifail hwnnw, yn gofalu amdano neu fel arall yn ei gadw, yn unol â'r darpariaethau hynny, unrhyw symiau o ran tâl ac ad-daliad am dreuliau sy'n gyfiawn ac yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau.
Darpariaethau cyffredinol ynghylch trwyddedau
8.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i bob anifail sy'n cael ei symud o dan awdurdod trwydded a roddir o dan y Gorchymyn hwn -
(2) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am unrhyw anifail y mae trwydded a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn yn ymwneud ag ef, os mynnir iddo wneud hynny gan gwnstabl neu arolygydd neu swyddog arall i Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol neu awdurdod lleol, ddangos y drwydded a chaniatáu i gopi neu ddarn ohoni gael ei gymryd, a rhaid iddo hefyd, os gofynnir iddo wneud hynny, roi ei enw a'i gyfeiriad.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) a darpariaethau unrhyw drwydded a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn, sef darpariaethau sy'n gosod gofyniad croes ar y person sy'n symud yr anifeiliaid, rhaid i feddiannydd y safle y symudwyd yr anifeiliaid iddo o dan y drwydded honno -
(4) Ni fydd darpariaethau paragraffau (1)(b) ac (c), (2) (i'r graddau y mae'n ymwneud â dangos a chopïo trwydded) a (3)(a) i (c) yn gymwys mewn unrhyw achos pan fydd anifeiliaid yn cael eu symud o dan drwydded gyffredinol.
(5) Pan fydd arolygydd awdurdod lleol yn dyroddi trwydded o dan erthygl 3(1)(a), rhaid iddo gadw copi o'r drwydded am chwe mis.
Pwerau swyddogion Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol ac arolygwyr awdurdodau lleol os bydd methiant
9.
- (1) Os bydd unrhyw berson y mae trwydded, awdurdod, caniatâd neu hysbysiad a ddyroddir neu a gyflwynir o dan y Gorchymyn hwn yn methu â chydymffurfio â gofynion y drwydded, yr awdurdod, y caniatâd neu'r hysbysiad, caiff swyddog i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu arolygydd awdurdod lleol, heb ragfarnu unrhyw achos am dramgwydd sy'n codi o'r methiant hwnnw, gymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau y cydymffurfir â gofynion y drwydded, yr awdurdod, y caniatâd neu'r hysbysiad ac os methir â chydymffurfio â'r gofynion hynny bydd y swyddog neu'r arolygydd yn peri i'r gofynion hynny gael eu cyflawni.
(2) Bydd swm unrhyw dreuliau y mae swyddog i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu arolygydd awdurdod lleol yn mynd yn rhesymol iddynt wrth arfer unrhyw b er a roddwyd iddynt gan baragraff (1) uchod yn adferadwy fel dyled sifil pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu'r awdurdod lleol, yn ôl fel y digwydd, yn gofyn am y swm hwnnw oddi wrth y person sy'n methu â chydymffurfio.
Tramgwyddau
10.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd yn dramgwydd o dan y Ddeddf i unrhyw berson sydd, heb awdurdod neu esgus cyfreithiol, a hwnnw'n awdurdod neu'n esgus y bydd rhaid iddo ei brofi -
(2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys i hysbysiad a roddir o dan erthygl 3(10).
Yr Awdurdod Lleol i orfodi'r Gorchymyn
11.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn gael eu gweithredu a'u gorfodi gan yr awdurdod lleol.
(2) Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol, neu mewn perthynas ag achos penodol, naill ai bod rhaid i'r Gorchymyn hwn gael ei weithredu a'i orfodi ganddo ef ac nid gan yr awdurdod lleol neu fod rhaid i'r Gorchymyn hwn gael ei weithredu a'i orfodi ar y cyd ganddo ef a chan yr awdurdod lleol.
Dirymu Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002
12.
Mae Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 yn cael ei ddirymu[14].
Diwygio Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002
13.
Yn erthygl 1, paragraff (2) o Orchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002[15] yn lle'r geiriau "1 Rhagfyr 2002" rhoddir y geiriau "1 Chwefror 2003".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[16]
Jane Davidson
Y Gweinidog Dros Addysg a Dysgu Gydol Oes
am 2:30pm ar 4 Medi 2002
Whitty
Is-ysgrifennydd Gwladol,
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
am 11:29 am ar 5 Medi 2002
(c) man pori ar wahân wedi'i amgylchynu â ffens gwrth-stoc ddiogel (y caniateir iddi gynnwys ffens drydan) neu atalfa arall y mae o leiaf 50 metr o bellter rhyngddi ac unrhyw fan pori neu adeilad arall lle mae anifeiliaid yn cael eu pori neu eu cadw ynghyd â chodi ffensys gwrth-stoc diogel pellach neu atalfeydd eraill mewn mannau eraill ar y safle os yw hynny'n angenrheidiol i atal yr anifeiliaid eraill hynny rhag dod o fewn 50 metr i'r cyfleuster ynysu.
3.
Pan fydd adeiladwaith dros dro sydd wedi'i ffurfio o fêls gwellt yn cael ei ddefnyddio i wahanu â phared ran o adeilad sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cyfleuster ynysu oddi wrth unrhyw ran arall o'r adeilad nad yw'n cael ei ddefnyddio felly, rhaid i'r pared fod yn un metr o drwch o leiaf.
4.
Pan fydd adeilad neu ran o adeilad yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y cyfleuster ynysu, ni chaniateir i unrhyw anifail nad yw'n cael ei gadw yn y cyfleuster ddod o fewn pum metr i unrhyw ddrws neu fynedfa arall i'r cyfleuster ar unrhyw adeg.
5.
Rhaid i bob drws sy'n fynedfa i unrhyw adeilad neu ran o adeilad sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer y cyfleuster ynysu gael ei gadw ar gau ar bob adeg ac eithrio os yw'n cael ei ddefnyddio gan bersonau i fynd i mewn i'r cyfleuster neu i ymadael ag ef neu pan fydd anifeiliaid yn cael eu symud i mewn i'r cyfleuster neu allan ohoNo.
6.
Rhaid i loriau a waliau unrhyw adeilad neu ran o adeilad sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer y cyfleuster ynysu fod yn gyflawn ac mewn cyflwr digon da i'w gwneud yn bosibl ei lanhau a'i ddiheintio'n drylwyr a rhaid iddynt gael eu cadw a'u cynnal mewn cyflwr felly bob amser.
7.
Pan fydd adeilad neu ran o adeilad yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y cyfleuster ynysu, bydd rhaid gwneud y naill neu'r llall o'r canlynol -
8.
Rhaid darparu ar gyfer y cyfleuster ynysu gyfleuster llwytho a dadlwytho un-pwrpas y mae'n rhaid ei lanhau a'i ddiheintio'n drylwyr gan ddefnyddio diheintydd a gymeradwyir ar ôl pob tro y mae'r cyfleuster llwytho a dadlwytho yn cael ei ddefnyddio.
9.
Rhaid i feddiannydd y safle y mae'r cyfleuster ynysu wedi'i leoli ynddo sicrhau -
10.
Rhaid i feddiannydd y safle lle mae'r cyfleuster ynysu -
mewn mannau cyfleus wrth bob mynedfa i'r cyfleuster a phob allanfa ohono a rhaid iddo adnewyddu'r diheintydd yn y baddon traed bob dydd neu'n amlach na hynny yn ôl yr angen er mwyn cadw toddiant glân; a
(b) sicrhau bod y baddon traed a'r cyfleusterau golchi dwylo yn cael eu defnyddio gan bawb sy'n mynd i mewn i'r cyfleuster ac yn ymadael ag ef.
11.
Ni chaniateir symud o'r cyfleuster unrhyw fêls gwellt, sy'n cael eu defnyddio i ffurfio parwydydd yn y cyfleuster ynysu nac unrhyw ddeunyddiau porthi, porthiant neu sarn sydd yn eu lle yno ac sydd heb eu defnyddio, nes y bydd y llwyth hwnnw o anifeiliaid wedi ymadael â'r cyfleuster.
12.
Ni chaniateir symud unrhyw gorlannau, clwydi nac offer arall sydd yn eu lle pan fydd unrhyw lwyth anifeiliaid yn mynd i mewn i'r cyfleuster ynysu o'r cyfleuster nes y bydd y llwyth hwnnw wedi ymadael â'r cyfleuster oni bai eu bod wedi'u glanhau a'u diheintio'n drylwyr gyntaf.
13.
Cyn bod unrhyw gerbyd sydd wedi'i ddefnyddio at unrhyw ddiben yn y cyfleuster ynysu yn cael ei symud allan o'r cyfleuster, rhaid iddo gael ei lanhau a'i ddiheintio'n drylwyr yn unol â gofynion atodlen 1 i Orchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) 2001[17] ac yn ychwanegol, wrth yr allanfa i'r cyfleuster, rhaid glanhau a diheintio cylchedd cyfan teiars unrhyw gerbyd o'r fath (gan gynnwys eu gwadnau) ynghyd a'i fwâu olwynion, ei gardiau olwynion, a'i labedi llaid.
14.
Mae cyfleusterau digonol ar gael naill o fewn y cyfleuster ynysu neu'n union y tu allan iddo i'r anifeiliaid gael eu harolygu neu eu harchwilio yn unol â gofynion paragraffau (3)(e)(vi) or (3)(f)(v) o erthygl 3 heb fod yr anifeiliaid hynny yn dod o fewn pum metr i unrhyw anifeiliaid eraill nad ydynt yn cael eu cadw yn y cyfleuster ynysu.
15.
Rhaid i feddiannydd y safle lle mae'r cyfleuster ynysu wedi'i leoli sicrhau bod cofnod ysgrifenedig yn cael ei gadw ac yn cael ei roi ar gael i arolygydd os bydd yn gofyn amdano a bod y cofnod hwnnw yn dangos dyddiadau pob symudiad anifeiliaid i mewn i'r cyfleuster ynysu ac allan ohono ynghyd â manylion -
16.
Ni chaniateir symud unrhyw anifail allan o'r cyfleuster ynysu yn ystod y cyfnod y mae'n ofynnol ei gadw yno yn unol ag is-baragraffau (3)(e) neu (f) o erthygl 3 oni bai -
17.
Yr amodau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 16(b) yw -
Y prif ddiwygiad yw cynnwys esemptiadau ychwanegol (yn erthyglau 3(3)(e) ac (f)) mewn perthynas â'r gofyniad segura sy'n golygu na fydd -
yn arwain at ofyniad segura ar y safle y maent wedi'u symud iddo cyhyd ag y bod amodau penodol yn cael eu bodloni. Y prif amod yw bod y gwartheg neu'r defaid bridio neu'r hyrddod bridio sydd heb eu gwerthu yn cael eu rhoi mewn cyfleuster ynysu ("cyfleuster ynysu ar gyfer bridio") yn union ar ôl iddynt gyrraedd a'u bod yn cael eu cadw yno, ynghyd ag unrhyw anifeiliaid eraill sydd eisoes yn y cyfleuster ynysu hwnnw ac unrhyw anifeiliaid y daethpwyd â hwy i mewn iddo o rywle arall ar y safle, tan ddechrau'r 21ain diwrnod ar ôl y diwrnod yr oeddent wedi cyrraedd yNo.
Mae'r gofynion manwl sydd i'w bodloni a'u dilyn mewn perthynas â'r cyfleuster ynysu ar gyfer bridio er mwyn i'r esemptiad segura newydd fod ar gael wedi'u nodi yn erthygl 3(9) a Rhan I o'r Atodlen. Yn ychwanegol, cyn bod modd defnyddio'r cyfleuster ynysu ar gyfer bridio at ddibenion yr esemptiad newydd, rhaid iddo fod wedi'i archwilio gan filfeddyg cymwysedig y mae'n ofynnol iddo gwblhau adroddiad ar ei arolygiad i raddau helaeth ar y ffurf a nodir yn Rhan II o'r Atodlen a'i anfon i Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn y cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen (erthygl 3(9)(b) ac (c)). Mae'n ofynnol hefyd i'r anifeiliaid yn y cyfleuster ynysu ar gyfer bridio gael eu harolygu gan filfeddyg cymwysedig yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y 14eg diwrnod ac sy'n dod i ben ar yr 20fed diwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd yr anifeiliaid y safle ac mae'n ofynnol i'r cyfleuster gael ei arolygu hefyd gan y milfeddyg yn ystod yr un cyfnod.
Mae'r Gorchymyn hefyd yn parhau i wneud y canlynol:
Mae'r Gorchymyn hefyd yn diwygio (yn erthygl 13) Orchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/283, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1358 ac O.S. 2002/2060) drwy newid y dyddiad y bydd effaith y gorchymyn hwnnw yn darfod o 1 Rhagfyr 2002 i 1 Chwefror 2003.
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.
[2] O.S. 1978/32 y mae diwygiadau perthnasol wedi eu gwneud iddo gan O.S. 1999/919 ac, mewn perthynas â Chymru, gan O.S. 2001/641.back
[3] O.S. 1983/1950, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1993/3119, O.S. 1995/2922 ac fel y'i diwygiwyd ymhellach, mewn perthynas â Chymru, gan O.S. 2001/572 (Cy. 26), O.S. 2001/658 (Cy. 33), O.S. 2001/968 (Cy. 46), O.S. 2001/1033 (Cy. 47) (a ddiwygiwyd ei hun gan O.S. 2001/1234 (Cy. 67), O.S. 2001/1406 (Cy. 93), O.S. 2001/1509 (Cy. 106), O.S. 2001/1874 (Cy.134), O.S. 2001/2236 (Cy. 162), O.S. 2001/2813 (Cy. 242), O.S. 2001/2981 (Cy. 248), O.S. 2001/3145 (Cy. 260), O.S. 2001/3706 (Cy. 303), ac O.S. 2001/4009 (Cy. 335).back
[6] O.S. 1995/539, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2002/118.back
[7] O.S. 1998/871, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/1796, O.S. 1998/2969, O.S. 1999/1339 ac mewn perthynas â Chymru gan O.S. 2001/2360.back
[8] O.S. 2002/1357 (Cy.133).back
[9] O.S. 1995/11, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/2922 ac, mewn perthynas â Chymru, gan O.S. 2001/2662 ac O.S. 2002/281.back
[10] O.S. 1989/878, y gwnaed diwygiadau perthnasol iddo gan O.S. 1993/2010.back
[11] O.S. 2000/1673, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2000/2266, O.S. 2000/2524, O.S. 2000/2900 and 2000/3128 ac mewn perthynas â Chymru yn unig, O.S. 2002/1039.back
[14] O.S. 2002/280 (W.32).back
[15] O.S. 2002/283 (W.34).back