BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20022615w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 2615 (Cy.253) (C.82)

CEFN GWLAD, CYMRU

Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2002

  Wedi'i wneud 15 Hydref 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 103(3) a (4) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000[1] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2002.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Diwrnod a benodwyd
    
2. 1 Tachwedd 2002 yw'r diwrnod a benodwyd ar gyfer dod ag adrannau 60 a 61 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (cynlluniau gwella hawliau tramwy) i rym mewn perthynas â Chymru.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

15 Hydref 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â rhai darpariaethau Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf") i rym, mewn perthynas â Chymru, ar 1 Tachwedd 2002, sef:

    (1) adran 60, sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i bob awdurdod priffyrdd lleol i baratoi ac i gyhoeddi cynllun (a adwaenir fel "cynllun gwella hawliau tramwy") o fewn 5 mlynedd ar ôl i'r adran honno ddod i rym ac i adolygu'r cynllun o leiaf unwaith pob 10 mlynedd ac sy'n rhoi pycircn â chynnwys cynllun a'r materion y mae'n rhaid i'r awdurdod eu hasesu wrth baratoi cynllun.

    (2) adran 61, sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r awdurdod ymgynghori â chyrff penodedig (a chyda'r personau eraill y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn pennu trwy reoliadau) ac sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r awdurdod ystyried sylwadau a wneir ar gynllun drafft a rhoi sylw i ganllawiau a gyflwynir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.



NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Daethpwyd â darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn y tabl isod i rym mewn perthynas â Chymru gan Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Adran neu Atodlen Dyddiad Cychwyn Rhif O.S.
46(1)(b) 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
46(3) (yn rhannol) 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
57 (yn rhannol) 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
68 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
70 (2) a (4) 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
72 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
Rhan IV (h.y. adrannau 82-93) (ac felly Atodlenni 13, 14 ac 15) 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
96 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
99 30 Ionawr 2001 (Cy.9) (C.10) O.S. 2001/203
102 (yn rhannol) 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 4, paragraffau 1, 4, 5 a 6. 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 6, paragraff 18(a) ac 19 (yn rhannol) 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 16, Rhannau I a II (yn rhannol) 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 16, Rhannau III, IV, V a VI. 1 Mai 2001 O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50)


Notes:

[1] 2000 p.37.back

[2] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090577 6


  Prepared 28 October 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20022615w.html