BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2002 Rhif 2622 (Cy.254)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
IECHYD CYHOEDDUS, CYMRU
Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2002
|
Wedi'u gwneud |
17 Hydref 2002 | |
|
Yn dod i rym |
18 Hydref 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 12(2)(a), 16(1)(a), 22(1), (2)(a) a (b), (7)(c) a 118(5) a (6) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[1] ac adrannau 79C(2), (3)(b) (f) ac (g), 79E (2)(a) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989[2] gan ei fod o'r farn nad yw'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wneir gan reoliadau eraill a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 2000[3], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 18 Hydref 2002.
Diwygio Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002
2.
- (1) Diwygir Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002[4] yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 7 (ffitrwydd y darparydd cofrestredig) -
"
Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi.".
(3) Yn rheoliad 9 (ffitrwydd y rheolwr cofrestredig) -
(4) Yn rheoliad 19 (ffitrwydd y gweithwyr) -
(a) ar ddechrau paragraff (1) mewnosodir "Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (5A),"
(b) yn lle paragraff 3 rhoddir -
"
Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi".
(c) yn is-bargagraff (a) o baragraff (4) yn lle "cartref plant" rhoddir "cartref gofal";
(ch) yn is-baragraff (b) o baragraff 4 ar ôl "(5)" rhoddir "neu 5A";
(d) ym mharagraff (5), y tro cyntaf yr ymddengys yn lle "paragraff" rhoddir "paragraffau (1) a"
(dd) ar ôl paragraff (5) mewnosodir paragraff (5A) newydd fel a ganlyn -
"
(5A) Fel dewis arall i baragraff (5), pan fo'r amodau canlynol yn gymwys, gall y person cofrestredig ganiatáu i berson ddechrau gweithio mewn cartref gofal er gwaethaf paragraffau (1) a (4)(b) -
(a) bod paragraff (3) o'r rheoliad hwn yn gymwys;
(b) bod gwybodaeth gyflawn a boddhaol mewn perthynas â'r person hwnnw wedi'i derbyn mewn cysylltiad â'r materion a nodwyd ym mharagraffau 1, 4 a 6 o Atodlen 2;
(c) bod y person wedi darparu -
(i) dau eirda ysgrifenedig, yn cynnwys geirda oddi wrth y cyflogwr diwethaf, os oes un, a
(ii) datganiad ysgrifenedig o fanylion unrhyw dramgwyddau troseddol y mae'r person wedi'i euogfarnu ohonynt, gan gynnwys manylion unrhyw euogfarnau a dreuliwyd o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 ac y gellir eu datgelu trwy rinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 neu y mae'r person wedi derbyn rhybudd mewn perthynas â hwy, ac ar yr adeg pan roddwyd y rhybudd, wedi'u cyfaddef;
(ch) ym marn resymol y person cofrestredig na fydd buddiannau'r gwasanaeth yn cael eu bodloni os na ellir penodi'r person; ac
(d) bod y person cofrestredig, tra'n disgwyl derbyn a thra'n bodoloni ei hun ynghylch y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff (3), yn sicrhau bod y person yn cael ei oruchwylio yn briodol tra'n cyflawni ei ddyletswyddau.".
(5) Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth sydd i fod ar gael mewn perthynas â phersonau sydd am redeg neu reoli cartref gofal neu weithio ynddo) -
(a) yng ngeiriau olaf paragraff 2 yn lle'r geiriau "os yw'n gymwys" rhoddir "i'r graddau a ganiatier o dan Ddeddf yr Heddlu 1997";
(b) yn lle paragraff 7 rhoddir -
"
7.
Gwiriad gan yr heddlu sef adroddiad a gaiff ei lunio gan neu ar ran prif swyddog heddlu neu aelod arall o heddlu o fewn ystyr Deddf yr Heddlu 1996[7] sy'n cofnodi, fel ar yr adeg pan gaiff yr adroddiad ei lunio, pob tramgwydd troseddol
(a) y mae'r person wedi'i euogfarnu mewn perthynas â hwy gan gynnwys euogfarnau a dreuliwyd o fewn ystyr Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974[8] ac y gellir eu datgelu trwy rinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975[9]; neu
(b) y mae'r person wedi derbyn rhybudd mewn perthynas â hwy, ac ar yr adeg pan roddwyd y rhybudd wedi'u cyfaddef."
Diwygio Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002
3.
- (1) Diwygir Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002[10]) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 6 (ffitrwydd y darparydd cofrestredig) -
"
Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi.".
(3) Yn rheoliad 8 (ffitrwydd y rheolwr cofrestredig) -
"
Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi.".
(4) Yn rheoliad 26 (ffitrwydd y gweithwyr) -
(a) ym mharagraff (1), mewnosodir ar y dechrau -
"
Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (5A)"
(b) yn lle paragraff (3) rhoddir -
"
Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi";
(c) ym mharagraff (5) yn lle'r gair "paragraff" ble yr ymddengys gyntaf rhoddir y geiriau "paragraffau (1) a";
(ch) ar ôl paragraff (5) mewnosodir paragraff (5A) newydd fel a ganlyn -
"(5A) Fel dewis arall i baragraff (5) pan fo'r amodau canlynol yn gymwys, gall y person cofrestredig ganiatáu i berson ddechrau gweithio mewn cartref plant er gwaethaf paragraffau (1) a (4)(b) -
(a) mae paragraff (3) o'r rheoliad hwn yn gymwys;
(b) bod gwybodaeth gyflawn a boddhaol mewn perthynas â'r person hwnnw wedi'i derbyn mewn cysylltiad â'r materion a nodwyd ym mharagraffau 1, 4 a 6 o Atodlen 2;
(c) bod y person wedi darparu -
(i) dau eirda ysgrifenedig, yn cynnwys geirda oddi wrth y cyflogwr diwethaf, os oes un, a
(ii) datganiad ysgrifenedig o fanylion unrhyw dramgwyddau troseddol y mae'r person wedi'u euogfarnu ohonynt, gan gynnwys manylion unrhyw euogfarnau a dreuliwyd o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 ac y gellir eu datgelu trwy rinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 neu y mae'r person wedi derbyn rhybudd mewn perthynas â hwy ac, ar yr adeg pan roddwyd y rhybudd wedi cyfaddef;
(ch) ym marn resymol y person cofrestredig na fydd buddiannau'r gwasanaeth yn cael eu bodloni os na ellir penodi'r person; ac
(d) bod y person cofrestredig, tra'n disgwyl derbyn a thra'n bodloni ei hun ynghylch y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff (3), yn sicrhau bod y person yn cael ei oruchwylio yn briodol tra'n cyflawni ei ddyletswyddau.".
(5) Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth y mae ei hangen mewn perthynas â phersonau sy'n ceisio rhedeg neu reoli cartref plant neu weithio mewn un) -
(a) yng ngeiriau olaf paragraff 2 yn lle "os yw'n gymwys" rhoddir "i'r graddau y mae hynny'n cael ei ganiatáu o dan Ddeddf yr Heddlu 1997";
(b) yn lle paragraff 7 rhoddir -
"
7.
Gwiriad gan yr heddlu sef adroddiad a gaiff ei lunio gan neu ar ran prif swyddog heddlu neu aelod arall o heddlu o fewn ystyr Deddf yr Heddlu 1996 sy'n cofnodi, fel ar yr adeg pan gafodd yr adroddiad ei lunio, pob tramgwydd troseddol -
(a) y mae'r person wedi'i euogfarnu mewn perthynas â hwy gan gynnwys euogfarnau a dreuliwyd o fewn ystyr Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 ac y gellir eu datgelu trwy rinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975; neu
(b) yr oedd y person y mae'r person wedi derbyn rhybudd mewn perthynas â hwy, ac ar yr adeg pan roddwyd y rhybudd, wedi'u cyfaddef.".
Diwygio Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002
4.
- (1) Diwygir Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002[11] yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 9 (ffitrwydd y darparydd cofrestredig) -
"
Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi."
(3) Yn rheoliad 11 (ffitrwydd y rheolwr) -
"
Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi.".
(4) Yn rheoliad 18 (ffitrwydd y gweithwyr) -
(a) ar ddechrau paragraff (1), mewnosodir -
"
Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (5A)";
(b) yn lle paragraff (3) rhoddir -
"
Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi";
(c) ym mharagraff (5) yn lle "paragraff" ble yr ymddengys gyntaf rhoddir "paragraffau (1) a";
(ch) ar ôl paragraff (5) mewnosodir paragraff (5A) newydd fel a ganlyn -
"
(5A) Fel dewis arall i baragraff (5) pan fo'r amodau canlynol yn gymwys, gall y person cofrestredig ganiatáu i berson ddechrau gweithio yn y sefydliad neu at ddibenion y sefydliad er gwaethaf paragraffau (1) a (4)(b) -
(a) bod paragraff (3) o'r rheoliad hwn yn gymwys;
(b) bod gwybodaeth gyflawn a boddhaol wedi'i derbyn mewn perthynas â'r person hwnnw mewn cysylltiad â'r materion a nodwyd ym mharagraffau 1, 4 a 6 o Atodlen 2;
(c) bod y person wedi darparu -
(i) dau eirda ysgrifenedig, yn cynnwys geirda oddi wrth y cyflogwr diwethaf, os oes un, a
(ii) datganiad ysgrifenedig o fanylion unrhyw dramgwyddau troseddol y mae'r person wedi cael eu euogfarnu ohonynt, gan gynnwys manylion unrhyw euogfarnau a dreuliwyd o fewn ystyr Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 ac y gellir eu datgelu trwy rinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Trodseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 neu y mae person wedi derbyn rhybudd mewn perthynas â hwy ac, ar yr adeg pan roddwyd y rhybudd wedi'u cyfaddef;
(ch) ym marn resymol y person cofrestredig na fydd buddiannau'r gwasanaeth yn cael eu bodloni os na ellir penodi'r person; a
(d) bod y person cofrestredig, tra'n disgwyl derbyn a thra'n bodloni ei hun ynghylch y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff (3), yn sicrhau bod y person yn cael ei oruchwylio yn briodol tra'n cyflawni ei ddyletswyddau.".
(5) Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth sy'n ofynnol mewn perthynas â phersonau sydd am redeg neu reoli sefydliad neu weithio ynddo) -
(i) ar gyfer geiriau olaf paragraff 2 yn lle'r geiriau "os yw'n gymwys" rhoddir "i'r graddau a ganiateir o dan Ddeddf yr Heddlu 1997";
(ii) yn lle paragraff 8 rhoddir -
"
8.
Gwiriad gan yr heddlu sef adroddiad a gaiff ei lunio gan neu ar ran prif swyddog heddlu neu aelod arall o heddlu o fewn ystyr Deddf yr Heddlu 1996 sy'n cofnodi, fel ar yr adeg pan gaiff yr adroddiad ei lunio, pob tramgwydd troseddol
(a) y mae'r person wedi'i euogfarnu mewn perthynas â hwy gan gynnwys euogfarnau a dreuliwyd o fewn ystyr Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 ac y gellir eu datgelu trwy rinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975; neu
(b) y mae'r person wedi derbyn rhybudd mewn perthynas â hwy, ac yr adeg pan roddwyd y rhybudd wedi'u cyfaddef.".
Diwygio Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002
5.
- (1) Diwygir Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002[12] yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 4 (gwybodaeth a dogfennau i'w darparu gan geisydd) -
(a) ym mharagraff (2) -
(i) yn is-baragraff (a) mewnosodir "and" ar y diwedd;
(ii) yn is-baragraff (b) hepgorir "paragraphs 1 to 3 and 5 to 9 of ";
(iii) hepgorir is-baragraff (c);
(b) ym mharagraff (3) -
(i) yn is-baragraff (a) mewnosodir "and" ar y diwedd;
(ii) yn is-baragraff (b) yn lle "paragraphs 9 to 11" rhoddir "Part II";
(iii) hepgorir is-baragraff (c).
(3) Yn rheoliad 8 (gwybodaeth o ran staff a gymerir ymlaen ar ôl gwneud cais) -
(a) yn is-baragraff (a) o baragraff (1) hepgorir "except where paragraph (2) applies";
(b) hepgorir paragraff (2).
(4) Ym mharagraff 1 o Atodlen 1 (yr wybodaeth sydd i'w chyflwyno wrth wneud cais i gofrestru fel person sy'n rhedeg sefydliad) hepgorir is-baragraff (f).
(5) Yn Atodlen 2 (y dogfennau sydd i'w cyflwyno wrth wneud cais i gofrestru fel person sy'n rhedeg sefydliad) -
(a) ym mharagraff 4, yn y ddau le y mae'n ymddangos, yn lle "where applicable" rhoddir "to the extent permitted under the Police Act 1997";
(b) yn dilyn paragraff 9 mewnosodir
"
(9A) Nothwithstanding paragraph 4, where the responsible person has applied for a certificate referred to in paragraph 4, but the certificate has not been issued -
(a) a statement confirming that the documents specified in paragraph 4 have been applied for and that the applicant, or where the applicant is an organisation, the responsible individual, will advise the National Assembly on receipt that they are available for inspection;
(b) a written report of a check on the lists maintained pursuant to section 1 of the Protection of Children Act 1999 and regulations made under section 218 of the Education Reform Act 1988; and
(c) a police check being a report produced by or on behalf of a chief officer of police or other member of a police force within the meaning of the Police Act 1996 which records, at the time the report is produced, all criminal offences -
(i) for which the person had been convicted including convictions which are spent within the meaning of the Rehabilitation of Offenders Act 1974 and which may be disclosed by virtue of the Rehabilitation of Offenders Act 1974 (Exceptions) Order 1975; or
(ii) in respect of which the person had been cautioned and which, at the time the caution was given, the person admitted.";
(c) ym mharagraff 10 ar gyfer geiriau olaf paragraff (b) o is-baragraff (2) ar ôl "including" mewnosodir ", to the extent permitted under the Police Act 1997,".
(6) Yn Atodlen 3 (yr wybodaeth a'r dogfennau sydd i'w cyflwyno wrth wneud cais i gofrestru fel rheolwr sefydliad) -
(a) hepgorir paragraff 8.
(b) ar gyfer geiriau olaf paragraff 12 a pharagraff 13 yn lle "where applicable" rhoddir "to the extent permitted under the Police Act 1997".
(c) yn dilyn paragraff 13 mewnosodir -
"
13A.
Nothwithstanding paragraphs 12 and 13, where the responsible person has applied for a certificate referred to in paragraphs 12 and 13, but the certificate has not been issued -
(a) a statement confirming that the documents specified in paragraphs 12 and 13 have been applied for and the applicant will advise the National Assembly on receipt that they are available for inspection;
(b) a written report of a check on the lists maintained pursuant to section 1 of the Protection of Children Act 1999 and Regulations made under section 218 of the Education Reform Act 1988; and
(c) a police check being a report produced by or on behalf of a chief officer of police or other member of a police force within the meaning of the Police Act 1996 which records, at the time the report is produced, all criminal offences -
(i) for which the person had been convicted including convictions which are spent within the meaning of the Rehabilitation of Offenders Act 1974 and which may be disclosed by virtue of the Rehabilitation of Offenders Act 1974 (Exceptions) Order 1975; or
(ii) in respect of which the person had been cautioned and which, at the time the caution was given, the person admitted.".
(7) Yn Atodlen 7 (yr wybodaeth sydd i'w chyflwyno wrth wneud cais i gofrestru fel gwarchodydd plant neu fel darparydd gofal dydd) hepgorir is-baragraff (f) o baragraff 1.
(8) Yn Atodlen 8 (y dogfennau sydd i'w cyflwyno wrth wneud cais i gofrestru fel gwarchodydd plant neu fel darparydd gofal dydd) -
(a) ym mharagraff 4, yn y ddau le y mae'n ymddangos, yn lle "where applicable" rhoddir "to the extent permitted under the Police Act 1997".
(b) yn lle paragraff 9A mewnosodir -
Diwygio Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002
6.
- (1) Diwygir Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd Cymru 2002[13] yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 4 (y person cofrestredig - ei addasrwydd) -
"
Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi."; ac
(ch) hepgorir paragraff (4A).
(3) Yn rheoliad 16 (addasrwydd gweithwyr) -
(a) ym mharagraff (1) cyn y geiriau "Rhaid i'r person cofrestredig beidio â gwneud y canlynol - " rhoddir y geiriau "Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (5A)";
(b) Yn lle paragraff (3) rhoddir -
"
Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi";
(c) ym mharagraff (5) hepgorir "yn ddarostyngedig i baragraff (7)" a'r tro nesaf y mae "paragraff" yn ymddangos rhoddir "paragraffau (1) a";
(ch) ar ôl paragraff (5) mewnosodir paragraff (5A) newydd fel a ganlyn -
"
(5A) Pan fo'r amodau canlynol yn gymwys, gall y person cofrestredig ganiatáu i berson ddechrau gweithio mewn sefydliad neu at ddibenion sefydliad heblaw am baragraffau (1) a (4)(b) -
(a) bod paragraff (3) o'r rheoliad hwn yn gymwys;
(b) bod gwybodaeth gyflawn a boddhaol wedi'i derbyn mewn perthynas â'r person hwnnw mewn cysylltiad â'r materion a nodir ym mharagraffau 1, 4 a 6 o Atodlen 2;.
(c) bod y person wedi darparu -
(i) dau eirda ysgrifenedig, yn cynnwys geirda oddi wrth y cyflogwr diweddaraf, os oes un, a
(ii) datganiad ysgrifenedig o fanylion unrhyw dramgwyddau troseddol y mae'r person wedi'i euogfarnu ohonynt, gan gynnwys manylion unrhyw euogfarnau a dreuliwyd o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 ac y gellir eu datgelu trwy rinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 neu y mae'r person wedi derbyn rhybudd mewn perthynas â hwy ac wedi cyfaddef ar yr adeg pan roddwyd y rhybudd;
(ch) ym marn resymol y person cofrestredig na fydd buddiannau'r gwasanaeth yn cael eu bodloni os na ellir penodi'r person;
(d) bod y person cofrestredig, tra'n disgwyl derbyn a thra'n bodoloni ei hun ynghylch y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff (3), yn sicrhau bod y person yn cael ei oruchwylio yn briodol tra'n cyflawni ei ddyletswyddau."; a
(d) hepgorir paragraff (7).
(4) Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth y mae ei hangen mewn perthynas â phersonau sy'n ceisio gweithredu fel gwarchodwyr plant neu ddarparu gofal dydd neu weithio drostynt) -
(a) ym mharagraff 2 yn lle "os yw'n gymwys" rhoddir "i'r graddau y mae hynny'n cael ei ganiatáu o dan Ddeddf yr Heddlu 1997";
(b) yn lle paragraff 7 rhoddir -
"
7.
Gwiriad gan yr heddlu yw adroddiad a gaiff ei lunio gan neu ar ran prif swyddog heddlu neu aelod arall o heddlu o fewn ystyr Deddf Heddlu 1996 sy'n cofnodi, ar yr adeg pan gafodd yr adroddiad ei lunio, pob tramgwydd troseddol
(a) y mae'r person wedi'i euogfarnu mewn perthynas â hwy gan gynnwys euogfarnau a dreuliwyd o fewn ystyr Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 ac y gellir eu datgelu trwy rinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975; neu
(b) y mae'r person wedi derbyn rhybudd mewn perthynas â hwy, ac ar yr adeg pan roddwyd y rhybudd wedi'u cyfaddef.".
Dirymu Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2002
7.
- (1) Dirymir drwy hyn Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2002[14].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[15]
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Hydref 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002; Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002 a Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002) ("rheoliadau Deddf 2000") ac o dan Ddeddf Plant 1989 (Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002) ("rheoliadau Deddf 1989"); a rheoliadau a wnaed o dan y ddwy Ddeddf (Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002) ("y rheoliadau cofrestru").
Mae rheoliadau Deddf 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i unigolion penodol yng ngweithrediad sefydliadau y mae'r rheoliadau'n gymwys iddynt fod yn 'ffit' (yr unigolion yw'r darparydd cofrestredig, y rheolwr cofrestredig a staff penodol). Un o ofynion 'ffitrwydd' yw bod gwybodaeth a dogfennau penodol ar gael mewn perthynas â'r unigolion hyn. Ymysg y dogfennau sydd i fod ar gael yw tystysgrifau record droseddol a ddyroddir o dan adran 113 o Ddeddf yr Heddlu 1997 neu (yn ôl y digwydd) tystysgrifau record droseddol fanwl a ddyroddir o dan adran 115 o'r Ddeddf honNo. Nid yw'r gofyniad hwn yn gymwys mewn perthynas ag unigolyn os nad oes unrhyw wybodaeth a fyddai fel arall yn cael ei chynnwys mewn tystysgrif a ddyroddir mewn perthynas ag ef neu hi ar gael am nad yw rhyw ddarpariaeth o Ddeddf 1997 mewn grym. Mewn amgylchiadau o'r fath mae'n ofynnol yn hytrach bod canlyniadau gwiriad yr heddlu o wybodaeth collfarn droseddol ar gael mewn perthynas â'r unigolyn. Nid yw darpariaethau Deddf yr Heddlu 1997 sy'n darparu ar gyfer cynnwys gwybodaeth mewn tystysgrifau a yw person i'w gynnwys ar restr personau yr ystyrir eu bod yn anaddas i weithio gydag oedolion sy'n agored i niwed (a gedwir o dan a.81 o Ddeddf Safonau Gofal 2002) mewn grym ar hyn o bryd.
Mae'r diwygiadau i reoliadau Deddf 2000 (i) yn hepgor y gofyniad bod gwiriad heddlu ar gael mewn perthynas â'r unigolion a ddisgrifir uchod yn yr amgylchiadau a ddisgrifir uchod; a (ii) yn ei gwneud yn ofynnol yn hytrach bod tystysgrif record droseddol neu (yn ôl y digwydd) tystysgrif record droseddol fanwl ar gael mewn perthynas ag unigolion o'r fath.
At ddiben tebyg gwneir diwygiadau i reoliadau Deddf 1989.
Er mwyn cyfateb i reoliadau diwygiedig Deddf 2000 a Deddf 1989, diwygir y rheoliadau cofrestru er mwyn mynnu bod tystysgrifau record droseddol neu (yn ôl y digwydd) tystysgrifau record droseddol fanwl yn cael eu dangos mewn perthynas ag unigolion penodol fel rhan o'r broses geisiadau mewn perthynas â phersonau y mae'n ofynnol eu cofrestru o dan Ran II o Ddeddf Safonau Gofal 2000 neu (yn ôl y digwydd) Ran XA o Ddeddf Plant 1989. Yn ogystal pan wnaed cais am dystysgrifau record droseddol fanwl ond nad yw'r recordiau hynny wedi'u dyroddi, gellir barnu bod unigolion yn "ffit" ar yr amod bod yr holl wybodaeth arall a bennwyd ar gael er gwaethaf absenoldeb y gwiriadau record droseddol fanwl.
Unionir gwall teipograffyddol yn rheoliad 2(4)(c).
Notes:
[1]
2000 p.14. Mae'r pwerau'n arferadwy gan y Gweinidog priodol. Diffinnir "appropriate Minister" yn a.121(1) fel y Cynulliad mewn perthynas â Chymru. Diffinnir "Assembly" yn a.5(b) fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler a.121(1) o Ddeddf 2000 i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".back
[2]
1989 p.41. Mae'r pwerau o dan a.79C yn arferadwy gan y Cynulliad. Diffinnir "Assembly" yn a.79B(2) fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler a.105(1) o Ddeddf 1989 ar gyfer y diffiniad o "prescribed" ac a.79B(7) ar gyfer y diffiniad o "regulations".back
[3]
O dan adran 22(9) o Ddeddf 2000 rhaid i'r Gweinidog priodol ymgynghori ag unrhyw berson y mae'n barnu ei fod yn briodol cyn gwneud unrhyw reoliadau o dan adran 22, onid yw'r rheoliadau yn diwygio rheoliadau eraill a wnaed o dan yr adran honno ac yn ei farn ef nad yw'r rheoliadau yn rhoi unrhyw newid sylweddol ar waith yn y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau hynny. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau eraill a wnaed o dan adran 22.back
[4]
O.S. 2002 Rhif 324 (Cy.37).back
[5]
1999 p.14.back
[6]
1988 p.40.back
[7]
1996 p.16.back
[8]
1974 p.53.back
[9]
O.S. 1975/1023. Ar ddyddiad dod i rym y rheoliadau hyn mae'r offerynnau canlynol wedi gwneud diwygiadau perthnasol i'r Gorchymyn: O.S. 1986/1249; 1986/2286 ac O.S. 2001/1192.back
[10]
O.S. 2002 Rhif 327 (Cy.40).back
[11]
O.S. 2002 Rhif 325 (Cy.38).back
[12]
O.S. 2002 Rhif 919 (Cy.107).back
[13]
O.S. 2002 Rhif 812 (Cy.92) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002 Rhif 2171 (Cy.218).back
[14]
O.S. 2002 Rhif 2171 (Cy. 218).back
[15]
1998 p.38.back
English
version
ISBN
0 11090578 4
|
Prepared
19 November 2002
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20022622w.html