OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 54 (Cy.5)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Tai (Hawl i Gaffael a Hawl i Brynu) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig a Rhanbarthau Dynodedig) (Cymru) 2003
|
Wedi'i wneud |
14 Ionawr 2003 | |
|
Yn dod i rym |
7 Chwefror 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 157 o Ddeddf Tai 1985[1] ac adran 17 o Ddeddf Tai 1996[2], ac ar ôl ymgynghori, yn unol ag is-adran (6) o adran 17 o Ddeddf Tai 1996, â'r awdurdodau lleol a'r cyrff a grybwyllir yn yr is-adran honno, yn gwneud y Gorchymyn canlynol: -
Enwi a chychwyn
1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Hawl i Gaffael a Hawl i Brynu) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig a Rhanbarthau Dynodedig) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 7 Chwefror 2003.
Dynodi ardaloedd gwledig
2.
Mae'r cymunedau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn cael eu dynodi'n ardaloedd gwledig at ddibenion adran 157(1)(c) o Ddeddf Tai 1985 (cyfyngu ar waredu tai annedd mewn Parciau Cenedlaethol, a.y.y.b.) ac adran 17(1)(b) o Ddeddf Tai 1996 (hawl tenant i gaffael annedd).
Rhanbarthau dynodedig
3.
Mewn perthynas â th annedd yng Nghymru ac eithrio'r un y mae Erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, ac sydd wedi'i leoli mewn Parc Cenedlaethol neu ardal sydd wedi'i dynodi o dan adran 82 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000[3], neu adran 87 o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949[4]) neu ardal sydd wedi'i dynodi gan Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn ardal wledig, bydd y rhanbarth dynodedig at ddibenion adran 157(3) o Ddeddf Tai 1985 yn cynnwys y canlynol:
(a) y Parc Cenedlaethol hwnnw neu'r ardal honno o harddwch naturiol eithriadol neu'r ardal wledig ddynodedig honno, yn ôl fel y digwydd; a
(b) y rhan o'r sir neu'r fwrdeistref sirol y mae'r t annedd wedi'i leoli ynddi ond nad yw o fewn y Parc Cenedlaethol hwnnw, yr ardal honno o harddwch naturiol eithriadol neu'r ardal wledig ddynodedig honNo.
Ardal Dyffryn Gwy
4.
- (1) Mae'r erthygl hon yn gymwys i dai annedd a leolir yn yr ardaloedd a ddynodir yn ardal o harddwch naturiol eithriadol at ddibenion Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 gan Orchymyn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy (Dynodi) (Cymru) 1971.
(2) Mewn perthynas â th annedd y mae'r erthygl hon yn gymwys iddi, y rhanbarth dynodedig at ddibenion adran 157(3) o Ddeddf 1985 fydd yr ardal sy'n cynnwys y canlynol:
(a) yr ardal a ddynodwyd gan y gorchymyn hwnnw, a
(b) y rhan o'r sir y mae'r t annedd wedi'i leoli ynddi ond nad yw o fewn yr ardal a ddynodir gan y gorchymyn hwnnw.
Dirymu a diwygio
5.
- (1) Dirymir Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig a Rhanbarthau Dynodedig) (Cymru) 1980[5];
(1) Ar gyfer pob t annedd yn y cymunedau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, sef t annedd sydd wedi'i feddiannu gan ei denant neu denantiaid cyfredol ar 7 Chwefror 2003 neu ar ôl hynnu, rhaid darllen Erthygl 3 o Orchymyn Diwygio Cyfraith Prydlesi a Thai (Tenantiaethau wedi'u Heithrio) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig) (Cymru) 1997[6] fel petai paragraff (b) wedi'i ddileu.
(2) Ar gyfer pob t annedd yn y cymunedau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, sef t annedd a oedd wedi'i feddiannu gan ei denant neu denantiaid cyfredol cyn 7 Chwefror 2003, bydd effaith Erthygl 3 o Orchymyn Diwygio Cyfraith Prydlesi a Thai (Tenantiaethau wedi'u Heithrio) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig) (Cymru) 1997[7] yn parhau yn lle darpariaethau'r Gorchymyn hwn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8]
14 Ionawr 2002
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Ionawr 2002
YR ATODLENErthygl 2
Yn Sir Abertawe
Llangyfelach, Mawr; a'r rhan honno o'r gymuned ganlynol nad yw wedi'i lleoli o fewn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol G yr: Llanrhidian Uchaf.
Ym Mwrdeistref Sirol Bro Morgannwg
Ewenni, Gwenfô, Llanbedr-y-fro, Llancarfan, Lland , Llanddunwyd, Llan-fair, Llanfihangel-ynys-Afan, Llan-gan, Llan-maes, Pendeulwyn, Pen-llin, Sain Dunwyd, Sain Nicolas a Thresimwn, Sain Siorys, Saint-y-brid, Tregolwyn, Y Wig.
Yn Sir Caerdydd
Sain Ffagan.
Yn Sir Gaerfyrddin
Abergwili, Aber-nant, Bronwydd, Castellnewydd Emlyn, Cefn Sidan, Cenarth, Cil-y-cwm, Cilymaenllwyd, Clunderwen, Cydweli, Cynwyl Elfed, Cynwyl Gaeo, Eglwys Gymyn, Gors-las, Hendy-gwyn ar Dâf, Henllan Fallteg, Llanarthne, Llanboidy, Llanddarog, Llanddowror, Llandeilo, Llandyfaelog, Llanegwad, Llanfihangel-ar-arth, Llanfair-ar-y-bryn, Llanfihangel Aberbythych, Llanfihangel Rhos-y-corn, Llanfynydd, Llan-gain, Llangathen, Llangeler, Llangynnwr, Llangyndeyrn, Llangynin, Llangynog, Llanismel, Llanllawddog, Llanllwni, Llannewydd a Merthyr, Llan-non, Llanpumsaint, Llansadwrn, Llansawel, Llansteffan, Llanwinio, Llanwrda, Llanybydder, Llan-y-crwys, Manordeilo a Salem, Meidrim, Pencarreg, Pentywyn, Pontyberem, Sanclêr, Talyllychau, Treflan Lacharn, Tre-lech, Trimsaran, a'r rhannau hynny o'r cymunedau canlynol nad ydynt wedi'u lleoli o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: Dyffryn Cennen, Llangadog, Llanymddyfri, Myddfai.
Ym Mwrdeistref Sirol Caerffili
Argoed, Cwm Darren, Rhydri.
Ym Mwrdeistref Sirol Casnewydd
Allteuryn, Coedcernyw, Langstone, Llanfaches, Llanfihangel-y-fedw, Llan-wern, Nash, Pen-h, Redwick, Gwynllwg.
Yn Sir Ceredigion
Aberaeron, Aber-porth, Beulah, Blaenrheidol, Ceinewydd, Ceulan a Maes-mawr, Ciliau Aeron, Dyffryn Arth, Genau'r-glyn, Henfynyw, Llanbadarn Fawr, Llannarth, Llandyfrïog, Llandysiliogogo, Llandysul, Llanddewibrefi, Llanfair Clydogau, Llanfarian, Llanfihangel Ystrad, Llangeitho, Llangoedmor, Llangrannog, Llangwyryfon, Llangybi, Llangynfelyn, Llanilar, Llanllwchaearn, Llanrhystud, Llansanffraid, Llanwnnen, Lledrod, Melindwr, Nantcwnlle, Penbryn, Pontarfynach, Tirymynach, Trawsgoed, Trefeurig, Tregaron, Troed-yr-aur, Y Borth, Y Ferwig, Ysbyty Ystwyth, Ysgubor-y-coed, Ystrad Fflur, Ystradmeurig.
Ym Mwrdeistref Sirol Conwy
Betws-yn-Rhos, Cerrigydrudion, Eglwys-bach, Llanddoged a Maenan, Llanefydd, Llanfair Talhaearn, Llanfihangel Glyn Myfyr, Llangernyw, Llangwm, Llansanffraid Glan Conwy, Llansannan, Pentrefoelas a'r rhannau hynny o'r cymunedau canlynol nad ydynt wedi'u lleoli o fewn Parc Cenedlaethol Eryri: Bro Garmon, Caerhun, Dolgarrog, Henryd, Llanfairfechan, Llanrwst, Trefriw.
Yn Sir Ddinbych
Betws Gwerful Goch, Bodelwyddan, Cefn Meiriadog, Clocaenog, Corwen, Cyffylliog, Cynwyd, Derwen, Efenechtyd, Gwyddelwern, Henllan, Llandrillo, Llanelidan, Llangollen, Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch, Llandysilio, Llanynys, Nantglyn, Trefnant, Waun a'r rhannau hynny o'r cymunedau canlynol nad ydynt wedi'u lleoli o fewn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd: Aberchwiler, Bodfari, Bryneglwys, Diserth, Llanarmon-yn-Iâl, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Llandegla, Llandyrnog, Llanfair Dyffryn Clwyd, Llangynhafal, Tremeirchion, Y Cwm.
Yn Sir Gwynedd
Criccieth, Llanrug, Llanwnda, Llanystumdwy, Pentir, Y Bontnewydd, Y Felinheli; y rhannau hynny o'r cymunedau canlynol nad ydynt wedi'u lleoli o fewn Parc Cenedlaethol Eryri: Aber, Arthog, Abermo, Betws Garmon, Clynnog, Corris, Dolbenmaen, Ffestiniog, Llanberis, Llandwrog, Llandygái, Llanddeiniolen, Llandderfel, Llanfrothen, Llangywer, Llanllechid, Llanllyfni, Penrhyndeudraeth, Tywyn, Waunfawr; a'r rhannau hynny o'r cymunedau canlynol nad ydynt wedi'u lleoli o fewn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Lln: Aberdaron, Botwnnog, Buan, Clynnog, Llanaelhaearn, Llanbedrog, Llanengan, Llannor, Nefyn, Pistyll, Tudweiliog.
Ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tydfil
Y rhan honno o'r gymuned ganlynol nad yw wedi'i lleoli o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: Y Faenor.
Yn Sir Fynwy
Brynbuga, Caer-went, Gwehelog Fawr, Llan-arth, Llanbadog, Llandeilo Gresynni, Llangatwg Feibion Afel, Llan-gwm, Llangybi, Llanhenwg, Llantrisaint Fawr, Porth Sgiwed, Rogiet; a'r rhannau hynny o'r cymunedau canlynol nad ydynt wedi'u lleoli o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: Crucornau Fawr, Goetre Fawr, Llan-ffwyst Fawr, Llanofer Fawr, Y Grysmwnt; a'r rhannau hynny o'r cymunedau canlynol nad ydynt wedi'u lleoli o fewn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy: Devauden, Drenewydd Gelli-fach, Matharn, Llanfihangel Troddi, Rhaglan, Tryleg Unedig.
Yn Sir Benfro
Arberth, Boncath, Camros, Cas-blaidd, Cas-wis, Cilgerran, Cilgeti/Begeli, Clydau, Gorllewin Llandysilio, Johnston, Llanbedr Felffre, Llanddewi Felffre, Llanstadwel, Manordeifi, Rudbaxton, Rhosfarced, Scleddau, Spital, St. Florence, Tiers Cross, Treamlod, Tredeml, Trecwn, Treletert, Y Mot; a'r rhannau hynny o'r cymunedau canlynol nad ydynt wedi'u lleoli o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro: Amroth, Breudeth, Burton, Cariw, Castell Gwalchmai, Castellmartin, Cosheston, Crymych, Cwm Gwaun, Eglwyswrw, Freystrop, Cas-lai, Cas-mael, Herbrandston, Hundleton, Jeffreyston, Llandudoch, Llandyfái, Llangwm a Hook, Llanhuadain, Llanrhian, Maenclochog, Martletwy, Mathri, Mynachlog-ddu, Nyfer, Nolton a'r Garn, Penalun, Pen-caer, Slebech, Solfach, St. Mary Out Liberty, The Havens, Uzmaston a Boulston, Ystangbwll.
Ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Llangrallo Uchaf, Llangynwyd Isaf, Merthyr Mawr.
Yn Sir Powys
Abaty Cwm-hir, Aberedw, Aberhafesb, Aberriw, Banwy, Bausley a Chrugion, Betws, Bronllys, Bugeildy, Cadfarch, Caersws, Carno, Carreghwfa, Castell Caereinion, Cegidfa, Ceri, Cilmeri, Cleirwy, Diserth a Thre-coed, Duhonw, Dwyriw, Erwd, Felin-fach, Ffordun, Glantwymyn, Glasgwm, Hwytyn, Llanafan Fawr, Llanandras, Llanbadarn Fawr, Llanbadarn Fynydd, Llanbedr Castell-paen, Llanbister, Llanbryn-mair, Llandinam, Llandrinio, Llandysilio, Llandysul, Llanddewi Ystradenni, Llanelwedd, Llanerfyl, Llanfair Caereinion, Llanfair Llythynwg, Llanfair-ym-Muallt, Llanfechain, Llanfihangel, Llanfihangel Rhydieithon, Llanfyllin, Llangamarch, Llangedwyn, Llangunllo, Llangurig, Llangynog, Llangynyw, Llanidloes, Llanidloes y Tu Allan, Llanllyr, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Llanrhaeadr-ym-Mochnant (gynt yn Sir Clwyd), Llansanffraid, Llansilin, Llanwddyn, Llanwrthwl, Llanwrtyd, Machynlleth, Maesyfed, Manafon, Meifod, Merthyr Cynog, Mochdre, Nantmel, Pencraig, Pen-y-bont, Pen-y-bont-fawr, Rhaeadr, Saint Harmon, Trefaldwyn, Trefeglwys, Treflys, Trefyclo, Tregynon, Tre-wern, Y Clas-ar-Wy, Yr Ystog, Yr Ystog (Ar Wahân), Y Trallwng; a'r rhannau hynny o'r cymunedau canlynol nad ydynt wedi'u lleoli o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: Gwernyfed, Honddu Isaf, Llan-ddew, Llanfrynach, Llan-gors, Llaneigon, Llywel, Maes-car, Talgarth, Tawe Uchaf, Trallong, Yscir, Ystradgynlais.
Ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Llwytgoed, Y Rhigos; a'r rhan honno o'r gymuned ganlynol nad yw wedi'i lleoli o fewn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol G yr: Hirwaun.
Ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam
Abenbury, Bangor Is-coed, Bronington, Ceiriog Uchaf, De Maelor, Erbistog, Glyntraean, Hanmer, Holt, Is-y-coed, Llangollen Wledig, Llansantffraid Glynceiriog, Marchwiail, Mwynglawdd, Owrtun, Saltney, Sesswick, Willington,Worthenbury, Yr Orsedd.
Yn Sir y Fflint
Brynffordd, Chwitfordd, Helygain, Llanfynydd, Mostyn, Sealand, a'r rhannau hynny o'r cymunedau canlynol nad ydynt wedi'u lleoli o fewn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd: Caerwys, Cilcain, Llanasa, Nannerch, Nercwys, Trelawnyd a Gwaunysgor, Treuddyn, Ysgeifiog.
Yn Sir Ynys Môn
Bodedern, Bodffordd, Bryngwran, Llanfihangel Ysgeifiog, Llangristiolus, Llannerch-y-medd, Mechell, Penmynydd, Rhos-y-bol, Tref Alaw, Trewalchmai; a'r rhannau hynny o'r cymunedau canlynol nad ydynt wedi'u lleoli o fewn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn: Aberffro, Biwmares, Bodorgan, Cwm Cadnant, Cylch-y-Garn, Llanbadrig, Llanddaniel-fab, Llanddona, Llanddyfnan, Llaneilian, Llaneugrad, Llanfachraeth, Llanfaelog, Llanfaethlu, Llanfair-yn-neubwll, Llangoed, Llanidan, Moelfre, Pentraeth, Rhosyr, Trearddur, Y Fali.
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
O dan adran 157 o Ddeddf Tai 1985 ("Deddf 1985"), os yw trawsgludiad neu grant yn cael ei gyflawni yn unol â Rhan V o Ddeddf 1985 (yr hawl i brynu) gan awdurdod lleol neu gymdeithas tai (y landlord) a bod y t annedd hwnnw wedi'i leoli mewn:
- Parc Cenedlaethol,
- ardal sydd wedi'i dynodi o dan adran 82 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn ardal o harddwch naturiol eithradol, neu
- ardal sydd wedi'i dynodi drwy orchymyn Cynulliad Cendlaethol Cymru yn ardal wledig,
fe all y trawsgludiad neu'r grant gynnwys cyfamod sy'n cyfyngu ar hawl y tenant i werthu'r t annedd yn y modd a nodwyd yn yr adran honNo.
O dan adran 16 o Ddeddf Tai 1996 ("Deddf 1996") mae gan denant landlord cymdeithasol cofrestredig hawl mewn amgylchiadau penodol i gaffael yr annedd y mae ef neu hi yn byw ynddi. Mae hyn yn ddarostyngedig i adran 17 o Ddeddf 1996 sy'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol drwy orchymyn i ddynodi ardaloedd gwledig mewn perthynas ag anheddau lle na fydd yr hawl sy'n cael ei rhoi gan adran 16 yn codi.
Mae'r Gorchymyn hwn yn dynodi ardaloedd gwledig at ddibenion adran 157 o Ddeddf 1985 ac adran 17 o Ddeddf 1996. Mae'n disodli Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig a Rhanbarthau Dynodedig) (Cymru) 1980. Yn ychwanegol, ar gyfer tenantiaethau a ddechreuodd ar 7 Chwefror 2003 neu ar ôl hynny, mae'r Gorchymyn hwn yn disodli Erthygl 3(b) o Orchymyn Diwygio Cyfraith Prydlesi a Thai (Tenantiaethau wedi'u Heithrio) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig) (Cymru) 1997. Ar gyfer tenantiaethau a ddechreuodd cyn 7 Chwefror 2003, mae erthygl 3(b) o Orchymyn Diwygio Cyfraith Prydlesi a Thai (Tenantiaethau wedi'u Heithrio) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig) (Cymru) 1997 yn parhau i fod yn effeithiol ac ni fydd y Gorchymyn hwn yn gymwys i'r tenantiaethau hynny.
Notes:
[1]
1985 p.68;. gweler erthygl 2 yn Atodlen 1 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (O.S.1999/672).back
[2]
1996 p.52; gweler erthygl 2 yn Atodlen 1 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (O.S.1999/672).back
[3]
2000 p.37.back
[4]
1949 p.97.back
[5]
O.S. 1980/1375.back
[6]
O.S. 1997/685.back
[7]
O.S. 1997/685.back
[8]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090624 1
|