OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 143 (Cy.15)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003
|
Wedi'u gwneud |
28 Ionawr 2003 | |
|
Yn dod i rym |
1 Chwefror 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 29 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 1 Chwefror 2003.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y prif Reoliadau" ("the Principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992[2].
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Atodlen 10 i'r prif Reoliadau
2.
Yn Atodlen 10 i'r prif Reoliadau (cyffuriau a sylweddau eraill nad ydynt i'w rhagnodi i'w cyflenwi o dan wasanaethau fferyllol) hepgorir y cofnodion canlynol -
Methylcisteine Tablets 100mg
Mucodyne Paediatric Syrup
Diwygio Atodlen 11 i'r prif Reoliadau
3.
Yn Atodlen 11 i'r prif Reoliadau (cyffuriau i'w rhagnodi o dan wasanaethau fferyllol mewn amgylchiadau penodol yn unig), hepgorir -
(a) y cofnodion sy'n ymwneud â'r canlynol -
(i) Gronynnau Acetylcysteine, a
(ii) Carbocisteine
a
(b) ar ôl "Apomorphine Hydrochloride (Uprima)" yng ngholofnau 1 a 2 yn eu trefn, mewnosodwch
"
, Tadalafil (Cialis)" .
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Ionawr 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992 ("y prif Reoliadau") sy'n rheoleiddio'r telerau y mae meddygon yn darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.
Mae rheoliad 2 yn diwygio'r rhestr yn Atodlen 10 i'r prif Reoliadau, sy'n rhestru cyffuriau a sylweddau eraill na cheir eu rhagnodi i'w cyflenwi tra'n darparu gwasanaethau fferyllol o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, drwy dynnu cynhyrchion mwcolytig geneuol penodedig.
Mae rheoliad 3 yn diwygio Atodlen 11 i'r prif Reoliadau, sy'n rhestru'r cyffuriau a'r sylweddau eraill y gellir eu rhagnodi mewn amgylchiadau penodol yn unig yng nghwrs gwasanaethau fferyllol a ddarperir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.
Mae Rheoliad 3(a) yn tynnu cynhyrchion mwcolytig geneuol penodedig oddi ar y rhestr yn Atodlen 11 ac mae rheoliad 3(b) yn ychwanegu Tadalafil (Cialis) ati.
Notes:
[1]
{d1}{t1}1977 p.49; gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i), a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 38(2)(b), i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".{d1}{t1}Estynnwyd adran 29 gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), adran 17; a'i diwygio gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53), adrannau 1 a 7 ac Atodlen 2, paragraff 16(a); gan O.S.1985/39, erthygl 7(3); gan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17), Atodlen 1 paragraff 18 a chan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p. 46), Atodlen 2, paragraff 8.{d1}{t1}Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a chan Ddeddf 1999, Atodlen 4, paragraff 37(6).{d1}{t1}Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 29 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(5).back
[2]
O.S..1992/635; Yr offerynnau perthnasol yw OS 1992/2412, 1993/2421, 1994/2620, 1997/981, 2000/187 (Cy.133), 2001/1788 (Cy.129), 2002/1804 (Cy.174)[ ]back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090635 7
|