BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 301 (Cy.43)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030301w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 301 (Cy.43)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 13 Chwefror 2003 
  Yn dod i rym 1 Mawrth 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 38, 39, 78(1), 126(4), 127 a 128(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 iddi[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 1 Mawrth 2003.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997[
2].

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio rheoliad 9 o'r prif Reoliadau
     2. Yn rheoliad 9 o'r prif Reoliadau (dyroddi talebau gan ymarferwyr meddygol offthalmig neu optegwyr )  - 

Diwygio rheoliad 12 o'r prif Reoliadau
    
3. Diwygir rheoliad 12 o'r prif Reoliadau (defnyddio talebau i gyflenwi cyfarpar optegol) - 

Diwygio rheoliad 13 o'r prif Reoliadau
    
4. Yn rheoliad 13 o'r prif Reoliadau (taliadau i gyflenwyr), ar ôl paragraff (2)(c)(iv) mewnosodwch yr is-baragraff canlynol - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]


Rhodri Morgan
Prif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol

13 Chwefror 2002



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 ("y prif Reoliadau").

Mae'r prif Reoliadau yn darparu ar gyfer cynllun taliadau i'w gwneud gan yr Awdurdodau Iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG drwy gyfrwng system dalebau mewn perthynas â chostau a dynnir gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â phrofion golwg a chyflenwi, amnewid a thrwsio cyfarpar optegol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i awdurdod cyfrifol roi caniatâd i ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd ddyroddi taleb i alluogi cyfarpar optegol ychwanegol o'r un presgripsiwn i gael ei ddarparu i berson cymwys o fewn y categori a ragnodwyd.

Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 9 o'r prif Reoliadau sy'n darparu y caiff taleb ar gyfer cyfarpar optegol ychwanegol ei hawdurdodi gan yr awdurdod cyfrifol (hynny yw, yr awdurdod iechyd ar gyfer yr ardal lle bydd cyflenwi'r cyfarpar optegol yn digwydd) mewn achosion lle mae'r claf yn blentyn neu'n berson o dan 19 oed sy'n cael addysg amser-llawn ac sydd, yn y naill achos neu'r llall, yn dioddef gan salwch, y mae un o'i ganlyniadau yn golygu bod angen cyflenwi cyfarpar optegol ychwanegol o'r un presgripsiwn, neu y mae ei angen yn deillio o amgylchiadau y mae'r awdurdod cyfrifol yn derbyn eu bod yn eithriadol.

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 12 o'r prif Reoliadau sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer y weithdrefn sydd i'w mabwysiadu mewn achosion pan fydd hawl i daleb am gyfarpar ychwanegol yn cael ei hawlio.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 13 o'r prif Reoliadau i wneud darpariaeth i'r weithdrefn gael ei mabwysiadu i alluogi cyflenwr cyfarpar optegol ychwanegol i gael taliad gan yr awdurdod iechyd cyfrifol.


Notes:

[1] {d1}{t1}1977 p.49 ("Deddf 1977"); gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i) i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".{d1}{t1}Diwygiwyd adran 38 gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53) ("Deddf 1980"), adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 51; gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48) ("Deddf 1984"), adran 1(3); gan O.S.1985/39, erthygl 7(11); gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49) ("Deddf 1988"), adran 13(1); a chan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995"), Atodlen 1, paragraff 27.{d1}{t1}Cafodd adran 39 ei hestyn gan Ddeddf 1988, adran 17; a'i diwygio gan Ddeddf 1980, adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 52, gan Ddeddf 1984, adran 1(4) ac Atodlen 1, paragraff 1 ac Atodlen 8; gan O.S.1985/39, erthygl 7(12); a chan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 28.{d1}{t1}Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990 adran 65(2) a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 37(6).{d1}{t1}Amnewidiwyd paragraff 2(1) o Atodlen 12 gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988, Atodlen 2, paragraff 8(1).{d1}{t1}Cafodd paragraff 2A o Atodlen 12 ei fewnosod gan Ddeddf 1984, Atodlen 1, paragraff 3 a'i ddiwygio gan adran 13(2) a (3) o Ddeddf 1988.{d1}{t1}Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 38, 39, 78(1), 126(4), 127 a 128(1) o Ddeddf 1977, a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 iddi, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.back

[2] O.S. 1997/818.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090683 7


 
© Crown copyright 2003
Prepared 25 March 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030301w.html