BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorfodi) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003 Rhif 395 (Cy.54)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030395w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 395 (Cy.54)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorfodi) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 25 Chwefror 2003 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 175, 323 a 333 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[1] ac adrannau 40, 89(1), 91(1) a 93(2) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990[2] a phob pwcircer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorfodi) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli
    
2. Yn y rheoliadau hyn - 

Cymhwyso'r Rheoliadau hyn
     3.  - (1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys os, wedi iddynt ddod i rym, bydd apelydd yn rhoi gwybod i'r Cynulliad Cenedlaethol yn yr hysbysiad apêl am ddymuniad i'r apêl gael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig.

    (2) Pan na fydd apêl o dan adran 174 o'r Ddeddf Gynllunio (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi) neu adran 39 o'r Ddeddf Adeiladau Rhestredig (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi adeilad rhestredig neu ardal gadwraeth) yn cael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig a phan fydd yr apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol yn rhoi gwybod i'r Cynulliad Cenedlaethol eu bod yn dymuno iddo gael ei phenderfynu ar y sail honno, bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i'r achos i unrhyw raddau ag y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn eu pennu gan roi ystyriaeth i unrhyw gamau a gymerwyd eisoes mewn perthynas â'r achos hwnnw.

    (3) Bydd y Rheoliadau hyn yn peidio â bod yn gymwys i'r achos os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi gwybod i'r apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol y bydd yn rhoi cyfle iddynt ymddangos gerbron person a benodir ganddo at y diben hwn a chael ei wrando gan y person hwn.

Hysbysu cael apêl
    
4. Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, hysbysu'r apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol yn ysgrifenedig am - 

Hysbysiad i bartïon sydd â buddiant
    
5.  - (1) Rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol, o fewn 2 wythnos o'r dyddiad dechrau, roi hysbysiad apêl i unrhyw - 

    (2) Rhaid i'r hysbysiad a roddir o dan baragraff (1) gynnwys - 

Holiadur
    
6.  - (1) Rhaid i'r awdurdod cynllunio lleol anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol a chopïo i'r apelydd, fel eu bod yn eu derbyn o fewn 2 wythnos o'r dyddiad dechrau  - 

    (2) Rhaid i'r holiadur ddatgan y dyddiad yr anfonir ef i'r Cynulliad Cenedlaethol arno.

Sylwadau
    
7.  - (1) Sylwadau'r apelydd, mewn perthynas â'r apêl, yw'r hysbysiad apêl, y dogfennau sy'n mynd gydag ef ac unrhyw ddatganiad a anfonir o dan reoliad 5 o'r Rheoliadau Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau.

    (2) Caiff yr awdurdod cynllunio lleol ddewis trin yr holiadur, y dogfennau a anfonir gydag ef a'r datganiad a anfonir o dan reoliad 8 o'r Rheoliadau Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau, fel ei sylwadau mewn perthynas â'r apêl; ac, os gwnaiff felly, rhaid iddo hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol a'r apelydd yn unol â hynny pan fydd yn anfon yr holiadur neu'n anfon un copi yn unol â rheoliad 6.

    (3) Os bydd yr apelydd yn dymuno gwneud unrhyw sylwadau pellach at y rheini ym mharagraff (1), rhaid i'r apelydd anfon 2 gopi o'r sylwadau pellach hynny i'r Cynulliad Cenedlaethol fel ei fod yn eu cael o fewn 6 wythnos o'r dyddiad dechrau.

    (4) Os na fydd yr awdurdod cynllunio lleol yn dewis fel a ddisgrifir ym mharagraff (2), rhaid iddo anfon 2 gopi o'i sylwadau ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol fel ei fod yn eu cael o fewn 6 wythnos o'r dyddiad dechrau a rhaid i'r rhain gynnwys - 

    (5) Rhaid dyddio unrhyw sylwadau a wneir i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (3) neu (4) a'u hanfon i'r Cynulliad Cenedlaethol ar y dyddiad sydd arnynt.

    (6) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol wedi iddo eu cael, anfon copi o unrhyw sylwadau a wneir iddo gan yr awdurdod cynllunio lleol at yr apelydd a rhaid iddo anfon copi o unrhyw sylwadau a wneir iddo gan yr apelydd i'r awdurdod cynllunio lleol.

    (7) Rhaid i'r apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol anfon 2 gopi o unrhyw sylwadau sydd ganddynt ar sylwadau ei gilydd i'r Cynulliad Cenedlaethol fel ei fod yn eu cael o fewn 9 wythnos o'r dyddiad dechrau; a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl eu cael, anfon copi o'r sylwadau ysgrifenedig pellach at y parti arall.

    (8) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddisystyru gwybodaeth bellach oddi wrth yr apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol nad oedd wedi ei chael o fewn 9 wythnos o'r dyddiad dechrau oni bai iddo fynnu'r wybodaeth bellach honno.

Sylwadau trydydd parti
    
8.  - (1) Os yw person sydd â buddiant ac a hysbysir o dan reoliad 5(1) yn dymuno anfon sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol, rhaid i'r person hwnnw wneud hynny er mwyn sicrhau bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cael y sylwadau hynny o fewn 6 wythnos o'r dyddiad dechrau.

    (2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol - 

    (3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiystyru sylwadau a wneir gan yr awdurdod cynllunio lleol o dan baragraff 2(b) os bydd yr awdurdod wedi methu â hysbysu personau sydd â buddiant yn unol â rheoliad 5.

Caniatáu rhagor o amser
    
9. Caiff y Cynulliad Cenedlaethol mewn achos penodol roi cyfarwyddiadau sy'n gosod terfynau amser hwyrach na'r rheini a ragnodir yn y Rheoliadau hyn.

Penderfynu ar apêl
    
10.  - (1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol fynd rhagddo i benderfynu ar apêl gan gymryd i ystyriaeth dim ond y sylwadau ysgrifenedig hynny y mae wedi eu cael o fewn y terfynau amser perthnasol.

    (2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, wedi iddo hysbysu'r apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol yn ysgrifenedig o'i fwriad i wneud hynny, fynd rhagddo i benderfynu ar apêl er nad oedd unrhyw sylwadau ysgrifenedig wedi cael eu gwneud o fewn y terfynau amser perthnasol os ymddengys iddo fod ganddo ddigon o ddeunydd ger ei fron i'w alluogi i ddod i benderfyniad ar rinweddau'r achos.

    (3) Yn y rheoliad hwn, ystyr "terfynau amser perthnasol" ("relevant time limits") yw'r terfynau amser a ragnodir gan y Rheoliadau hyn neu, pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi arfer ei bwcircer o dan reoliad 9, unrhyw derfynau amser hwyrach.

Trosglwyddo dogfennau
    
11.  - (1) Gellir anfon unrhyw ddogfennau y mae'n ofynnol eu hanfon, neu yr awdurdodwyd eu hanfon, gan y naill berson at y llall o dan y Rheoliadau hyn drwy gyfrwng cyfathrebu electronig a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at ysgrifennu yn y Rheoliadau hyn, sut bynnag y caiff ei fynegi, fel petai'n cynnwys cyfeiriad at ffurf y mae modd ei chadw ar gyfrifiadur, ei throsglwyddo i gyfrifiadur ac oddi wrth gyfrifiadur, a'i darllen gan gyfrifiadur.

    (2) Os oes gofyniad, o dan y Rheoliadau hyn, y dylid anfon copi o ddatganiad, sylw, hysbysiad neu ddogfen arall gan y naill berson at y llall, yna, os anfonir y copi hwnnw drwy gyfrwng cyfathrebu electronig, dylid disytyru unrhyw ofyniad pellach bod rhaid anfon mwy nag un copi.

Darpariaethau trosiannol
    
12.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i unrhyw apêl y cymhwyswyd Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) 1991[5] (" Rheoliadau 1991") iddi ac nas penderfynwyd ar y dyddiad pan ddaeth y Rheoliadau hyn i rym barhau o dan Reoliadau 1991.

    (2) Os bydd apêl y cymhwysir Rheoliadau 1991 iddi yn cael ei hanfon yn ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol i'w ailbenderfynu mewn achos gerbron unrhyw lys, ac mae i'w phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig, rhaid ailbenderfynu'r penderfyniad yn unol â'r Rheoliadau hyn ac nid â Rheoliadau 1991.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]


D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

25 Chwefror 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae adran 174 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, adran 39 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a'r adran honno fel y'i cymhwyswyd gan adran 74(3) o'r Ddeddf honno, yn rhoi hawl apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi, hysbysiad gorfodi adeilad rhestredig a hysbysiad gorfodi ardal gadwraeth, fel ei gilydd, ar berson sydd â buddiant yn y tir y mae'r hysbysiad gorfodi yn ymwneud ag ef neu sydd yn feddiannydd perthnasol.

Mae gan apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol hawl mewn unrhyw achos apêl i ymddangos gerbron person sydd wedi ei benodi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") ac i gael gwrandawiad gan y person hwnnw, ond cânt gytuno i'r apêl gael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig a dogfennau ategol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r weithdrefn a'r terfynau amser mewn cysylltiad ag apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi sydd i'w penderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig.

Y prif gamau yn y weithdrefn yw  - 

Mae rheoliad 11 yn awdurdodi dogfennau, sy'n cael eu hanfon yn unol â'r Rheoliadau hyn, gael eu hanfon drwy gyfrwng cyfathrebu electronig.


Notes:

[1] 1990 p.8; trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 175 a 323, mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo a breinir hwy bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 4 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253 (Cy.5)) ac Atodlen 3 iddo. Mae adran 175 yn cynnwys diwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Diwygiwyd adran 323 gan baragraff 26 o Atodlen 3 i'r Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992 (p.53).back

[2] 1990 p.9; trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Mae adran 89(1) yn cymhwyso'r darpariaethau gwneud rheoliadau a gynhwysir yn adran 323 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref i'r Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) at ddibenion y Rheoliadau hyn.back

[3] 1990 p.9; diwygiwyd adran 39 gan baragraff 3 o Atodlen 3 i Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34), diwygiwyd Atodlen 3 gan adran 25 o'r Ddeddf honno ac Atodlen 3, Rhan II, paragraff 28 iddi, a chan O.S. 1997/2971. Diwygiwyd adran 12 gan adran 17 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gwaith 1992 (p.42). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[4] O.S. 2003/394 (Cy.53).back

[5] O.S. 1991/2804, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1991/1492 a 1992/1904.back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090688 8


 
© Crown copyright 2003
Prepared 28 March 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030395w.html