BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Cynllun Fordd Ymuno Traffordd yr M4 (Cyffordd 44, L<sup>o</sup>&ocirc; n-Las) 2003 Rhif 406 (Cy.57)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030406w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 406 (Cy.57)

PRIFFYRDD, CYMRU

Cynllun Fordd Ymuno Traffordd yr M4 (Cyffordd 44, Loô n-Las) 2003

  Wedi'u wneud 26 Chwefror 2003 
  Yn dod i rym 28 Mawrth 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16, 17 a 326 o Ddeddf Priffyrdd 1980[1] a phob pwcircer galluogi arall[2] yn gwneud y Cynllun hwn: - 

     1. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei awdurdodi i ddarparu ar hyd y llwybr a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn ffordd arbennig ar gyfer defnydd traffig Dosbarth 1 ac 11 a nodir yn Atodlen 4 i Ddeddf Priffyrdd 1980.

    
2. Mae llinell ganol y ffordd arbennig hon wedi ei dynodi â llinell drwchus ddu dangosir fel "A" ar y plan a adneuwyd.

    
3. Bydd y darn o'r ffordd arbennig a ddisgrifir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau rhesog bras dangosir fel "B" ar y plan a adneuwyd yn peidio â bod yn gefnffordd a chaiff ei dosbarthu fel ffordd Ddi-ddosbarth o'r dyddiad y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn hysybysu Dinas a Sir Abertawe fod y ffordd arbennig newydd ar agor i draffig trwodd.

    
4. Yn y Cynllun hwn: - 

    (1) Mae pob mesur o bellter wedi'i fesur ar hyd llwybr y briffordd berthnasol;

     5. Daw'r Cynllun hwn i rym ar 28 Mawrth 2003 a'i enw yw Cynllun Ffordd Ymuno Traffordd yr M4 (Cyffordd 44, Lôn-Las) 2003.



Llofnodwyd ar ran y Gweinidog dros yr Amgylchedd


R. K. Cone
Pennaeth yr Is-adran Rheoli'r Rhwydwaith ffyrdd y Gyfarwddiaeth

Llywodraeth Cynulliad Cymru
26 Chwefror 2003



ATODLEN 1
Llwybr y Ffordd Arbennig
Llwybr o'i chyffordd â chylchfan y gylchfan newydd yng nghyffordd 44 i gyfeiriad y gogledd am bellter o tua 36 metr.



ATODLEN 2
Y darn o'r Ffordd Arbennig sydd yn peidio â bod yn Gefnffordd
Y darn o Ffordd Arbennig sydd yn peidio â bod yn Gefnffordd yw'r darn hwnnw o'r ffordd ymuno tua'r gorllewin yng nghyffordd 44 o'i chyffordd â'r gylchfan bresennol sydd yn ymestyn i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain am bellter o tua 162 metr.


Notes:

[1] 1980 p.66back

[2] Yn rhinwedd O.S. 1999/672 erthygl 2 ac Atodlen 1, rhoddwyd y pwerau hyn bellach i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymruback



English version



ISBN 0 11090660 8


 
© Crown copyright 2003
Prepared 6 March 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030406w.html