BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2003 Rhif 411 (Cy.58)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030411w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 411 (Cy.58)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2003

  Wedi'u gwneud 26 Chwefror 2003 
  Yn dod i rym 1 Mawrth 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[1], a phob pwcircer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enw, cychwyn a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2003 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2003.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2001[
2].

Diwygio'r Prif Reoliadau
     2.  - (1) Diwygir y prif Reoliadau yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliad hwn.

    (2) Yn rheoliad 5(2), dilëir paragraff (ch).

    (3) Yn rheoliad 8(1) yn lle "30 diwrnod" rhoddir "60 diwrnod".

    (4) Yn rheoliad 8(2), dilëir paragraff (ch).

    (5) Yn rheoliad 8(3) yn lle "ym Mharc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ" rhoddir "yn y cyfeiriad a nodir yn y penderfyniad a roddir o dan reoliad 7(2) uchod".

    (6) Yn rheoliad 11(1) yn lle "30 diwrnod" rhoddir "60 diwrnod".

    (7) Yn rheoliad 11(3) yn lle "ym Mharc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ" rhoddir "yn y cyfeiriad a nodir yn y penderfyniad a roddir o dan reoliad 10(2) uchod".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Chwefror 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Fe sefydlwyd cyfundrefn apelau amaethyddol ar gyfer Cymru gan Reoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2001.

Mae'r Rheoliadau presennol yn diwygio'r Rheoliadau hynny drwy ddileu'r gofyniad i geiswyr roi rhesymau am eu cais am adolygiad yng nghamau 1 a 2 o'r broses apelau.

Maent hefyd yn estyn y cyfnod i wneud cais yng nghamau 2 a 3 o'r broses o 30 diwrnod i 60 diwrnod ac yn cynnwys elfen o hyblygrwydd i'r cyfeiriad ar gyfer anfon cais.


Notes:

[1] 1972 p.68. Dynodwyd y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion adran 2(2) gan Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 1999 (O.S. 1999/2788).back

[2] O.S. 2001/2537 (Cy.212).back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090657 8


 
© Crown copyright 2003
Prepared 6 March 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030411w.html