BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2003 Rhif 481 (Cy.67)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030481w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 481 (Cy.67)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2003

  Wedi'i wneud 3 Mawrth 2003 
  Yn dod i rym 4 Mawrth 2003 


TREFN YR ERTHYGLAU

1. Enwi, cymhwyso, cychwyn a dod i ben
2. Dehongli
3. Eithriadau
4. Defnyddio safle ar gyfer crynoadau anifeiliaid
5. Cyfyngiad o 27 o ddiwrnodau ar grynhoi anifeiliaid mewn un lle
6. Esemptiad i'r cyfnod cyfyngiad o 27 o ddiwrnodau ar gyfer safle ag ardal i anifeiliaid sydd wedi'i phalmantu
7. Y dyletswyddau sydd ar bersonau sy'n bresennol mewn crynhoad anifeiliaid
8. Cyfyngiadau yn sgil crynhoad anifeiliaid
9. Gorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau 1925
10. Gorfodi
11. Dirymu

  ATODLEN GOFYNION MEWN PERTHYNAS Â CHRYNHOAD ANIFEILIAID

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, a hwythau'n gweithredu ar y cyd wrth arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 7, 8 ac 83 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[
1], yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cymhwyso, cychwyn a dod i ben
     1. Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2003; mae'n gymwys mewn perthynas â Chymru, yn dod i rym ar 4 Mawrth 2003 a bydd ei effaith yn dod i ben ar 1 Awst 2003.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn - 

ac mae'n cynnwys derbyn neu gadw'r anifeiliaid hynny dros dro;

Eithriadau
     3. Nid yw darpariaethau'r Gorchymyn hwn yn gymwys os - 

Defnyddio safle ar gyfer crynoadau anifeiliaid
    
4.  - (1) Mae gwaharddiad ar ddefnyddio safle gan unrhyw berson ar gyfer crynhoi anifeiliaid arno onid yw'r safle hwnnw wedi'i drwyddedu at y diben hwnnw gan arolygydd milfeddygol.

    (2) Rhaid i drwydded o dan yr erthygl hon - 

    (3) Rhaid i drwydded bennu - 

Cyfyngiad o 27 o ddiwrnodau ar grynhoi anifeiliaid mewn un lle
    
5. Mae gwaharddiad ar bob crynhoad anifeiliaid ar safle lle y cafodd anifeiliaid eu cadw a hynny hyd nes bydd 27 o ddiwrnodau wedi mynd heibio ers y diwrnod - 

Esemptiad i'r cyfnod cyfyngiad o 27 o ddiwrnodau ar gyfer safle ag ardal i anifeiliaid sydd wedi'i phalmantu
    
6.  - (1) Nid yw'r cyfyngiadau yn erthygl 5 yn gymwys os - 

    (2) O ran y gwaith glanhau a diheintio - 

    (3) Rhaid gwaredu o'r ardal i anifeiliaid yr holl borthiant y daeth yr anifeiliaid i gyffyrddiad ag ef, pob sarn (llaesodr), yr holl garthion, pob deunydd arall sy'n tarddu o anifeiliaid a'r holl halogion eraill  - 

    (4) Mae'n rhaid ysgubo neu grafu'n lân bob rhan o'r ardal i anifeiliaid (yn cynnwys unrhyw gyfarpar), a'i glanhau drwy olchi a'i diheintio â diheintydd a gymeradwywyd.

    (5) Yn dilyn y tro olaf y cafodd yr ardal i anifeiliaid ei glanhau a'i diheintio yn unol â'r erthygl hon, os bydd yn cael ei baeddu â charthion anifeiliaid neu ddeunydd arall sy'n deillio o anifeiliaid, yna mae'n rhaid glanhau a diheintio'r ardal i anifeiliaid neu'r rhannau hynny ohoni sydd wedi'u baeddu yn y modd hwn, a rhaid gwaredu unrhyw ddeunydd gwastraff, yn unol â'r erthygl hon, cyn crynhoi anifeiliaid yno.

Y dyletswyddau sydd ar bersonau sy'n bresennol mewn crynhoad anifeiliaid
    
7. Pan gaiff anifeiliaid eu crynhoi mewn un lle (ac eithrio at ddiben sioe neu arddangosfa) mae darpariaethau'r Atodlen (gofynion mewn cysylltiad â chrynhoad anifeiliaid) yn effeithiol.

Cyfyngiadau yn sgil crynhoad anifeiliaid
    
8.  - (1) Mae darpariaethau'r erthygl hon yn gymwys unwaith y bydd yr anifail olaf mewn crynhoad anifeiliaid wedi gadael y safle trwyddedig.

    (2) Ni chaiff unrhyw berson ganiatáu i anifeiliaid fynd ar y safle trwyddedig hyd nes bydd pob cyfarpar y daeth yr anifeiliaid i gyffyrddiad ag ef wedi'i lanhau fel nad oes arno arwyddion gweledol ei fod wedi ei halogi.

    (3) Ni chaiff unrhyw berson symud o'r safle trwyddedig unrhyw gyfarpar y daeth anifeiliaid mewn crynhoad anifeiliaid i gyffyrddiad ag ef - 

Gorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau 1925
    
9. Nid yw Gorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau 1925 [3] yn gymwys tra bod y Gorchymyn hwn mewn grym.

Gorfodi
     10. Caiff y Gorchymyn hwn ei orfodi gan yr awdurdod lleol neu'r Ysgrifennydd Gwladol.

Dirymu
    
11. Dirymir y canlynol - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru


D.Elis-Thomas
Y Llywydd

3 Mawrth 2003


Whitty
Is-ysgrifennydd Seneddol

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
3 Mawrth 2003



YR ATODLEN
Erthygl 7


GOFYNION MEWN PERTHYNAS Â CHRYNHOAD ANIFEILIAID


Dyletswyddau trwyddedai
     1.  - (1) Rhaid i'r trwyddedai sicrhau bod unrhyw berson sy'n mynd ar y safle trwyddedig yn cael gwybod bod y safle'n drwyddedig o dan y Gorchymyn hwn, pa un ai trwy gyfrwng system o hysbysiadau y gwneir hynny neu mewn rhyw ffordd arall.

    (2) Rhaid i'r trwyddedai ddarparu baddonau traed ac ynddynt ddiheintydd wedi'i gymeradwyo ar y ffordd allan o'r ardal i anifeiliaid ac mewn unrhyw fae llwytho a dadlwytho, a darparu cyfleusterau ar y safle ar gyfer newid, golchi a diheintio dillad a gwaredu dillad y gellir eu taflu.

    (3) Mae'n rhaid i'r trwyddedai - 

Y dyletswyddau sydd ar bersonau sy'n bresennol mewn crynhoad anifeiliaid
     2.  - (1) Ni chaiff unrhyw berson fynd ar safle trwyddedig yn gwisgo dillad allanol y mae arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi'u halogi â charthion anifail neu halogion eraill sy'n deillio o anifeiliaid.

    (2) Os bydd person yn yr ardal i anifeiliaid yn gwisgo dillad allanol ac arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi eu halogi gan garthion anifeiliaid neu halogion eraill sy'n deillio o anifeiliaid, rhaid iddo ar ei union ar ôl gadael yr ardal i anifeiliaid, lanhau halogi garw oddi ar ei ddillad (onid yw'r dillad i gael eu taflu) a naill ai - 

    (3) Os bydd person y tu allan i'r ardal i anifeiliaid yn gwisgo dillad allanol ac arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi eu halogi gan garthion anifeiliaid neu halogion eraill sy'n deillio o anifeiliaid, caiff arolygydd gyflwyno iddo hysbysiad yn rhoi iddo'r dewis o - 

Esgidiau i'w gwisgo yn yr ardal i anifeiliaid
     3. Rhaid i unrhyw berson sy'n ymadael â'r ardal i anifeiliaid lanhau a diheintio ei esgidiau yn y baddon traed sydd wedi'i ddarparu.

Cerbydau
     4. Ni chaiff unrhyw berson ddod ag unrhyw gerbyd nac offer ar y safle trwyddedig na mynd â hwy oddi yno os ydynt wedi'u halogi â charthion anifeiliaid, ac eithrio carthion yr anifeiliaid sydd ar y cerbyd ar y pryd.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn cymryd lle Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002.

Nid yw'n gymwys yn yr amgylchiadau a nodir yn erthygl 3 (anifeiliaid a grynhoir ar safle y mae eu perchennog yn berchen arno).

Rhaid wrth drwydded ar gyfer crynoadau anifeiliaid (erthygl 4).

Mae'n pennu na chaiff crynhoad anifeiliaid ddigwydd ond ar ôl i 27 o ddiwrnodau fynd heibio ar ôl i'r olaf o'r anifeiliaid adael y safle hwnnw ac i'r cyfarpar ar y safle gael ei lanhau fel nad oes arno arwyddion gweledol ei fod wedi ei halogi (erthygl 5). Os ar safle wedi'i balmantu y crynhoir yr anifeiliaid mae erthygl 6 yn gwneud darpariaeth ar gyfer glanhau a diheintio'r safle hwnnw ac yn ei gwneud yn bosibl i grynhoad ddigwydd o fewn y terfyn amser arferol.

Mae'n gosod dyletswyddau ar y personau sy'n bresennol mewn crynhoad anifeiliaid (erthygl 7 a'r Atodlen).

Mae'n gosod cyfyngiadau yn sgil crynhoad anifeiliaid (erthygl 8).

Mae'n datgymhwyso dros dro ac yn cymryd lle Gorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau 1925 (OS 1925/1349) (erthygl 9).

Fe'i gorfodir gan yr awdurdod lleol neu'r Ysgrifennydd Gwladol (erthygl 10).

Mae peidio ag ufuddhau i'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o'r Ddeddf Iechyd Anifeiliaid, ac mae'r gosb am hynny yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno.

Bydd effaith y Gorchymyn hwn yr dod i ben ar 1 Awst 2003.

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.


Notes:

[1] 1981 p.22. Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf 1981 i "the Ministers" (fel y'u diffinnir yn adran 86 o'r Ddeddf honno) i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau ar y cyd "the Ministers" a oedd yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban mewn perthynas â Chymru i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141). Cafodd pob un o swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd eu trosglwyddo ymhellach wedyn i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794).back

[2] O.S. 1978/32 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1999/919 ac, mewn perthynas â Chymru O.S. 2001/641 (Cy.31).back

[3] O.S.1925/1349 fel y'i diwygiwyd gan O.S.1926/546; O.S.1927/982 ac O.S. 1996/3265.back

[4] O.S.2002/283 (Cy.34).back

[5] O.S. 2002/1358 (Cy.134).back

[6] O.S.2002/2060 (Cy.209).back

[7] O.S. 2003/169 (Cy.29).back



English version



ISBN 0 11090685 3


 
© Crown copyright 2003
Prepared 25 March 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030481w.html