BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) 2003 Rhif 482 (Cy.68)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030482w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 482 (Cy.68)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 3 Mawrth 2003 
  Yn dod i rym 4 Mawrth 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 7, 37, 87(2) a (5) ac 88(2) a (4) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1], yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso ac estyn diffiniadau
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 4 Mawrth 2003.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

    (3) At ddibenion Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 o'i chymhwyso at y Gorchymyn hwn - 

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Gorchymyn hwn - 

    (2) Rhaid i unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig. Gellir ei wneud yn ddarostyngedig i amodau a gellir ei ddiwygio, ei atal neu ei ddiddymu unrhyw bryd mewn ysgrifen.

Glanhau a diheintio mewn cysylltiad â chludo anifeiliaid carnog a dofednod
    
3.  - (1) Mae'r erthygl hon yn gymwys mewn cysylltiad â chludo - 

ac mae'n rhaid i gyfeiriadau yn yr erthygl hon at "anifail" gael eu dehongli yn unol â hynny.

    (2) Yn yr amgylchiadau a nodir yn Atodlen 1, gofynion erthygl 4 sy'n gymwys yn lle gofynion yr erthygl hon.

    (3) Rhaid i ddefnyddiwr unrhyw gyfrwng cludo a ddefnyddiwyd i gludo unrhyw anifail, neu unrhyw beth a allai beri perygl o drosglwyddo clefyd, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a heb fod yn fwy na 24 awr ar ôl gorffen y daith, sicrhau bod y cyfrwng cludo ac unrhyw gyfarpar yn cael eu glanhau a'u diheintio yn unol ag Atodlen 2 neu (yn achos cynhwysydd) eu dinistrio.

    (4) Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw gyfrwng cludo, na pheri na chaniatáu i gyfrwng cludo gael ei ddefnyddio i gludo unrhyw anifail os nad yw'r cyfrwng cludo ac unrhyw gyfarpar wedi cael eu glanhau a'u diheintio yn unol ag Atodlen 2 ers y tro diwethaf iddynt gael eu defnyddio i gludo unrhyw anifail neu unrhyw beth a allai beri perygl o drosglwyddo clefyd.

    (5) Os yw cyfrwng cludo neu unrhyw gyfarpar wedi ei faeddu fel y gallai beri perygl o drosglwyddo clefyd ers y tro diwethaf iddo gael ei lanhau a'i ddiheintio, ni chaiff neb lwytho anifail, na pheri na chaniatáu i unrhyw anifail gael ei lwytho, i mewn i'r cyfrwng cludo os nad yw'r rhannau o'r cyfrwng cludo neu'r cyfarpar a faeddwyd wedi cael eu glanhau a'u diheintio eto yn unol â pharagraffau 1, 3 a 4 o Atodlen 2.

    (6) Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo anifeiliaid symud ymaith unrhyw anifeiliaid meirw, sarn (llaesodr) fudr a charthion o'r cyfrwng cludo cyn gynted ag y bo'n ymarferol.

Glanhau a diheintio mewn cysylltiad â chludo mamaliaid ac adar eraill, ac anifeiliaid carnog a dofednod mewn rhai amgylchiadau
    
4.  - (1) Mae'r erthygl hon yn gymwys mewn cysylltiad â chludo - 

ac mae'n rhaid i gyfeiriadau yn yr erthygl hon at "anifail" gael eu dehongli yn unol â hynny.

    (2) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys yn achos - 

    (3) Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo anifeiliaid, neu beri neu ganiatáu i anifeiliaid gael eu cludo, os yw'r erthygl hon yn gymwys, sicrhau - 

    (4) Rhaid gwneud y glanhau a'r diheintio o dan yr erthygl hon yn unol â pharagraffau 1, 3 a 4 o Atodlen 2.

Cabiau Gyrwyr
    
5. Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddiheintio y tu mewn i gab gyrrwr unrhyw gyfrwng cludo.

Gwaredu deunydd ar ôl glanhau
    
6.  - (1) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am lanhau'r cyfrwng cludo ac unrhyw gyfarpar o dan y Gorchymyn hwn sicrhau bod yr holl borthiant y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd ato, y sarn (llaesodr), y carthion ac unrhyw ddeunyddiau eraill sy'n tarddu o anifeiliaid, ac unrhyw halogion eraill sydd wedi cael eu symud o'r cyfrwng cludo - 

    (2) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw ddeunydd y mae gofyn ei waredu o dan Orchymyn Sgil-Gynhyrchion Anifeiliaid 1999[2].

Pwerau arolygwyr, etc.
     7.  - (1) Os yw arolygydd wedi ei fodloni bod cyfrwng cludo neu unrhyw gyfarpar naill ai - 

caiff gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson sydd i'w weld ganddo yn gyfrifol am y cyfrwng cludo neu'r cyfarpar hwnnw.

    (2) Gall hysbysiad a gyflwynir o dan y paragraff blaenorol - 

    (3) Os cyflwynir hysbysiad o dan y paragraff blaenorol, rhaid i'r glanhau a'r diheintio gael ei wneud yn unol ag Atodlen 2 os nad yw'r hysbysiad yn pennu dull arall o lanhau a diheintio

    (4) Caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo wneud y glanhau a'r diheintio yn unol ag erthygl 3 neu 4, yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud y glanhau a'r diheintio yn unol â'r hynny a bennir yn yr hysbysiad yn lle eu gwneud yn unol ag Atodlen 2 os yw wedi ei fodloni bod angen gwneud hynny at ddibenion iechyd anifeiliaid.

    (5) Os nad yw person yn cydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir o dan yr erthygl hon, caiff arolygydd drefnu bod darpariaethau'r hysbysiad yn cael eu cyflawni ar draul y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo.

Gorfodi
    
8. Yr awdurdod lleol neu'r Ysgrifennydd Gwladol sydd i orfodi'r Gorchymyn hwn.

Dirymu a diwygio
    
9. Dirymir Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) 2001[3].



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru


D.Elis-Thomas
Llwydd y Cynulliad Cenedlaethol

3 Mawrth 2003


Whitty
Yr Is-Ysgrifennydd Seneddol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

3 Mawrth 2003



ATODLEN 1
Erthyglau 3(2) a 4(1)


Yr amgylchiadau pan fydd erthygl 4 yn gymwys i'r anifeiliaid a bennir yn erthygl 3


Teithio o fewn un fenter ffermio
     1. Erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, sy'n gymwys os yw'r daith wedi ei gwneud o fewn menter ffermio unigol sydd o dan un berchenogaeth.

Cludo ceffylau penodol
     2. Erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, sy'n gymwys mewn cysylltiad â chludo - 

Teithio rhwng yr un dau bwynt
     3.  - (1) Erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, sy'n gymwys mewn cysylltiad â chyfrwng cludo a ddefnyddir, yn ystod diwrnod unigol, ddim ond i gludo anifeiliaid rhwng yr un dau bwynt, ar yr amod bod y cyfrwng cludo ac unrhyw gyfarpar - 

    (2) Yn y paragraff hwn mae "taith olaf" yn cynnwys - 

    (3) Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys i deithiau rhwng dwy farchnad na theithiau o darddle i sioe da byw ac yn ôl.

Sioeau da byw
     4. Erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, sy'n gymwys mewn cysylltiad â chyfrwng cludo ac unrhyw gyfarpar mewn sioe da byw ar yr amod - 

Dadlwytho dros dro
     5. Erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, sy'n gymwys mewn cysylltiad â chyfrwng cludo y mae anifeiliaid wedi cael eu dadlwytho ohono, a hynny dim ond i roi bwyd neu ddwr iddynt, neu at ryw nod dros dro arall, ac wedyn eu hail?lwytho arNo.



ATODLEN 2
Erthyglau 3(3), (4) a (5), 4(4)


Glanhau a diheintio cyfrwng cludo


Lefel y glanhau a'r diheintio
     1. Rhaid gwneud yr holl lanhau a diheintio er mwyn lleihau cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, y perygl o drosglwyddo'r clefyd.

Y rhannau o'r cyfrwng cludo y mae angen eu glanhau
     2.  - (1) Yn achos anifeiliaid nad ydynt yn cael eu cludo mewn cynhwysydd - 

    (2) Yn achos anifeiliaid a gludwyd mewn cynhwysydd, rhaid glanhau'r tu mewn i'r cynhwysydd p'un a yw wedi ei faeddu ai peidio, a rhaid glanhau'r tu allan i'r cynhwysydd ac unrhyw rannau o'r cyfrwng cludo sy'n cario'r cynhwysydd os ydynt wedi'u baeddu.

    (3) At ddibenion erthygl 3, rhaid i bob rhan o gyfrwng cludo y mae'n ofynnol ei glanhau gael ei diheintio hefyd.

Y dull glanhau
     3. Rhaid glanhau drwy symud ymaith unrhyw borthiant y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd ato, unrhyw sarn (llaesodr), unrhyw garthion ac unrhyw ddeunyddiau eraill sy'n tarddu o anifeiliaid, unrhyw laid ac unrhyw halogion eraill drwy ddefnyddio unrhyw gyfrwng priodol, a glanhau wedyn â dwcirc r, stêm neu, pan fo'n briodol, gemegau neu gyfansoddion cemegol (neu, os bydd angen, unrhyw gyfuniad o'r rhain) nes cael gwared ar y baw.

Y dull diheintio
     4. Rhaid i bopeth y mae'n ofynnol ei lanhau o dan y Gorchymyn hwn gael ei ddiheintio ar ôl gorffen ei lanhau, drwy ddefnyddio diheintydd a gymeradwyir o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978[
4] yn ôl y crynodiad sy'n ofynnol o dan y gorchymyn hwnnw ar gyfer "Gorchmynion Cyffredinol".



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu a disodli Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) 2001 ('Gorchymyn 2001') (O.S. 2001/2662 (Cy.218). Mae'r Gorchymyn hwn, sydd yn gymwys i Gymru, yn gweithredu paragraff 8 o Bennod I o'r Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 91/628/EEC ar ddiogelu anifeiliaid wrth eu cludo (OJ Rhif L340, 11.12.91, t. 17) a weithredwyd gynt gan baragraff 26 o Atodlen 1 i Orchymyn Lles Anifeiliaid (Cludiant) 1997 (O.S. 1997/1480). Mae'n gweithredu hefyd Erthygl 12.1(a), ail gilosodiad Cyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC am broblemau iechyd sy'n effeithio ar y fasnach mewn anifeiliaid buchol a moch o fewn y Gymuned (cydgyfnerthwyd y Gyfarwyddeb hon yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 97/12/EC, OJ Rhif L109, 25.4.97, t. 1).

Dyma'r prif newidiadau ers Gorchymyn 2001 a gynhwysir yn y Gorchymyn hwn - 

    
  • eglurhad nad yw'r Gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddio diheintydd y tu mewn i gab gyrrwr unrhyw gyfrwng cludo (erthygl 5); ac

        
  • ychwanegu cyfrwng cludo mewn sioe (yn ddarostyngedig i amodau penodol) at yr amgylchiadau pan fydd erthygl 4 yn gymwys yn hytrach nag erthygl 3 (Atodlen 2, paragraff 4).

    Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu, ar ôl cludo unrhyw anifeiliaid carnog, a ffowls domestig, tyrcwn, gwyddau, hwyaid, ieir gini, soflieir, colomennod, ffesantod, petris ac adar di-gêl, fod rhaid glanhau a diheintio'r cyfrwng cludo a'r cyfarpar a gludir gyda hwy yn unol ag Atodlen 2 cyn ei ddefnyddio eto i gludo'r anifeiliaid hynny (erthygl 3(3) a (4)). Mae hefyd yn pennu, hyd yn oed os yw hynny wedi ei wneud, bod rhaid glanhau a diheintio'r cyfrwng cludo eto cyn i'r anifeiliaid hynny gael eu cludo os yw'r cyfrwng cludo wedi ei faeddu fel y byddai'n peri perygl o drosglwyddo clefyd (erthygl 3(5)). Ar ôl mynd ar daith, mae'n ei gwneud yn ofynnol i gyfrwng cludo gael ei lanhau a'i ddiheintio cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ond beth bynnag o fewn dim mwy na 24 awr (erthygl 3(3)). Mae'n ei gwneud yn ofynnol ar unrhyw berson sy'n cludo anifeiliaid i symud ymaith unrhyw anifeiliaid meirw, sarn (llaesodr) a charthion o'r cyfrwng cludo cyn gynted ag y bo'n ymarferol (erthygl 3(6)).

    Mae erthygl 4 yn gymwys i bob anifail ac aderyn arall (ond nid yn gymwys i deithiau nad ydynt yn fasnachol nac i gludo anifeiliaid unigol neu anifeiliaid anwes) ac i'r amgylchiadau a nodir yn Atodlen 1 (lle y byddai erthygl 3 yn gymwys fel arall). Mae'r amgylchiadau hyn yn ymwneud â theithiau o fewn un fenter ffermio, cludo ceffylau penodol, teithiau rhwng yr un dau bwynt a chyfrwng cludo mewn sioe da byw. Mae erthygl 4 yn ei gwneud yn ofynnol i anifeiliaid sy'n gymwys gael eu llwytho ar gyfrwng cludo sydd wedi ei lanhau ac, os oes angen, wedi ei ddiheintio, a bod anifeiliaid meirw, sarn (llaesodr) a charthion yn cael eu symud ymaith o'r cyfrwng cludo cyn gynted ag y bo modd.

    Mae erthygl 6 yn pennu ym mha ffordd y mae'n rhaid cael gwared â'r deunydd o'r cyfrwng cludo.

    O dan erthygl 7, mae gan arolygydd bwer, o dan yr amgylchiadau a nodir yn yr erthygl honno, i gyflwyno hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyfrwng cludo gael ei lanhau a'i ddiheintio.

    Mae'r Gorchymyn yn cael ei orfodi gan yr awdurdod lleol neu'r Ysgrifennydd Gwladol (erthygl 8).

    Mae torri'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 a gellir ei gosbi yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honNo.

    Nid oes arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.


    Notes:

    [1] 1981 p. 22. Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf 1981 i "the Ministers" (fel y'u diffinnir yn adran 86 o'r Ddeddf honno) i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau ar y cyd "the Ministers" a oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban mewn perthynas â Chymru i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141). Cafodd pob un o swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd eu trosglwyddo ymhellach wedyn i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794).back

    [2] O.S. 1999/646 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/1704.back

    [3] O.S. 2001/2662 (Cy.218).back

    [4] O.S. 1978/32, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1978/934.back



    English version



    ISBN 0 11090673 X


     
    © Crown copyright 2003
    Prepared 20 March 2003


    BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
    URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030482w.html