BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Diwygio'r Heddlu 2002 (Cychwyn) (Cymru) 2003 Rhif 525 (Cy.73) (C.28)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030525w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOLL


2003 Rhif 525 (Cy.73) (C.28)

YR HEDDLU, CYMRU

Gorchymyn Deddf Diwygio'r Heddlu 2002 (Cychwyn) (Cymru) 2003

  Wedi'i wneud 5 Mawrth 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 108(4) o Ddeddf Diwygio'r Heddlu 2002[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enw a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Diwygio'r Heddlu 2002 (Cychwyn) (Cymru) 2003.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "Deddf 2002" yw Deddf Diwygio'r Heddlu 2002.

Cychwyn
    
2. Daw adrannau 97 a 98 o Ddeddf 2002 (partneriaethau gostwng nifer yr achosion o drosedd ac anhrefn a swyddogaeth y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â strategaethau) yn dod i rym ar 1 Ebrill 2003 i'r graddau y maent yn ymwneud ag ardaloedd llywodraeth leol yng Nghymru.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2].


D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Mawrth 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau adrannau 97 a 98 o Ddeddf Diwygio'r Heddlu 2002 ("Deddf 2002") i rym ar 1 Ebrill 2003, i'r graddau y mae'r adrannau hynny'n ymwneud â Chymru.

Mae adran 97 o Ddeddf 2002 yn gwneud amrywiol newidiadau i bartneriaethau gostwng trosedd ac anhrefn, trwy ddiwygio adrannau 5, 6, 17(2), 114 a 115(2) o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 ("Deddf 1998").

Mae adran 98 o Ddeddf 2002 yn mewnosod adran 6A newydd, yn Neddf 1998. I'r graddau y mae'n ymwneud â Chymru, mae'r adran 6A newydd hon yn nodi swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â strategaethau ar gyfer gostwng nifer yr achosion o drosedd.


Notes:

[1] 2002 p.30.back

[2] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090675 6


 
© Crown copyright 2003
Prepared 20 March 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030525w.html