BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2003 Rhif 713 (Cy.87) (C.36)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030713w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 713 (Cy.87) (C.36)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 12 Mawrth 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 64(6) a 70(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001[1] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2003.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "Deddf 2001" ("the 2001 Act") yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001.

    (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Y dydd penodedig mewn perthynas ag adran 13 o Ddeddf 2001
    
2. 17 Mawrth 2003 yw'r dydd penodedig pan fydd adran 13 o Ddeddf 2001 yn dod i rym.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2]


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Mawrth 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn pennu mai 17 Mawrth 2003 yw'r dyddiad y mae adran 13 o Ddeddf 2001 i ddod i rym mewn perthynas â Chymru. Mae adran 13 o'r Ddeddf yn ymwneud â gorchmynion ymyrryd ac yn mewnosod adrannau newydd 84A a B yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.

Bydd adran 13, pan fydd wedi ei chychwyn, yn galluogi'r Cynulliad i ymyrryd mewn categorïau penodol o gyrff GIG pan fydd ganddo bryderon ynghylch rheolaeth y corff hwnnw, ynghylch ei allu i gyflawni ei swyddogaethau'n ddigon da neu pan fydd trychineb unigryw wedi digwydd.

Bydd adran 84A yn galluogi'r Cynulliad i wneud gorchymyn ymyrryd pan nad yw corff GIG y mae'r adran yn ymwneud ag ef yn cyflawni un neu fwy o'i swyddogaethau yn ddigon da neu pan nad yw'n eu cyflawni o gwbl, neu pan fo diffygion sylweddol yn y modd y rheolir y corff. Cyn gwneud gorchymyn ymyrryd bydd yn rhaid i'r Cynulliad fod wedi'i fodloni ei bod yn briodol iddo wneud hynny.

Mae adran 84B yn nodi effaith gorchymyn ymyrryd ynghyd â'r gwahanol ffurfiau ar ymyrraeth. Gall gorchymyn ymyrryd ddarparu ar gyfer symud neu wahardd dros dro aelodau o'r corff GIG dan sylw a phenodi unigolion newydd yn eu lle; mynnu bod corff GIG yn gwneud trefniadau i berson neu gorff arall gyflawni swyddogaethau'r corff hwnnw; datgymhwyso neu addasu unrhyw ddarpariaeth ddeddfwriaethol sy'n gysylltiedig ag aelodaeth neu weithdrefn y corff sy'n destun yr ymyrraeth, a gall gynnwys cyfarwyddiadau i roi effaith lawn i ymyrraeth.



NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS



Mae darpariaethau canlynol Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 wedi eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru trwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y Ddarpariaeth Y Dyddiad Cychwyn O.S. Rhif
Adran 3 1 Gorffennaf 2002 (yn rhannol) 2002/1475
Adran 5 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Adran 11 1 Rhagfyr 2002 2002/1475
Adran 16 26 Awst 2002 2002/1919
Adran 19 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Adran 20 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Adran 21 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Adran 22 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Adran 23 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Adran 24 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Adran 25 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Adran 26 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Adran 27 26 Awst 2002 2002/1919
Adran 28 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Adran 29 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Adran 30 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Adran 31 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Adran 32 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Adran 33 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Adran 34 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Adran 35 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Adran 36 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Adran 37 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Adran 38 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Adran 39 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Adran 41 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Adran 42 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Adran 43 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Adran 49 3 Rhagfyr 2001 (yn rhannol) 2001/3807
Adran 50 8 Ebrill 2002 (yn rhannol) 19 Rhagfyr 2001 (gweddill) 2001/3752 a 2001/3807
Adran 51 8 Tachwedd 2001 2001/3752
Adran 52 8 Tachwedd 2001 2001/3752
Adran 67 1 Gorffennaf 2002 (yn rhannol) 2002/1475
Atodlen 2 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Atodlen 3 1 Gorffennaf 2002 2002/1475
Atodlen 5 1 Gorffennaf 2002 (yn rhannol) 2002/1475
Atodlen 6 1 Gorffennaf 2002 (yn rhannol) 2002/1475

Mae amryw o ddarpariaethau Deddf 2001 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O. S. 2001/2804 (p.95), O.S. 2001/3167 (p.101), O.S. 2001/3294 (p.107), O.S. 2001/3619 (p.117), O.S. 2001/3752 (p.122), O.S. 2001/3738 (p.121), O.S. 2001/4149 (p.133), O.S. 2002/1095 (p.26) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1170 (p.30)), O.S. 2002/1312 (p.36) ac O.S. 2002/2363 (p.77).


Notes:

[1] 2001 p.15. Ceir diffiniad o "awdurdod perthnasol" ynadran 66 o'r Ddeddf 2001.back

[2] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090680 2


 
© Crown copyright 2003
Prepared 20 March 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030713w.html