BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2003 Rhif 813 (Cy.98)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030813w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 813 (Cy.98)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2003

  Wedi'i wneud 19 Mawrth 2003 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 27(1), (3), (5)(a), (8), (9) a 154(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[1], yn gwneud y Gorchymyn canlynol  - 

Teitl, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Iechyd (Trosglwyddo Swyddogaethau, Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 1 Ebrill 2003.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn  - 

Trosglwyddo swyddogaethau Awdurdodau Iechyd Cymreig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru
     3. Gan fod yn effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo, trosglwyddir holl swyddogaethau pob un o'r awdurdodau iechyd Cymreig mewn perthynas â'r ardal gyfan y mae pob un o'r awdurdodau yn gweithredu ar ei chyfer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Trosglwyddo cyflogeion perthnasol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru
    
4. Gan fod yn effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo, caiff contract cyflogaeth rhwng cyflogai perthnasol ac awdurdod iechyd Cymreig ei drin fel pe bai wedi cael ei wneud yn wreiddiol rhwng y cyflogai perthnasol a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

Trosglwyddo cyflogeion gweddilliol i Fwrdd Iechyd Lleol Powys o dan y Cynllun Cyflogaeth Estynedig
    
5. Gan fod yn effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo, caiff contract cyflogaeth rhwng cyflogai gweddilliol ac awdurdod iechyd Cymreig ei drin fel pe bai'n gontract cyflogaeth am gyfnod penodedig a i ddod i ben ar 31 Mawrth 2004 gafodd ei wneud yn wreiddiol rhwng y cyflogai gweddilliol a Bwrdd Iechyd Lleol Powys.

Trosglwyddo cyflogeion Cynllun Cyflogaeth Estynedig o dan y Cynllun Cyflogaeth Estynedig
    
6.  - (1) Mae paragraff (2) yn gymwys i gyflogai Cynllun Cyflogaeth Estynedig na therfynwyd ei gontract cyflogaeth (boed wrth i rybudd ddod i ben, treigl amser neu fel arall).

    (2) Yn ystod y cyfnod o ddeuddeg mis ar ôl y dyddiad trosglwyddo, caiff contract cyflogaeth rhwng cyflogai Cynllun Cyflogaeth Estynedig y mae paragraff (1) yn gymwys iddo a Bwrdd Iechyd Lleol Powys, os cafodd y cyflogai hwnnw gynnig cyflogaeth a'i derbyn  - 

ei drin fel pe bai wedi cael ei wneud yn wreiddiol rhwng cyflogai y Cynllun Cyflogaeth Estynedig a Bwrdd Iechyd Lleol o'r fath neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Diddymu Awdurdodau Iechyd Cymreig
    
7. Gan fod yn effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo, diddymir pob un o'r awdurdodau iechyd Cymreig.

Trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau yr awdurdodau iechyd Cymreig
    
8. Gan fod yn effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo, trosglwyddir unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau awdurdodau iechyd Cymreig na throsglwyddwyd i Fwrdd Iechyd Lleol yn rhinwedd Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Trosglwyddo Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) (Cymru) 2003[5] i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Diddymiad canlyniadol Gorchymyn Sefydlu yr Awdurdodau Iechyd (Cymru) 1996
     9. Diddymir Gorchymyn Sefydlu yr Awdurdodau Iechyd (Cymru) 1996 gan fod yn effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

19 Mawrth 2003



YR ATODLEN
Erthygl 2

Yr awdurdodau iechyd Cymreig y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddynt yw  - 



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.)


O dan adran 27(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (1998 p.38), mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru y pwcircer i drosglwyddo iddo'i hun drwy orchymyn unrhyw un o swyddogaethau awdurdod iechyd Cymreig neu'r cyfan ohonynt. O dan adran 27(5)(a) o Ddeddf 1998, pan fo gorchymyn yn darparu ar gyfer trosglwyddo holl swyddogaethau awdurdod iechyd ar gyfer yr ardal gyfan y mae'r awdurdod hwnnw yn gweithredu mewn perthynas â hi, gall y Cynulliad ddiddymu'r awdurdod hwnnw.

O dan adran 27(8) o Ddeddf 1998, caiff y Cynulliad wneud darpariaeth ar gyfer trosglwyddo staff, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau awdurdod iechyd Cymreig.

Roedd y ddogfen strategaeth "Gwella Iechyd yng Nghymru" a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru fis Chwefror 2001 yn dynodi'r bwriad i ddiddymu'r pum awdurdod iechyd a oedd eisoes yn bodoli yng Nghymru o 31 Mawrth 2003 ymlaen, ac i ddirprwyo eu swyddogaethau i Fyrddau Iechyd Lleol.

Mae'r Gorchymyn hwn yn trosglwyddo holl swyddogaethau'r pum awdurdod iechyd Cymreig i'r Cynulliad, ac yn diddymu'r pum awdurdod. Mae hefyd yn effeithio ar drosglwyddo staff penodol a gyflogir gan yr awdurdodau iechyd naill ai'n uniongyrchol i'r Cynulliad, neu o dan y Cynllun Cyflogaeth Estynedig ("EES") i Fwrdd Iechyd Lleol Powys. Yn ystod y cyfnod o 12 mis ar ôl y dyddiad trosglwyddo, gellir trosglwyddo'r staff hynny a drosglwyddodd i Fwrdd Iechyd Lleol Powys o dan y Cynllun Cyflogaeth Estynedig ond na chawsant gyflogaeth arall, i swyddi mewn Bwrdd Iechyd Lleol neu yn y Cynulliad os cynigir swydd iddynt ac maent yn ei derbyn.

Mae'r Gorchymyn hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru unrhyw eiddo, hawliau a rhwymedigaethau nas trosglwyddwyd yn benodol i Fyrddau Iechyd Lleol.

Bydd y swyddogaethau a drosglwyddir i'r Cynulliad o dan y Gorchymyn hwn (yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau) yn cael eu dirprwyo i Fyrddau Iechyd Lleol gan reoliadau a wnaed o dan adran 16BB o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (1977 p.49), fel y cafodd ei mewnosod gan adran 6 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynolion Gofal Iechyd 2002 (2002 p.17). Am gwmpas y swyddogaethau a ddirprwywyd i Fyrddau Iechyd Lleol, gweler Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/150, Cy.20).

Caiff Byrddau Iechyd Lleol eu sefydlu o dan orchymyn a wneir o dan adran 16BA o Ddeddf 1977, fel y'i mewnosodwyd gan adran 6 o Ddeddf 2002 (gweler Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/148, Cy.18).


Notes:

[1] 1998 p.38.back

[2] Sefydlir Bwrdd Iechyd Lleol Powys drwy orchymyn o dan adran 16BA o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49)  -  gweler Gorchymyn y Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu)(Cymru) 2003 (O.S. 2003/148, Cy.18).back

[3] Sefydlir Byrddau Iechyd Lleol drwy orchymyn o dan adran 16BA o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49)  -  gweler Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/148, Cy.18).back

[4] O.S. 1996 Rhif 146.back

[5] O.S. 2003/473, Cy.63back



English version



ISBN 0 11090700 0


 
© Crown copyright 2003
Prepared 4 April 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030813w.html