BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol) (Gofyniad Rhagnodedig) (Cymru) 2003 Rhif 880 (Cy.111)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030880w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 880 (Cy.111)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol) (Gofyniad Rhagnodedig) (Cymru) 2003

  Wedi'i wneud 25 Mawrth 2003 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 512(3) a 568 o Ddeddf Addysg 1996[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2].

Enw, cychwyn a chymwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Ciniawau Ysgol) (Gofyniad Rhagnodedig) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 1 Ebrill 2003.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn  - 

Gofyniad rhagnodedig ar gyfer ciniawau ysgol
    
3.  - (1) Rhagnodir y gofyniad canlynol at ddiben adran 512(3)(a) o Ddeddf 1996.

    (2) Rhaid bod disgybl cofrestredig sydd yn derbyn addysg feithrin yn derbyn addysg lawnamser.

Darpariaeth drosiannol
    
4. Bydd disgybl sydd yn derbyn addysg feithrin mewn ysgol a gynhelir y mae cinio ysgol yn cael ei ddarparu iddo neu iddi hi yn union cyn 1 Ebrill 2003, yn cael ei drin fel pe na bai unrhyw ofynion rhagnodedig yn gymwys i'r plentyn hwnnw dan adran 512(3)(a) o Ddeddf 1996; hyd nes y bydd yn gorffen derbyn addysg feithrin.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

25 Mawrth 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae adran 512(3)(a) o Ddeddf Addysg 1996 yn rhoi dylestswydd ar Awdurdodau Addysg Lleol i ddarparu ciniawau ysgol i ddisgyblion sydd yn gymwys i giniawau ysgol yn rhad ac am ddim, ar yr amod bod unrhyw ofynion rhagndoedig yn cael eu bodloni. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi gofyniad o'r fath.

Mae'r gofyniad yn cael ei osod allan yn Erthygl 3. Mae'n gymwys yn unig i ddisgyblion cofrestredig sydd yn derbyn addysg feithrin; rhaid eu bod yn derbyn addysg feithrin lawnamser.

Mae Erthygl 4 yn cynnwys darpariaeth drosiannol i atal disgyblion sydd yn derbyn addysg feithrin ran-amser mewn ysgolion a gynhelir, sydd yn derbyn ciniawau ysgol yn rhad ac am ddim, rhag colli yr hawl i giniawau o'r fath.


Notes:

[1] 1996 p.56; mewnosodir adran 512 yn rhagolygol gan adran 201 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32). Mae'r rhannau perthnasol o adran 201 i ddod i rym ar 31 Mawrth 2003 yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/3185 (Cy.301) (C.107)). Am ddiffiniad o "prescibed", gweler adran 512(6).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 211(1) a (2) o Ddeddf Addysg 2002.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090699 3


 
© Crown copyright 2003
Prepared 3 April 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030880w.html