OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 893 (Cy.113)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) 2003
|
Wedi'u gwneud |
26 Mawrth 2003 | |
|
Yn dod i rym |
31 Mawrth 2003 | |
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 118(1), 120(1) a (3), 121(1) a (9) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1], ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enw, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
Dirymu
2.
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Datblygu Blynyddoedd Cynnar) (Cymru) 1999[3].
Dehongli
3.
Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "addysg feithrin"("nursery education") yw addysg feithrin (o fewn ystyr "nursery education" yn adran 117 o'r Ddeddf) y mae awdurdod o dan ddyletswydd i sicrhau bod yna ddarpariaeth ddigonol ohoni ar gael yn rhinwedd adran 118 o'r Ddeddf a rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn;
ystyr "awdurdod" ("authority") yw awdurdod addysg lleol;
ystyr "y bartneriaeth" ("the partnership"), mewn perthynas ag awdurdod, yw'r bartneriaeth datblygu blynyddoedd cynnar a gofal plant a sefydlwyd gan yr awdurdod yn unol ag adran 119 o'r Ddeddf[4];
ystyr "y cynllun" ("the plan"), mewn perthynas ag awdurdod, yw'r cynllun datblygu blynyddoedd cynnar a gofal plant a baratowyd gan yr awdurdod yn unol ag adran 120 o'r Ddeddf[5];
ystyr "cynigion am addysg feithrin" ("proposals for nursery education") yw datganiad cynigion yr awrdurdod am gydymffurfio gyda'u dyletswydd o dan adran 118 o'r Ddeddf, y mae'n rhaid i'r awdurdod gynnwys yn eu cynllun yn unol ag adran 120(2)(a) o'r Ddeddf[6];
ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru; ac
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
Dyletswydd i sicrhau addysg feithrin
4.
- (1) At ddibenion adran 118(1)(b) o'r Ddeddf (oedran y plant y mae dyletswydd yr awdurdod i sicrhau darpariaeth ddigonol o ran addysg feithrin ar eu cyfer yn eu hardal yn gymwys iddynt ) rhagnodir -
(a) yn achos plentyn nad yw ei bedwerydd pen-blwydd yn dod o fewn un o'r cyfnodau a bennir ym mharagraff (2) isod, oedran y plentyn ar ddechrau'r tymor cyntaf sy'n dechrau ar ôl pen-blwydd y plentyn yn bedair oed; neu
(b) yn achos plentyn y mae ei ben-blwydd yn bedair oed yn dod o fewn un o'r cyfnodau a bennir ym mharagraff (2) isod, oedran y plentyn ar ddechrau'r tymor yn dilyn y tymor y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw.
(2) Y cyfnodau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) uchod, mewn unrhyw flwyddyn, yw -
(a) y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Ebrill ac yn dod i ben pan fydd tymor yr haf y flwyddyn honno yn dechrau;
(b) y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Medi ac sy'n dod i ben pan fydd tymor yr hydref y flwyddyn honno yn dechrau; ac
(c) y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Ionawr ac sy'n dod i ben pan fydd tymor y gwanwyn y flwyddyn honno yn dechrau.
(3) At ddibenion paragraffau (1) a (2) o'r rheoliad hwn, ystyr "tymor" yw'r tymor sy'n cael ei gadw mewn perthynas â'r addysg sy'n cael ei darparu, neu sydd i'w darparu, neu sydd o dan ystyriaeth, ar gyfer y plentyn, ac mewn unrhyw flwyddyn, ystyr tymor y gwanwyn, tymor yr haf a thymor yr hydref, yn eu tro, yw'r tymor sy'n dechrau ym mis Ionawr, ym mis Ebrill ac ym mis Medi.
Paratoi a chyflwyno'r cynlluniau i'r Cynulliad Cenedlaethol i'w cymeradwyo
5.
- (1) Rhaid i'r cynllun cyntaf ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i mewn i rym gael ei baratoi a'i gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol i gael ei gymeradwyo o dan adran 121(1) o'r Ddeddf erbyn 1 Gorffennaf 2003.
(2) Rhaid i'r ail gynllun cael ei baratoi a'i gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol i'w gael ei gymeradwyo o dan adran 121(1) o'r Ddeddf erbyn 20 Hydref 2003.
(3) Rhaid i gynlluniau olynol gael eu paratoi pob blwyddyn, a'u cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol i gael eu cymeradwyo o dan adran 121(1) o'r Ddeddf erbyn 20 Hydref.
Cynigion am addysg feithrin
6.
- (1) Mae cynigion am addysg feithrin sy'n berthnasol i'r cynllun cyntaf i ymwneud â'r cyfnod o saith mis sy'n dechrau ar 1 Medi 2003.
(2) Mae cynigion am addysg feithrin sy'n berthnasol i'r ail gynllun a'r cynlluniau olynol i ymwneud â'r cyfnod o un flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ebrill yn y flwyddyn ar ôl y flwyddyn y mae'n ofynnol cyflwyno'r cynllun i'r Cynulliad Cenedlaethol i gael ei gymeradwyo yn unol ag adran 121(1) o'r Ddeddf a rheoliadau 5(1), (2) neu (3) uchod.
(3) Rhaid i'r cynigion am addysg feithrin ymdrin â'r materion sydd wedi'u nodi yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Cyhoeddi cynlluniau
7.
- (1) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cymeradwyo -
(a) cynllun awdurdod o dan is-adran (2) o adran 121 o'r Ddeddf, neu
(b) addasiad o gynllun awdurdod o dan is-adran (8) o'r adran honno,
rhaid i'r awdurdod gyhoeddi eu cynllun neu eu cynllun fel y'i haddaswyd, o fewn 28 diwrnod ar ôl dyddiad cymeradwyo'r cynllun neu'r addasiad o'r cynllun o dan is-adran (2) neu (8) o adran 121.
(2) Rhaid i'r awdurdod gyhoeddi eu cynllun, neu'r cynllun fel y'i haddaswyd, trwy trefnu iddo fod ar gael -
(a) swyddfeydd addysg,
(b) mewn llyfrgelloedd yn eu hardal, ac
(c) fel rhan o'u gwasanaeth i ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd yngln â darparu gwasanaethau ofal plant a gwasanaethau cysylltiedig yn eu hardal yn unol ag adran 118A(3) o'r Ddeddf
er mwyn i aelodau o'r cyhoedd gyfeirio ato.
(3) Rhaid i'r awdurdod darparu copi o'u cynllun, neu eu cynllun fel y'i haddaswyd, i'r canlynol -
(a) y Cynulliad Cenedlaethol, a
(b) pob aelod o'r bartneriaeth
o fewn 28 diwrnod ar ôl dyddiad cymeradwyo'r cynllun neu addasiad o'r cynllun o dan is-adran (2) neu (8) o adran 121 o'r Ddeddf.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7]
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Mawrth 2003
YR ATODLENRheoliad 6(3)
Materion sydd i'w cynnwys yng nghynigion am addysg feithrin
Rhaid i gynigion am addysg feithrin:
(a) ymdrin â phlant yn ardal yr awdurdod nad ydynt wedi cyrraedd oedran ysgol gorfodol ond sydd wedi cyrraedd yr oedran a ragnodir o dan reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn ("plant perthnasol");
(b) esbonio sut y bydd y galw yn lleol am addysg feithrin ar gyfer y plant perthnasol yn cael ei fodloni;
(c) rhoi amcangyfrif o'r nifer o leoedd addysg feithrin sydd ar gael i blant perthnasol bob tymor o'r flwyddyn y mae'r cynllun yn ymwneud â hi (boed mewn sefydliadau sy'n cael eu cynnal gan yr awdurdod neu mewn sefydliadau na chynhelir mohonynt ganddo);
(ch) cynnwys rhestr o'r holl bersonau hynny sy'n darparu addysg feithrin ac sy'n cael (neu a fydd yn cael) cymorth ariannol gan yr awdurdod ar gyfer darpariaeth o'r fath neu sydd o dan ystyriaeth ar gyfer cymorth ariannol o'r fath gan yr awdurdod, ac y mae'r addysg feithrin y maent yn ei darparu yn cael ei chymryd i ystyriaeth gan yr awdurdod wrth iddynt lunio eu cynllun; a
(d) darparu tystiolaeth bod yr awdurdod wedi ystyried pa drefniadau y dylid eu gwneud ar gyfer darparu cludiant er mwyn galluogi'r plant perthnasol i fanteisio ar y cyfleusterau ar gyfer addysg feithrin sydd ar gael, a nodi polisïau'r awdurdod ar ddarparu cludiant yn ôl ac ymlaen i safle unrhyw sefydliadau lle mae addysg o'r fath yn cael ei darparu.
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n cael eu gwneud o dan adrannau 118(1), 120(1) a (3) a 121(1) a (9) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diddymu ac yn cymryd lle Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Datblygu Blynyddoedd Cynnar) (Cymru) 1999.
Maent yn rhagnodi at ddibenion y ddyletswydd o dan adran 118 o'r Ddeddf (y mae rhaid i awdurdod addysg lleol sicrhau darpariaeth ddigonol odani o ran addysg feithrin ar gyfer eu hardal), yr oedran isaf y mae'r ddyletswydd honno'n gymwys mewn perthynas ag ef (rheoliad 4).
Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth hefyd mewn cysylltiad â'r cynlluniau datblygu blynyddoedd cynnar a gofal plant y mae'n ofynnol i awdurdodau addysg lleol eu paratoi o dan adrannau 120 a 121 o'r Ddeddf. Cafodd y gofyn i'r cynlluniau yn ymdrin â gofal plant yn ogystal â datblygu blynyddoedd cynnar ei ychwanegu gan adran 150 o Ddeddf Addysg 2002.
Mae'r Rheoliadau yn rhagnodi -
(a) y cyfnodau y mae'n rhaid paratoi cynlluniau datblygu blynyddoedd cynnar a gofal plant rhyngddynt, a'r dyddiadau erbyn pryd y mae'n rhaid i'r cynlluniau gael eu cyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gael eu cymeradwyo o dan adran 120(1) o'r Ddeddf (rheoliad 5);
(b) y cyfnododau y mae'n rhaid i gynigion yr awdurdod am addysg feithrin ymwneud â nhw, sef y cynigion ar gyfer cydymffurfio â'u dyletswydd o dan adran 118 o'r Ddeddf sydd wedi'u cynnwys mewn cynllun o'r fath (rheoliad 6(1) a (2));
(c) y materion y mae'n rhaid ymdrin â hwy mewn cynigion o'r fath (rheoliad 6(3) a'r Atodlen);
(ch) y cyfnod o fewn pryd y mae'n rhaid cyhoeddi cynlluniau (a chynlluniau wedi'u haddasu) (rheoliad 7(1));
(d) dull cyhoeddi cynlluniau o'r fath (rheoliad 7(2)); ac
(dd) y personau y mae'n rhaid anfon copi o gynllun o'r fath atynt, a'r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid darparu'r copiau hynny (rheoliad 7(3)).
Notes:
[1]
1998(p.31). Diwygir adran 120(1) gan adran 150(5) o Ddeddf Addysg 2002. Amnewidiwyd adran 120(3) gan adran 150(3) o Ddeddf Addysg 2002. Diwygir Adran 121(1) gan Adrannau 150(4) (a) ac (5) a adran 215(2) o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlen 22, Rhan 3 iddi. Diwygir adran 121(9) gan adran 150(4)(i) a (5) o Ddeddf Addysg 2002. I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 142(1).back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 211 o Ddeddf Addysg 2002.back
[3]
O.S. 1999/1099.back
[4]
Fel y'i diwygiwyd gan adran 150(1) a (5) ac adran 215(2) o, a Rhan 3 o Atodlen 22 i, Ddeddf Addysg 2002.back
[5]
Fel y'i diwygiwyd gan adran 150(2), (3) a (5) ac adran 215(2) o, a Rhan 3 o Atodlen 22 i, Ddeddf Addysg 2002.back
[6]
Fel y'i diwygiwyd gan Adran 150(5) ac adran 215(2) o, a Rhan 3 o Atodlen 22 i, Ddeddf Addysg 2002.back
[7]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090708 6
|