BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Cymuned) (Cymru) 2003 Rhif 895 (Cy.115) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030895w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 26 Mawrth 2003 | ||
Yn dod i rym | 1 Ebrill 2003 |
Cyrff ac awdurdodau perthnasol a ragnodwyd
3.
Rhagnodir Cynghorau Cymuned yn awdurdodau perthnasol at ddibenion adran 100(1)(b) o Ddeddf 2000.
Lwfans colled ariannol
6.
Y swm a ragnodir at ddibenion adran 173(4) o Ddeddf 1972 (lwfans colled ariannol) yw -
(iii) presenoldeb mewn cyfarfod o unrhyw gymdeithas o awdurdodau y mae'r awdurdod yn aelod ohono; a
(iv) presenoldeb mewn unrhyw ddigwyddiad hyfforddi neu ddatblygu a gymeradwywyd gan yr awdurdod.
(b) unrhyw ddyletswyddau yr ymgymerir â hwy ar ran yr awdurdod -
(c) unrhyw ddyletswydd arall a gymeradwyir gan yr awdurdod, neu unrhyw ddyletswydd arall o ddosbarth a gymeradwyir felly, yr ymgymerir â hi at ddibenion cyflawni swyddogaethau'r awdurdod neu unrhyw un o'i bwyllgorau neu is-bwyllgorau, neu mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau o'r fath.
(2) Y dyletswyddau a eithrir gan y paragraff hwn yw'r dyletswyddau hynny y mae aelod yn derbyn tâl amdanynt heblaw o dan Ran II.
Lwfansau i fynd i gynadleddau a chyfarfodydd - cyfyngiadau ariannol ar lwfansau o dan adran 175 o Ddeddf 1972
10.
Rhaid i unrhyw daliad o lwfans o dan adran 175 o Ddeddf 1972 sydd o natur lwfans presenoldeb (heblaw taliad o'r fath i aelod sydd yn gynghorydd gan awdurdod y mae Rhan II o'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo) beidio â bod yn fwy na £32.46 am unrhyw gyfnod nad yw'n fwy na 24 awr ac i'r diben hwn mae cyfnod o 24 awr yn dechrau am 3am.
Lwfansau teithio a chynhaliaeth
11.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd gan aelod hawl i gael taliadau drwy lwfans teithio neu lwfans cynhaliaeth ar gyfraddau y penderfynir arnynt bob blwyddyn gan yr awdurdod pan fydd gwariant ar deithio neu gynhaliaeth yn cael ei dynnu o raid gan yr aelod hwnnw wrth iddo gyflawni dyletswydd wedi'i chymeradwyo fel aelod o'r awdurdod.
(2) Ni fydd cyfraddau'r lwfans a benderfynir am flwyddyn o dan baragraff (1) ar gyfer teithio mewn car modur preifat yn fwy na chyfraddau'r lwfansau cyfatebol am y flwyddyn honno sy'n daladwy i aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar yr amod, os bydd cyfradd unrhyw lwfans o'r fath ar y diwrnod yn union cyn y diwrnod y daw'r Rheoliadau hyn i rym eisoes yn fwy na chyfradd y lwfans cyfatebol sy'n daladwy am y flwyddyn honno i aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, caiff cyfradd y lwfans hwnnw barhau ar y lefel honno ond ni chaiff ei chynyddu hyd nes y bydd cyfradd y lwfans cyfatebol sy'n daladwy i aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn fwy na'r hyn a delir gan yr awdurdod.
(3) Rhaid i dderbynebau priodol gyd-fynd ag unrhyw hawliad am daliad lwfansau teithio a chynhaliaeth yn unol â'r Rheoliadau hyn (gan eithrio hawliadau am deithio mewn cerbyd modur preifat) sy'n profi treuliau gwirioneddol, yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad neu gyfyngiad y gall awdurdod benderfynu arnynt.
(4) Ni fydd gan aelod yr hawl i unrhyw daliad o dan y Rheoliad hwn mewn perthynas â chyflawni, fel aelod o'r fath, ddyletswydd wedi'i chymeradwyo o fewn y gymuned, neu yn achos cymuned sy'n un o gr p o dan gyngor cymuned, o fewn ardal y gr p hwnnw.
yr hawl i daliadau o dan yr adran honno sydd yn eu cyfanswm yn fwy na'r swm a ragnodir gan reoliadau 5 neu 6 fel y bo'n briodol am y cyfnod hwnnw.
(4) Caiff corff sy'n talu lwfans o dan adran 173 o Ddeddf 1972 i berson am ddyletswydd wedi'i chymeradwyo fel y'i disgrifir ym mharagraff (3) ostwng swm y lwfans hwnnw gan swm unrhyw lwfans arall o dan adran 173 neu unrhyw lwfans cymharol o dan unrhyw ddeddfiad a delir gan gorff arall.
Cofnodion o'r lwfansau
13.
- (1) Rhaid i bob awdurdod gadw cofnod o daliadau a wneir ganddo yn unol â'r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i gofnod o'r fath nodi enw'r derbynnydd a swm a natur pob taliad a rhaid trefnu ei fod ar gael, ar bob adeg resymol, i'w archwilio (yn ddi-dâl) gan unrhyw etholwr llywodraeth leol (o fewn ystyr "local government elector" yn adran 270(1) o Ddeddf 1972) yn ardal yr awdurdod.
(3) Caiff person sydd â hawl i archwilio cofnod o dan baragraff (2) ofyn am gopi o unrhyw ran ohono ar ôl talu ffi resymol a all fod yn ofynnol gan yr awdurdod.
Cyhoeddusrwydd
14.
Cyn gynted ag y bydd yn ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn ariannol, rhaid i bob awdurdod wneud trefniadau i gyhoeddi o fewn ardal yr awdurdod y cyfanswm a dalwyd ganddo yn y flwyddyn honno i bob aelod mewn perthynas â lwfans presenoldeb a lwfans colled ariannol.
Mae Rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol (a hynny'n ddarostyngedig i Reoliadau 5 a 6) i awdurdodau wneud darpariaeth mewn perthynas â lwfansau o dan Ran II ar gyfer addasu'n flynyddol y lwfansau hynny (a fydd yn effeithiol o 1 Ebrill ym mhob blwyddyn) drwy gyfeirio at y ffigur a gyhoeddir ar gyfer y flwyddyn flaenorol yn y mynegai i'r Cyflog Cyfartalog i Wrywod Nad Ydynt yn Gweithio â Dwylo yn yr Archwiliad Enillion Newydd a gyhoeddir yn flynyddol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae Rheoliad 8 yn darparu i aelod ddewis peidio â derbyn unrhyw ran o'r hyn y mae ganddo hawl iddo o dan y Rheoliadau hyn.
Mae Rheoliad 9 yn nodi'r dyletswyddau hynny sy'n "ddyletswyddau wedi'u cymeradwyo" at ddibenion adrannau 173 i 176 o Ddeddf 1972.
Mae Rheoliad 10 yn gosod cyfyngiadau ariannol ar lwfansau o dan adran 175 o Ddeddf 1972 (lwfansau ar gyfer mynd i gynadleddau a chyfarfodydd) drwy gyfyngu ar yr uchafswm sy'n daladwy i £32.46 am unrhyw gyfnod nad yw'n fwy na phedair awr ar hugain.
Mae Rheoliad 11 yn darparu ar gyfer talu costau teithio neu gynhaliaeth i aelodau, ar gyfraddau y penderfynir arnynt bob blwyddyn. Mae'r cyfraddau hynny i'w cysylltu â'r cyfraddau sy'n daladwy i Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau na fyddant yn fwy na'r cyfraddau a geir gan Aelodau'r Cynulliad. Eithriad i hyn yw pan fo'r cyfraddau y mae awdurdod yn eu talu yn fwy, ar y diwrnod cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, na chyfradd y lwfans cyfatebol sy'n daladwy i aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mewn amgylchiadau o'r fath, caiff y cyfraddau a delir gan yr awdurdod barhau ar y lefel honno ond ni cheir eu cynyddu hyd nes y bydd y lwfans cyfatebol sy'n daladwy i aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn fwy na'r lwfans a delir gan yr awdurdod. Mae hawliadau teithio a chynhaliaeth (ac eithrio hawliadau sy'n berthnasol i deithio mewn cerbyd modur) i'w gwneud ar sail "wirioneddol" a rhaid bod derbynebau perthnasol yn cyd-fynd â hwy am y costau a dynnwyd, yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad neu derfyn y penderfynir arnynt gan awdurdod. Ni all aelod hawlio lwfansau o dan Reoliad 11 pan gyflawnir unrhyw ddyletswydd wedi'i chymeradwyo o fewn eu cymuned neu ardal eu cyngor cymuned fel y bo'n briodol.
Mae Rheoliad 12 yn darparu bod datganiad i gyd-fynd â phob hawliad a wneir am lwfans presenoldeb, lwfans teithio, lwfans cynhaliaeth neu lwfans colled ariannol nad yw'r hawlydd wedi nac yn bwriadu gwneud unrhyw hawliad arall mewn perthynas â'r mater y mae'r hawliad yn berthnasol iddo. Mae hefyd yn atal taliadau o dan adran 176 o Ddeddf 1972 os gwneir taliadau o dan y Rheoliadau hyn.
Mae Rheoliad 13 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod gadw cofnod o unrhyw daliadau a wneir yn unol â'r Rheoliadau hyn, gan roi manylion am y derbynnydd a natur y taliad. Dylai'r wybodaeth honno fod ar gael i'w harchwilio (yn ddi-dâl) gan unrhyw etholwr llywodraeth leol. Gellir cael copïau o'r wybodaeth drwy dalu ffi resymol i'r awdurdod.
Yn unol â Rheoliad 14, cyn gynted ag y bydd yn ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn ariannol rhaid i bob awdurdod gyhoeddi manylion o'r cyfanswm a dalwyd i bob aelod o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â lwfans presenoldeb a sylfaenol a lwfans colled ariannol.
Mae Rheoliad 15 yn darparu bod Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) 1991 ("Rheoliadau 1991") a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) (Diwygio) (Cymru) 2001 ("Rheoliadau 2001") yn parhau i gael effaith mewn perthynas â hawliadau am ddyletswyddau a ddyddiwyd cyn 1 Ebrill 2003. Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau penodol yn y Rheoliadau hyn dirymir Rheoliadau 1991 a 2001. Mae Rheoliad 15 yn datgymhwyso adran 174 o Ddeddf 1972 fel y mae'n gymwys i Gymru.
[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[4] O.S. 1991/351, a ddiwygiwyd gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau Aelodau) (Diwygio) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2781 (Cy.234)).back
[5] O.S. 2001/2781 (Cy.234).back
© Crown copyright 2003 | Prepared 14 April 2003 |