BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Cyfleustodau) (Gwerth Ardrethol) (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 944 (Cy.125)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030944w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 944 (Cy.125)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Cyfleustodau) (Gwerth Ardrethol) (Diwygio) (Cymru) 2003

  Wedi'i wneud 27 Mawrth 2003 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 140(4) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] a pharagraff 3(2) o Atodlen 6 iddi, sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2]:

Enwi, cychwyn a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Cyfleustodau) (Gwerth Ardrethol) (Diwygio) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 1 Ebrill 2003.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn  - 

Diwygio Gorchymyn Ymgymerwyr Dwcirc r (Gwerthoedd Ardrethol) (Cymru) 2000
     2. Yn y Gorchymyn Ymgymerwyr Dwcircr  - 

Diwygio Gorchymyn BG plc (Gwerth Ardrethol) (Cymru) 2000
    
3. Yng Ngorchymyn BG yn erthygl 3 yn lle'r geiriau "sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2000" mewnosoder y geiriau "y mae rhestr ardrethu annomestig canolog Cymru a luniwyd ar 1 Ebrill 2000 mewn grym ar ei chyfer".

Diwygio Gorchymyn Railtrack Plc (Gwerth Ardrethol) (Cymru) 2000
    
4. Yng Ngorchymyn Railtrack  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
6].


Jane Hutt
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

27 Mawrth 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


O dan baragraff 3(2) of Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ("Deddf 1988"), caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol ac sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru, drwy Orchymyn ddarparu yn achos hereditamentau annomestig sydd i'w dangos yn rhestr ardrethu canolog Cymru na fydd rheolau arferol prisio ar gyfer ardrethu, a gynhwysir ym mharagraffau 2 i 2C o'r Atodlen honno, yn gymwys ac yn lle hynny eu gwerth ardrethol fydd yr hyn a bennir yn y Gorchymyn neu yr hyn a benderfynir yn unol â'r rheolau a ragnodwyd.

O dan baragraff 3(2) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988, gwnaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru Orchymyn Ymgymerwyr Dwcircr (Gwerthoedd Ardrethol) (Cymru) 2000, Gorchymyn BG plc (Gwerth Ardrethol) (Cymru) 2000 a Gorchymyn Railtrack Plc (Gwerth Ardrethol) (Cymru) 2000. Yr oedd y tri Gorchymyn hwn yn datgymhwyso rheolau arferol prisio ar gyfer ardrethu eiddo yng Nghymru ym mherchenogaeth yr ymgymerwyr perthnasol a rhoi yn eu lle ddulliau amgen o gyfrifo eu gwerthoedd ardrethol perthnasol.

O dan adrannau 41(2) a 52(2) o Ddeddf 1988 lluniwyd rhestr ardrethu annomestig lleol a chanolog yn eu tro ar 1 Ebrill 1990 a rhaid llunio rhestr ar 1 Ebrill ym mhob pumed blwyddyn ar ôl y dyddiad hwnnw. Gosodir y dyddiad erbyn pryd y mae'r gwerth ardrethol i'w benderfynu gan baragraff 2(3)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988 ac o dan y ddarpariaeth hon mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi darparu, yn rhinwedd Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2002 ("Gorchymyn 2002"), mai 1 Ebrill 2003 fydd y dyddiad prisio at ddibenion rhestrau ardrethu 2005.

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Ymgymerwyr Dwcirc r (Gwerthoedd Ardrethol) (Cymru) 2000, Gorchymyn BG plc (Gwerth Ardrethol) (Cymru) 2000 a Gorchymyn Railtrack Plc (Gwerth Ardrethol) (Cymru) 2000 i gyfyngu ar eu cymhwysiad i restrau ardrethu annomestig ar gyfer Cymru a luniwyd ar 1 Ebrill 2000, er mwyn gallu ymgymryd â'r ailbrisio angenrheidiol yn unol â Gorchymyn 2002.


Notes:

[1] 1988 p.41. Diwygiwyd adran 143(2) gan adran 139 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42) a pharagraffau 72 a 79(3) o Atodlen 5 iddi. Diwygiwyd paragraff 3(2) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988 gan adran 139 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 a pharagraffau 72 a 79(3) o Atodlen 5 iddi a Deddf Llywodraeth Leol ac Ardrethu 1997 (p.29).back

[2] Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 2000/352 (Cy.10).back

[4] O.S. 2000/555 (Cy.22).back

[5] O.S. 2000/299 (Cy.6).back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090722 1


 
© Crown copyright 2003
Prepared 15 April 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030944w.html