BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cartrefi Gofal (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 947 (Cy.128)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030947w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 947 (Cy.128)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Cartrefi Gofal (Diwygio) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 27 Mawrth 2003 
  Yn dod i rym 31 Mawrth 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 22(1) a (2)(b) a 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:  - 

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Gofal (Diwygio) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 31 Mawrth 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002
    
2. Yn Rheoliad 19(6) o Reoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002[2](ffitrwydd gweithwyr) yn lle'r geiriau "1 Ebrill 2003" rhodder y geiriau "31 Hydref 2004".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 [3].


Jane Hutt
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

27 Mawrth 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002. Mae Rheoliad 19 o'r Rheoliadau hynny yn ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth a dogfennau penodol ar gael mewn perthynas â phobl sy'n gweithio mewn cartref gofal, gan gynnwys tystysgrifau cofnodion troseddol a ddyroddwyd o dan Ddeddf yr Heddlu 1997. O ran staff a gyflogir mewn cartref gofal yn union cyn 1 Ebrill 2002, nid yw'r gofyniad sy'n ymwneud â thystysgrifau cofnodion troseddol yn gymwys tan 1 Ebrill 2003. Mae rheoliad 2(3) o'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r gofyniad hwn fel nad yw'n gymwys tan 31 Hydref 2004.


Notes:

[1] 2000 p.14. Mae'r pwerau yn arferadwy gan y Gweinidog priodol a ddiffinnir yn adran 121(1), mewn perthynas â Chymru, fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler adran 121(1) i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".back

[2] O.S. 2002/324 (Cy.37), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2622 (Cy.254).back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090713 2


 
© Crown copyright 2003
Prepared 10 April 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030947w.html