BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 955 (Cy.129)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030955w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 955 (Cy.129)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 31 Mawrth 2003 
  Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3).

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 38, 39, 78, 126 (4) a 127 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, a pharagraffau 1977 a 2A o Atodlen 12 iddi[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2003.

    (3) Daw Rheoliadau 2, 3, 4, 8 a 9 i rym ar 6 Ebrill 2003.

    (4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio rheoliad 1 o Reoliadau 1997
     2.  - (1) Diwygir rheoliad 1 o Reoliadau 1997 (enwi, cychwyn a dehongli), yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Hepgorir y diffiniadau o  - 

    (3) Yn y mannau priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosodir y diffiniadau canlynol - 

Diwygio rheoliad 8 o Reoliadau 1997
     3.  - (1) Diwygir rheoliad 8 o Reoliadau 1997 (cymhwyster  -  cyflenwi teclynnau optegol) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Ym mharagraff (3)  - 

    (3) Yn lle paragraff (4) rhoddir y paragraff canlynol - 

Mewnosod rheoliad 12A yn Rheoliadau 1997
     4. Ar ôl rheoliad 12 o Reoliadau 1997 (defnyddio talebau i gyflenwi cyfarpar optegol) mewnosodir y rheoliad canlynol - 

Diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 1997
    
5. Yn rheoliad 19 o Reoliadau 1997 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio) - 

Diwygio'r Atodlenni i Reoliadau 1997
    
6.  - (1) Yn Atodlen 1 Reoliadau 1997 (codau llythrennau taleb a gwerthoedd ar yr wyneb  -  cyflenwi ac ailosod) yng ngholofn (3) (gwerth taleb ar yr wyneb), am bob swm a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl isod amnewidier y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn 2 o'r tabl hwnnw.


TABL
(1) (2)
Swm blaenorol Swm newydd
£ 30.50 £ 31.30
£ 46.40 £ 47.60
£ 63.20 £ 64.80
£ 142.70 £ 146.30
£ 52.70 £ 54.00
£ 67.00 £ 68.70
£ 81.00 £ 83.00
£ 157.00 (y ddau dro y mae'n ymddangos) £ 160.90
£ 44.60 £ 45.70

    (2) Yn Atodlen 2 i Reoliadau 1997 (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectol fach a sbectol arbennig a theclynnau cymhleth) - 

    (3) Yn lle Atodlen 3 i Reoliadau 1997 (gwerthoedd talebau  -  trwsio), rhoddir yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Defnyddio'r Rheoliadau hyn
    
7. Mae'r diwygiadau a wneir gan reoliadau 5 a 6 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â thaleb a dderbyniwyd neu a ddefnyddiwyd yn unol â rheoliad 12 neu 17 o Reoliadau 1997 ar neu ar ôl 1 Ebrill 2003.

Diwygio rheoliad 2 o Reoliadau 1986
    
8.  - (1) Diwygir Rheoliad 2 o Reoliadau 1986 (dehongli), yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Hepgorir y diffiniadau o - 

    (3) Yn y lleoedd priodol ac yn nhrefn yr wyddor mewnosodir y diffiniadau canlynol - 

Diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 1986
     9.  - (1) Diwygir Rheoliad 13 o Reoliadau 1986 (profion golwg  -  cymhwyster) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Ym mharagraff (2) ,

    (3) Yn lle paragraff (3) rhoddir y paragraff canlynol - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[12])


D. Elis- Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

31 Mawrth 2003



YR ATODLEN
Rheoliad 3(3)


ATODLEN I REOLIADAU 1997 FEL Y'I HAMNEWIDIR GAN Y RHEOLIADAU HYN






SCHEDULE 3
Regulations 19(2) and (3)


VOUCHER VALUES  -  REPAIR


(1) (2)
Nature of repair Letter Codes  -  Value
     A B C D E F G H&I
     £ £ £ £ £ £ £ £
Repair or replacement of one lens 9.75 17.90 26.50 67.25 21.10 28.45 35.60 74.55
Repair or replacement of two lenses 19.45 35.75 53.00 134.50 42.25 56.90 71.25 149.15
Repair or replacement of:  -                                         
the front of a frame 10.00 10.00 10.00 10.00 10.00 10.00 10.00 10.00
a side of a frame 5.95 5.95 5.95 5.95 5.95 5.95 5.95 5.95
the whole frame 11.80 11.80 11.80 11.80 11.80 11.80 11.80 11.80



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 ("Rheoliadau 1997") a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 ("Rheoliadau 1986").

Mae Rheoliadau 1997 yn darparu ar gyfer cynllun taliadau i'w gwneud gan yr Awdurdodau Iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG drwy gyfrwng system dalebau mewn perthynas â chostau a dynnir gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â phrofion golwg a chyflenwi, amnewid a thrwsio teclynnau optegol.

Mae Rheoliadau 1986 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer trefnu gwasanaethau offthalmig cyffredinol o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae rheoliadau 2 a 3 yn diwygio rheoliad 1 o Reoliadau 1997 i hepgor y diffiniadau o "amount withdrawn", "disabled person's tax credit" a "working families tax credit", rhoi diffinaid newydd yn lle "family" a mewnosod diffiniadau ar gyfer "child tax credit", "disability element" , "gross annual income" a "working tax credit".

Mae'r diwygiadau'n adlewyrchu'r newidiadau a wnaed gan Ddeddf Credydau Treth 2002 ac yn cyflwyno i'r categorïau o bersonau sydd â hawl i gael cymorth tuag at y gost o gyflenwi teclynnau optegol (o dan Reoliadau 1997) a chael prawf llygaid o dan wasanaethau offthalmig cyffredinol (o dan Reoliadau 1986) aelodau o deulu y mae eu hincwm yn disgyn o dan derfyn penodol ac sy'n derbyn credyd treth plant a chredyd treth gwaith, neu gredyd treth gwaith gydag elfen o anabledd. Yn ychwanegol, mae teulu sy'n cael credyd treth plant ond nad oes ganddo hawl i gredyd treth gwaith hefyd yn cael ei gynnwys yn y diffiniad ar yr amod bod ei incwm o fewn yr un terfyn penodedig.

Seilir y terfyn incwm ar incwm blynyddol gros y teulu (h.y. yr incwm cyn didynnu treth a chyfraniadau yswiriant cenedlaethol).

Mae'r newidiadau a wneir gan y diwygiadau hyn yn disodli'r hawl i gael cymorth tuag at y gost o gyflenwi teclynnau optegol a chael prawf llygaid o dan wasanaethau offthalmig cyffredinol a seiliwyd ar dderbyn credyd treth i deuluoedd sy'n gweithio a chredyd treth i bobl anabl.

Mae rheoliad 4 o'r rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad 12A newydd yn Rheoliadau 1997 i ddarparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gyhoeddi hysbysiadau hawl wedi'u seilio ar yr hawl o dan y Ddeddf Credydau Treth.

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 1997 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio) i gynyddu gwerth taleb optegol a ddyrodwyd tuag at y gost o ailosod lens gyffwrdd unigol, a chynyddu mwyafswm y cyfraniad drwy daleb at gost trwsio ffrâm sbectol.

Mae rheoliad 6(1) yn diwygio Atodlen 1 o Reoliadau 1997 i gynyddu gwerth y talebau a ddyroddir tuag at gostau cyflenwi ac ailosod gwydrau a lensys cyffwrdd.

Rheoliad 6(2) yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau 1997 i gynyddu gwerthoedd ychwanegol y talebau ar gyfer prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd a theclynnau mewn categorïau penodol.

Mae rheoliad 6(3) a'r Atodlen yn amnewid Atodlen 3 newydd yn Rheoliadau 1997 i gynyddu gwerth y talebau a roddir tuag at y gost o drwsio ac ailosod teclynnau optegol.

Tua 2.5%, ar gyfartaledd, yw graddfa'r cynnydd.

Mae rheoliad 7 yn darparu bod y cynnydd yng ngwerthoedd y daleb a wneir gan reoliadau 5 a 6 yn gymwys yn unig i dalebau a dderbynir neu a ddefnyddir ar ôl 1 Ebrill 2003.

Mae rheoliadau 8 a 9 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau 2 a 13 o Reoliadau 1986 yn sgil diddymu credyd treth i deuluoedd sy'n gweithio a chredyd treth i bobl anabl a'u disodli gan gredyd treth plant a chredyd treth gwaith Ddeddf Credydau Treth 2002.


Notes:

[1] 1977 p.49; gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i) i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".

Diwygiwyd adran 38 gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53) ("Deddf 1980"), adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 51; gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48) ("Deddf 1984"), adran 1(3); gan O.S.1985/39, erthygl 7(11); gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49) ("Deddf 1988"), adran 13(1); a chan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995"), Atodlen 1, paragraff 27.

Cafodd adran 39 ei hestyn gan Ddeddf 1988, adran 17; a'i diwygio gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p. 53), adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 52, gan Ddeddf 1984, adran 1(4) ac Atodlen 1, paragraff 1 ac Atodlen 8; gan O.S.1985/39, erthygl 7(12); a chan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 28.

Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990 adran 65(2) a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 37(6).

Amnewidiwyd paragraff 2(1) o Atodlen 12 gan Ddeddf 1988, Atodlen 2, paragraff 8(1). Cafodd paragraff 2A o Atodlen 12 ei fewnosod gan Ddeddf 1984, Atodlen 1, Rhan 1, paragraff 3 a'i ddiwygio gan Ddeddf 1988, aadran 13(2) a (3).

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 38, 39, 78, 126(4) a 127, a pharagraffau 2 a 2A o Ddeddf 1977 ac Atodlen 12 iddi, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.back

[2] O.S. 1997/818; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1997/2488, 1998/499, 1999/609, 2000/978 (Cy.48), 2000/3119 (Cy.198), 2001/1362 (Cy.90), 2001/1423 (Cy.98) a 2002/186 (Cy.25).back

[3] O.S. 1986/975; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1988/486, 1989/395, a 1175, 1990/1051, 1991/583, 1992/404, 1995/558, 1996/705 a 2320, 1999/693, 1999/2481 (Cy.21) a 2001/1362 (Cy.90).back

[4] 2002 p.21.back

[5] 1992 p.4.back

[6] 1995 p.18.back

[7] O.S. 2002/2006.back

[8] 2002 p.21.back

[9] 1992 p.4.back

[10] 1995 p.18.back

[11] O.S. 2002/2006.back

[12] 1998 p. 38.back



English version



ISBN 0 11090724 8


 
© Crown copyright 2003
Prepared 23 April 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030955w.html