OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 973 (Cy.132)
LANDLORD A THENANT, CYMRU
Gorchymyn Gweinyddu Gwasanaeth y Swyddogion Rhenti (Cymru) 2003
|
Wedi'i wneud |
1 Ebrill 2003 | |
|
Yn dod i rym |
1 Mehefin 2003 | |
O ran ardaloedd cofrestru yng Nghymru, gan fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru o'r farn nad yw bellach yn briodol bod penodi, talu a gweinyddu swyddogion rhenti yn un o swyddogaethau awdurdodau lleol[1];
yn awr mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 64B o Ddeddf Rhenti 1977[2] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol -
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gweinyddu Gwasanaeth y Swyddogion Rhenti (Cymru) 2003 a daw i rym ar 1 Mehefin 2003 .
(2) Mae'r Gorchymyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Yn y Gorchymyn hwn -
ystyr "corff perthnasol" ("relevant body") yw'r corff a oedd yn cyflogi'r cyflogai perthnasol yn union cyn y dyddiad trosglwyddo;
ystyr "cyflogai perthnasol" ("relevant employee") yw person y mae ei gontract cyflogaeth i'w drosglwyddo gan Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn;
ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Rhenti 1977[3];
ystyr "y dyddiad trosglwyddo" ("the transfer date") yw 1 Mehefin 2003; ac
ystyr "Rheoliadau 1981" ("the 1981 Regulations") yw Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981[4].
Diddymu cynlluniau o dan adran 63 o Ddeddf Rhenti 1977 yng Nghymru
2.
- (1) Bydd unrhyw gynllun wedi'i wneud o dan adran 63 o'r Ddeddf, mewn perthynas â Chymru, a oedd yn bod yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn peidio â bod yn effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen.
(2) Rhaid peidio â gwneud cynllun o dan adran 63 o'r Ddeddf ar gyfer unrhyw ardal gofrestru yng Nghymru.
Trosglwyddo Staff
3.
Bydd contract cyflogaeth rhwng y corff perthnasol ac
(a) pob swyddog rhenti; a
(b) pob aelod o staff gweinyddol yn y corff perthnasol a gyflogir yn narpariaeth gwasanaeth y swyddogion rhenti,
a gyflogid yn barhaus gan y corff perthnasol yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, ac eithrio unrhyw staff a wrthwynebodd drosglwyddo eu contractau cyflogaeth yn unol â Rheoliad 5(4A) o Reoliadau 1981, yn effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo fel petai wedi'i wneud yn wreiddiol rhwng y cyflogai perthnasol a'r Cynulliad Cenedlaethol.
4.
Heb ragfarn i erthygl 3:
(a) yn ddarostyngedig i baragraffau (ch) i (e) isod, trosglwyddir i'r Cynulliad Cenedlaethol bob hawl, per, dyletswydd a rhwymedigaeth y corff perthnasol o dan gontract cyflogaeth y mae Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, neu mewn cysylltiad ag ef, yn rhinwedd y Gorchymyn hwn, o'r dyddiad trosglwyddo;
(b) yn ddarostyngedig i baragraffau (ch) i (e) isod, caniateir i unrhyw beth a wneid cyn y dyddiad trosglwyddo, gan, i neu mewn perthynas â chyflogai perthnasol yngln â chontract cyflogaeth barhau i gael ei wneud, ar ôl y dyddiad hwnnw gan, i neu mewn perthynas â'r person hwnnw;
(c) yn ddarostyngedig i baragraffau (ch) i (e) isod, bernir bod unrhyw beth a wneid cyn y dyddiad trosglwyddo gan, i neu mewn perthynas â chorff perthnasol yngln â chontract cyflogaeth neu gyflogai perthnasol, wedi'i wneud gan, i neu mewn perthynas â'r Cynulliad Cenedlaethol o'r dyddiad trosglwyddo;
(ch) yn ddarostyngedig i baragraff (d), pan wnaed penodiad cyflogai perthnasol yn ddarostyngedig i hawliau, rhwymedigaethau, pwerau a dyletswyddau, mae unrhyw un o'r hawliau, y rhwymedigaethau, y pwerau a'r dyletswyddau hynny a fodolai yn union cyn y dyddiad trosglwyddo yn parhau i fodoli;
(d) yn ddarostyngedig i baragraff (dd), trosglwyddir pob un o hawliau, rhwymedigaethau, pwerau a dyletswyddau y sywddog priodol neu'r corff perthnasol y bu penodiad cyflogai perthnasol yn ddarostyngedig iddo, yn rhinwedd y Gorchymyn hwn, i'r Cynulliad Cenedlaethol yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau angenrheidiol er mwyn galluogi eu cymhwyso mewn perthynas â'r Cynulliad Cenedlaethol yn lle'r swyddog priodol, neu yn ôl fel y digwydd, y corff perthnasol;
(dd) nid yw paragraff (d) yn trosglwyddo nac yn effeithio fel arall -
(i) ar rwymedigaethau unrhyw berson sydd i'w erlyn am unrhyw dramgwydd, sydd i'w gollfarnu ohono a'i ddedfrydu o'i herwydd neu
(ii) ar rwymedigaethau unrhyw berson i dalu iawndal i gyflogai perthnasol neu mewn perthynas ag ef a'r rheini'n rhwymedigaethau sy'n codi o unrhyw beth a wnaed, neu fethiant â'i wneud, cyn y dyddiad trosglwyddo, ac
(e) nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy'n effeithio ar unrhyw hawl sydd gan gyflogai perthnasol i derfynu ei benodiad ond nid yw'r hawl honno yn codi oherwydd y trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol y mae'r Gorchymyn hwn yn ei beri.
Trosglwyddo Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau
5.
- (1) Trosglwyddir yr holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau yr oedd y cyrff perthnasol â hawl iddynt neu yn ddarostyngedig iddynt yn union cyn y dyddiad trosglwyddo mewn cysylltiad â gwasanaeth y swyddogion rhenti i'r Cynulliad Cenedlaethol o'r dyddiad trosglwyddo.
(2) At ddibenion erthygl 5(1), nid yw'r term eiddo yn cynnwys tir neu adeiladau neu unrhyw fuddiant mewn tir neu adeiladau.
Penodiadau, taliadau, pensiynau, lwfansau ac arian rhodd swyddogion rhenti
6.
Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol -
(a) penodi a thalu swyddogion rhenti;
(b) penderfynu ar dâl swyddogion rhenti gan ystyried unrhyw sylwadau oddi wrth bersonau y mae'n eu derbyn yn gynrychiolwyr swyddogion rhenti; ac
(c) talu, neu pan fydd yn briodol, sicrhau bod y pensiynau, y lwfansau a'r arian rhodd yn cael eu talu i swyddogion rhenti neu mewn perthynas â hwy yn unol â'u statws fel gweision sifil a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol ac yn unol ag adran 1 o Ddeddf Blwydd-dal 1972[5] neu gynllun wedi'i wneud o dan yr adran honno.
Gweinyddu swyddogion rhenti
7.
- (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol -
(a) darparu ystafelloedd ac offer swyddfa a chymorth clerigol a chymorth arall ar gyfer swyddogion rhenti;
(b) dyrannu gwaith rhwng swyddogion rhenti; ac
(c) goruchwylio ymddygiad swyddogion rhenti.
(2) Rhaid i swyddogion rhenti gyflawni'r dyletswyddau swyddogion rhenti y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn eu cyfarwyddo i'w cyflawni.
Cymhwyso rheoliadau 1981
8.
- (1) Rhaid trin y cyflogeion perthnasol yn yr un modd â chyflogeion at ddibenion Rheoliadau 1981 o dan amgylchiadau pan fydd Rheoliadau 1981 yn gymwys.
(2) Rhaid trin pob corff perthnasol a'r Cynulliad Cenedlaethol yn yr un modd â throsglwyddwr a throsglwyddai yn eu tro at ddibenion Rheoliadau 1981 o dan amgylchiadau pan fydd Rheoliadau 1981 yn gymwys.
Gwariant
9.
- (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu drwy grant, ad-daliad neu fel arall am unrhyw wariant y mae'r cyrff perthnasol yn mynd iddo, sef gwariant sydd o fath a grybwyllir ym mharagraff (2).
(2) Mae gwariant a grybwyllir ym mharagraff (1) yn unrhyw wariant rhesymol y gellir ei briodoli i'r Gorchymyn hwn, ac -
(a) yr eir iddo mewn perthynas â phensiynau, lwfansau neu arian rhodd sy'n daladwy i swyddogion rhenti neu mewn perthynas â hwy yn rhinwedd adran 1 o Ddeddf Blwydd-dal 1972 neu reoliadau sydd wedi'u gwneud o dan adran 7 neu 24 o'r Ddeddf honno, neu
(b) yr eir iddo mewn perthynas â chodiadau mewn pensiynau sy'n daladwy i swyddogion rhenti (a benodir felly) neu mewn perthynas â hwy yn rhinwedd Deddf (Codi) Blwydd-dal 1971[6], neu
(c) yr eir iddo mewn perthynas ag unrhyw dir neu adeiladau neu unrhyw fuddiant mewn unrhyw dir neu adeiladau a ddefnyddid yn union cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, at ddibenion gwasanaeth y swyddogion rhenti pan nad yw'r corff perthnasol wedi gallu dod o hyd i ddefnydd arall i'r eiddo neu ei waredu fel arall wedi i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
(3) Rhaid dosrannu pob swm o wariant a grybwyllir ym mharagraff (1) uchod gan gyfeirio at y dyddiad trosglwyddo.
Diwygio Deddf Rhenti 1977
10.
Yn y Ddeddf diwygir adran 62 fel a ganlyn -
(a) yn is-adran (1) ar ôl "this Act" mewnosodwch "in England";
(b) yn is-adran (1)(a) hepgorwch "and county boroughs";
(c) ar ôl is-adran (1) mewnosodwch:
"
(1A) Wales is a registration area for the purposes of this Part of this Act.".
11.
Yn is-adran (4) o adran 63 o'r Ddeddf ar ddiwedd paragraff (b) ychwanegwch "or, in relation to Wales, any rent officer appointed by the National Assembly for Wales.".
12.
Yn adran 66 o'r Ddeddf -
(a) yn is-adran (1A)(b) ar ôl y geiriau "Secretary of State" mewnosodir "or in relation to Wales, the National Assembly for Wales.",
(b) ar ôl is-adran (4) ychwanegwch -
"
(5) In relation to Wales, references in this section to the rent officer are to the rent officer or rent officers designated for the purposes of this section by the National Assembly for Wales.".
Darpariaethau atodol a chysylltiedig
13.
Diddymir paragraff 3(2) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994[7].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 [8].
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
1 Ebrill 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu, yn unol â'r pwerau sy'n arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") o dan adran 64B o Ddeddf Rhenti 1977, bod penodi, talu, a gweinyddu swyddogion rhenti yng Nghymru yn swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn hytrach na swyddogaethau awdurdodau lleol.
Mae Erthygl 2 o'r Gorchymyn yn diddymu, ar 1 Mehefin 2003 ("y dyddiad trosglwyddo"), gynlluniau ar gyfer ardaloedd cofrestru rhenti yng Nghymru wedi'u gwneud o dan adran 63 o Ddeddf Rhenti 1977.
Mae Erthyglau 3 a 4 yn darparu ar gyfer trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol gontractau cyflogaeth swyddogion rhenti a staff gweinyddol sy'n cael eu cyflogi gan wasanaeth y swyddogion rhenti (y cyfeirir atynt fel "y cyflogeion perthnasol") yn union cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Mae Erthygl 5 yn trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol yr eiddo (heb gynnwys buddiannau mewn tir neu adeiladau) a ddelir a'r iawnderau a'r rhwymedigaethau yr oedd gan y cyrff perthnasol hawl iddynt neu yr oeddent yn ddarostyngedig iddynt, mewn cysylltiad â gwasanaeth y swyddogion rhenti.
Mae Erthygl 6 yn darparu bod gan y Cynulliad Cenedlaethol y per i benodi, talu cyflogau a phensiynau, lwfansau ac arian rhodd i swyddogion rhenti neu mewn perthynas â hwy.
Mae Erthygl 7 yn gwneud darpariaeth o ran gweinyddu a goruchwylio swyddogion rhenti.
Mae Erthygl 8 yn darparu y bydd Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981 yn gymwys i drosglwyddo contractau cyflogaeth y cyflogeion perthnasol o'r cyrff perthnasol i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Mae Erthygl 9 yn gwneud darpariaeth i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu am wariant penodol y mae'r cyrff perthnasol yn mynd iddo o ganlyniad i'r Gorchymyn hwn.
Mae Erthyglau 10, 11 a 12 yn diwygio Deddf Rhenti 1977.
Mae Erthygl 13 yn gwneud darpariaethau atodol a chysylltiedig ac yn diddymu paragraff 3(2) o Atodlen 8 i Ddeddf Llwyodraeth Leol (Cymru) 1994.
Notes:
[1]
Gweler adran 64B(1) o Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42); mewnosodwyd adran 64B gan adran 120 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) a Rhan II o Atodlen 14 iddi.back
[2]
Gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru arfer y per o dan yr adran hon mewn perthynas â Chymru: gweler erthygl 2 o ac Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
1977 p. 42.back
[4]
O.S. 1981/1794 fel y'i diwygiwyd gan reoliad 2 o Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) (Diwygio) 1987 (O.S. 1987/442), adran 7(2) o Ddeddf Gwaith Dociau 1989 (p.13), adrannau 33 a 51 o Ddeddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 (p.19) ac Atodlen 10 iddi, rheoliadau 8, 9 ac 11 o Reoliadau Diswyddiadau Torfol a Throsglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) (Diwygio) 1995 (O.S. 1995/2587), adran 1 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth (Datrys Anghydfodau) 1998 (p.8), rheoliadau 2, 8, 9 a 10 o Reoliadau Diswyddiadau Torfol a Throsglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) (Diwygio) 1999 (O.S. 1999/1925), a rheoliadau 2 a 3 o Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) (Diwygio) 1999 (O.S. 1999/2402).back
[5]
1972 p.11.back
[6]
1971 p.56.back
[7]
1994 p.19.back
[8]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090743 4
|