BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 2003 Rhif 1732 (Cy.190)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031732w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 1732 (Cy.190)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 9 Gorffennaf 2003 
  Yn dod i rym 1 Awst 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 26 a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Awst 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dirymu
    
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999[3].

Dehongli
     3. Yn y Rheoliadau hyn - 

Cynnwys a hyd cynllun trefniadaeth ysgol
     4.  - (1) At ddibenion adran 26(2)(a) ac (ab) o'r Ddeddf (sy'n darparu mai datganiad yw cynllun trefniadaeth ysgol sy'n nodi sut mae'r awdurdod yn bwriadu arfer ei swyddogaethau a'i bwerau yn ystod y cyfnod rhagnodedig gyda golwg ar sicrhau darpariaeth addysg gynradd ac uwchradd a fyddai'n diwallu anghenion poblogaeth ei ardal yn ystod cyfnod hwnnw), y cyfnod rhagnodedig yw'r cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad y caiff y cynllun ei fabwysiadu gan yr awdurdod o dan reoliad 8 neu 9 ac sy'n dod i ben ar ddiwedd y bumed flwyddyn ysgol ar ôl y flwyddyn ysgol pan gyhoeddwyd y cynllun drafft hwnnw.

    (2) Mae'r cyfeiriad ym mharagraff (1) at gyhoeddi'r y cynllun drafft yn gyfeiriad at y cynllun drafft cychwynnol hwnnw a gyhoeddwyd o dan reoliad 5, ni waeth a gafodd cynllun drafft o'r newydd a oedd yn disodli'r cynllun drafft hwnnw ei gyhoeddi wedyn o dan reoliad 9(1).

    (3) Yn benodol rhaid i'r cynllun ymdrin â  - 

    (4) Yn gysylltiedig â pharatoi'r cynllun yn unol â'r rheoliad hwn, a mewn perthynas â gweithredu'r cynllun, mae'r awdurdod i ystyried canllawiau sy'n cael eu cyhoeddi gan y Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cyhoeddi cynllun drafft
    
5.  - (1) Rhaid i'r awdurdod gyhoeddi cynllun drafft drwy wneud y canlynol  - 

    (2) Ni fydd is-baragraff (1)(a)(i) yn gymwys mewn perthynas â chorff llywodraethu unrhyw ysgol os yw'r awdurdod yn cyhoeddi'r cynllun drafft ar y Rhyngrwyd a hynny ar wefan yr awdurdod a bod gan yr ysgol gyfleusterau sy'n caniatáu cyrchu'r cynllun ar y Rhyngrwyd.

    (3) Ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, rhaid cyhoeddi'r cynllun drafft cyntaf ar 31 Rhagfyr 2003, neu cyn hynny.

    (4) Rhaid i'r awdurdod baratoi a chyhoeddi cynlluniau drafft pellach ar 31 Rhagfyr 2006 neu cyn hynny, ac ar 31 Rhagfyr neu cyn hynny o fewn pob trydedd flwyddyn ar ôl hynny.

    (5) Rhaid i'r awdurdod baratoi a chyhoeddi cynllun drafft ychwanegol mewn unrhyw flwyddyn pan nad yw'n rhaid iddynt gyhoeddi cynllun drafft ychwanegol yn unol â pharagraff (4), os bu unrhyw newid o ran polisi neu amgylchiadau lleol sydd yn ymwneud â darpariaeth addysg gynradd neu uwchradd ers i'r cynllun diwethaf gael ei baratoi.

    (6) Cyn cyhoeddi cynllun drafft rhaid i'r awdurdod ymgynghori â'r personau hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn bersonau priodol.

Cyhoeddi hysbysiad o gynllun drafft
    
6. Yr un pryd ag y bydd yn cyhoeddi cynllun drafft rhaid i'r awdurdod gyhoeddi hysbysiad mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn ardal yr awdurdod - 

Sylwadau ar gynllun drafft
    
7.  - (1) Caniateir i unrhyw berson gyflwyno sylwadau ar gynllun drafft.

    (2) Rhaid i'r sylwadau hynny gael eu hanfon at yr awdurdod o fewn y cyfnod o ddeufis ar ôl dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad yn unol â rheoliad 6 (neu os cafodd hysbysiadau eu cyhoeddi mewn papurau newydd gwahanol ar ddyddiadau gwahanol, ar ôl dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad diwethaf o'r fath).

Mabwysiadu cynllun drafft gan yr awdurdod
    
8.  - (1) Ar ôl cyhoeddi cynllun drafft ac ar ôl i'r cyfnod y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 7(2) ddod i ben, rhaid i'r awdurdod, ar ôl ystyried unrhyw sylwadau a anfonwyd ato o fewn y cyfnod hwnnw, benderfynu a ddylai'r cynllun gael ei fabwysiadu ganddo neu beidio (a hynny gydag addasiadau neu hebddynt).

    (2) Rhaid i'r awdurdod wneud ei benderfyniad o dan baragraff (1) o fewn y cyfnod o ddeufis ar ôl i'r cyfnod y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 7(2) ddod i ben.

    (3) Os yw'r awdurdod yn penderfynu mabwysiadu'r cynllun drafft (gydag addasiadau neu hebddynt), rhaid i'w fabwysiadu dod i rym ar ddyddiad y penderfyniad.

Cyhoeddi a mabwysiadu cynllun drafft o'r newydd gan yr awdurdod
    
9.  - (1) Os yw'r awdurdod yn penderfynu o dan reoliad 8 i beidio â mabwysiadu'r cynllun drafft (gydag addasiadau neu hebddynt), rhaid iddo baratoi a chyhoeddi o dan y paragraff hwn gynllun drafft o'r newydd yn lle'r cynllun drafft hwnnw.

    (2) Mae rheoliadau 5(1), 5(6), 6 a 7 i fod yn gymwys mewn perthynas â chynllun drafft o'r newydd a gyhoeddwyd o dan baragraff (1) yn yr un modd ag y maent yn gymwys i gynlluniau drafft, ac eithrio bod rhaid i'r crynodeb o gasgliadau'r cynllun drafft a roddir yn yr hysbysiad sy'n cael ei gyhoeddi o dan reoliad 6 (fel y'i cymhwysir) gynnwys, yn achos cynllun drafft o'r newydd, ddatganiad byr o sut mae'r casgliadau hynny yn wahanol i'r rhai a roddwyd yn yr hysbysiad a gyhoeddwyd o dan y rheoliad hwnnw mewn perthynas â'r cynllun drafft y mae'r cynllun drafft o'r newydd yn ei ddisodli, a rhaid i'r hysbysiad ddatgan effaith rheoliadau 7, 9(4), 10 ac 11 (yn lle effaith rheoliadau 7 i 11).

    (3) Os yw'n ofynnol cyhoeddi cynllun drafft o'r newydd o dan baragraff (1), rhaid ei gyhoeddi o fewn y cyfnod o dri mis ar ôl i'r cyfnod, pan oedd yn ofynnol cyflwyno unrhyw sylwadau ar y cynllun drafft y mae'n ei ddisodli yn unol â rheoliad 7(2), ddod i ben.

    (4) Ar ôl cyhoeddi cynllun drafft o'r newydd o dan y rheoliad hwn, ac ar ôl i'r cyfnod y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 7(2) (fel y'i cymhwysir gan baragraff (1)) fel cyfnod cyflwyno sylwadau ar y cynllun drafft o'r newydd ddod i ben, rhaid i'r awdurdod, o fewn y cyfnod o ddeufis ar ôl i'r cyfnod hwnnw ddod i ben, fabwysiadu'r cynllun drafft o'r newydd (gydag addasiadau neu hebddynt) a bydd ei fabwysiadu yn effeithiol ar ddyddiad ei fabwysiadu.

Cyhoeddi cynllun a fabwysiadwyd
    
10. Os yw cynllun wedi'i fabwysiadu gan awdurdod o dan reoliad 8 neu 9, rhaid i'r awdurdod gyhoeddi'r cynllun fel y'i mabwysiadwyd drwy wneud y canlynol - 

Cyhoeddi hysbysiad o gynllun a fabwysiadwyd
    
11. Yr un pryd ag y byddant yn cyhoeddi cynllun a fabwysiadwyd o dan reoliad10, rhaid i'r awdurdod gyhoeddi hysbysiad mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn ardal yr awdurdod - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5]


D.Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9 Gorffennaf 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae adran 26 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau addysg lleol baratoi, ar gyfer eu hardaloedd, gynlluniau trefniadaeth ysgolion sy'n nodi sut y maent, yn ystod y cyfnod y mae'r cynllun yn ymwneud ag ef, yn bwriadu arfer eu swyddogaethau gyda golwg ar sicrhau darpariaeth o ran addysg gynradd ac uwchradd a fydd yn bodloni anghenion poblogaeth eu hardal, ac yn ei gwneud yn ofynnol iddynt bennu unrhyw gyfleusterau y maent yn disgwyl iddynt fod ar gael y tu allan i'w hardal ar gyfer darparu addysg o'r fath.

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n cael eu gwneud o dan adran 26, yn dirymu ac yn cymryd lle Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999. Maent yn darparu ar gyfer y materion canlynol - 


Notes:

[1] 1998 p.31. Diwygiwyd adran 26 gan adran 149 o, Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p.21), a pharagraffau 1 a 80 o Atodlen 9 iddi.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1999/499, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/3710 (Cy.306).back

[4] 1996 p.56.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090757 4


 
© Crown copyright 2003
Prepared 18 July 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031732w.html