BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2003 Rhif 1853 (Cy.203)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031853w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 1853 (Cy.203)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2003

  Wedi'i wneud 16 Gorffennaf 2003 
  Yn dod i rym 31 Gorffennaf 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 156(4) o Ddeddf Tai 1985[1] sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 31 Gorffennaf 2003.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.

Corff a bennir
    
2. Pennir Blemain Finance Ltd (Rhif cwmni 1185052) yn sefydliad benthyg cymeradwy i ddibenion adran 156[3] o Ddeddf Tai 1985 (blaenoriaeth arwystlon).



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

16 Gorffennaf 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu Blemain Finance Ltd (Rhif cwmni 1185052) fel sefydliad benthyg cymeradwy i ddibenion adran 156 o Ddeddf Tai 1985 (blaenoriaeth arwystlon ar warediadau o dan yr hawl i brynu), yn ogystal â'r cyrff hynny sydd eisoes wedi'u pennu gan yr adran honno neu mewn Gorchmynion blaenorol.

Mae adran 156 yn darparu bod yr atebolrwydd i ad-dalu gostyngiad a all godi o dan gyfamod gan y tenant sy'n ofynnol o dan adran 155 o Ddeddf 1985 yn gyfystyr ag arwystl cyfreithiol ar y tycirc annedd ond bod gan arwystl cyfreithiol, sy'n sicrhau swm sy'n cael ei fenthyca i'r tenant gan sefydliad benthyca cymeradwy er mwyn galluogi'r tenant i arfer yr hawl i brynu, flaenoriaeth drosto.

At ddibenion yr adran mae sefydliadau benthyca cymeradwy yn gymdeithasau adeiladu, yn fanciau, yn gwmnïau yswiriant, yn gymdeithasau cyfeillgar ac yn unrhyw gorff arall a bennir, neu y pennir ei ddosbarth neu ei ddisgrifiad, mewn gorchymyn a wneir, mewn perthynas â Chymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r cyrff hyn hefyd yn dod yn sefydliadau benthyg cymeradwy i ddibenion adran 36 o Ddeddf 1985 (blaenoriaeth arwystlon ar warediadau gwirfoddol gan awdurdodau lleol) ac adran 12 o Ddeddf Tai 1996 (blaenoriaeth arwystlon ar warediadau gwirfoddol gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig).

Yn ychwanegol, gan fod adran 156 o Ddeddf Tai 1985 yn cael ei chymhwyso gan adran 171A o'r Ddeddf honno at achosion lle diogelir hawl tenant i brynu a chan adran 17 o Ddeddf Tai 1996 at achosion lle mae gan denant hawl i gaffael o dan adran 16 o'r Ddeddf honno, daw'r cyrff a bennwyd yn sefydliadau benthyg cymeradwy i ddibenion yr hawliau hynny.


Notes:

[1] 1985 p.68; diwygiwyd adran 156(4) gan Ddeddf Tai 1988 (p.50), Atodlen 17, paragraff 106 a chan Ran XIII o Atodlen 19 i Ddeddf Tai 1996 (p.52).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] Diwygiwyd adran 156 hefyd gan Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 (p.63), Atodlen 5, paragraff 1(2) a (5) a chan adran 120(3) a (4) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Prydlesi, Tai, Datblygu Trefol 1993 (p.28).back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090768 X


 
© Crown copyright 2003
Prepared 23 July 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031853w.html