BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2003 Rhif 1856 (Cy.206)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031856w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 1856 (Cy.206)

CAFFAEL TIR, CYMRU

Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 16 Gorffennaf 2003 
  Yn dod i rym 1 Medi 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 30(5) o Ddeddf Iawndal Tir 1973[1] ("y Ddeddf") ac sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru[2], yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2003 ac maent yn dod i rym ar 1 Medi 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Symiau taliad colli cartref diwygiedig
    
2. Pan fydd y dyddiad disodli ar y dydd y daw'r Rheoliadau i rym neu wedi hynny - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]


D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

16 Gorffennaf 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn codi uchafswm ac isafswm y taliadau colli cartref sy'n daladwy o dan Ddeddf Iawndal Tir 1973 ("y Ddeddf") i'r rhai sydd â buddiant perchennog mewn annedd. Maent hefyd yn codi swm y taliad colli cartref sy'n daladwy mewn unrhyw achos arall.

Mae gan berson sy'n cael ei ddisodli o annedd o ganlyniad i bryniant gorfodol neu o dan yr amgylchiadau eraill a nodir yn adran 29 o'r Ddeddf yr hawl i daliad colli cartref. Sefydlwyd y sail bresennol ar gyfer asesu maint taliad colli cartref gan ddiwygiadau i'r Ddeddf a wnaed gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991.

Os digwydd i berson sy'n meddiannu annedd ar y dyddiad disodli fod â buddiant perchennog, mae adran 30(1) o'r Ddeddf yn darparu i swm y taliad colli cartref gael ei gyfrif fel canran o werth y buddiant hwnnw ar y farchnad, a'r swm hwnnw'n ddarostyngedig i uchafswm a lleiafswm.

Mae adran 30(2) yn rhagnodi maint y taliad colli cartref mewn unrhyw achos arall.

Yn sgil ymgynghoriad, mae rheoliad 2(a) o'r Rheoliadau hyn yn codi'r uchafswm sy'n daladwy o dan adran 30(1) o'r Ddeddf o £15,000 i £31,000 ac mae rheoliad 2(b) yn codi'r lleiafswm o £1,500 i £3,100. Mae rheoliad 2(c) yn codi'r taliad colli cartref sy'n daladwy o dan adran 30(2) o'r Ddeddf, mewn unrhyw achos arall, o £1,500 i £3,100.

Dim ond uchafswm a lleiafswn y taliadau colli cartref sy'n cael eu newid ac nid oes newid i'r ganran daladwy o werth ar y farchnad buddiant y person sy'n cael ei ddisodli.

Mae'r symiau diwygiedig yn gymwys pan fydd dyddiad y disodli yn digwydd ar 1 Medi 2003 neu wedi hynny.


Notes:

[1] 1973 p.26; mewnosodwyd adran 30 gan adran 68(3) o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 p.34, a hynny'n effeithiol o 25 Medi 1991 (gweler O.S. 1991/2067, erthygl 3).back

[2] Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 30, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) erthygl 2 ac Atodlen 1.back

[3] 1998 p.38back



English version



ISBN 0 11090771 X


 
© Crown copyright 2003
Prepared 23 July 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031856w.html