BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003 Rhif 1966 (Cy.211)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031966w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 1966 (Cy.211)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003

  Wedi'i wneud 29 Gorffennaf 2003 
  Yn dod i rym 1 Awst 2003 


TREFN YR ERTHYGLAU


RHAN 1

Cyflwyniad
1. Teitl, cymhwyso a chychwyn
2. Dehongli
3. Eithriadau

RHAN 2

Cyfyngiadau ar symud
4. Cyfyngiadau ar symud gwartheg, defaid a geifr
5. Cyfyngiadau ar symud moch
6. Symudiadau a ganiateir yn ystod cyfnod segur
7. Symudiadau nad ydynt yn sbarduno cyfnod segur
8. Cyfleusterau ynysu
9. Marcio defaid a geifr sy'n teithio i sioeau neu arddangosfeydd
10. Cyfyngiadau ar symud anifeiliaid i ladd-dai ac oddi yno
11. Grwpiau meddiannaeth unigol

RHAN 3

Trwyddedau
12. Y gofyniad am drwydded i symud anifeiliaid
13. Hysbysiadau sy'n gwahardd symud o dan drwydded gyffredinol
14. Trwyddedau penodol
15. Trwyddedau cyffredinol
16. Copïau o drwyddedau
17. Cydymffurfio â thrwyddedau, etc.
18. Trwyddedau a ddyroddir yn yr Alban neu yn Lloegr

RHAN 4

Materion amrywiol a gorfodi
19. Trwyddedau, caniatadau ac awdurdodiadau
20. Glanhau a diheintio
21. Newid meddiannaeth safleoedd
22. Gorfodi
23. Dirymu
24. Diwygio Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002

  ATODLEN 1 Symudiadau oddi ar safleoedd a ganiateir yn ystod y cyfnod segur

  ATODLEN 2 Symudiadau i safleoedd nad ydynt yn sbarduno'r cyfnod segur

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, a hwythau'n gweithredu ar y cyd drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 7, 8(1) ac 83 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[
1] yn gwneud y Gorchymyn canlynol:



RHAN 1

Cyflwyniad

Teitl, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003; mae'n gymwys ynghylch Cymru, a daw i rym ar 1 Awst 2003.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn - 

Eithriadau
     3. Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys i symud - 



RHAN 2

Cyfyngiadau ar symud

Cyfyngiadau ar symud gwartheg, defaid a geifr
     4. Ni chaiff neb symud unrhyw ddefaid, geifr neu wartheg oddi ar unrhyw safle os oes unrhyw ddefaid, geifr, gwartheg neu foch wedi'u symud i'r safle hwnnw yn ystod y chwe diwrnod blaenorol.

Cyfyngiadau ar symud moch
    
5. Ni chaiff neb symud mochyn oddi ar unrhyw safle os - 

Symudiadau a ganiateir yn ystod cyfnod segur
    
6. Er gwaethaf erthyglau 4 a 5, caniateir i anifeiliaid gael eu symud oddi ar safle yn ystod y cyfnod segur - 

Symudiadau nad ydynt yn sbarduno cyfnod segur
    
7. Nid yw'r cyfnod segur yn cael ei sbarduno drwy symud anifail i safle os yw'r symudiad yn un a bennir yn Atodlen 2.

Cyfleusterau ynysu
    
8.  - (1) Pan fydd anifeiliaid yn cael eu cadw mewn cyfleuster ynysu o dan unrhyw un o ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn, a bod anifeiliaid eraill yn cael eu symud i mewn cyn iddynt gael eu rhyddhau o'r cyfleuster ynysu, ni chaniateir i unrhyw anifail gael ei symud o'r cyfleuster ynysu cyn y dyddiad rhyddhau diwethaf i'r anifeiliaid diwethaf gael eu symud i mewn i'r cyfleuster ynysu.

    (2) Ni chaniateir i foch rannu cyfleuster ynysu ag anifeiliaid o unrhyw rywogaeth arall.

Marcio defaid a geifr sy'n teithio i sioeau neu arddangosfeydd
    
9. Ni chaiff neb symud defaid neu eifr i sioe neu arddangosfa oni bai bod yr anifeiliaid wedi'u marcio â Rhif adnabod unigol yn unol ag erthygl 6 o Orchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002[5].

Cyfyngiadau ar symud anifeiliaid i ladd-dai ac oddi yno
     10. Ni chaiff neb - 

Grwpiau meddiannaeth unigol
    
11. Caiff y Cynulliad Cenedlaethol a'r Ysgrifennydd Gwladol awdurdodi setiau o safleoedd i fod yn grwpiau meddiannaeth unigol os yw ef neu hi wedi'i fodloni bod y safleoedd yn gysylltiedig â'i gilydd o ran eu rheolaeth.



RHAN 3

Trwyddedau

Y gofyniad am drwydded i symud anifeiliaid
    
12.  - (1) Ni chaiff neb symud anifail o unrhyw safle oni bai bod y symudiad yn cael ei wneud o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, yr Ysgrifennydd Gwladol neu arolygydd.

    (2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys i unrhyw symudiad a awdurdodwyd drwy drwydded o dan erthygl 10 o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002[
6] (trwyddedau'n ymwneud â moch anwes).

Hysbysiadau sy'n gwahardd symud o dan drwydded gyffredinol
     13.  - (1) Pan fo trwydded gyffredinol wedi'i dyroddi o dan erthygl 12, caiff y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol ddyroddi hysbysiad yn gwahardd - 

    (2) Ni chaiff hysbysiad ei ddyroddi o dan baragraff (13) ond ar gyngor arolygydd, y mae'n rhaid iddo fod o'r farn  - 

    (3) Mae hysbysiad a ddyroddwyd o dan baragraff (1)(a) i gael ei gyflwyno i feddianwyr pob un o'r safleoedd a bennir yn yr hysbysiad ac mewn unrhyw ffordd arall y gwêl y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol yn dda i ddwyn yr hysbysiad i sylw'r personau y mae'r hysbysiad yn effeithio arnynt.

    (4) Mae hysbysiad a ddyroddwyd o dan baragraff (1)(b) i gael ei gyflwyno i'r person sy'n cael ei wahardd gan yr hysbysiad rhag symud anifeiliaid ac i feddiannydd unrhyw safle a enwir yn benodol yn yr hysbysiad.

    (5) Rhaid i hysbysiad fod yn ysgrifenedig, a chaiff fod yn ddarostyngedig i amodau a chaiff ei ddiwygio, ei atal dros dro, neu ei ddirymu ar unrhyw adeg gan hysbysiad arall gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol.

Trwyddedau penodol
    
14.  - (1) O ran anifail a symudir o dan drwydded benodol - 

    (2) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am unrhyw anifail a symudir o dan drwydded benodol, os myn cwnstabl neu arolygydd neu unrhyw un arall o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol, yr Ysgrifennydd Gwladol neu awdurdod lleol  - 

    (3) Rhaid i bob anifail sy'n cael ei symud o dan awdurdod trwydded o dan y Gorchymyn hwn gael ei gadw ar wahân i unrhyw anifail nad yw'n cael ei symud o dan awdurdod y drwydded honno, a hynny ar hyd y daith.

    (4) Pan fydd anifeiliaid yn cael eu symud o dan drwydded benodol, yna, onid yw'r drwydded yn darparu fel arall, rhaid i feddiannydd y safle y symudir hwy iddo - 

Trwyddedau cyffredinol
    
15. Pan fydd anifeiliaid yn cael eu symud o dan drwydded gyffredinol sy'n ei gwneud yn ofynnol bod gan y person sy'n symud yr anifeiliaid ddogfen symud, rhaid i feddiannydd y safle y symudir hwy iddo - 

Copïau o drwyddedau
    
16. Pan fydd arolygydd awdurdod lleol yn dyroddi trwydded o dan erthygl 12(1), rhaid iddo gadw copi o'r drwydded am chwe mis.

Cydymffurfio â thrwyddedau, etc
    
17. Os bydd unrhyw berson yn methu â chydymffurfio â thrwydded, caniatâd, awdurdodiad neu hysbysiad a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn, caiff un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol, neu arolygydd, drefnu y cydymffurfir ag ef a hynny ar draul y person sy'n methu â chydymffurfio.

Trwyddedau a ddyroddir yn yr Alban neu yn Lloegr
    
18. Bydd trwydded a ddyroddir gan yr awdurdod cymwys yn yr Alban neu yn Lloegr at ddibenion symud anifeiliaid yn weithredol yng Nghymru fel pe buasai wedi'i dyroddi o dan y Gorchymyn hwn.



RHAN 4

Materion amrywiol a gorfodi

Trwyddedau, caniatadau ac awdurdodiadau
    
19.  - (1) Rhaid i unrhyw drwydded, caniatâd, neu awdurdodiad o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig, caiff fod yn gyffredinol neu'n benodol, yn ddarostyngedig i amodau, a chaniateir ei amrywio, ei atal neu ei ddirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig unrhyw bryd - 

    (2) Wrth benderfynu a ddylid dyroddi trwydded o dan erthygl 12 neu ganiatâd o dan erthygl 6(b), rhaid i arolygydd neu arolygydd milfeddygol gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol.

Glanhau a diheintio
    
20.  - (1) Caiff trwydded a ddyroddir o dan erthygl 12, caniatâd a ddyroddir o dan erthygl 6(b) neu awdurdodiad o dan erthygl 11 bennu gofynion o ran y gwaith o lanhau a diheintio unrhyw gerbyd a ddefnyddir ar gyfer symud anifeiliaid ac sy'n ychwanegol at ofynion Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) 2003[7].

    (2) Pan fydd anifeiliaid yn cael eu symud o dan drwydded, rhaid i feddiannydd y safle y maent yn cael eu symud iddo ddarparu cyfleusterau, cyfarpar a deunyddiau digonol ar gyfer unrhyw waith glanhau a diheintio sy'n ofynnol o dan y drwydded.

Newid meddiannaeth safleoedd
     21.  - (1) Os, pan fydd ei hawl i feddiannu unrhyw safle yn dod i ben, y bydd perchennog unrhyw anifail ar y safle hwnnw yn methu ei symud o'r safle hwnnw oherwydd unrhyw gyfyngiad a osodir gan y Gorchymyn hwn neu oddi tano, rhaid i'r person sydd â'r hawl i feddiannu'r safle hwnnw - 

    (2) Bydd darpariaethau paragraff (1) yn dal i fod yn gymwys hyd nes bydd cyfnod o saith diwrnod wedi mynd heibio ers y dyddiad y bydd unrhyw gyfyngiadau ar symud yr anifail oddi ar y safle yn peidio â bod yn gymwys, a pherchennog yr anifail fydd yn atebol am dalu i'r person sy'n darparu unrhyw gyfleusterau neu borthiant, sy'n tendio neu fel arall yn cadw'r anifeiliaid, yn unol â'r darpariaethau hynny, unrhyw symiau, o ran tâl ac ad-daliad o dreuliau, sy'n gyfiawn ac yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau.

Gorfodi
    
22.  - (1) Mae'r Gorchymyn hwn i gael ei orfodi gan yr awdurdod lleol.

    (2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, y caiff dyletswydd orfodi a osodir ar awdurdod lleol o dan y rheoliad hwn ei chyflawni gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol, ac nid gan yr awdurdod lleol.

Dirymu
    
23. Dirymir Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2003[8].

Diwygio Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002
     24.  - (1) Diwygir Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 yn unol â'r ethygl hwn.

    (2) Yn erthygl 2 o'r Gorchymyn hwnnw dileir y geiriau "a bydd ei effaith yn darfod ar 1 Awst 2003".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru


John Marek
Cynulliad Cenedla

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
29 Gorffennaf 2003


Ben Bradshaw
Is-ysgrifennydd Gwladol

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
29 Gorffennaf 2003



ATODLEN 1
Erthygl 6(a)


Symudiadau oddi ar safleoedd a ganiateir yn ystod y cyfnod segur


Symud anifeiliaid ar gyfer triniaeth filfeddygol, etc.
     1.  - (1) Symud anifail i fan lle y rhoddir triniaeth filfeddygol.

    (2) Symud anifail o fan lle y rhoddwyd triniaeth filfeddygol iddo ar yr amod nad yw'r anifail wedi dod i gysylltiad ag anifeiliaid eraill tra oedd yn y fan lle y rhoddwyd triniaeth.

    (3) Symud anifail i labordy lle y gwneir profion diagnostig arno i gadarnhau a effeithiwyd ar yr anifail gan glefyd neu a yw wedi bod yn agored i glefyd.

Symud anifeiliaid i'w cigydda
     2. Symud anifail yn uniongyrchol i ladd-dy.

     3. Symud mochyn i farchnad ar gyfer moch y bwriedir iddynt gael eu cigydda'n syth.

     4. Symud anifail i ganolfan gasglu ar gyfer anifeiliaid y bwriedir iddynt gael eu cigydda'n syth, ar yr amod - 

Symud anifail ar gyfer ffrwythloni artiffisial
     5. Symud gwartheg neu foch i ganolfan ffrwythloni artiffisial.

     6. Symud defaid neu eifr i ganolfan ffrwythloni artiffisial ar yr amod eu bod wedi eu hynysu oddi wrth bob anifail arall am chwe diwrnod cyn ymadael.

Anifeiliaid i'w hallforio
     7. Symud anifail i'w allforio yn uniongyrchol i ganolfan gasglu neu ganolfan gynnull a gymeradwywyd o dan reoliad 12(2) o Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) 2000[
9] cyn ei allforio.

Symud o fewn grwcirc p meddiannaeth unigol
     8. Symud anifeiliaid rhwng safleoedd mewn grwcirc p meddiannaeth unigol.

Tir comin
     9.  - (1) Symud anifail rhwng tir y mae gan berchennog neu geidwad yr anifail hawl gofrestredig i gomin arno ac  - 

    (2) Mae symud anifail rhwng safle, sydd ym meddiannaeth perchennog neu geidwad yr anifail ac y mae hawl gofrestredig i gomin yn cael ei harfer fel rheol dros y tir, a safle ym meddiannaeth unrhyw berson arall y mae ganddo hawl gofrestredig i gomin dros y tir hwnnw, a bod hawl gofrestredig i gomin y person arall hwnnw'n cael ei harfer fel rheol mewn perthynas â'r tir hwnnw.

    (3) Yn y paragraff hwn ystyr "hawl gofrestredig i gomin" ("registered right of common") yw hawl i gomin sy'n gofrestredig o dan Ddeddf Cofrestru Tir Comin 1965[10] neu hawl i gomin sy'n esempt rhag unrhyw gofrestru o'r fath ond sydd wedi'i chofrestru, wedi'i dynodi, wedi'i chysylltu, neu fel arall wedi'i chydnabod, wedi'i pharhau neu wedi'i chadw o dan ac yn unol ag unrhyw un o'r Deddfau Fforest Newydd 1854, 1949, 1964 a 1970, Deddfau Fforest Epping 1878[11] a 1880[12] neu Ddeddf Dinas Llundain (Pwerau Amrywiol) 1977[13]) neu unrhyw hawl neu ganiatâd cyffelyb sydd wedi'i arfer yn Fforest y Ddena.

Symud moch ar gyfer bridio, etc.
     10.  - (1) Symud mochyn sydd wedi'i fwriadu ar gyfer bridio neu besgi yn unol ag erthygl 8(3)(b) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002.

    (2) Symud mochyn sydd wedi'i fwriadu ar gyfer bridio heblaw yn unol â pharagraff (1) os gosodwyd y mochyn hwnnw mewn cyfleuster ynysu wedi'i gymeradwyo i'r pwrpas gan arolygydd milfeddygol a hynny am 20 diwrnod cyn symud y mochyn.

Symud moch i sioeau ac arddangosfeydd
     11. Symud mochyn i sioe neu arddangosfa ar yr amod  - 

Symud hyrddod a theirw ar gyfer bridio
     12.  - (1) Symud hyrddod a theirw, y bwriedir eu defnyddio ar gyfer bridio, i farchnad, ar yr amod eu bod wedi'u rhoi mewn cyfleuster ynysu sydd wedi'i gymeradwyo i'r pwrpas gan arolygydd milfeddygol am chwe diwrnod cyn eu symud.

    (2) I fod yn gymwys ar gyfer yr esemptiad hwn - 

Symud gwartheg, defaid a geifr i sioeau neu arddangosfeydd
     13. Symud gwartheg, defaid a geifr i sioeau neu arddangosfeydd ar yr amod - 

Cerbydau sy'n gollwng anifeiliaid eraill
     14. Symud anifail sydd ar gerbyd sy'n mynd i safle i ollwng anifeiliaid eraill, ar yr amod nad yw'r anifail wedi gadael y cyfrwng cludo tra bu ar y safle.



ATODLEN 2
Erthygl 7


Symudiadau i safleoedd nad ydynt yn sbarduno'r cyfnod segur


Cyrraedd safle sydd wedi'i drwyddedu o dan Orchymyn Cynulliadau Anifeiliaid (Cymru) 2003
     1. Symud anifail i unrhyw safle sydd wedi'i drwyddedu o dan Orchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2003[
14] os yw'r symudiad at ddibenion crynhoad sydd wedi'i drwyddedu o dan y Gorchymyn hwnnw.

Cyrraedd canolfan ffrwythloni artiffisial
     2. Symud anifail i ganolfan ffrwythloni artiffisial.

Symud mochyn o dan Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002
     3. Symud mochyn os yw'r symudiad hwnnw yn un o'r math y cyfeirir ato yn erthygl 8(3)(b) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002.

Symud mochyn at ddibenion bridio
     4.  - (1) Mochyn ar gyfer bridio sy'n cyrraedd y safle bridio (ac eithrio mochyn sy'n cael ei symud o dan erthygl 8(3)(b) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002) ar yr amod  - 

    (2) Symud mochyn (ac eithrio un sy'n cael ei symud o dan erthygl 8(3)(b) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 sy'n cael ei ddychwelyd i'r safle hwnnw o fan yr oedd wedi'i symud iddo ar gyfer bridio, ar yr amod - 

Dychwelyd moch, gwartheg, defaid neu eifr o sioe neu arddangosfa
     5. Dychwelyd moch, gwartheg, defaid neu eifr o sioe neu arddangosfa i'r safle y traddodwyd hwy ohono i'r sioe neu'r arddangosfa ar yr amod bod yr anifeiliaid yn cael eu hynysu am chwe diwrnod (neu, yn achos moch, am 20 diwrnod) ar ôl eu dychwelyd i safle wedi'i gymeradwyo i'r pwrpas gan arolygydd milfeddygol.

Dychwelyd hyrddod a theirw bridio o farchnad
     6.  - (1) Dychwelyd hyrddod a theirw o farchnad ar yr amod bod yr anifeiliaid yn cael eu hynysu am chwe diwrnod ar ôl eu dychwelyd mewn safle sydd wedi'i gymeradwyo i'r pwrpas gan arolygydd milfeddygol.

    (2) I fod yn gymwys ar gyfer yr esemptiad hwn - 

Hyrddod a theirw sy'n cyrraedd ar gyfer bridio
     7.  - (1) Hyrddod a theirw sy'n cyrraedd at ddibenion bridio ar yr amod eu bod yn cael eu hynysu am chwe diwrnod ar ôl iddynt gyrraedd cyfleuster sydd wedi'i gymeradwyo i'r pwrpas gan arolygydd milfeddygol.

    (2) I fod yn gymwys ar gyfer yr esemptiad hwn - 

Geifr sy'n cyrraedd ar gyfer bridio
     8.  - (1) Geifr sy'n cyrraedd at ddibenion bridio ar yr amod eu bod wedi'u hynysu ar y safle tarddiad am chwe diwrnod cyn ymadael mewn cyfleuster sydd wedi'i gymeradwyo i'r pwrpas gan arolygydd milfeddygol.

    (2) I fod yn gymwys ar gyfer yr esemptiad hwn - 

Canolfannau ffrwythloni artiffisial
     9. Gwartheg sy'n cyrraedd yn ôl ar y safle hwnnw o ganolfan ffrwythloni artiffisial.

     10. Moch sy'n cyrraedd yn ôl ar y safle hwnnw o ganolfan ffrwythloni artiffisial ar yr amod eu bod yn cael eu hynysu oddi wrth bob anifail arall am 20 diwrnod ar ôl iddynt ddychwelyd.

     11. Defaid neu eifr sy'n cyrraedd yn ôl o ganolfan ffrwythloni artiffisial ar yr amod  - 

Anifeiliaid a fewnforir
     12.  - (1) Anifail a fewnforir sy'n cyrraedd y fan lle y mae'n dod i mewn i Gymru.

    (2) Symud anifail o'r fan lle y daw i mewn i'r Deyrnas Unedig yn sgil ei fewnforio o Aelod-wladwriaeth arall.

Symud o fewn grwcirc p meddiannaeth unigol
     13. Symud anifeiliaid rhwng safleoedd mewn grwcirc p meddiannaeth unigol.

Cerbydau sy'n casglu anifeiliaid eraill
     14. Symud anifail y daethpwyd ag ef i'r safle mewn cerbyd sy'n casglu anifeiliaid eraill ar yr amod nad yw'r anifail yn cael ei ddadlwytho ar y safle hwnnw.

Cyrraedd ar ôl triniaeth filfeddygol, etc.
     15. Unrhyw ddefaid, geifr, gwartheg neu foch sy'n cael eu dychwelyd i'r safle hwnnw o fan lle y rhoddir triniaeth filfeddygol neu unrhyw epil y maent wedi esgor arnynt tra'r oeddent yno ar yr amod, yn achos moch, eu bod wedi'u hynysu oddi wrth anifeiliaid eraill am 20 diwrnod ar ôl iddynt ddychwelyd.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2003[
15]. Mae'n newid y darpariaethau yn y Gorchymyn hwnnw fel a ganlyn - 

    
  • Mae'n dileu'r ddarpariaeth ddarfod fel bod gan y Gorchymyn bellach effaith barhaol (erthygl 1);

        
  • Mae'n diwygio'r darpariaethau ynglycircn â'r cyfnod segur fel bod cyrhaeddiad mochyn yn sbarduno cyfnod segur o 20 diwrnod ar gyfer unrhyw foch ar y safle a chyfnod segur o chwe diwrnod ar gyfer unrhyw wartheg, geifr a defaid (erthygl 3);

        
  • Mae'n diwygio Atodlen 2 fel bod symudiadau anifeiliaid i safle sydd wedi'i drwyddedu o dan Orchymyn Crynoadau Anifeiliaid 2003[16] ddim yn sbarduno'r cyfnod segur;

        
  • Mae'n ychwanegu paragraff 12 at Atodlen 1 (symud hyrddod a theirw ar gyfer bridio) a pharagraffau 6, 7 ac 8 (darpariaethau ynghylch hyrddod, teirw a geifr bridio) i Atodlen 2.

    Mae rhan 2 o'r Gorchymyn yn darparu na chaniateir symud gwartheg, geifr, a defaid o safle os yw anifeiliaid penodedig wedi'u symud i'r safle hwnnw yn ystod y chwe diwrnod blaenorol (erthygl 4). Mae'n darparu hefyd na chaiff moch eu symud o safle os yw moch wedi'u symud i'r safle hwnnw yn ystod yr 20 diwrnod blaenorol neu os yw gwartheg, geifr, neu ddefaid wedi'u symud i'r safle hwnnw yn ystod y chwe diwrnod blaenorol (erthygl 5).

    Mae'n darparu ar gyfer eithriadau i'r gofynion hyn (erthyglau 6, 7 ac 8 ac Atodlenni 1 a 2). Mae Atodlen 1 yn rhestru'r symudiadau oddi ar safleoedd a ganiateir yn ystod y cyfnod segur ac mae Atodlen 2 yn rhestru'r symudiadau i safleoedd nad ydynt yn sbarduno'r cyfnod segur.

    Mae'n darparu ar gyfer marcio defaid a geifr sy'n teithio i sioeau neu arddangosfeydd (erthygl 9).

    Mae'n rheoli symudiadau anifeiliaid yn ôl ac ymlaen i ladd-dai (erthygl 10) ac yn darparu ar gyfer cysylltu setiau o safleoedd â'i gilydd yn grwpiau meddiannaeth unigol (erthygl 11).

    Mae rhan 3 o'r Gorchymyn yn darparu na chaniateir symud gwartheg, ceirw, moch, geifr a defaid ac eithrio yn unol â thrwydded (erthygl 12).

    Mae'n gwneud darpariaethau ar gyfer trwyddedau, caniatadau ac awdurdodiadau ac yn awdurdodi'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol i gyflwyno hysbysiadau sy'n atal safleoedd neu bersonau unigol rhag gweithredu o dan drwydded gyffredinol (erthyglau 13 i 19).

    Mae'n darparu ar gyfer diheintio cerbydau (erthygl 20).

    Mae'n darparu ar gyfer newid meddiannaeth safle yr effeithir arno gan y Gorchymyn (erthygl 21).

    Mae'n cael ei orfodi gan yr awdurdod lleol (erthygl 22).

    Mae torri'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, ac yn dwyn cosb yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno.

    Mae'n diwygio Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002, fel y'i diwygiwyd, i ddileu'r cyfeiriad at y ffaith y byddai hwnnw'n colli ei effaith ar 1 Awst 2003. Fe fydd felly'n parhau mewn grym wedi'r dyddiad hwnnw (erthygl 24).

    Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae copïau ar gael oddi wrth yr Is-adran Iechyd Anifeiliaid, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


    Notes:

    [1] 1981 p. 22. Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf 1981 i "the Ministers" (fel y'u diffinnir yn adran 86 o'r Ddeddf honno) i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau ar y cyd "the Ministers" a oedd yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban mewn perthynas â Chymru i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999, O.S. 1999/3141. Cafodd pob un o swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd eu trosglwyddo ymhellach wedyn i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794).back

    [2] O.S. 1995/539 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf yngylch Cymru gan O.S. 2002/129 (Cy.17).back

    [3] O.S. 1983/1950 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf ynghylch Cymru gan O.S. 2001/4009 (Cy. 335).back

    [4] 1981 p. 37.back

    [5] O.S. 2002/2302 (Cy.227), a ddiwygiwyd gan O.S. 2003/167 (Cy.27), O.S. 2003/946 (Cy.127) a'r Gorchymyn hwn.back

    [6] O.S. 2002/2303, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/170 (Cy.30).back

    [7] O.S. 2003/1968 (Cy.213).back

    [8] O.S. 2003/1414 (Cy. 166).back

    [9] O.S. 2000/1673 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf, ynghylch Cymru, gan O.S. 2002/1039 (Cy.111).back

    [10] 1965 p. 64.back

    [11] 1878 p. CCXIII (41 a 42 Vict.).back

    [12] 1880 p. CXXX (43 a 44 Vict.).back

    [13] 1977 p. XV.back

    [14] O.S. 2003/1967 (Cy.212).back

    [15] O.S. 2003/1414 (Cy.166).back

    [16] O.S. 2003/1967 (Cy.212).back



    English version



    ISBN 0 11090776 0


     
    © Crown copyright 2003
    Prepared 26 August 2003


    BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
    URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031966w.html