OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 2458 (Cy.240)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon a Safonau Iechyd) (Diwygiad Rhif 2) (Cymru) 2003
|
Wedi'u gwneud |
24 Medi 2003 | |
|
Yn dod i rym |
25 Medi 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 218(1)(a), (2) a (2A), 232(5) a (6) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 218(2AA)[3]:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
-
(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon a Safonau Iechyd) (Diwygiad Rhif 2) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 25 Medi 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon a Safonau Iechyd) (Cymru) 1999
2.
-
(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon a Safonau Iechyd) (Cymru) 1999[4]) fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan I o Atodlen 3 -
(a) ym mharagraff 1(1)(b), (ba), (2) a (2A) rhodder y geiriau "paragraffau 2, 2A, 3" yn lle'r geiriau "paragraffau 2" ym mhob man lle maent yn digwydd;
(b) ym mharagraff 2(2), ar ôl y geiriau "y paragraff hwn" mewnosoder y geiriau "a pharagraff 2A"; ac
(c) mewnosoder y paragraff canlynol ar ôl paragraff 2 -
"
2A.
Mae'r person -
(a) yn dal gradd neu gymhwysiad cyfatebol a roddwyd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu radd neu gymhwysiad arall cyfatebol a roddwyd gan sefydliad estron; a
(b) wedi cwblhau cwrs o hyfforddiant cychwynnol i athrawon mewn sefydliad sydd wedi ei achredu at ddibenion Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon a Safonau Iechyd) (Lloegr) 1999[5], ac y dechreuodd y cwrs hwnnw cyn 1 Awst 2003; ac
(c) wedi cyflawni unrhyw gyfnod o brofiad addysgu ymarferol at ddibenion y cwrs hwnnw o hyfforddiant cychwynnol i athrawon yn gyfan gwbl neu'n bennaf mewn ysgol, ysgol annibynnol neu sefydliad arall (ac eithrio uned cyfeirio disgyblion) yng Nghymru.".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6].
Dafydd Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Medi 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 er mwyn ychwanegu at y categorïau o bersonau a gaiff fod yn athrawon cymwysedig -
- person y mae ganddo radd neu gymhwyster cyfatebol;
- person sydd wedi cwblhau cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Awst 2003 mewn sefydliad a achredwyd o dan Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Lloegr) 1999; a
- person a wnaeth ei ymarfer dysgu yn gyfan gwbl neu'n bennaf mewn ysgolion yng Nghymru.
Notes:
[1]
1988 p.40 Mewnosodwyd adran 218(2A) gan adran 14(1) o Ddeddf Addysg 1994, a diwygiwyd adran 232(6) gan adran 14 o Ddeddf Addysg 1994 a chan baragraff 6 o Atodlen 3 ac Atodlen 4 i Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30). Diddymir adran 218 gan adrannau 146 a 215(2) o Ddeddf Addysg 2002 (c.32), ac Atodlen 22 iddi, ar ddyddiad sydd i'w benodi.back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
Mewnosodwyd adran 218(2AA) gan adran 13 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.back
[4]
O.S. 1999/2817 (Cy.18) a ddiwygiwyd gan O.S. 2002/1663 (Cy.158), 2002/2938 (Cy.279) a 2003/140 (Cy.12).back
[5]
O.S. 1999/2166, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/2704, 2001/1391, 2001/2896, 2001/3737, 2002/1434, 2003/107, ac a ddirymwyd yn rhannol gan O.S. 2003/1662, 2003/1663.back
[6]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 090783 3
|